| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych

Datganiad Y Wasg wrth y dyddiad

08/02/2012
TeitlCrynodeb
Goleuadau, camera, ‘action’ i’r gwneuthurwyr ffilm llwyddiannus Mae cyw-wneuthurwyr ffilm ifanc yn Sir Ddinbych wedi troi eu cynigion creadigol yn ffilmiau llwyddiannus. Mae’r tri myfyriwr llwyddiannus wedi bod mewn sesiynau creadigol a drefnwyd gan Sinema’r Scala a Chanolfan Gelfyddydau Prestatyn a Gwasanaeth...
Newidiadau i safleoedd tacsis yn Stryd Fawr PrestatynMae defnyddwyr tacsis ym Mhrestatyn yn cael eu hysbysu o newid lleoliad y safleoedd tacsis ym mhen isaf Stryd Fawr y dref, gan ddechrau ar Chwefror 13. Fe ganfuwyd problemau gyda phrosiect yr Orsaf Fysiau ac mae angen gwaith dylunio brys i’w...
07/02/2012
TeitlCrynodeb
Gweithio mewn partneriaeth i hybu llosgi dan reolaeth yn ddiogelMae diffoddwyr tân yn gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr cadwraeth i wneud yn siŵr bod ffermwyr ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn llosgi dan reolaeth yn ddiogel ac effeithiol er mwyn helpu i amddiffyn a diogelu'r dirwedd. Mae Nick...
Cyngor yn gosod ei gyllideb Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gosod ei gyllideb am y flwyddyn ariannol 2012/13, gyda’r canlyniad o gynnydd o 2.8 % mewn treth cyngor.Mae Cynghorwyr wedi cytuno i £3.2m o arbedion ac i ail-fuddsoddi £1.3m mewn meysydd blaenoriaeth, cefnogi gwaith...
Ysgol werdd yn dathlu gwobr eco Mae ysgol Sir Ddinbych yn chwifio baner llwyddiant wedi iddi ei dyfarnu â statws y Faner Werdd yn rhan o’r fenter Eco-ysgolion. Mae staff a disgyblion Ysgol Clocaenog ger Rhuthun wedi gweithio’n galed yn y blynyddoedd diwethaf i gyflawni’r statws...
Arolwg Cenedlaethol Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei phenderfyniadau a’r camau y mae’n eu cymryd yn ystyried barn pobl Cymru.Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ffynhonnell allweddol o ran gwybod beth yw barn pobl ar nifer o faterion sy’n effeithio...
06/02/2012
TeitlCrynodeb
Anrhydeddu corff llywodraethu ysgol Sir Ddinbych am ansawdd Mae ysgol Sir Ddinbych wedi ei chyflwyno â’r Marc Ansawdd Efydd ar gyfer cyrff llywodraethu. Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy yw’r ysgol gyntaf yn Sir Ddinbych i gyflawni’r wobr ac fe’i cyflwynwyd gan Weinidog Llywodraeth Cymru Leighton Andrews yng...
02/02/2012
TeitlCrynodeb
Cadwch lygad ar y rhai sy’n agored i niwed yn ystod y cyfnod oer yma Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn annog cymunedau i ystyried anghenion pobl sy’n agored i niwed yn ystod y cyfnod oer eithriadol yma. Wrth i’r tywydd oeri, fe all pobl sy’n agored i niwed ddioddef afiechyd ac mae’n bosib y bydd arnyn...
01/02/2012
TeitlCrynodeb
Ffyddlondeb i lyfrgelloeddMae llyfrgelloedd ar draws Gogledd Cymru’n cyflwyno cerdyn ffyddlondeb newydd i ddenu pobl i lyfrgelloedd i fenthyg llyfrau. Gyda’i lansiad ar Ddiwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd, Chwefror 4ydd 2012, bydd y fenter newydd yma’n gwobrwyo un...
Codi ymwybyddiaeth o waharddiad peiriannau gwerthu sigaréts Mae masnachwyr ledled Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa o’r gwaharddiad sy’n dod i rym heddiw (Chwefror 1) ar ddefnyddio peiriannau gwerthu sigaréts. Mae’r gwaharddiad a gyflwynir heddiw gan Lywodraeth Cymru wedi dod i rym yn dilyn cynnydd yn nifer...
27/01/2012
TeitlCrynodeb
Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru’n ymweld â’r AHNE sydd wedi ei hymestynDaeth y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, ar ymweliad sydyn ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n ddiweddar. Fe gadarnhaodd y Gorchymyn Dynodi fis Tachwedd diwethaf i greu’r AHNE newydd yma sy’n awr yn...
Sir Ddinbych yn croesawu Adroddiad Gwella BlynyddolMae Cyngor Sir Ddinbych wedi croesawu canfyddiadau’r adroddiad gwella blynyddol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.Prif gasgliadau’r adroddiad ydi: “Yn gyffredinol, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi casglu bod y Cyngor yn gwella canlyniadau...
Cais Cynllunio - Cilmedw, Llangollen Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau ei fod yn awr wedi derbyn ceisiadau cynllunio ar wahân i ddatblygu storfa fwyd fanwerthu newydd ar safle ffatri Dobson a Crowther yn Stryd y Berwyn, ac i adleoli’r busnes gwaith argraffu mewn ffatri newydd...
Grwpiau cymunedol i elwa o arian chwaraeonBydd wyth o grwpiau cymunedol yn elwa o arian Cist Cymunedol Sir Ddinbych.Mae'r arian ar gael gan Chwaraeon Cymru trwy'r Gist Gymunedol, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ddinbych.Daeth ceisiadau llwyddiannus gan:· Clwb Seiclo y Rhyl -...
25/01/2012
TeitlCrynodeb
Amlygu prosiectau gwledig mewn llyfryn dathluRoedd un ar hugain o brosiectau’n llwyddiannus â’u ceisiadau am arian y Gronfa Allweddol Wledig yn Sir Ddinbych yn y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r un ar hugain yma o brosiectau’n golygu fod 19 o gymunedau wedi elwa, gyda chyfanswm o £338,929 wedi...
24/01/2012
TeitlCrynodeb
Cyngor ar ddelio gyda thywydd oerMae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa preswylwyr fod cymorth a gwybodaeth yn rhad ac am ddim ar gael i'r rheiny sy'n brwydro i gynhesu eu cartrefi y gaeaf hwn.Mae pobl sy'n ei chael hi'n annodd i ddarparu cynhesrwydd o ganlyniad i gyflyrau tai gwael...
Profion siopwyr dirgel - dyma’r canlyniadau Fe wahoddir perchnogion busnesau yn Rhuthun i ddod i gyflwyniad ar ganfyddiadau ymarferiad siopwyr dirgel a gynhaliwyd yn rhan o ymdrech i hybu masnach busnesau annibynnol yn y dref. Mae Cyngor Sir Ddinbych a Skillsmart Retail, Cyngor Sgiliau...
Danteithion ar y bws coginioFe fydd yna dynnu dŵr i ddannedd disgyblion yn Ysgol Clawdd Offa pan fydd y bws coginio’n dychwelyd i Sir Ddinbych y mis nesaf.Bydd y bws yn ymweld â’r ysgol ym Mhrestatyn o Chwefror 7-10. Mae’r lori enfawr, gymalog, hynod dechnegol yma’n agor...
20/01/2012
TeitlCrynodeb
Cau’r Archifau Dros Dro Oherwydd gwaith adeiladu hanfodol, bydd Swyddfa Gofnodion Rhuthun ar gau am wythnos, o ddydd Llun, Ionawr 30ain i ddydd Gwener, Chwefror 3ydd. Fe ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra oherwydd hynny. Bydd y swyddfa’n ailagor fel arfer ar ddydd...
Llyfrgell Y Rhyl yn ail-agorMae Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysu defnyddwyr Llyfrgell y Rhyl fod yr adeilad yn ail-agor fel arfer ddydd Sadwrn, 21 Ionawr.Roedd yr adeilad wedi cau dros dro ers dydd Mawrth o ganlyniad i broblemau gyda'r goleuadau.Mae'r goleuadau wedi'i gwirio...
