Tudalen Iechyd Meddwl
Mewn partneriaeth â Hafal, mae Taith i Waith yn targedu pobl gyda salwch meddwl difrifol neu barhaus sydd ar hyn o bryd yn gymwys (neu wedi bod yn gymwys yn y ddwy flynedd ddiwethaf) i dderbyn gwasanaeth gan y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, gan gynnwys Allgymorth Grymusol, Triniaeth yn y Cartref a gwasanaeth Gweithiwr Cyswllt Gofal Sylfaenol.
• Hafal yw elusen arweiniol Cymru ar gyfer pobl â salwch meddwl difrifol a’u gofalwyr. Yn gwasanaethu holl ardaloedd Cymru, mae Hafal yn gorff a reolir gan y bobl rydym yn eu cefnogi: unigolion y mae eu bywydau wedi eu heffeithio gan salwch meddwl difrifol. Mae Hafal yn brosiect newydd sy’n rhoi cyfle i bobl â phroblem iechyd meddwl gael hyfforddiant, addysg, cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith.
• Mae’r gwasanaeth (mewn partneriaeth â Thaith i Waith) yn gweithredu o’r Rhyl a Dinbych. Bydd cefnogaeth a hyfforddiant hefyd ar gael o lyfrgelloedd a lleoliadau cymunedol eraill.
• Gellir derbyn atgyfeiriad i ochr Hafal prosiect Taith i Waith gan –
• Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Cydgysylltwyr Gofal y Gymuned, Timau Iechyd Meddwl, Nyrs-Reolwyr Unedau Acíwt, Meddygon Teulu, Canolfan Byd Gwaith ac asiantaethau partner eraill neu medrwch gyfeirio eich hun.
• Os hoffech gael gwybod mwy, a chael mwy o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â:
• Sam – 07814872101
• Serge – 07807788987
• Val – 07807788975
• Ceri 07805665527
• Ryan 07805665551
• Ebost: hafal@hafal.org

