Yn glanio mewn llyfrgell yn eich ymyl chi yr haf hwn!
Bob haf, mae rhieni’n wynebu problem gyfarwydd: sut i gadw’r plant yn brysur yn ystod y gwyliau hir heb wario gormod o arian?
Dyma’r ateb: Sialens Ddarllen genedlaethol yr Haf mewn llyfrgelloedd. Ac mae’r thema gosmig eleni – Sbonc y Gofod – allan o’r byd hwn! Bydd Sbonc y Gofod yn cludo dychymyg eich plant i’r Lleuad – ac yn ôl! Os ydyn nhw eisoes wrth eu bodd gyda llyfrau, neu dim ond newydd ddechrau darllen, mae’n gynllun gwych i danio awydd plant i ddarllen.
Ewch draw i’ch llyfrgell leol i ymuno – yn rhad ac am ddim! – a bydd eich plant yn derbyn poster arbennig i gadw cofnod o’u sialens. Mae yna bob math o nwyddau Sbonc y Gofod ar gael hefyd (yn cynnwys sticeri) i gynnal eu diddordeb hyd y diwedd.
Nid yn unig mae Sialens Ddarllen yr Haf yn hwyl i bawb, ond mae hefyd yn gwneud i blentyn deimlo ei fod wedi cyflawni rhywbeth. Mae ymchwil yn dangos mai’r plant sy’n cymryd rhan sydd ar frig y dosbarth ar ddechrau’r tymor newydd.