19/01/2012
TeitlCrynodeb
Lansio cryno ddisg newyddMae CD newydd o ganeuon a straeon amser gwely a recordiwyd ar gyfer teuluoedd lleol yn cael ei lansio’r wythnos nesaf. Fe gynhelir sesiynau arbennig o rigymau amser gwely yn Llyfrgell Dinbych ar Ionawr 25 am 5.00pm ac yn Llyfrgell y Rhyl ar Ionawr...
Merched artistig yn yr awyr agored Mae yna raglen pum wythnos am ddim i ferched sydd â diddordeb mewn celfyddydau amgylcheddol yn Sir Ddinbych. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu sut i greu cerfluniau helyg ar gyfer yr ardd, sut i ddefnyddio adnoddau naturiol i fynegi eu dawn artistig, yn...
13/01/2012
TeitlCrynodeb
Cynghorion ar fanwerthu llwyddiannus ar restr gweithdy siopa Mae cyfle cyffrous wedi codi i siopwyr a rheolwyr Sir Ddinbych gymryd rhan mewn dosbarth meistr a grëwyd gan y gwrw manwerthu enwog a’r seren deledu Mary Portas, mewn partneriaeth â Skillsmart Retail. Fe drefnwyd digwyddiad Sesiwn Flasu Mary...
Y diweddaraf ar Gynllun Llifogydd Pwll y Grawys Oherwydd problem annisgwyl fe fydd yn rhaid i Ddŵr Cymru Welsh Water wneud gwaith hanfodol ar y carthffosydd yn ardal Pwll y Grawys yn Ninbych i unioni’r broblem sydd wedi achosi llifogydd lleol ar y briffordd. Esboniodd y Cynghorydd Sharon...
11/01/2012
TeitlCrynodeb
Ymgynghori ar yr ail gynllun trefolMae cynlluniau ar y gweill i lunio gweledigaeth ar gyfer trefi yn Sir Ddinbych ac mae’r Cyngor yn awr yn ymgynghori ar yr ail gynllun. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd cynghorau tref a chymuned, grwpiau cymunedol a grwpiau’r sector wirfoddol a...
10/01/2012
TeitlCrynodeb
Arddangosfa Codi’r Rhagfuriau yng Nghlwyd Theatr Cymru Mae yna arddangosfa am ddim wedi ei hysbrydoli gan Fryniau Clwyd i’w gweld yn awr yn yr Oriel Gymunedol yng Nghlwyd Theatr Cymru, yr Wyddgrug. Mae paentiadau o’r cloddiadau ym mryngaer Moel y Gaer ym Mharc Gwledig Moel Famau ac o’r dirwedd leol yn...
Blwyddyn newydd, dechrau newydd drwy raglen Fy Mywyd I, Fy Ffordd IYdych chi dros 50, weithiau’n teimlo fod amser yn mynd heibio a chithau’n teimlo y gallech fod yn gwneud mwy? Yna fe allai Fy Mywyd I, Fy Ffordd I eich siwtio chi i’r dim. Mae’r sesiynau hyn, a drefnir gan Gyngor Sir Ddinbych a’r Prosiect Taith i...
Cynlluniau maes y pentref yn newid Mae cynlluniau gan gymdeithas preswylwyr y Rhyl i gofrestru darn o dir fel maes y pentref wedi eu gwrthod gan aelodau Cyngor Sir Ddinbych ond mae’r ymgyrch i gadw’r ardal fel llecyn agored ymhell o fod ar ben. Cyflwynwyd y ceisiadau ar gyfer y...
06/01/2012
TeitlCrynodeb
Cynllun Datblygu Lleol arfaethedig Sir Ddinbych yn cyrraedd y cam nesafDrwy gydol Ionawr a Chwefror mae’r Arolygydd Cynllunio, Mr Anthony Thickett BA(Hons) BTP MRTPI, wedi ei benodi i gynnal Archwiliad Cyhoeddus i bennu a ydi’r cynigion sydd yng Nghynllun Datblygu Lleol drafft Sir Ddinbych yn gadarn. Ei rôl fydd ...
Cyngor yn rhybuddio ynglŷn ag e-byst sbamMae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn rhybuddio preswylwyr i fod yn ymwybodol o e-byst sbam sy’n honni eu bod gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Rhybuddir y cyhoedd i fod yn ymwybodol o e-byst sy’n ymddangos eu bod oddi wrth Gyllid a...
05/01/2012
TeitlCrynodeb
Mae Sir Ddinbych yn dod yn gyngor sy’n perfformio’n dda, yn nes at y gymuned. Mae Sir Ddinbych yn awr ym mlwyddyn olaf Cynllun Corfforaethol 2009-12, sy’n gosod allan brif flaenoriaethau’r Cyngor a’r ffordd y mae’n mesur llwyddiant ym mhob un o’r meysydd hyn, ac mae’n awr wedi cyhoeddi’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol...
Cau dwy stryd yn y RhylMae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi cau ffyrdd oherwydd argyfwng ar hyd Stryd y Dŵr a Crescent Road yn y Rhyl, o ddydd Iau, Ionawr 5.Mae’r ffyrdd wedi eu cau er mwyn diogelwch y cyhoedd oherwydd adeilad sydd ddim yn saff. Yr hydoedd ffyrdd...
04/01/2012
TeitlCrynodeb
Angen barn pobl ifanc ar arolwg ar-lein y Cyngor Mae pobl ifanc sy’n byw yn Sir Ddinbych yn cael eu hannog i fynd ar-lein a rhoi eu barn yn rhan o’r prosiect Byw a Gweithio yn Sir Ddinbych. Mae’r prosiect yn rhan o ymgyrch i uchafu proffil Sir Ddinbych fel lle deniadol i fyw a gweithio ymysg...
31/12/2011
TeitlCrynodeb
Arweinydd y Cyngor yn cael ei enwi ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn NewyddMae Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi cael ei anrhydeddu gyda Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau Flwyddyn Newydd y Frenhines am ei wasanaethau i lywodraeth leol.Dywedodd y Cynghorydd Evans OBE: "Pan wnes i...
23/12/2011
TeitlCrynodeb
Y Drafodaeth Fawr yn parhauMae Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn mynd drwy’r broses o osod cyllideb ar gyfer 2012/13 a thros Gymru mae pob awdurdod lleol yn tynhau’r gwregys ar gyfer yr ail flwyddyn o gwtogi mwy fyth ar wariant. Yn awr mae cyfle i drigolion Sir Ddinbych gael...
Gwarchod Ysgolion Dros yr WylMae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i gadw llygad barcud ar ysgolion lleol dros yr wyl.Yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych a Chonwy, bwriad y cynllun Gwarchod Ysgolion yw annog rhieni,...
22/12/2011
TeitlCrynodeb
Peidiwch â gadael eitemau gwerthfawr yn eich ceir rhybuddia’r tîm cefn gwlad Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn galw ar ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads i ofalu eu bod yn mynd â’u heiddo personol efo nhw pan fyddan nhw’n mynd i gerdded ym Mharc Gwledig Loggerheads neu o’i amgylch. Yn y misoedd diwethaf cafwyd...
19/12/2011
TeitlCrynodeb
Cynnydd pellach gydag Adfywio’r Rhyl Mae strategaeth adfywio’r Rhyl yn symud gam arall yn nes gyda dau gynllun mawr sydd i ddechrau ar y safle ym mis Ionawr. Mae Cyngor Sir Ddinbych newydd gwblhau caffaeliad adeilad Costigans gyferbyn â Gorsaf Reilffordd a Bysiau’r Rhyl. Mae’r...
15/12/2011
TeitlCrynodeb
Darganfod mwy am cynrychioli eich cymuned Mae cyfres o sioeau teithiol ar gyfer pobl sy’n meddwl am fod yn gynghorwyr yn cael eu trefnu gan Gyngor Sir Ddinbych y mis nesaf.Bydd cynrychiolwyr y Cyngor ym mhob un o’r lleoliadau i esbonio sut y mae’r Cyngor yn gweithio a beth mae bod yn...
13/12/2011
TeitlCrynodeb
Cyngor Amserol Safonau Masnach y Nadolig hwn Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn cynnig cyngor tymhorol i ddiogelu eich hawliau defnyddwyr dros y Nadolig: Fel 12 Diwrnod y Nadolig dyma 12 o Gynghorion i wneud eich Nadolig chi’n hapus, yn ddiogel ac, yn anad dim yn amser pleserus..... 12 -...
Grwpiau cymunedol yn elwa o grantiau chwaraeon Mae naw o grwpiau yn Sir Ddinbych wedi elwa o gyllid y rownd ddiweddaraf dyraniadau’r Gist Gymunedol. Mae’r cyllid, a roddwyd ar gael gan Chwaraeon Cymru drwy Gyngor Sir Ddinbych wedi ei ddyrannu i’r grwpiau canlynol ar gyfer gweithgareddau a...
12/12/2011
TeitlCrynodeb
Achlysur llawen yn nathliadau Nadolig y Cyngor Fe gododd Cyngor Sir Ddinbych £600 yn ei wasanaeth Carolau blynyddol a gynhaliwyd yng Nghadeirlan Llanelwy’r wythnos ddiwethaf. Bydd y casgliad yn cael ei rannu rhwng Hosbis Sant Cyndeyrn ac uned ganser Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan - elusennau...
Llewyrch llwyddiant Sir Ddinbych Mi fydd angen cabinet tlysau mwy ar dîm Goleuadau Stryd Sir Ddinbych!Yn awr mae’r tîm wedi ennill gwobr bedair blynedd yn olynol yn y digwyddiadau Rhwydweithiau Perfformiad, yn cynnwys eu dyfarnu’n Berfformiwr Gorau gyda Goleuadau Stryd 2011, a...
08/12/2011
TeitlCrynodeb
Swyddogion Safonau Masnach yn rhybuddio am werthiannau sugnwyr llwch pwysedd uchelMae tîm Safonau Masnach Sir Ddinbych yn rhybuddio preswylwyr i fod yn ymwybodol o gwmnïau sy'n ffonio’n ddiwahoddiad ac yn dweud wrth ddefnyddwyr eu bod wedi ennill gwobr i gael glanhau eu carped am ddim.Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu rhybuddio...
Datganiad bandio ysgolionMae hanner ysgolion Sir Ddinbych yn y ddau fand uchaf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau) - a dim ysgolion yn ymddangos yn y band isaf.Mae proffil ysgolion yn y sir yn cadarnhau fod Sir Ddinbych yn un o’r awdurdodau sydd wedi...
07/12/2011
TeitlCrynodeb
Ffenestri siopau’n ffocws ymgyrch hyrwyddo canol y drefLleihau nifer y siopau a’r unedau busnes gwag yn Ninbych drwy greu canol tref sy’n fwy bywiog ydi nod prosiect newydd sbon sy’n cael ei redeg gan dîm cymorth busnes a thwristiaeth Cyngor Sir Ddinbych. Yn dilyn llwyddiant y prosiect “Neidlen a...
Gwasanaethau gwybodaeth ar dywydd y gaeaf yn mynd yn fyw Yn awr fe all pobl fynd ar-lein i gyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Sir Ddinbych ar unrhyw ddigwyddiadau sy’n ymwneud â’r tywydd yn y misoedd i ddod. Fe wnaiff y Cyngor gyhoeddi gwybodaeth am unrhyw gau ysgolion, cau ffyrdd, canslo /...
06/12/2011
TeitlCrynodeb
Codi safonau addysg y sir Mae Sir Ddinbych yn parhau i weld gwelliannau enfawr mewn canlyniadau addysg ledled y sir. Dengys ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2010/11 fod Sir Ddinbych wedi ei dosbarthu’n 5ed o’r holl 22 o siroedd Cymreig o ran nifer y...
Hwb buddsoddiad i addysg cyfrwng Cymraeg Mae Cyngor Sir Ddinbych yn edrych ymlaen at ddechrau gwaith adeiladu i wella cyfleusterau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y sir. Roedd Llywodraeth Cymru’n flaenorol wedi cyhoeddi cytundeb mewn egwyddor ar gyfer grant cyfalaf o £3m...
Sbriwsio’r Rhuddlan gydag ailwampiad amgylcheddol Gwaith celf cyhoeddus newydd ydi’r datblygiad diweddaraf mewn cyfres o brosiectau i wella delwedd weledol Rhuddlan. Fe gomisiynwyd yr artist Mike Owens o Afonwen i ddylunio a gwneud cerflun a fyddai’n ffurfio nodwedd fynedfa i fyny i’r dref...
05/12/2011
TeitlCrynodeb
Gwaith yng ngorsaf fysiau Prestatyn – y diweddarafMae Cyngor Sir Ddinbych am hysbysu preswylwyr Prestatyn ac ymwelwyr â’r dref o ddyddiad cychwyn newydd ar gyfer gwaith ailwampio gorsaf fysiau’r dref.Bydd y gwaith ailwampio’n rhan o brosiect newydd gyffrous ac uchelgeisiol rhwng Stadium...
30/11/2011
TeitlCrynodeb
Hwb i feysydd parcio yn Sir Ddinbych Mae yna fwy o newyddion da i fodurwyr yn Sir Ddinbych. Mae Grŵp Aelodau Ardal Rhuthun wedi penderfynu defnyddio peth o’r cyllid sydd ar gael iddyn nhw i gymorthdalu taliadau parcio ym maes parcio Park Road gydol mis Rhagfyr. Golyga hyn y gall...
Cynlluniau trefol ar y bwrdd llunio Mae yna gynlluniau ar y gweill i lunio gweledigaeth ar gyfer trefi ar draws Sir Ddinbych ac mae’r Cyngor yn barod i ymgynghori ar y cynllun drafft cyntaf. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd cynghorau tref a chymuned, grwpiau cymunedol a’r sector...
Lansio Menter Dywedwch Wrthym Unwaith Mae menter newydd sbon wedi ei lansio yn sir Ddinbych sydd wedi’i dylunio i wneud pethau’n haws i gwsmeriaid drwy ganiatáu iddyn nhw roi gwybod i’r llywodraeth ganolog a’r llywodraeth leol unwaith yn unig pan fydd rhywun sy’n agos atyn nhw wedi...
Plannu coed ym Modnant!Fe fydd yna seremoni swyddogol o blannu coeden yn Ysgol Plant Iau Bodnant am 2.15pm ar ddydd Mawrth, Tachwedd 29ain. Deuddeng mis union yn ôl, cafodd coeden a oedd wedi sefyll am dros ganrif ar dir yr ysgol ac a oedd yn nodwedd ar logo’r ysgol, ei...
Amser i ddathlu yn Ysgol Gymraeg y GwernantBydd Ysgol y Gwernant yn Llangollen yn dathlu agor estyniad newydd sbon ar ddydd Iau, Rhagfyr 1 am 2.00pmRoedd adeiladu’r estyniad newydd yn cynnwys mynedfa newydd, ardal gyntedd, ardal dderbyn, swyddfa’r prifathro, ystafell staff a dau...
Hwb i feysydd parcio yn Sir Ddinbych Mae yna fwy o newyddion da i fodurwyr yn Sir Ddinbych. Mae Grŵp Aelodau Ardal Rhuthun wedi penderfynu defnyddio peth o’r cyllid sydd ar gael iddyn nhw i gymorthdalu taliadau parcio ym maes parcio Park Road gydol mis Rhagfyr. Golyga hyn y gall...
28/11/2011
TeitlCrynodeb
Carolau yn y Gadeirlan Mae Cyngor Sir Ddinbych yn brysur paratoi ar gyfer y gwasanaeth carolau blynyddyol sydd yn cymryd lle yr wythnos nesaf.Bydd y gwasanaeth yn cymryd lle yng Nghadeirlan Llanelwy nos Fercher, 7 Rhagfyr. Bydd staff a chynghorwyr yn cyflwyno...
Rhuthun yn paratoi i greu argraff yng ngwerthusiad y drefBydd tîm o siopwyr dirgel ac aseswyr dinesig yn anelu am Ruthun yn Sir Ddinbych yr wythnos nesaf i raddio profiad siopa’r dref. Mae’r Model Lleoliad a ddyluniwyd gan Skillsmart Retail, Cyngor Sgiliau’r Sector ar gyfer Manwerthu, yn cael ei...
