Mae’r rhaglen addysg i oedolion yn Sir Ddinbych yn darparu ystod eang o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, mwynhau profiadau newydd a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol. Y colegau addysg bellach rhagorol sy’n cefnogi’r awdurdod lleol sy’n darparu’r holl gyrsiau. Cynigir cyfran uchel o’r cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae cyrsiau ar gael i chi ddysgu’r sgiliau angenrheidiol sy’n arwain at gymwysterau sy’n ofynnol i gael y swydd neu’r dyfodol rydych chi’n ei haeddu. Mae’r pwyslais ar fwynhau, hyblygrwydd ac ehangu gorwelion a chynigir hyn mewn lleoliadau ledled y sir.
Cynigir cyrsiau i’ch helpu i wella eich sgiliau darllen ac ysgrifennu, ac mae cwrs i’ch helpu gyda’ch sgiliau mathemateg hefyd.
Rydyn ni’n gwybod ei bod yn anodd neilltuo amser i ddysgu mewn bywyd sydd eisoes yn brysur, felly rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyrsiau rhan amser hyblyg, yn ystod y dydd a gyda’r nos, ledled Sir Ddinbych. Cynigir amgylchedd croesawus a chefnogol a’n nod ydy gwneud eich profiad gyda ni yn ysgogol a phleserus.
Dewis Cwrs
Mae cyrsiau blasu am ddim ar gael, gweithdai byr, cyrsiau sy’n arwain at gymhwyster a chyrsiau diddordebau.
Bydd yr holl ddysgwyr yn gweithio tuag at yr un nod ar rai cyrsiau, ond ar gyrsiau eraill byddant yn gosod eu targedau unigol eu hunain dan arweiniad eu tiwtor.
Gellir cyflwyno’r un cwrs mewn amrywiaeth o ffyrdd e.e. dwyawr yr wythnos am 30 wythnos. Gallai’r sesiynau fod yn ystod y dydd neu gyda’r nos.
Mae rhai’n cael eu cynnal trwy’r gwyliau ysgol, tra bo eraill yn cymryd egwyl er mwyn ei gwneud yn fwy hwylus i’r rhai â phlant ifanc ddilyn y cwrs heb orfod poeni am ofal plant.
Gellir cynnal cyrsiau mewn canolfannau cymuned, canolfannau addysg mewn ysgolion, neuaddau pentref neu lyfrgelloedd. Byddwn yn cynnig ystod newydd o gyrsiau ar-lein, yn Gymraeg a Saesneg, yn ystod y misoedd nesaf hefyd.
Mae llawer o gyrsiau addysg i oedolion yn defnyddio adnoddau cyfrifiadurol modern, o’r radd flaenaf, a fydd yn eich cynorthwyo chi i ddysgu amrediad o sgiliau newydd.
Pwy sy’n gymwys a chanllawiau
Yn arferol mae’r cyrsiau yn agored i bob unigolyn dros 16 oed, ac nid oes unrhyw un yn rhy hen.
Pobl ifanc dan 16 oed
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol rydyn ni’n derbyn pobl ifanc dan 16 oed ar ein cyrsiau. Ffoniwch eich coleg addysg bellach lleol i drafod trefnu lle.
Pam bod rhai cyrsiau’n cael eu cynnig fel rhai blwyddyn gyfan ac eraill fel rhai 3 tymor?
Penderfynir ar hyd ein cyrsiau achrededig ar sail cynnwys a lefel y cwrs. Er enghraifft, yn achos cwrs sy’n dilyn maes llafur allanol gallai’r corff sy’n dyfarnu’r cymhwyster nodi nifer isafswm yr oriau addysgu. Ac eithrio cymwysterau a gynigir yn fodiwlaidd, neu gyrsiau dwys dros gyfnod byrrach, mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sy’n arwain at gymhwyster yn gyrsiau hirach, 30 wythnos neu ragor gan amlaf. Trwy ofyn i ddysgwyr ymrwymo i’r cwrs cyfan mae’n rhoi sicrwydd iddynt y bydd yn parhau tan y diwedd.
Cynigir cyrsiau diddordebau/hamdden fesul tymor, sy’n galluogi dysgwyr newydd i ymuno ar ddechrau pob tymor, os ydy’r lefel yn addas. Yn arferol nid yw’r rhain yn arwain at gymhwyster, a bydd dichonoldeb y cyrsiau yn cael ei asesu bob tymor. Bydd dysgwyr yn cyflawni yn unol â’r targedau eu hunain, a gellir cyflwyno tystysgrifau cyflawniad mewnol lle bo’n briodol.
Fedra’ i ailwneud yr un cwrs â’r tymor diwethaf/flwyddyn ddiwethaf?
Mae croeso i ddysgwyr ailadrodd unrhyw gwrs heb ei achredu y maen nhw wedi ei ddilyn yn flaenorol e.e. ioga tymhorol, sgiliau cyfrifiadurol a chelf ac ati.
Cewch ailwneud cwrs achrededig os na wnaethoch lwyddo yn y cwrs yn flaenorol. Petaech chi wedi llwyddo yn y cwrs yn flaenorol byddai’r ffioedd yn cael eu cyfrifo yn wahanol a byddai’n rhaid i chi ofyn am gyngor gan eich coleg lleol.
Fedra’ i gofrestru ar gwrs sydd wedi dechrau eisoes?
Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gwrs a hyd y cwrs, a bydd rhaid i’r tiwtor gytuno i hyn.
Fedra’ i ddim dod i’r sesiwn gyntaf – ydw i’n cael cofrestru?
Bydd y sesiwn gyntaf yn cynnwys amser i chi a’ch tiwtor ddod i adnabod eich gilydd (a’r dysgwyr eraill) ac yn rhoi manylion cyffredinol am y cwrs. Bydd y tiwtor yn trafod materion iechyd a diogelwch a disgwyliadau dysgwyr hefyd.
Cewch gofrestru ar gyfer unrhyw gwrs trwy alw heibio neu ffonio’r coleg sy’n darparu’r cwrs mae gennych chi ddiddordeb ynddo, neu trwy ddod i’r sesiwn gyntaf yn y lleoliad priodol.
Ffonio i gofrestru
Coleg Llandrillo - 01492 546666 estyniad 537
Coleg Llysfasi - 01978 790263
Coleg Harlech - 01492 536693
Mae colegau a sefydliadau eraill ledled yr ardal yn cynnig llu o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd – dim ots beth yw eich oedran chi.


