Mae’r gwasanaeth Taith i Waith 2 yn darparu cymorth un ag un i unigolion sydd ag anabledd corfforol tymor hir ac oedolion ifanc sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth gyda nodi cyfleoedd priodol o ran dysgu, gwirfoddoli neu gyflogaeth.
Gyda chymorth Gweithwyr Achos y Prosiect, gellir nodi cyfleoedd fydd yn cydweddu orau ag anghenion person. Gellir cysylltu â sefydliadau eraill a threfnu hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyflogaeth addas.
Mae llawer o bobl yn teimlo fod ganddyn nhw ormod o rwystrau hyd yn oed i feddwl am waith ond fe all Taith i Waith Newydd helpu i ddelio â rhwystrau boed hynny’n bryderon am golli budd-daliadau, anawsterau cludiant neu gyndynrwydd ar ran rhai cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd.
Mae rhai o’r gweithgareddau’n cynnwys:
- Delio â’r rhwystrau sy’n bod: er enghraifft, pryder am golli budd-daliadau, anawsterau cludiant a chyndynrwydd ar ran rhai cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd i bobl sydd ag anabledd neu oedolion ifanc difreintiedig
- Asesu anghenion hyfforddi a chyflogaeth cyfranogwyr
- Gweithio gydag asiantaethau eraill i nodi a threfnu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth addas
- Darparu cymorth un ag un i gyfranogwyr gyda nodi’r cyfleoedd hyfforddi, gwirfoddoli neu gyflogaeth sy'n fwyaf addas.