Gwaith Ffyrdd Hanfodol ar gyfer yr A525 Ffordd Osgoi DinbychMae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa preswylwyr ac ymwelwyr am waith ffyrdd.Bydd gwaith ail-wynebu’n digwydd ar yr A525 Ffordd Osgoi Dinbych ar ddydd Llun, Tachwedd 28ain, 2011.I sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud mor ddiogel ac mor sydyn ag...
Ail-leoli gwasanaeth cofrestru yn NinbychMae Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysu preswylwyr yn ardal Dinbych fod swyddfa Cofrestrydd y dref wedi symud.Gall pobl sydd eisiau defnyddio'r gwasanaeth wneud hynny drwy ymweld â swyddfeydd Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych ar ddyddiau Llun rhwng...
24/11/2011
TeitlCrynodeb
Hylendid bwyd yn gadael blas cas Gyda’r Nadolig yn prysur nesáu, mae pawb wrthi’n paratoi ar gyfer yr ŵyl. Os ydych chi’n trefnu dathliad gyda theulu, ffrindiau neu gydweithwyr mewn bwyty, tafarn neu westy lleol, beth am gymryd cip ar y sgôr hylendid yn ogystal â’r fwydlen?...
Estyniad Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau ClwydDatganiad ar y cyd ar ran Cydbwyllgor Ymgynghorol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Fflint.Heddiw fe gadarnhaodd Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru,...
Cynghorau’n ailadrodd rhybudd cenedlaethol am fodca anghyfreithlon Mae swyddogion bwyd, iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych a Chonwy’n rhybuddio adwerthwyr yn y ddwy sir o rybudd cenedlaethol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, am ‘Drop Vodka’ anghyfreithlon. Mae’r Asiantaeth yn adrodd fod nifer o boteli o ‘Drop...
Datganiad Gwella Tai’n ‘newyddion ardderchog’ i’r Rhyl Mae Cyngor Sir Ddinbych a Grŵp Tai Pennaf wedi cyfarch datganiad Llywodraeth Cymru o gyllid ar gyfer cynlluniau uchelgeisiol i ddymchwel eiddo yng Ngorllewin y Rhyl a thrawsnewid y tir yn fan agored fel newyddion ardderchog i’r dref. Mae’r...
Cymeradwyo uchelgais adfywio’r Rhyl Mae glasbrint sy’n gosod allan y strategaeth ar gyfer adfywio’r Rhyl yn y dyfodol wedi cael y golau gwyrdd gan Gabinet Sir Ddinbych heddiw (dydd Iau). Fe gymeradwywyd y strategaeth, a elwir yn Gynllun Cyflenwi’r Rhyl yn Symud Ymlaen, gan y...
Cymeradwyaeth i ail gyfnod yr Ardal AdnewydduGall uchelgais i wneud gwelliannau pellach yn Ne Orllewin a Dwyrain y Rhyl fynd yn eu blaen rŵan wedi i Gabinet Sir Ddinbych gymeradwyo cynlluniau ar gyfer ail gyfnod yr Ardal Adnewyddu. Mae’r statws Ardal Adnewyddu’n galluogi Cyngor Sir...
17/11/2011
TeitlCrynodeb
Cyngor yn cynnig parcio’n anrheg Nadolig cynnar Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i ysbryd yr ŵyl drwy gynnig parcio am ddim ar ôl 3 p.m. ym mhob un o’i feysydd parcio o Dachwedd 21 tan Ragfyr 31, i annog pobl i siopa yng nghanol trefi’r sir. Mae hyn yn ategu nifer o gynlluniau parcio rhatach...
Bws Nos yn Dychwelyd gydag Anrheg Nadolig CynnarBydd gwasanaeth bws poblogaidd a llwyddiannus ar gyfer pobl dros 50 oed y mae’n anodd iddyn nhw fynd allan gyda’r nos, yn dychwelyd y mis nesaf.Mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a ‘Dial a Ride’ Sir Ddinbych, bydd y gwasanaeth bws mini ar...
16/11/2011
TeitlCrynodeb
Tai fforddiadwy yn codi'r toMae Sir Ddinbych wedi ei henwi’n ddarparwr gorau Tai Fforddiadwy yng Ngogledd Cymru yn ôl ffigurau diweddar a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar ffigurau poblogaeth. Ffigurau Sir Ddinbych oedd y rhai uchaf ond un yng Nghymru gyfan (35...
Cyngor yn cynnig parcio’n anrheg Nadolig cynnar Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i ysbryd yr ŵyl drwy gynnig parcio am ddim ar ôl 3 p.m. ym mhob un o’i feysydd parcio o Dachwedd 21 tan Ragfyr 31, i annog pobl i siopa yng nghanol trefi’r sir. Mae hyn yn ategu nifer o gynlluniau parcio rhatach...
15/11/2011
TeitlCrynodeb
Angen barn ymwelwyr ifanc â llyfrgelloedd Mae Cyngor Sir Ddinbych ar fin cynnal arolwg i ddarganfod beth mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl o Wasanaeth Llyfrgell y sir. Eleni fe gynhaliodd y Cyngor Sialens Ddarllen yr Haf a oedd yn llwyddiannus iawn ac fe hoffai staff y gwasanaeth...
Danteithion blasus ar fwydlen prydau ysgol y sirMae Gwasanaethau Arlwyo llwyddiannus Sir Ddinbych wedi paratoi bwydlen newydd sbon i demtio mwy o blant a phobl ifanc i edrych o’r newydd ar y prydau ysgol blasus sydd ar gael.Mae’r gwasanaeth wedi cynhyrchu taflen newydd sbon sy’n hyrwyddo prydau...
Rhybudd am werthiannau matresi gan ddyn mewn fan Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn rhybuddio preswylwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth a pheidio â chael eu twyllo gan werthiannau matresi amheus.Mae’r Cyngor wedi derbyn cwynion ynglŷn â gwerthiannau ac ymgeision i werthu matresi allan o gefn...
Gwaith Ffyrdd Hanfodol sydd wedi eu trefnu ar gyfer yr A525 Ffordd Osgoi DinbychBydd gwaith ail-wynebu’n digwydd ar yr A525 Ffordd Osgoi Dinbych ar ddydd Llun, Tachwedd 28ain, 2011.Er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel ac mor gyflym ag sydd bosib, bydd y ffordd ar gau o ddydd Llun, Tachwedd 28ain i...
Gwaith Ffyrdd Hanfodol sydd wedi eu trefnu ar gyfer yr A525 Ffordd Osgoi DinbychBydd gwaith ail-wynebu’n digwydd ar yr A525 Ffordd Osgoi Dinbych ar ddydd Llun, Tachwedd 28ain, 2011.Er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel ac mor gyflym ag sydd bosib, bydd y ffordd ar gau o ddydd Llun, Tachwedd 28ain i...
Cymeradwyo bid am gyllid ychwanegol ar gyfer datblygiad yr harbwrMae Cyngor Sir Ddinbych heddiw (Mawrth) wedi cytuno i ddyrannu £500k yn ychwanegol tuag at Brosiect Harbwr y Foryd.Fe wnaethpwyd y penderfyniad wedi i adroddiad a drafodwyd gan gynghorwyr ddatgelu bod costau’r prosiect wedi cynyddu i £9.9 miliwn a...
Tenantiaid y Cyngor i gael dweud eu dweud am dai Mae Sir Ddinbych yn annog tenantiaid y cyngor i roi ei barn ar sut i wella gwasanaethau tai yn y sir. Mae adran Gwasanaethau Tai’r Cyngor wedi amlinellu nifer o feysydd ar gyfer gwella, sef: o Cynnal ymatebol, eiddo gwag a gwasanaethu nwy...
14/11/2011
TeitlCrynodeb
Pobl ifanc sy’n frwd am chwaraeon wedi eu dewis fel cenhadon Mae tri o genhadon ifanc wedi eu dewis i helpu i ysbrydoli pobl ifanc yn Sir Ddinbych i ymwneud â chwaraeon. Mae’r cynllun Cenhadon Ifanc yn annog pobl ifanc i fod yn esiampl ac yn arweinwyr drwy chwaraeon. Bydd yn helpu i ddatblygu eu hyder...
Coedydd praff o fes bychan yn tyfu yn Ysgol Esgob Morgan Mae disgyblion sydd â dawn tyfu yn Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy’n barod i drawsnewid tir eu hysgol drwy blannu coed yno. Fe gafwyd y coed gan Goed Cadw a gyflenwodd yr ysgol â “phecyn coed cymunedol” o 420 o goed brodorol a fydd o fantais i fywyd...
Rhybudd i ddefnyddwyr am roddion dillad Mae preswylwyr y Sir Ddinbych yn cael eu rhybuddio o broblem gyda chwmnïau masnachol sy’n gofyn am roddion o ddillad ar gyfer gwledydd y trydydd byd. Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn rhybuddio nad yw rhai o’r casgliadau hyn ar gyfer elusennau a...
08/11/2011
TeitlCrynodeb
Enwebiad diwydiant i dîm y cynghorau ar y cydMae tîm goleuadau stryd Sir Ddinbych yn dathlu wedi iddyn nhw gyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr diwydiant cenedlaethol - dim ond wythnosau ar ôl iddyn nhw ennill teitl arall. Fe roddwyd y tîm ar y rhestr fer yn y categorïau Perfformiwr...
07/11/2011
TeitlCrynodeb
Lansio Y Drafodeath Fawr Sir Ddinbych 2012 Mae Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn mynd drwy’r broses o osod cyllideb ar gyfer 2012/13 a thros Gymru mae pob awdurdod lleol yn tynhau’r gwregys ar gyfer yr ail flwyddyn o gwtogi mwy fyth ar wariant. Y llynedd, fe gyhoeddwyd Cynllun Effeithlonrwydd,...
Sefyll yn gadarn yn erbyn lladron plwm Ni chaiff lladrad plwm o adeiladau ysgol yn Sir Ddinbych ei oddef - dyna’r neges gan y cyngor sir wrth iddo gyfrif cost yr ymddygiad troseddol yma. O ganlyniad i’r lladradau hyn, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ailosod y defnyddiau sydd ar goll â...
Gwrando ar farn ar hamdden Mae Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal ail rownd Fforymau Ardal Hamdden fydd yn digwydd ddwywaith y flwyddyn ar draws y sir. Fe gynhelir un ym mhob un o’r saith ardal lle mae yna ganolfan hamdden sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor: y...
Siopau Sir Ddinbych yn llwyddo yn y prawf gwerthiannau tân gwyllt Ni werthwyd tân gwyllt i bobl ifanc dan oed mewn unrhyw siop yn ystod prawf prynu a gynhaliwyd gan Safonau Masnach Sir Ddinbych.Fe ymwelwyd â 17 o leoliadau yn union cyn noson tân gwyllt ac fe wrthododd pob un i werthu tân gwyllt i bobl ifanc a...
Dweud eich dweud am ddatblygiadau’r harbwr Mae cynlluniau ar gyfer datblygiadau eang yn Harbwr y Foryd, y Rhyl i’w harddangos yn gyhoeddus. Y cynigion presennol ydi adeiladu sgwâr cyhoeddus newydd, adeilad wrth ochr y cei a wal cei estynedig, a fydd yn ategu seilwaith presennol yr harbwr...
02/11/2011
TeitlCrynodeb
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Lleol Diogelu Plant Mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych yn ailddatgan ei ymrwymiad i ddiogelu plant yn ei adroddiad blynyddol, sy’n awr ar gael i’w ddarllen ar www.conwy.gov.uk/lscb Mae’r adroddiad blynyddol yn olrhain y cynnydd a wnaethpwyd yn y...
01/11/2011
TeitlCrynodeb
Modurwyr a selogion sinema i elwa o bot cyllid y cyngor Bydd newidiadau i daliadau parcio’n cael eu cyflwyno ym maes parcio Canolog Isaf Prestatyn o Dachwedd 1 tan Fawrth 31, 2013. Mae Grŵp Aelodau Ardal Prestatyn â £50,000 i’w ddyrannu i brosiectau penodedig yn eu cymuned, fel Grwpiau eraill tebyg...
31/10/2011
TeitlCrynodeb
Sir Ddinbych yn lansio cynllun cyn ysgol iach Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio ei Gynllun Cyn Ysgol Iach gydag 11 o ysgolion meithrin a grwpiau chwarae’n derbyn y sialens. Nod y cynllun ydi cydnabod arferion da ac mae’n annog sefydliadau i hyrwyddo iechyd a lles i blant, staff, rhieni a’r...
Enillydd ‘Britain’s Got Talent’ yn arwain y Pops Nadolig Bydd Jai McDowall yn brif atyniad Pops Nadolig Blynyddol y Rhyl yn Eglwys Sant Tomos, Y Rhyl cyn ei ymddangosiad o flaen Ei Mawrhydi yn y ‘Royal Variety Performance’ yn Salford y noson wedyn. Dywedodd Trefnydd Digwyddiadau’r Sir, Siân Davies:...
24/10/2011
TeitlCrynodeb
Hwyl tymhorol yng Nghorwen Fe fydd yna hwyl tymhorol yng Nghorwen yr hanner tymor yma, gyda digwyddiad llawn gweithgaredd ym Mhafiliwn Chwaraeon y dref. Fe gynhelir y diwrnod “Calan Gaeaf Gwyrdd’ ar ddydd Mercher, Hydref 26ain o 11 am tan 3 pm a bydd yn cynnwys gwehyddu gwe...
Os oes amheuaeth cadwch nhw allan! Mae swyddogion Safonau Masnach sy’n gweithio efo’r heddlu’n rhan o’r ymgyrch genedlaethol “Operation Liberal”, wedi bod allan yr wythnos hon yn targedu masnachwyr drygionus sy’n gweithredu yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Roedd swyddogion yn chwilio...
21/10/2011
TeitlCrynodeb
Ymestyn Cyfreithiau Gwelyau Haul O 31 Hydref, bydd cyfreithiau ar gyfer gweithredu a defnyddio gwelyau haul yng Nghymru yn cael eu hymestyn i ddiogelu iechyd y genedl.Gwaharddwyd pobl dan 18 rhag defnyddio gwelyau haul yng Nghymru ar 8 Ebrill 2011. Mae’r gwaharddiad wedi’i...
20/10/2011
TeitlCrynodeb
Dyfarnu cyllid chwaraeon i grwpiau cymunedol Cist Gymunedol Sir Ddinbych - Yng nghyfarfod y panel ar Hydref 3ydd fe ddyfarnwyd grant i’r clybiau canlynol i gynorthwyo gydag addysg hyfforddwyr ac offer:Fe ddyfarnwyd y cyllid llwyddiannus, a roddwyd ar gael drwy Chwaraeon Cymru, i: Menter...
18/10/2011
TeitlCrynodeb
Cau Heulfan y Rhyl dros dro Mae Cyngor Sir Ddinbych a Clwyd Leisure Ltd yn hysbysu defnyddwyr Heulfan y Rhyl fod yr atyniad wedi cau am weddill y tymor. Roedd yr atyniad i gau ar ddiwedd mis Hydref dros fisoedd y gaeaf, ond mae problem dechnegol fechan wedi ei hadrodd ac...
Cyngor yn cefnogi cynllun hybu chwaraeon Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi sefydliad cynllun i gefnogi athletwyr talentog yn y sir i gyflawni eu potensial mewn chwaraeon. Mae cynllun sir gyfan yn awr yn cael ei ystyried i ddarparu cyfleoedd ar gyfer grantiau a chefnogi pobl ifanc...
17/10/2011
TeitlCrynodeb
Dweud eich dweud ar ganllawiau cynllunio safle treftadaeth Ydych chi’n byw neu’n gweithio wrth ymyl Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ac yn meddwl am wneud cais am ganiatâd cynllunio i ddatblygu eich cartref, eich fferm neu eich busnes? Mae Cynghorau Sir Ddinbych, Swydd...
Hwb cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn Bydd y meysydd chwarae pob tywydd sydd newydd eu hailwampio yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn yn agor ar ddydd Llun, Hydref 24ain. Mae’r cyfleuster hwn yn cynnwys tri o feysydd pump-bob-ochr, pob tywydd gyda llifoleuadau ac maen nhw hefyd wedi eu...
