| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Parc Gwledig Loggerheads
Parc Gwledig Loggerheads

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn gyrchfan poblogaidd gydag ymwelwyr, yn denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.  Mae’r Ganolfan Cefn Gwlad yn rhoi golwg i ymwelwyr ar hanes a bywyd o fewn y Parc ac mae’n darparu cyfoeth o wybodaeth a chyfle ardderchog i ddysgu.

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn Barc Gwledig sefydledig mewn dyffryn carreg galch yn Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd.  Mae’n cwmpasu hanes mwyngloddio a thwristiaeth.  Caiff y Parc ei reoli hefyd ar gyfer cadwraeth, gyda dynodiad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a chynefinoedd naturiol cyfoethog ac amrywiol.

Mae’r Helfa Ddarganfod yn denu pobl allan ac i grwydro o gwmpas y parc.  Gallant weld tystiolaeth o’r hanes drostynt eu hunain, ynghyd â bywyd gwyllt helaeth.  Bydd ymwelwyr yn cael cyfle hefyd i ddod yn Dditectif Helfa a chasglu symbolau cyfrinachol.

Profiadau coetir, glan afon a chlogwyni – diwrnod allan ffantastig i’r teulu cyfan.

Gweithgareddau
Caiff ‘O Gwmpas yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych’ ei gyhoeddi bob mis Ionawr ac mae’n rhestru ystod eang o weithgareddau i blant, Teithiau Tywys a digwyddiadau Ymarferol sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn.

I’r rheiny sy’n defnyddio SatNav y cod post ar gyfer Loggerheads ydi CH7 5LH.

Dyfyniad o 'Loggerheads in Old Postcards' – llyfryn sydd ar gael o Ganolfan Cefn Gwlad Loggerheads

"Mae Parc Gwledig Loggerheads wedi ei leoli 2.5 milltir i’r de o’r Wyddgrug yng Nghymuned Llanferres, ac mae’n cwmpasu 80 acer o Ddyffryn Alyn.  Prif nodwedd y Parc yw clogwyn calchfaen mawreddog, Pen-y-Garreg Wen, sy’n edrych dros Lwybr y ‘Leete’, llwybr 4 milltir drwy goetir cymysg i Rydymwyn.  Mae’r llwybr hwn a’r wlad o amgylch wedi bod yn enwog am eu harddwch am dros 200 mlynedd.  Yn 1985 fe ddynodwyd Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol oherwydd ei dirwedd gyfoethog.  Mae ymwelwyr enwog yn cynnwys Charles Kingsley awdur ‘The Water Babies’, a’r cyfansoddwr Felix Mendelssohn.  Roedd artist tirlun ‘didwyll’ cyntaf Prydain, Richard Wilson RA,  yn byw yn Neuadd Colomendy gerllaw yn y ddeunawfed ganrif.

"Yn 1926, fe brynodd y ‘Crosville Motor Bus Company’ dir yn  Loggerheads ac fe ddatblygwyd Ystafelloedd Te a Gerddi yno er mwynhad ymwelwyr a oedd, lawer ohonyn nhw, wedi teithio ar dripiau bws y Cwmni.  Yr oedd yna Dŷ Te ac yr oedd yna fandstand hefyd yn ogystal â llyn hwylio a chiosg yn gwerthu melysion a hufen ia.  Roedd Loggerheads yn boblogaidd iawn yn ystod y 1920au a’r 30au ond fe bylodd ei boblogrwydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, wrth i’r defnydd o fysus leihau.  Yn 1974, fe brynodd Cyngor Sir Clwyd y tir a’r gerddi fel Parc Gwledig.  Yn Awst 1984 fe ddinistriwyd yr hen Ystafell De bren gan dân.  Fe adeiladwyd Canolfan Wybodaeth, bwyty a chyfleusterau ymwelwyr newydd i barhau â’r traddodiad o ddarparu ar gyfer mwynhad y llu twristiaid sy’n dal i ddod i Loggerheads. Cyngor Sir Ddinbych sy’n awr yn berchen ar y Parc ac yn ei reoli.”

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych