Anfonwch neges testun i’r Cyngor ar 07800140088
Beth yw Anfon Testun i’r Cyngor?
Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i gysylltu gyda Chyngor Sir Ddinbych trwy ddefnyddio neges testun i wneud ymholiadau cyffredinol, nid argyfyngau, am wasanaethau’r Cyngor. Mae’n enghraifft o’n hymrwymiad parhaol i wella danfoniad gwasanaethau i gwsmeriaid mewn ffyrdd sy’n gyfleus ac yn hwylus i’w defnyddio. Yn ogystal mae negeseuon testun yn gwella mynediad i’n gwasanaethau i bobl sydd â diffyg ar eu clyw. Maent hefyd yn ychwanegu at ein gwasanaeth minicom cyfredol.
Mae’r gwasanaeth neges testun trwy ffonau symudol, neu’r Gwasanaeth Negeseuon Byr [GNB] yn caniatáu i chi anfon neges testun tra rydych chi o gwmpas y lle, gan sicrhau y byddwch chi’n gallu cysylltu gyda Chyngor Sir Ddinbych o unrhyw leoliad pan fydd gennych ymholiad cyffredinol. Bydd hefyd yn ychwanegu at ein gwybodaeth am faterion lleol.
Gan fod hwn yn wasanaeth newydd, byddwn yn croesawu unrhyw adborth yn ei gylch. Un ai anfonwch neges testun gyda sylwadau neu anfonwch neges e-bost i ni.
Sut rydw i yn anfon neges testun?
Cam 1
Rhowch y rhif 07800140088 yng nghof eich ffôn [bydd cyfarwyddiadau eich ffôn symudol yn rhoi manylion am hyn].
Mae hyn yn bwysig gan nad ydych chi’n gwybod pryd yn union y bydd angen i ni gysylltu â chi. Os gwelwch chi ardal y mae angen rhoi sylw iddi, y cyfan sydd angen ei wneud yw anfon neges testun i ni.
Cam 2
Ceisiwch roi cymaint o fanylion â phosibl yn eich neges testun. Os bydd eich ymholiad yn benodol berthynol i chi neu eich eiddo, dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad llawn, neu fel isafswm, eich cyfenw, rhif neu enw eich tŷ a’r cod post. Dylai cwsmeriaid presennol ddyfynnu eu rhif cwsmer lle bosib.
Er enghraifft: Nid yw fy ysbwriel wedi cael ei gasglu. Mr D Jones 4 Stryd Fawr Rhuthun LL15 1YN neu nid yw fy ysbwriel wedi cael ei gasglu. C12345.
Cam 3
Anfonwch y neges i 07800140088. Bydd eich neges yn mynd i’r Gwasanaeth Gofal Cwsmeriaid a fydd yn ymateb i chi.
Beth fydd cost anfon fy neges testun?
Bydd cost anfon neges testun yn dibynnu ar dariff y ffôn symudol sydd gennych chi. Dylech gyfeirio eich sylw i rwydwaith eich darparwr gwasanaeth er mwyn cael manylion am y costau. Ni fydd Cyngor Sir Ddinbych yn codi arnoch am ddefnyddio ei wasanaethau.
A oes modd i mi anfon lluniau a dynnwyd gyda fy ffôn symudol?
Ar hyn o bryd nid yw’r Cyngor yn gallu prosesu negeseuon MMS [sef rhai sy’n cynnwys delweddau, sain neu fideo]. Ni fydd modd prosesu unrhyw negeseuon syn cynnwys elfennau o’r fath a anfonir i’r rhif uchod.
Pryd y byddwch chi’n ymateb i fy neges testun?
Bydd eich neges testun yn cael ei gydnabod gyda neges testun dwyieithog awtomataidd.
Bydd ymateb yn cael ei anfon i chi o fewn 10 diwrnod gwaith. Pan na fydd hyn yn bosibl byddwn yn darparu diweddariad gyda dyddiad ymateb diwygiedig.
Beth os nad oes gennyf ffôn symudol?
Edrychwch ar y ddolen ganlynol i gael hyd i ffyrdd amgen o gysylltu gyda’r cyngor.
Datganiad o Ddefnydd
Gofynnir i chi nodi mai gwirfoddol yw unrhyw ddefnydd a wneir o’r GNB. Os ydych chi am ddefnyddio’r gwasanaeth, dylech ddarllen y nodiadau canlynol.
Cyfrwng sydd heb ei ddiogelu yw trawsyriant negeseuon GNB trwy rwydweithiau cyhoeddus ac mae posibilrwydd y gall trydydd parti ymyrryd â hwy a’u newid. Mae hyn yn golygu y bydd trydydd parti nid yn unig yn medru rhyng-gipio’r cynnwys ond hefyd yn medru ei ddiwygio. Yn ogystal byddant yn gallu arenwi’r sawl sy’n anfon ac yn derbyn y neges GNB.
Nid yw Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol os na fydd neges GNB yn cyrraedd y derbynnydd mewn pryd neu o gwbl Am resymau technegol, ni all y Cyngor warantu argaeledd y gwasanaeth GNB ac nid yw’r derbyn unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â cholledion a all ddeillio o negeseuon GNB yn cael eu derbyn yn hwyr neu ddim o gwbl.
Nid yw Cyngor Sir Ddinbych yn atebol am y costau y bydd gweithredwr gwasanaeth ffonau symudol yn eu codi am anfon neu dderbyn negeseuon.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn trafod unrhyw wybodaeth bersonol mewn modd sy’n unol â’r rheoliadau y ceir manylion amdanynt yn y Ddeddf Diogelu Data (1988).
Onid oes angen cyfreithiol i ni wneud hynny, ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth a dderbyniwn i drydydd parti.
Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol heb roi gwybod i chi ymlaen llaw am ein bwriad. Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu i ddibenion cydnabyddedig fel adrodd am ddiffygion, cyflwyno ymholiadau neu danysgrifio i wasanaethau gwybodaeth. Os na fyddwch wedi rhoi eich caniatâd ni fydd gwybodaeth yn cael ei chasglu i unrhyw ddiben ar wahân i’r un y cafodd ei chyflwyno yn ei gylch.

