Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Neuadd Y Sir
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1YN
Teleffon:
01824 712647
Ffacs:
01824 707446
Croeso i Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych.
Dyma lle cewch chi’n holl wybodaeth am y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc. Bydd y cysylltau isod yn mynd a chi i ystod o wybodaeth am y Bartneriaeth, beth rydym ni’n ei wneud a sut y medrwch chi gymryd rhan.
Mae Tîm y Bartneriaeth yma i’ch helpu chi, a cewch gysylltu gydag unrhyw un o aelodau’r Tîm drwy gyfrwng e-bost neu ffonio.
Felly beth yw’r Bartneriaeth?
Mae’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc wedi’i lunio o sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o’r sectorau gwirfoddol, cymunedol a statudol, sy’n dod at ei gilydd i weithio dros a chynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae gennym ni bartneriaeth strategol a nifer o weithgorau. Ar hyn o bryd rydym wrthi’n adolygu’r ffordd mae’r bartneriaeth wedi’i sefydlu fel y gallwn wneud yn siwr fod gennym ni’r bobl cywir yn y lle cywir i fwrw ymlaen gyda blaenoriaethau ein Cynllun Sengl Plant a Phobl Ifanc.
Cewch weld sut mae’r bartneriaeth yn cael ei datblygu drwy ddewis y cyswllt Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc.
Beth am Blant a Phobl Ifanc?
Mae cyfranogiad plant a phobl ifanc yn bwysig i ni ac mae’r Bartneriaeth wedi datblygu ‘Strategaeth Cyfranogiad’. Rydym ni’n gweithio gyda cynghorau a fforymau ieuenctid, cynghorau ysgol a sefydliadau unigol i wneud yn siwr ein bod yn clywed llais plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych. Rydym yn dymuno i chi ymwneud â’r broses, fel sefydliadau ac fel plant a phobl ifanc.
Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd?
Mae gan y Bartneriaeth Gronfa Grant fechan ar gael i gyrff gyda phrosiectau a gweithgareddau sy'n cefnogi'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc.
Dewiswch y cyswllt Cymorth linc.
Sut fedrwn ni gysylltu gyda’r Partneriaeth a chymryd rhan yn y gwaith?
Rydym wrthi’n datblygu 6 Rhwydwaith Ardal Leol, mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, ar gyfer sefydliadau a’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw. Byddwn yn dechrau ar hyn yn ardaloedd Corwen/Llangollen a Dinbych. Os hoffech fod yn rhan o hyn cysylltwch Angela Delaney gyda Thîm y Bartneriaeth.
Dyluniwd logo’r bartneriaeth gan bobl ifanc Sir Ddinbych |



