Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych yn cyflwyno rhaglen hyfforddi ar gyfer y sector gofal plant, gydag arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'r cyrsiau ar gael ledled y sir mewn lleoliadau hygyrch ac fe'u cyflwynir gan staff cwbl broffesiynol. Mae'r cyrsiau'n rhad ac am ddim neu weithiau bydd tâl bychan i rai sy'n gweithio yn y sector gofal plant neu mewn addysg.
Mae cymhorthdal cyfyngedig ynghlwm wrth y Cwrs Cyflwyniad i Arferion Gofal Plant (ICP). Mae hwn i unrhyw un sy'n ystyried bod yn ofalydd plant yn Sir Ddinbych. Medrwch wneud cais am gymhorthdal i'r Swyddog Datblygu Gofal Plant, Catrin Tomos, rhif ffôn 01824 70 8213. ebost fis@denbighshire.gov.uk
Cyrsiau sydd ar gael gan y bartneriaeth
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y gweithle (Plant a Phobl Ifanc)
- CIEH Lefel 1 Ymwybyddiaeth Bwyd
- CIEH Lefel 2 Diogelwch Bwyd
- CIEH Egwyddorion codi a chario (gwrthrychau)
- Codi a chario (pobl)
- NSPCC Amddiffyn Plant
Genesis
Mae Genesis yn dîm o bedwar sy'n gwasanaethu Sir Ddinbych yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i rieni i gyrchu hyfforddiant neu waith. Os ydych dros 16, yn ddi-waith ac yn hawlio budd-dal neu lwfans anabledd, gall tîm Genesis gynnig cymorth gyda chael y sgiliau, yr hyder a'r cyfleoedd sydd eu hangen i gael swydd. I ganfod os ydych yn gymwys i dderbyn cefnogaeth, ffoniwch: 01745 815891 neu ebost genesisprojectteam@denbighshire.gov.uk