13/10/2011
TeitlCrynodeb
Paratowch i gael dweud eich dweud ar flaenoriaethau’r cyngor Mae Sir Ddinbych yn gofyn am farn ar yr hyn y mae pobl yn ei feddwl ddylai fod yn brif flaenoriaethau’r cyngor yn y pedair blynedd nesaf o 2012 i 2016. Mae’r Cynllun Corfforaethol yn angenrheidiol i alluogi’r cyngor i ddangos sut y bydd yn...
Digwyddiadau cyhoeddus wedi eu cynllunio ynglŷn â Chynllun Cyflenwi’r Rhyl Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi trefnu dwy sesiwn alw heibio i ganiatáu i bobl gael dweud eu dweud ar Gynllun Cyflenwi’r Rhyl.Fe luniwyd y cynllun i ddwyn yr holl weithgaredd yma at ei gilydd ac i ddarparu fframwaith ar gyfer y Rhyl i arwain pob...
Rheolaeth cyrchfannau yn allweddol i lwyddiant economaidd y sir Pwysigrwydd datblygu cyrchfannau da oedd y neges allweddol a amlygwyd yn Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych – y cyntaf i’w gynnal yn y sir yn ddiweddar. Clywodd cynrychiolwyr sut yr oedd y sector wedi dod â £286 miliwn i mewn i economi’r sir yn 2010....
12/10/2011
TeitlCrynodeb
Adolygiad Ysgolion Edeirnion yn symud i gyfnod hysbysiad statudol. Mae Cyngor Sir Ddinbych i gyhoeddi dau hysbysiad statudol ynglŷn â chynigion ar gyfer ysgolion yn ardal Edeirnion.Fe gyhoeddir hysbysiadau statudol ar gyfer y cynigion canlynol: Cynnig 1 - Creu ysgol fro cyfrwng Cymraeg i wasanaethu cymunedau...
Yn galw pob cyw entrepreneur Mae cynllun i gynorthwyo a meithrin cywion entrepreneuriaid y dyfodol yn cael ei lansio yn Sir Ddinbych. Mae’r rhaglen Llwyddo’n Lleol yn gynllun arloesol sydd wedi ei ddatblygu i feithrin diwylliant o fenter ymysg pobl ifanc ac adfer eu hyder yn...
Gwaith yng Ngorsaf Fysiau Prestatyn - Datblygiadau Diweddaraf Mae Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysu defnyddwyr bysiau a phreswylwyr ym Mhrestatyn bod y gwaith ar orsaf fysiau’r dref wedi ei ddileu ac fe fydd yn dechrau ar ddydd Llun, Tachwedd 7.Bydd y cynllun sy’n werth £600K yn gweld gwelliannau i’r...
07/10/2011
TeitlCrynodeb
Dod â hanes yn fyw i ddisgyblion gydag adnoddau Talk of the Town Mae adnoddau dysgu am ddim yn cael eu rhoi ar gael i bob ysgol gynradd yn Sir Ddinbych i ddod â’r gorffennol yn fyw i blant a dangos iddyn nhw nad oedd pethau bob amser fel y maen nhw rŵan. Mae’r bocsys addysg yma’n cynnwys dogfennau hanesyddol,...
04/10/2011
TeitlCrynodeb
Gorchymyn Gwasgaru yn RhuthunMae’r Heddlu yn Rhuthun yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych er mwyn ceisio mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ym meysydd parcio’r dref. Bydd gorchymyn gwasgaru a ddaeth i rym ar ddydd Gwener 1 Ebrill, ac a...
03/10/2011
TeitlCrynodeb
Cadeirydd yn dweud ‘Ymlaen â chdi, Sami’ Mae Cadeirydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Bill Cowie wedi llongyfarch ymgeisydd X-Factor, Sami Lee Brookes, ar ennill lle yn rowndiau terfynol y sioe ac mae’n annog pobl i gefnogi’r ymgyrch i goroni Sami’n bencampwr X-Factor. Fe gyrhaeddodd Sami,...
29/09/2011
TeitlCrynodeb
Dod â phleser llyfrau’n fyw Bydd pedwar o awduron plant poblogaidd yn ymweld â llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych yr wythnos nesaf (Hydref 3-7) i gyfarfod â darllenwyr ifanc, yn rhan o ddathliadau blynyddol Wythnos Lyfrau Plant. Eleni'r awduron sy’n ymweld ydi •Shoo Rayner -...
Diweddariad ar Bafiliwn Corwen Fe wneir y penderfyniad ynglŷn ag a all Cyngor Sir Ddinbych fwrw ymlaen â chynlluniau i ddymchwel Pafiliwn Corwen ai peidio, mewn gwrandawiad llys llawn sydd i’w gynnal ym mis Rhagfyr. Roedd Pafiliwn y Bobl Cyf wedi herio cynnig Sir Ddinbych ac...
Gweledigaeth cyngor sy’n perfformio orau’n dod yn realaethCyngor Sir Ddinbych ydi’r cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Uned Ddata Llywodraeth Leol. Caiff perfformiad pob cyngor yng Nghymru ei farnu yn erbyn dangosyddion cenedlaethol yn seiliedig ar...
28/09/2011
TeitlCrynodeb
Adolygiad addysg yn Edeirnion – y diweddaraf Mae Cyngor Sir Ddinbych i gyhoeddi hysbysiadau statudol ynglŷn â chynigion ar gyfer ysgolion yn ardal Edeirnion. Yn dilyn dadl galed a hir yng nghyfarfod Cabinet Sir Ddinbych heddiw (dydd Mawrth), fe gytunodd yr Aelodau’n unfrydol ar y ddau brif...
Gwobr diwydiant i dîm y cyd-gynghorau Mae tîm goleuadau stryd cyd-gynghorau Sir Ddinbych a Chonwy’n dathlu wedi iddyn nhw eu hanrhydeddu â gwobr diwydiant.Fe enillodd y tîm y wobr am y Tîm Gwasanaeth Gorau: Priffyrdd, Cynnal y Gaeaf a Goleuadau Stryd yn seremoni Gwobrau Cymdeithas...
Rhybudd i ddefnyddwyr am ffresnyddion aer Mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn rhybuddio defnyddwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth am adlenwadau ffresnyddion aer awtomatig ffug a allai fod yn beryglus.Mae swyddogion Safonau Masnach wedi dod o hyd i adlenwadau ffresnyddion aer Air...
27/09/2011
TeitlCrynodeb
Cyhoeddi Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol gan Weinidog CymruYmysg y blaenoriaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth 27 Medi) roedd rhoi mwy o gyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc, sicrhau bod pawb yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf a chyflwyno archwiliadau iechyd 50+.Wrth...
26/09/2011
TeitlCrynodeb
Ymweliad arbennig comisiynydd ag ysgol y Dyffryn Mae pobl ifanc yn ysgol Dyffryn Clwyd wedi bod yn dysgu am eu hawliau yn ystod ymweliad arbennig gan Gomisiynydd Plant Cymru. Fe wahoddwyd Keith Towler i wasanaeth arbennig yn Ysgol Stryd y Rhos yn Rhuthun ar ddydd Iau, Medi 22. Yn ystod ei...
Gweithredu’n gadarn yn erbyn torcyfraith tai Gallai bod heb drwydded i reoli tŷ amlfeddiannaeth olygu ymddangosiad yn y llys - dyna’r neges gan Gyngor Sir Ddinbych wrth iddo weithredu’n gadarn yn erbyn y rheiny sy’n anwybyddu cyfraith tai.Yr wythnos ddiwethaf cafwyd gwraig sy’n berchen ar...
23/09/2011
TeitlCrynodeb
Timau ar y rhestr fer am wobrau diwydiant Mae timau refeniw a budd-daliadau Cyngor Sir Ddinbych yn cystadlu am wobr diwydiant fawreddog. Mae’r tîm wedi ei roi ar restr fer Gwobr Rhagoriaeth Credyd y Cylchgrawn Casgliadau Credyd a Risg yn y categori Casglu. Eraill sydd wedi cyrraedd y...
22/09/2011
TeitlCrynodeb
Meddwl am fod yn gynghorydd? Ydych chi erioed wedi meddwl am gynrychioli eich cymuned drwy ddod yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych? Mae’r Cyngor yn lansio ymgyrch wybodaeth i annog pobl i ystyried dod yn gynghorydd pan fydd trigolion y sir yn pleidleisio ar Fai 3, 2012.Mae...
