Carchar Rhuthun
Carchar Rhuthun, Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1HP - Ffôn: 01824 708281. Ewch i Garchar Rhuthun i ddysgu am fywyd yn y system garchar Fictoraidd....
Mae carchar wedi bod ar safle Carchar Rhuthun ers yr ail ganrif ar bymtheg. Mae'n un o adeiladau mwyaf trawiadol Gogledd Cymru a'r unig garchar a adeiladwyd yn bwrpasol ar gynllun Pentonville sy'n agored fel atyniad treftadaeth. Ers yr ail-agoriad yn mis Mai 2002, ar ol gwaith adfer gwerth dwy filiwn o bunnoedd, gall pobl sbio i mewn i bob twll a chornel a dysgu am fywyd tu mewn i system carchardai oes Fictoria. Dewch i weld sut roedd y carcharorion yn byw o ddydd i ddydd: beth gawsant i fwyta, pa waith a wnaethant a pha gosbau a ddioddefwyd ganddynt. Archwiliwch y celloedd yn cynnwys y gell gosbi, y gell 'dywyll' a'r gell gondemniad. Dysgwch am 'Houdini' Cymru, a William Hughes, y person olaf i'w grogi yno.....
Oriau ar agor (2010)
15 Chwefror - 31 Hydref 7 diwrnod yr wythnos
Prisiau Tocynnau
Oedolion: £3.50
Plant/pobl hŷn £2.50
Teulu (2+2) £10
Grwpiau (15+) 10% disgownt.



