Taliadau tai yn ôl disgresiwn
Bwriad taliadau dewisol tai yw helpu pobl gyda chostau rhent parhaus, blaendaliadau a/neu symud.
Pwy fyddai’n gymwys?
Dim ond pobl sy’n profi caledi arbennig neu bobl sydd mewn amgylchiadau eithriadol a all dderbyn taliadau tai yn ôl disgresiwn. Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir hefyd:
- Mae’n rhaid i’r hawliwr fod â hawl i Fudd-daliad Tai neu Gostau Tai trwy Gredyd Cyffredinol.
- Mae’n rhaid iddynt fod angen help pellach gyda chostau tai.
- Mae’n rhaid i’r Cyngor fod ag arian digonol ar gael i ddelio â’r gost.
Ni allwn wneud taliad ar gyfer y canlynol:
- Taliadau gwasanaeth.
- Taliadau gwasanaethau carthffosiaeth neu ddŵr.
- Rhent pan nad ydych ond yn gymwys i hawlio cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.
- I ddelio ag unrhyw ddiffyg oherwydd gordaliad sy’n cael ei adennill.
Sut y caiff taliadau eu gwneud?
Gall taliadau a ddyfarnir i helpu gyda rhent gael eu talu un ai i chi neu eich landlord.
Caiff taliadau a ddyfarnir tuag at flaendal neu gostau symud eu talu yn uniongyrchol i’r landlord neu i’r cwmni symud.
Sut i wneud cais
Gallwch ymgeisio am daliad dewisol tai ar gyfer costau rhent parhaus neu ar gyfer blaendal a/neu gostau symud ar-lein
Costau rhent parhaus
Gallwch ymgeisio am gymorth gyda’ch rhent parhaus ar-lein.
Ymgeisiwch am gymorth gyda’ch rhent parhaus ar-lein
Costau blaendal neu symud
Gallwch ymgeisio am gymorth gyda blaendal neu gostau symud ar-lein.
Ymgeisiwch am gymorth gyda blaendal neu gostau symud ar-lein