Gwasanaethau llyfrgell i blant a theuluoedd
Cychwyn ar y daith ddarllen
Rhowch y cychwyn gorau i’ch plentyn drwy ddod â nhw i’r llyfrgell i ymuno a benthyca llyfrau. Dydych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â’r llyfrgell – fe allwch chi fod yn aelod o ddiwrnod eich geni, ac mae’n rhad ac am ddim!
Wyddech chi fod darllen er pleser yn bwysicach i lwyddiant plant nag addysg a chefndir? Mae llyfrgelloedd yn frwd dros helpu plant i ddod yn ddarllenwyr gydol oes – mae yma gyflenwad gwych o lyfrau sy'n addas i bob oed, diddordeb a gallu darllen, gan gynnwys:
- llyfrau i fabanod
- llyfrau lluniau i’w rhannu
- llyfrau i helpu dechrau darllen
- llyfrau gwybodaeth, straeon a cherddi i’w mwynhau
- llyfrau i helpu gyda dysgu a’r ysgol
- llyfrau i helpu gyda theimladau a sefyllfaoedd heriol
- llyfrau addas ar gyfer pobl â dyslecsia
- llyfrau i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc
- E-lyfrau ac e-lyfrau sain i blant o bob oed
Helpwch eich plant i ddatblygu’r arfer o fenthyca a dychwelyd llyfrau llyfrgell. Peidiwch â phoeni os byddwch chi ychydig yn hwyr yn dod â’r llyfrau’n ôl – dydyn ni ddim yn codi ffi am lyfrau hwyr y mae plant wedi’u benthyca.
Dechrau Da
Mae Dechrau Da Sir Ddinbych yn rhoi cyfle i bob babi ddatblygu cariad cynnar at rannu llyfrau a darllen, ac i ddod yn aelod o'u llyfrgell leol drwy:
- roi bag Dechrau Da dwyieithog am ddim i bob babi a phlentyn bach
- cynnig cyngor i rieni a gofalwyr ar fanteision rhoi llyfrau i fabis
- annog ymaelodi â’r llyfrgell
- cynnal sesiynau Amser Rhigwm mewn llyfrgelloedd
- gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau blynyddoedd cynnar eraill
Mae llyfrgelloedd wrth eu boddau gyda babis a phlant bach, a bydd croeso cynnes yma i blant ifanc. Does dim rhaid i blant dan bump oed dalu dirwy os bydd llyfrau’n cael eu dychwelyd yn hwyr neu wedi’u difrodi. Rydym ni hefyd yn gwybod y gall plant fod yn swnllyd weithiau – dydi hynny ddim yn broblem!
Her Ddarllen yr Haf
Dyma uchafbwynt y llyfrgell, gan fod miloedd o blant yn cymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf. Mae’n ffordd wych o helpu eich plentyn i ddarllen er pleser y tu allan i’r ysgol ac yn helpu cynnal eu sgiliau darllen dros wyliau’r haf. Chwilio am ladron llyfrau o’r gofod? Helpu Dennis a Gnasher i wneud pob math o ddrygioni yn Beanotown? Dim problem o gwbl i’n darllenwyr haf ni! Gall plant gymryd rhan mewn her newydd a chyffrous bob haf, a hyd yn oed ennill medal a thystysgrif am eu hymdrechion darllen!
Grwpiau Plant
Cymraeg i Blant
Cymraeg i Blant
Mae Cymraeg i Blant Sir Ddinbych yn cynnal nifer o wahanol grwpiau ar gyfer plant gyda’r nod o hyrwyddo dysgu a defnyddio’r Gymraeg ymhlith plant a’u rhieni. Mae gwahanol thema i bob grŵp ac maent yn cylchdroi rhwng y gwahanol lyfrgelloedd – ffoniwch eich llyfrgell leol neu edrychwch ar dudalen Cymraeg i Blant ar Facebook i ddod o hyd i’ch sesiwn nesaf.
- Ioga Babanod
- Stori a Rhigwm
- Tylino Babanod
Ymweliadau dosbarth
Efallai y bydd eich plentyn yn dod i’r llyfrgell leol gyda’u hysgol i ddysgu beth sydd ar gael yno, i bori trwy lyfrau a'u benthyca, i chwilio am wybodaeth ac i fwynhau stori. Gellir addasu’r ymweliadau hyn ar gyfer unrhyw anghenion arbennig.
Digwyddiadau Arbennig
Mae pob un o lyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn – gall y rhain amrywio o sesiynau crefft ar thema'r Nadolig neu Galan Gaeaf i amser stori Diwrnod y Llyfr. Anelir y digwyddiadau hyn at blant a’u teuluoedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â’ch llyfrgell leol neu drwy gael golwg ar ein cyfrifon Llyfrgell Sir Ddinbych ar Twitter (gwefan allanol) neu Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ar Facebook (gwefan allanol).