21/09/2011
TeitlCrynodeb
Newidiadau arfaethedig i gyfyngiadau traffig a pharcio yn Rhuthun Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi hysbysebu’n ffurfiol ei gynigion ar gyfer newidiadau i gyfyngiadau traffig a pharcio ar-stryd yn Rhuthun. Fe gaiff manylion y cynigion eu hysbysebu am bedair wythnos o Fedi 22 drwy hysbysiadau cyhoeddus a fydd yn...
Dyddiad cychwyn cyfnod diwweddaraf y buddsoddiad mawr yn y ffyrdd Bydd cyfnod arwyddocaol arall y buddsoddiad o £7 miliwn gan Sir Ddinbych i wella cyflwr ei ffyrdd yn dechrau’r wythnos nesaf pan fydd y contractwr microasphalt yn cyrraedd gogledd y sir i wneud swm sylweddol o waith. Fe fydd yna ddau dîm yn...
Drysau Agored Sir Ddinbych - Rhuthun Yn dilyn mis llwyddiannus o benwythnosau Drysau Agored, fe fydd yr olaf yn Rhuthun ar Fedi 24 a 25.Mae’r digwyddiad yn un sydd am ddim, ac mae llawer o’r teithiau cerdded a’r teithiau tywys yn awr wedi eu bwcio’n gyfangwbl, ond mae yna ddigon i’w...
20/09/2011
TeitlCrynodeb
Cyngor yn cipio rheolaeth tŷ amlfeddiannaeth didrwyddedMae Cyngor Sir Ddinbych wedi cipio rheolaeth tŷ amlfeddiannaeth didrwydded yn y Rhyl, y tro cyntaf i’r fath gamau gael eu cymryd yn y sir. Fe roddodd Tîm Gorfodi Tai’r cyngor, gan ddefnyddio pwerau newydd dan y Ddeddf Tai 2004, Orchymyn Rheoli...
19/09/2011
TeitlCrynodeb
Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd CymruMae Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC), partneriaeth o Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwynedd, yn annog trigolion o Ogledd Cymru i ymateb i’r broses...
14/09/2011
TeitlCrynodeb
Mwy o amser i gael dweud eich dweud am gynllun Adfywio’r Rhyl Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymestyn y terfyn amser i bobl sy’n dymuno cael rhoi eu barn ar Gynllun Cyflenwi’r Rhyl. Mae gwaith wedi ei wneud eisoes yn y Rhyl i wella ei delwedd ac ansawdd bywyd preswylwyr ac ymwelwyr drwy wahanol raglenni, yn...
Tîm tai’r Cyngor yn ymateb yn gadarn i ymddygiad gwrthgymdeithasol O ganlyniad i weithredu cyfreithiol diweddar gan Wasanaethau Tai Cyngor Sir Ddinbych i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol cafwyd achosion llys llwyddiannus sydd wedi arwain at ddadfeddiannu un tenant ac israddio tenantiaeth tenant arall. Fe...
Cynlluniau priffyrdd parc manwerthu’n cael eu harddangos Mae cynlluniau gwaith priffyrdd sy’n gysylltiedig â’r parc manwerthu newydd ym Mhrestatyn yn awr yn cael eu harddangos yn Sinema’r Scala a Chanolfan Gelfyddydau’r dref. Ym mis Gorffennaf fe roddodd Cyngor Sir Ddinbych dystysgrif cynllunio...
13/09/2011
TeitlCrynodeb
Cinio Pecyn yn erbyn Cinio YsgolMae Gwasanaeth Arlwyo llwyddiannus Sir Ddinbych yn annog rhieni/gwarcheidwaid i edrych eto ar brydau ysgol fel dewis gwahanol i ddarparu cinio pecyn ar gyfer eu plant - yn enwedig gan eu bod yn awr wedi penderfynu cadw’r costau ar yr un lefel â’r...
12/09/2011
TeitlCrynodeb
Cais am wirfoddolwyr cadwraeth bryngaerau ar safle 2,500 o flynyddoedd oed Mae yna gais am wirfoddolwyr i helpu â thasg arbennig iawn ym mryngaer Caer Drewyn, Corwen, y mis yma. Dydd Mercher 21ain a dydd Iau 22ain bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Phrosiect y Grug a’r Caerau’n gwneud gwaith atgyweirio difrod...
08/09/2011
TeitlCrynodeb
Straeon ar ein strydoeddBydd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Alun Ffred Jones yn cyflwyno darlith flynyddol ar bwysigrwydd diwylliant i ddatblygiad trefi marchnad bychain yng Ngogledd Cymru fel rhan o ddigwyddiadau Drysau Agored yn Sir Ddinbych.Y flwyddyn hon...
Cyhoeddi rhybudd statudol ar gynlluniau addysg yn NinbychMae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi rhybudd statudol parthed cynlluniau i uno ysgol fabanod ac ysgol gynradd yn Ninbych.Mae'r cyngor yn cynnig cau Ysgol Gwaenynog ac Ysgol Heulfre o 31 Awst 2012 a chreu ysgol gynradd gymunedol newydd ar gyfer...
07/09/2011
TeitlCrynodeb
Gwaith ffyrdd yn Rhuthun - y diweddaraMae disgwyl i'r gwaith o ail-wynebu dwy ffordd yng nghanol tref Rhuthun gychwyn yn fuan.Bydd Dog Lane and Record Street ar gau o ddydd Sul, 11 Medi i alluogi'r gwaith i fynd rhagddo, er y bydd mynediad i gartrefi a busnesau lle bod hynny'n...
Cymorth i bensiynwyr dalu’r Dreth GyngorMae Sir Ddinbych wedi llwyddo i gael £145,482 fel rhan o grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pensiynwyr dalu'r Dreth Gyngor.Os gallwch ateb ydw i’r cwestiynau canlynol byddwch yn cymhwyso i dderbyn rhan o’r grant hwn:1. Ydych chi’n...
06/09/2011
TeitlCrynodeb
Difrod i fuarth ysgol mewn gwyntoedd cryfionMae coeden oedd wedi cwympo wedi creu difrod sylweddol i fuarth ysgol yn Nyffryn Clwyd yn ystod y gwyntoedd cryfion dros nos.Disgynodd y goeden dderw ar y buarth allanol yn Ysgol Bro Cinmeirch yn Llanrhaeadr ger Dinbych. Roedd y rhan yma o'r...
Marks & Spencer - Datganiad am gynlluniau ar gyfer siop y RhylMae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhyddhau datganiad yn dilyn cyfarfod yn Nhy'r Cyffredin heddiw (Dydd Mawrth) rhwng cynrychiolwyr o'r Cyngor, Llywodraeth Cymru a Chris Ruane AS â swyddogion Marks & Spencer parthed eu cynlluniau i gau siop yn y Rhyl cyn...
05/09/2011
TeitlCrynodeb
Llwybrau Cymunedau Bodelwyddan Mae Cyngor Sir Ddinbych i gyflwyno cais am gyllid Llwybrau Diogel i Gymunedau ar gyfer Bodelwyddan – ac mae’n gwahodd pobl i ddod i weld y cynigion a rhoi eu barn. Mae cynllun drafft wedi ei baratoi yn dilyn trafodaethau cychwynnol efo cyngor y...
Dathlu llwyddiant archwiliad yn Ysgol y Rhewl Mae disgyblion, athrawon a llywodraethwyr Ysgol y Rhewl, Rhuthun yn dathlu canfyddiadau archwiliad ysgol Estyn yn ddiweddar. Fe ganfu’r archwilwyr: • Bod perfformiad yr ysgol a’r rhagolygon am welliant yn dda • Bod disgyblion...
02/09/2011
TeitlCrynodeb
Cynllun Datblygu Lleol y Sir - y diweddaraf Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno ei Gynllun Datblygu Lleol yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer sylwadau. Dogfen gynllunio defnydd tir ydi’r Cynllun Datblygu Lleol, ac unwaith y bydd wedi ei fabwysiadu fe gaiff ei...
Straeon Gwerin Sir Ddinbych Fe fydd yna lansio llyfr a llofnodi ‘Denbighshire Folk Tales’ gan awdur lleol, Fiona Collins yn Nantclwyd y Dre ar Fedi 10 am hanner dydd. Mae’r llyfr yn gasgliad wedi’i ddarlunio o straeon gwerin, chwedlau lleol a straeon o ddirgelwch Sir...
01/09/2011
TeitlCrynodeb
O gwmpas yn gwrando ar eich barn Bydd Cyngor Sir Ddinbych a’i bartneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cynnal sioeau teithiol yn yr wythnosau i ddod – gan roi cyfle i bobl leol ddweud eu dweud am wasanaethau cyhoeddus yn y sir. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cynnwys Cyngor...
31/08/2011
TeitlCrynodeb
Y Cyngor yn trydarMae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn defnyddio rhwydweithio cymdeithasol i hysbysu trigolion ac ymwelwyr o’i newyddion a’i farn.Mae’r cyngor yn ‘trydar’ ei straeon newyddion i gyd a manylion digwyddiadau i ddod drwy’r cyfrif Twitter. Gellir...
Mae Sir Ddinbych yn paratoi ar gyfer y tâl am fagiau siopaMae siopwyr Sir Ddinbych yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer y tâl am fagiau siopa. O 1af Hydref 2011, bydd rhaid talu o leiaf 5c am fagiau wrth siopa.Bydd pob siopwr yn y DG yn defnyddio tua 720 o fagiau siopa bob blwyddyn ar gyfartaledd. Gan...
30/08/2011
TeitlCrynodeb
Dilyn llwybr archaeolegol HiraethogMae man claddu rhyfeddol o’r Oes Efydd yn Sir Ddinbych yn cael ei ddehongli o’r newydd ar gyfer ymwelwyr. Mae Taith Archeolegol Llyn Brenig yn mynd drwy fynwent o’r Oes Efydd, yn uchel ar fryniau Hiraethog. Filoedd o flynyddoedd yn ôl, roedd...
26/08/2011
TeitlCrynodeb
Cynllun Rheoli Lliniaru Llifogydd Dinbych yn llwyddiant Mae Sir Ddinbych wedi cyhoeddi cwblhau Cynllun Rheoli Lliniaru Llifogydd Dinbych yn llwyddiant gan fod y gwaith yn awr wedi ei orffen, mae’r rheoliadau traffig wedi mynd ac mae’r ffyrdd yn ôl fel yr oedden nhw. Yn ôl yn 2009, fe ddechreuodd y...
25/08/2011
TeitlCrynodeb
Peidiwch â cholli eich pleidlais yn 2012Cyn bo hir, bydd ffurflenni cofrestru pleidleiswyr yn disgyn drwy flychau llythyrau ar draws Sir Ddinbych, ac rydych yn cael eich annog i ddychwelyd eich un chi cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn yr etholiadau...
24/08/2011
TeitlCrynodeb
Plant ar drywydd dirgelwch ym Mharc Drifft y RhylMae taflen am ddim sy’n amlygu trywydd cerdded newydd drwy Barc Drifft y Rhyl newydd ddod o’r wasg.Y llwybr ydi’r ychwanegiad diweddaraf i Barc Drifft y Rhyl ac mae’n rhoi cyfle i blant fforio drwy bump o wahanol barthau.Gan ddathlu treftadaeth...
Y Cyngor i gryfhau pontydd y sirMae Cyngor Sir Ddinbych i wneud gwaith i gryfhau pontydd ar draws y sir. Mae rhaglen archwilio’r sir wedi nodi nifer o bontydd yn yr ardal sydd angen gwelliannau i sicrhau diogelwch. Mae’r canlynol yn nodi’r lleoliadau a dyddiadau'r gwaith sydd...
22/08/2011
TeitlCrynodeb
Menter cerdyn gofal yn cael ei gyflwyno i gefn gwladMae cerddwyr hŷn brwd sy’n cerdded o gwmpas rhannau o ardaloedd harddwch Gogledd Ddwyrain Cymru’n cario cymorth cyfathrebu arbed bywyd. Mae hyn yn dilyn datblygu menter newydd gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru.Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymuno â...
Pabell Cynghorau yn ennill gwobr mewn sioe sirol Mae pabell fawr yn hyrwyddo gwaith Cynghorau Sir Dinbych a Fflint wedi ennill gwobr y stondin anamaethyddol gorau yn Sioe Amaethyddol flynyddol Dinbych a Fflint a gynhaliwyd yr wythnos hon ar y Green. 'Gwasanaethau Stryd' oedd thema pabell ar y...
Tro arbennig i Fryngaer i weld Archeoleg ar Waith Fe wahoddir ymwelwyr i ymuno â’r archeolegwyr Fiona Gale ac Erin Robinson ar ddwy daith dywys i fryngaer Moel y Gaer, Bodfari’r mis yma. Mae Prifysgol Rhydychen ar hyn o bryd yn cynnal gwaith arolygu archeolegol ar yr clostir hynafol y credir ei...
18/08/2011
TeitlCrynodeb
Cyhoeddi canlyniadau lefel A Mae arwyddion cynnar yn dangos mai’r gyfradd pasio yn y chwe ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych yn 2011 ydi 98.3% (graddau A-E), yn uwch na ffigurau 2010 o 0.6%. Mae hyn hefyd dros 1% yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig am raddau A*-E sy’n 97.2%. Mae...
16/08/2011
TeitlCrynodeb
Mwy o welliannau ffyrdd wedi eu cynllunio Bydd cyfnod nesaf buddsoddiad Sir Ddinbych o £7 miliwn i wella cyflwr ei ffyrdd yn dechrau’r wythnos nesaf pan fydd y contractwr microasffalt yn cyrraedd y sir i wneud swm sylweddol o waith. Fe fydd gwaith pellach o’r math yma’n digwydd yn...
Hwb budd-daliadau i breswylwyr Sir Ddinbych Mae ffigurau diweddaraf yn dangos sut y mae ymgynghorwyr Partneriaeth Cyngor Hawliau Lles Sir Ddinbych wedi helpu 2756 o bobl leol i ennill £8.6m o bunnau’n ychwanegol mewn budd-daliadau nawdd cymdeithasol a chredydau treth yn y 12 mis hyd Ebrill...
Angen barn ar gynllun Adfywio’r Rhyl Mae cynllun sy’n trafod prosiectau i helpu i adfywio’r Rhyl newydd ei gyhoeddi – ac fe wahoddir pobl i ddweud eu dweud. Mae gwaith wedi ei wneud eisoes yn y Rhyl i wella ei delwedd ac ansawdd bywyd y preswylwyr a’r ymwelwyr drwy wahanol...
12/08/2011
TeitlCrynodeb
Oes yna rywun sy’n adnabod y soffa yma? Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig gwobr o £250 am wybodaeth fydd yn arwain at erlyniad y tipiwr anghyfreithlon a adawodd y soffa yma a gwastraff arall ar lôn oddi ar yr A543 ger Bylchau. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol, Steve Parker:...
Annog talwyr treth cyngor i fod yn wyliadwrus o alwyr ffug Mae adran Treth Cyngor Sir Ddinbych yn rhybuddio talwyr treth cyngor yn y sir i fod yn wyliadwrus o alwadau ffôn ffug sydd wedi bod yn gofyn i bobl am fanylion llawn eu cyfrif banc ar y ffôn er mwyn derbyn credyd yn eu cyfrif. Ers dydd Llun, mae...
28/06/2011
TeitlCrynodeb
Gwybodaeth am streic yr athrawon Mae Sir Ddinbych yn rhoi cynlluniau yn eu lle ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer y streic gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon a’r Darlithwyr ar Fehefin 30, 2011 i sicrhau y bydd yna gyn lleied o amhariadau ag sydd bosib. Rhagwelir y bydd yr effaith...
27/04/2011
TeitlCrynodeb
Ardal chwarae dŵr y Parc Drifft yn cael system rybuddio leisiol newydd Mae gwasanaeth CCTV ac adrannau tiriogaeth y cyhoedd Cyngor Sir Ddinbych wedi dyfeisio ffordd newydd arloesol o stopio pobl rhag mynd i mewn i ardal chwarae dŵr y Parc Drifft y tu allan i oriau drwy atodi modiwl llais i’r camera CCTV gerllaw. Fe...
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych