Cyflogaeth
10.0 CYFLWYNIAD
10.1
Un nod allweddol gan Gyngor Sir Ddinbych yw '...amcanu i greu economi gytbwys ac
amrywiol'. Bydd hyn yn ymwneud â hybu'r gwaith o ddatblygu ac arallgyfeirio'r
economi leol er mwyn cynyddu'r cyfleoedd cyflogaeth a thrwy hynny, ffyniant y
bobl leol. Er mwyn gweithio tuag at gyflawni'r amcan hwn, mae'r CDU yn cynnwys
fframwaith cynllunio polisi sydd ar wahân i, ond yn addas i strategaethau a
rhaglenni cydlynol y Cyngor, asiantaethau eraill a'r sector cyhoeddus weithredu
oddi mewn iddi.
Dylai unrhyw ddatblygiad fod yn
gynnaladwy, gan roi ystyriaeth i'r angen am warchod a hyrwyddo adnoddau a'r
amgylchedd naturiol. Felly, mae'n rhaid cynnal unrhyw ddatblygiad economaidd yn
sensitif mewn ffyrdd sy'n parchu'r amgylchedd lleol a'i ddymunoldeb.
10.2
Defnyddir datblygiadau cyflogaeth yn aml fel term generig sy'n cynnwys amrediad
eang o ddefnyddiau tir, gweithgareddau a datblygiadau sy'n creu cyflogaeth.
Mae'r bennod hon yn canolbwyntio ar ddatblygiadau diwydiannol, storio a
dosbarthu, amaethyddol, swyddfeydd a datblygiadau busnes eraill. Rhoddir
ystyriaeth i ffynonellau pwysig eraill o gyflogaeth, megis adwerthu, twristiaeth
a mwynau, mewn penodau eraill.
10.3 RÔL CYNLLUNIO
10.4
Dylai awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod
-
Digon o dir addas ar gyfer ei
ddatblygu at ddefnydd busnes a chyflogaeth, yn cael ei wasanaethu gan
isadeiledd da, yn cael ei ddynodi ar gyfer cyflogaeth er mwyn diwallu’r
anghenion a arenwyd a’r rhai heb eu harenwi; a bod
-
Datblygiadau newydd ar gyfer
defnydd busnes a chyflogaeth yn cael eu lleoli a’u gweithredu yn unol ag
egwyddorion cynnaladwyedd.
10.5
Mae'r CDU yn gweithio mewn dwy brif ffordd i gynorthwyo gyda chadw, ehangu a
chreu datblygiadau cyflogaeth. Yn y lle cyntaf, mae'n neilltuo tir cyflogaeth er
mwyn sicrhau darpariaeth bositif ar gyfer amrywiaeth o safleoedd cyflogaeth o
ran math, maint a lleoliad. Yn ail, mae'n cynnwys polisïau sydd ar yr un llaw yn
darparu hyblygrwydd ond sydd eto, ar y llaw arall, yn darparu rheolau ynghylch
yr agweddau negatif ar ddatblygiad cyflogaeth.
10.6
Mae arallgyfeirio ac adfywio economi dwristaidd yr arfordir a’r economi wledig
yn faterion y rhoddir sylw iddynt yn y CDU. Dyfarnwyd statws Amcan 1 i Sir
Ddinbych fel rhan o Fenter Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan adlewyrchu ei
pherfformiad economaidd gwan.
10.7 STRATEGAETH DDATBLYGU ECONOMAIDD
10.8
Mae Strategaeth Ddatblygu Economaidd y Cyngor ar gyfer 2001/2002 yn nodi dull y
Cyngor o ddatblygu'n economaidd.
10.9
Prif elfennau’r strategaeth yw:
-
hybu buddsoddiad mewnol
-
galluogi i gwmnïau brodorol
ehangu
-
hwyluso datblygiad hyfforddiant
a sgiliau
-
llywio adfywiad canol trefi
-
datblygu ac arallgyfeirio'r
dwristiaeth arfordirol
-
mentrau datblygu gwledig
-
creu partneriaethau
10.10
Cynhwysir byrdwn eang y polisïau cynllunio defnydd tir a datblygiad yn Rhan 1
o'r CDU sy'n nodi polisi cynllunio strategol Sir Ddinbych. Mewn perthynas â
chyflogaeth, nodau strategol y CDU yw:
i) Cynnal a gwella hyfywedd,
ffyniant ac amrywiaeth yr economi leol drwy ddarparu gwell cyfleoedd
cyflogaeth.
ii) Sicrhau bod digon o dir ac
adeiladau, o safbwynt lleoliad, maint a math, ar gael ar gyfer datblygu
cyflogaeth a denu buddsoddiad.
iii) Diogelu a darparu ar gyfer
anghenion a dyheadau busnesau sy'n bodoli eisoes, ac yn arbennig ar gyfer eu
datblygu a'u hehangu.
10.11
Mae polisi cyflogaeth y Rhan 1 Strategol,
STRAT 8, yn darparu sylfaen ar
gyfer y polisïau a'r bwriadau manwl yn y Bennod hon. Ar ben hynny, mae’n rhaid
ystyried datblygiadau cyflogaeth yn erbyn amcanion a pholisïau strategol eraill,
yn arbennig mewn perthynas â phriffyrdd a chludiant. Mae datblygu cyflogaeth yn
creu mwy o siwrneiau a bydd y Cynllun yn ceisio sicrhau ei fod yn cynnwys
mesurau ar gyfer sicrhau patrymau mwy cynnaladwy o deithio.
10.12 GWERTHUSIAD AMGYLCHEDDOL
10.13
Yn gyffredinol, bydd datblygu cyflogaeth yn cael effaith amgylcheddol negatif o
safbwynt teithio, adnoddau ac ansawdd yr amgylchedd lleol. Fodd bynnag, bydd
meini prawf manwl, ynghyd â pholisïau eraill yn y Cynllun, yn ceisio lleihau neu
ddileu'r effeithiau amgylcheddol negatif.
10.14
Mae'r Cynllun yn cyfeirio'r rhan fwyaf o ddatblygiadau cyflogaeth newydd i Brif
Ardaloedd Cyflogaeth presennol sydd fel rheol yn agos i ganolfannau poblogaeth
gan arwain trwy hynny at lai o ddefnydd o geir a chyfle ar gyfer dulliau eraill
o deithio. Gan nad oes cludiant cyhoeddus, bydd Parc
Busnes Llanelwy'n parhau i berfformio'n wael yn y cyswllt hwn. Bydd annog
ehangu'r diwydiannau presennol ar y safle yn arwain at lai o effeithiau
amgylcheddol yn gyffredinol nag adleoli. Gall gweithio o gartref a datblygiadau
cyflogaeth gwledig priodol ar raddfa fechan gynorthwyo i weithio tuag at
gynnaladwyedd.
10.15 POLISÏAU A BWRIADAU
Polisi EMP 1 - Maint a Dosbarthiad Tir Cyflogaeth
MAE'R CYNLLUN YN DARPARU AR
GYFER RHYW 84 HE (208 erw) O DIR AR GYFER DATBLYGU CYFLOGAETH DROS GYFNOD Y
CYNLLUN, AC FE'I NEILLTUIR FEL A GANLYN:
|
LLEOLIAD Y SAFLE |
MAINT Y SAFLE (HE) |
Cyfarwyddyd Dylunio |
|
Glasdir,
Rhuthun |
28 he (69 erw) |
Gweler Polisi
MDA 2 |
|
Y Gyfnewidfa Ffôn (tir ynghlwm wrthi),
Clawddnewydd |
|
0.23 he (0.56 erw) |
Uned(au) diwydiannol
dechreuol neu gyffredinol B1 & B2 / defnyddio’r fynedfa bresennol
/ cadw gwrychoedd a chryfhau gyda thirlunio strwythurol
lle bo angen / gwarchod dymunoldeb preswyl. |
|
Tir yng nghefn Coedwig Corwen,
Clawdd Poncen |
5.56 he (13.75 erw) |
Unedau bychain neu ganolig B1
/ B2 / mynediad o’r stad ddiwydiannol bresennol /
tirlunio strwythurol i warchod dymunoldeb preswyl a
gwelededd. |
|
Ger y B5437,
Clawdd Poncen |
3.3 he (8.2 erw) |
Unedau dechreuol/defnyddio'r
fynedfa bresennol/ tirlunio'r ffin dde ddwyreiniol yn
strwythurol. |
|
Lard y Chwarel,
Bodfari |
0.36 he (0.9 erw) |
Unedau dechreuol B1 /
defnyddio'r fynedfa bresennol oddi ar yr A541 neu agor yr hen
fynedfa oddi ar y B5429/ effaith ar ddymunoldeb y gofod agored
a'r safle tai cyfagos/ tirlunio perimedr y safle. |
|
Caeau Les Phillips,
Dinbych |
4 he (9.9 erw) |
Adleoli'r clwb rygbi ar safle
addas yn Ninbych/ defnyddio a gwella'r fynedfa bresennol/
cadw'r coed aeddfed/tirlunio Ffordd Graig yn strwythurol. |
|
I'r Gogledd o Stad Ddiwydiannol Colomendy,
Dinbych |
|
8.08 he (20 erw) |
Unedau diwydiannol dechreuol
neu gyffredinol B1 neu B2 gyda mynedfa(mynedfeydd)
newydd drwy ddatblygiadau presennol i'r de / cadw'r
coed a'r gwrychoedd a thirlunio'r ffin ogleddol yn strwythurol. |
|
Cilmedw (tir yn)
Llangollen |
4.37 he (10.8 erw) |
Unedau B1/B2 / datblygiad
isel, effaith leiafswm wedi’i osod yn ôl o’r ffordd i gynnal
talwyneb agored ar hyd yr A5 / dyluniad, deunyddiau a
thirlunio o safon uchel / darparu cyfleuster troi i’r dde/cadw’r
coed aeddfed. |
|
Tir yng nghefn Pentre Motors,
Llanrhaeadr |
2.24ha (5.53 erw) |
Unedau graddfa fechan B1/B2 /
prif fynediad o A525 a mynedfa eilradd o’r ffordd
ochr / tirlunio strwythurol i’r ffin ogleddol a dwyreiniol /
gwarchod dymunoldeb preswyl. |
|
Ffordd Pendyffryn,
Prestatyn |
0.9he (2.2 erw) |
Unedau dechreuol/trawsnewid
neu ailddatblygu rhan o'r gyfnewidfa ffôn/y fynedfa
bresennol oddi ar Ffordd Pendyffryn/cadw'r coed
presennol. |
|
Cyn-Weithdai Kwik Save, Ffordd Llys Nant,
Prestatyn |
1.6he (4.0 erw) |
Datblygiad B1 neu B2 ar ffurf
stad fechan / sgrinio priodol i warchod y dymunoldeb preswyl
cyfagos / efallai y bydd angen asesiad o effaith y
traffig a gwella'r gyffordd o bosibl i Ffordd Llys Nant. |
|
Cefn Motorworld,
Y Rhyl |
0.53 he (1.3 erw) |
Unedau dechreuol / mynedfa
newydd neu well oddi ar y ffordd ddynesu pont-H / trin y ffin
gerllaw'r safle adwerthu. |
|
Ffordd Wood,
Y Rhyl |
0.25 he (0.6 erw) |
Unedau dechreuol/trawsnewid-ailddatblygu'r
adeiladau cyfagos o bosibl/ mynedfa
oddi ar Ffordd Wood neu Rodfa Westbourne/ trin ffin y safle
adwerthol cyfagos. |
|
Ffordd Cefndy, Cam 2,
Y Rhyl |
5.0 he (12.4 erw) |
Parhau â Cham 1 / unedau
dechreuol neu ddiwydiannol ysgafn / dyluniad codiad isel
/ cynnal y grwychoedd terfyn / tirlunio strwythurol wedi’i
ddylunio i wneud y gorau o werth bywyd gwyllt / parchu
dynodiadau amgylcheddol a neilltuadau ar y safle drwy
fesurau lliniaru a hyrwyddo ar ac oddi ar y safle / defnyddio'r
fynedfa bresennol drwy Gam 1 yn ddarostyngedig i asesiad
effaith traffig i sefydlu’r gwelliannau ffordd
angenrheidiol. |
|
Tir i'r dwyrain o
Barc Busnes Llanelwy |
|
16.5 he (40.8 erw) |
Parhad y parc busnes gyda
defnydd B1 neu B2 swyddfa neu ddiwydiannol ysgafn /
llunwedd, dyluniad a deunyddiau o safon uchel gan gadw'r
nodweddion tirlun a'r tirlunio strwythurol / defnyddio'r
fynedfa bresennol drwy'r parc busnes / darparu mynedfa
argyfwng ar yr A55 (P). |
Mae'r Cynllun yn darparu ar gyfer
cyfanswm o 164he (405 erw) o dir cyflogaeth yn cynnwys neilltuadau newydd o 84
he (208 erw) a thir cyflogaeth presennol o 80 he (198 erw). Seilir maint, math a
lleoliad y tir cyflogaeth ar y ffactorau a ganlyn:
Strategaeth Tir Cyflogaeth a’r
Ddarpariaeth
Mae’r Cyngor wedi ymgymryd ag
astudiaeth o Strategaeth Tir Cyflogaeth er mwyn canfod lleoliad, math a maint
tebygol y tir cyflogaeth y dylid darparu ar ei gyfer. Hefyd, mae’r Cyngor wedi
paratoi Papur Pwnc 7 – "Tir Cyflogaeth" sy’n datgan y sail ar gyfer y galw am a
chyflenwi tir cyflogaeth yn y CDU. Mae’r ddau yma ar gael ar wahân ac yn egluro
graddfa, lleoliad a math y ddarpariaeth o dir cyflogaeth.
Polisi EMP 2 - Prif Ardaloedd
Cyflogaeth
ODDI MEWN I'R PRIF ARDALOEDD
CYFLOGAETH, FEL A DDIFFINNIR AR Y MAPIAU BWRIADAU, CANIATEIR Y DATBLYGIADAU
CYFLOGAETH A GANLYN:
i) DEFNYDD BUSNES (B1;
ii) DIWYDIANT CYFFREDINOL (B2;
iii) STORIO MEWN WARYSAU A
DOSBARTHU (B8) YN CYNNWYS MASNACHWYR NWYDDAU ADEILADU A
PHLYMIO, CYFLENWYR COED, CANOLFANNAU LLOGI PEIRIANNAU AC ALLFEYDD ERAILL
SY'N DARPARU GWASANAETH CYFANWERTHU I'R BYD MASNACH (NI FYDD GWERTHIANNAU
ADWERTHOL I'R CYHOEDD YN DDERBYNIOL YN GYFFREDINOL.
AR YR AMOD:
a) BOD GRADDFA A CHYMERIAD Y
BWRIAD YN BRIODOL I'R ARDAL;
b) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH
ANNERBYNIOL AR YR AMGYLCHEDD, AR DDYMUNOLDEB
NAC AR RWYDWAITH PRIFFYRDD Y BRIF ARDAL GYFLOGAETH, YR ARDALOEDD PRESWYL NEU
DDEFNYDDIAU SENSITIF ERAILL;
c) BOD DARPARIAETH DDIGONOL YN
CAEL EI GWNEUD AR GYFER GWASANAETHU, PARCIO A SYMUD
AR Y SAFLE;
d) BOD DIGON O SGÔP YN BODOLI,
NAILL AI ODDI MEWN I'R SAFLE NEU AR DIR CYFAGOS, AR GYFER
EHANGU NEU DDWYSAU YN Y DYFODOL.
NID YW'R POLISI HWN YN
BERTHNASOL I'R SAFLE CYFLOGAETH O ANSAWDD UCHEL YM MHARC BUSNES LLANELWY, Y
CEIR CYFARWYDDYD PENODOL AR EI GYFER YM MHOLISI
EMP 3.
Mae'r Prif Ardaloedd Cyflogaeth
yn diffinio'r safleoedd ble gwelir y rhan fwyaf o ddatblygiadau cyflogaeth yn
ystod cyfnod y Cynllun ac maent yn galluogi cwmnïau sy'n bodoli eisoes i ehangu
a/neu ddwysau. Maent wedi'u nodi ar y map bwriadau ac yn cynnwys:-
i) mentrau cyflogaeth presennol
ii) tir gyda chaniatâd cynllunio cysylltiedig â chyflogaeth (ymrwymiadau)
iii) neilltuadau cyflogaeth sydd heb eu datblygu
Diben y polisi hwn yw cadw'r prif
ardaloedd cyflogaeth at ddefnydd diwydiannol ac nid at ddefnydd adwerthol/masnachol
(A1, A2, A3). Bydd y rhan fwyaf o ddatblygiadau cysylltiedig â chyflogaeth yn
dderbyniol oddi mewn i'r Prif Ardaloedd Cyflogaeth yn cynnwys defnyddiau busnes
(Dosbarth B1), diwydiant cyffredinol (Dosbarth B2), storio mewn warysau a
dosbarthu (Dosbarth B8) yn cynnwys masnachwyr, canolfannau llogi ac allfeydd
eraill sy'n gwasanaethu'r byd masnach. Ni fydd allfeydd adwerthol cyffredinol (Dosbarth
A1) sy'n gwasanaethu'r cyhoedd yn dderbyniol oni bai eu bod yn ategol i'r prif
ddefnydd o'r adeilad ar gyfer gweithgynhyrchu neu ddibenion ymgynnull. Nid yw'r
polisi hwn yn berthnasol i Barc Busnes Llanelwy sydd wedi'i ddiogelu fel parc
busnes o ansawdd uchel.
Mae'r polisi’n berthnasol i
adeiladau newydd, trawsnewidiadau a newid defnydd, ailddatblygiadau ac
estyniadau. Bydd disgwyl i bob bwriad datblygu weddu â'u hamgylchfyd o safbwynt
lleoliad a safle, llunwedd, ffurf, dyluniad, deunyddiau a thirluniad. Bydd raid
rhoi sylw arbennig i effaith y prosesau diwydiannol a phrosesau eraill, a storio
y tu allan, ar ddymunoldeb yr ardal i breswylwyr cyfagos a defnyddwyr eraill.
Mae'r tir i'r dwyrain o
Pilkingtons oddi mewn i Brif Ardal Gyflogaeth Parc Busnes Llanelwy at ddibenion
ehangu yn unig. Cynhwysir tir i'r gorllewin o Stad Ddiwydiannol Gwersyll Cinmel
oddi mewn i ffiniau datblygu er mwyn galluogi'r posibilrwydd o ddatblygiad
cyflogaeth pe bai unrhyw dir yr MOD yn dod ar gael
Mae’r Prif Ardaloedd Cyflogaeth
fel a ganlyn:
|
Parc Busnes Expressway,
Llanelwy |
Ffordd Cefndy,
y Rhyl |
|
Stad Ddiwydiannol Parc Cinmel (Gogledd & De),
Bodelwyddan |
Ffordd Derwen / Ffordd Cefndy,
y Rhyl |
|
Stad Ddiwydiannol,
Clawdd
Poncen |
Ffordd Las,
y Rhyl |
|
Stad Ddiwydiannol, A5,
Corwen |
Cyn Safle Martin’s Cash &
Carry, Ffordd Derwen, y Rhyl |
|
Ifor Williams,
Cynwyd |
Stad Fasnachu Glanaber, Vale
Road, y Rhyl |
|
Stad Ddiwydiannol Colomendy,
Dinbych |
Marsh Road,
y Rhyl |
|
Ffordd Talargoch,
Galltmelyd |
Stad Ddiwydiannol Lôn Parcwr,
Rhuthun |
|
Ffordd Pendyffryn,
Prestatyn |
Former North Wales Hospital,
Dinbych |
|
Pencadlys Kwik Save, Warren
Drive, Prestatyn |
Iard yr Orsaf,
Llanelwy |
|
Abergele Road (HTM Ind Est),
Rhuddlan |
Ffordd Dinbych Isaf/Ffordd
Glascoed, Llanelwy |
|
Graig Lelo, Gwyddelwern |
Parc Busnes Llanelwy |
Polisi EMP 3 - Parc Busnes
Llanelwy
DIOGELIR TIR AC EIDDO
YM MHARC
BUSNES LLANELWY, FEL A DDANGOSIR AR Y MAP BWRIADAU, FEL SAFLE CYFLOGAETH O
ANSAWDD UCHEL BLE CANIATEIR DATBLYGIADAU SY'N CYNNWYS:
i) DEFNYDD BUSNES (B1) YN
CYNNWYS DIWYDIANT YSGAFN, SWYDDFEYDD (DDIM YNG NGHANOL TREF), YMCHWIL A
DATBLYGU;
ii) GWASANAETHAU CEFNOGI
ADWERTHOL AC ARIANNOL A GWASANAETHAU CEFNOGI
SWYDDFEYDD NEU FUSNES ERAILL AR RADDFA FECHAN A SIOPAU CYFLEUS LLEOL I
DDARPARU AR GYFER ANGHENION GWEITHWYR Y PARC YN UNIG.
AR YR AMOD:
a) BOD Y DATBLYGIAD O'R SAFON
UCHAF O SAFBWYNT LLEOLIAD, LLUNWEDD, DYLUNIAD, FFURF A DEUNYDDIAU;
b) BOD Y DATBLYGIAD YN
DDATBLYGIAD DWYSEDD ISEL;
c) BOD Y DATBLYGIAD YN CYNNWYS
MESURAU TIRLUNIO SYLWEDDOL, SY'N YMATEBOL I
AMGYLCHFYD GWLEDIG Y PARC BUSNES;
d) BOD Y DATBLYGIAD YN CADW AC
YN CYNNWYS NODWEDDION NEU GYNEFINOEDD CADWRAETH
TIRLUN NEU NATUR;
e) BOD MANNAU STORIO NEU
WASANAETHU Y TU ALLAN, OS YDYNT YN HANFODOL, WEDI'U LLEOLI,
EU GOSOD ALLAN A'U CUDDIO FEL EU BOD MOR ANYMWTHIOL AG Y BO MODD.
Dyfarnwyd caniatâd cynllunio
amlinellol i Barc Busnes Llanelwy fel parc busnes ansawdd uchel, dwysedd isel i
roi lle i ddefnyddiau busnes B1. Mae'r Parc wedi cael ei ddatblygu’n rhannol yn
awr. Ar safle rhwng Llanelwy a
Bodelwyddan, mae'r Parc wedi'i leoli oddi mewn i
amgylchfyd gwledig atyniadol o barcdir. Yn unol â hynny, mae'n ofynnol sicrhau
bod unrhyw ddatblygiadau yn cael eu dylunio a'u gosod allan gan barchu ansawdd
uchel y tirlun o amgylch. Mae canllaw cynllunio/dylunio safle ar gael yn nodi
cyfarwyddyd ar gyfer datblygu'r Parc.
Polisi EMP 4 - Datblygiadau
Cyflogaeth Oddi Mewn i'r Ffiniau Datblygu
CANIATEIR DATBLYGIADAU
CYFLOGAETH ODDI MEWN I'R FFINIAU DATBLYGU AR YR AMOD:
i) BOD EU GRADDFA, EU MATH A'U
CYMERIAD YN BRIODOL I'R ARDAL;
ii) BOD DIGON O SGÔP YN BODOLI,
LLE BO HYNNY'N BRIODOL, AR GYFER EHANGU A DWYSAU YN Y
DYFODOL.
Er bod y rhan fwyaf o
ddatblygiadau cyflogaeth i'w gweld yn y Prif Ardaloedd Cyflogaeth, bydd bwriadau
ar gyfer datblygiadau cyflogaeth yn dod i'r amlwg mewn mannau eraill mewn trefi
a phentrefi o dro i dro. Os nad oes unrhyw neilltuadau tir ar gyfer cyflogaeth
wedi'u gwneud mewn pentref neu dref wledig, mae'n bwysig diwallu anghenion
busnesau newydd bychain os am ddarparu swyddi.
Bydd ailddefnyddio neu ailgylchu
tir ac adeiladau at ddefnydd cyflogaeth yn lleddfu'r pwysau ar yr angen am
safleoedd gwyrdd a gall gael gwared o safleoedd blêr ac adeiladau dirywiedig.
Bydd annog ardaloedd defnydd cymysg o gymorth i gryfhau cymunedau a lleihau'r
angen am siwrneiau mewn ceir preifat. Fodd bynnag, mae'r polisi yn cydnabod
pwysigrwydd diogelu dymunoldeb yr ardaloedd preswyl, a defnyddiau tir sensitif
eraill. Yn yr un modd, bydd yr effaith ar yr amgylchedd lleol ac ar y rhwydwaith
o briffyrdd lleol yn ystyriaethau pwysig. Bwriad y polisi hwn yw darparu
cyflogaeth B1 yn bennaf, y gellir ei lleoli'n foddhaol fel rheol oddi mewn i
ardaloedd preswyl/masnachol cymysg sy'n bodoli eisoes, neu ardaloedd preswyl yn
bennaf. Bydd yr hyn sy’n dderbyniol yn dibynnu ar faint/math y datblygiad a
chymeriad yr amgylchedd.
Mewn rhai achosion, bydd yn
ofynnol rhoi ystyriaeth i, darparu ar gyfer a rheoli'r gwaith o ehangu a dwysau
defnydd, a thrwy hynny atal niwed o ganlyniad. Sicrheir hyn drwy orfodi amodau
cynllunio neu gytundebau cysylltiedig â materion megis oriau gweithredu, swn,
mathau o beiriannau, storio, nwyon a ryddheir a llygredd etc.
Polisi EMP 5 - Datblygiad
Cyflogaeth ar Raddfa Fechan y tu Allan i'r Ffiniau Datblygu
CANIATEIR DATBLYGIADAU
CYFLOGAETH AR RADDFA FECHAN, Y TU ALLAN I'R FFINIAU DATBLYGU, YN YR ACHOSION A
GANLYN:
i) DRWY DRAWSNEWID ADEILADAU
SY'N BODOLI EISOES.
AR YR AMOD:
a) BOD YR ADEILAD YN SAERNÏOL
GADARN A BOD MODD EI DRAWSNEWID HEB WAITH
AILADEILADU SYLWEDDOL NEU LWYR A'I FOD YN ADDAS AR GYFER Y DEFNYDD A
FWRIEDIR;
b) BOD UNRHYW NODWEDDION
CYNHENID O BWYS YN YR ADEILAD YN CAEL EU CADW;
c) BOD GRADDFA A NATUR Y BWRIAD
YN CYD-FYND Â'R DEFNYDDIAU TIR O AMGYLCH A CHYMERIAD YR
ARDAL;
d) BOD Y DEFNYDD ARFAETHEDIG
WEDI'I GYFYNGU I'R ADEILAD PRESENNOL AC NAD YW UNRHYW
WEITHREDIADAU ALLANOL A STORIO ODDI MEWN I FUARTH Y SAFLE YN CAEL EFFAITH
NIWEIDIOL AR Y TIRLUN A'R AMGYLCHEDD LLEOL;
e) NA FYDD Y BWRIAD YN ARWAIN
AT ADEILAD AMAETHYDDOL NEU ADEILAD ARALL I GYMRYD LLE'R
HEN ADEILAD;
f) BOD DIGON O SGÔP YN BODOLI,
ODDI MEWN I FUARTH Y SAFLE, AR GYFER EHANGU NEU DDWYSAU YN Y
DYFODOL, HEB ORDDATBLYGU'R ARDAL O SAFBWYNT DYMUNOLDEB, Y TIRLUN, YR
AMGYLCHEDD A'R RHWYDWAITH O BRIFFYRDD;
g) BOD Y RHWYDWAITH PRIFFYRDD O
AMGYLCH O SAFON ADDAS I WASANAETHU NATUR A DWYSEDD Y
TRAFFIG A GREIR GAN Y BWRIAD.
h) NAD YW’R BWRIAD YN CAEL
EFFAITH NIWEIDIOL AR GADWRAETH NATUR NA BUDDIANNAU
ARCHEOLEGOL.
ii) DAN AMGYLCHIADAU EITHRIADOL,
LLE NAD OES TIR NAC ADEILAD AR GAEL ODDI MEWN I FFINIAU
DATBLYGU'R PRIF BENTREFI NEU'R PENTREFI LLAI, CANIATEIR DATBLYGIADAU AR RADDFA
FECHAN AR GYRION ANEDDIADAU AR YR AMOD:
a) BOD Y BWRIAD YN CYD-FYND
 MEINI PRAWF (c) ac (f) UCHOD;
b) BOD Y BWRIAD AR FFURF
CANIATÂD CYNLLUNIO LLAWN YN UNIG. CYFYNGIR AR GANIATÂD CYNLLUNIO I 2 FLYNEDD, AC MAE’N ANHEBYGOL CHANIATEIR CEISIADAU AM ADNEWYDDU
CANIATÂD CYNLLUNIO;
c) BOD Y DATBLYGIAD YN GWEDDU'N
FFISEGOL Â'R ANHEDDIAD HEB ARWAIN AT DDATBLYGIAD RHUBAN
NEU YNYSIG ANSENSITIF, NEU BATRWM DATBLYGU ACHLYSUROL A GWASGAROG;
d) BOD FFIN RESYMEGOL NEWYDD YN
CAEL EI FFURFIO YNGHYD Â MESURAU TIRLUN SENSITIF;
e) NAD YW’R BWRIAD YN CAEL
EFFAITH NIWEIDIOL AR GADWRAETH NATUR NA BUDDIANNAU
ARCHEOLEGOL.
NI CHANIATEIR CEISIADAU DILYNOL
AM DRAWSNEWID ADEILADAU A GANIATAWYD DAN Y POLISI HWN AT DDEFNYDD PREIFAT.
Mae arallgyfeirio'r economi leol
yn nod bwysig yn y Cynllun. Ceir llawer o adeiladau amaethyddol ac adeiladau
eraill yng nghefn gwlad nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer eu diben
gwreiddiol bellach ac mewn sawl achos, gellir addasu'r rhain i roi lle i
ddefnyddiau cyflogaeth ar raddfa fechan. Bydd hyn yn gweithio tuag at sicrhau
economi a chymuned wledig ymarferol a chytbwys tra bydd ailddefnyddio adeiladau
yn atal eu dirywiad ac yn sicrhau bod rhan bwysig o'r dreftadaeth adeiledig
wledig yn cael ei gwarchod. Ffafrir trawsnewid adeiladau gwledig at ddefnydd
cyflogaeth yn hytrach nag at ddefnydd preswyl.
Mae lleoliadau mewn cefn gwlad
agored, y tu allan i'r ffiniau datblygu, yn golygu bod raid rheoli datblygiadau
o'r fath er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag ansawdd uchel cefn gwlad a
thirlun y Sir heb amharu dim arno. Dylai unrhyw adeiladau fod yn saernïol gadarn
ac yn addas ar gyfer y diben a fwriedir, gan gadw a chynnwys unrhyw nodweddion o
bwys. Os nad yw'r cyflwr saernïol yn eglur, bydd angen cynnal arolwg a llunio
adroddiad saernïol annibynnol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn ofynnol
addasu, newid a rhoi estyniad bychan er mwyn rhoi lle i'r diben a fwriedir.
Rhoddir sylw sylweddol i raddfa a
natur weithredol y bwriad o safbwynt mynediad, cyfleusterau parcio a throi, yr
effaith ar ddymunoldeb a chymeriad yr ardal o amgylch. Ni ddylai'r bwriad arwain
at naill ai orddatblygu'r adeilad neu'r safle, nac arwain at nodwedd ymwthiol ar
y tirlun. Mae'r polisi'n dweud ei bod yn ofynnol rhoi ystyriaeth i sgôp unrhyw
ehangu neu ddwysau yn y dyfodol, heb effeithio'n annerbyniol ar ddymunoldeb, y
tirlun, yr amgylchedd a'r rhwydwaith o briffyrdd yn yr ardal. Mewn sefyllfaoedd
lle mae'n rhaid i fusnes ehangu y tu hwnt i'w safle presennol, ceir cyfarwyddyd
ynghylch hyn ym mholisi EMP 11.
Dan amgylchiadau arferol, nid yw
bwriadau ar gyfer codi adeiladau newydd yng nghefn gwlad yn dderbyniol. Fodd
bynnag, mewn sawl pentref gwledig, ni fydd unrhyw gyfleoedd ar gyfer
datblygiadau cyflogaeth, boed yn adeiladau newydd neu'n drawsnewidiadau, oddi
mewn i ffiniau datblygu. Yn unol â hynny, mae polisi ar eithriadau wedi cael ei
lunio sy'n caniatáu datblygiadau cyflogaeth
dilys, heb fod o natur hapfuddsoddol ar raddfa fechan y tu allan
i, ond yn ymyl y ffiniau datblygu. Bydd yn ofynnol i unrhyw ddatblygiad
adeiledig weddu'n ffisegol â'r ardal adeiledig bresennol heb arwain at batrwm
gwael neu niweidiol o ddatblygiad. Asesir y bwriadau yn ofalus yn ôl eu graddfa
a natur y gweithrediadau yn nhermau'r effaith ar yr amgylchfyd lleol o ran
dymunoldeb, y tirlun, yr amgylchedd a thraffig. Ni chaniateir unrhyw geisiadau
dilynol am drawsnewid yr adeiladau a ganiateir dan y polisi hwn at ddefnydd
preswyl
Polisi EMP 6 - Datblygu
Swyddfeydd
CANIATEIR DATBLYGU SWYDDFEYDD
DOSBARTH B1 (DEFNYDD BUSNES) YN YR ACHOSION A GANLYN:
i) MEWN PRIF ARDALOEDD
CYFLOGAETH;
ii) AR GYRION FFINIAU TREFI A
CHANOLFANNAU RHANBARTHOL;
iii) AR LORIAU UCHAF EIDDO MEWN
TREFI, CANOLFANNAU RHANBARTHOL A CHANOLFANNAU
LLEOL;
iv) TRAWSNEWID ADEILADAU SY'N BODOLI EISOES;
v) DAN AMGYLCHIADAU
EITHRIADOL FEL A NODIR YN EMP5 ii) AR YR AMOD:
a) NA FYDD Y DATBLYGIAD YN CAEL
EFFAITH ANNERBYNIOL AR EIDDO CYFAGOS;
b) BOD Y DATBLYGIAD YN GWNEUD
DARPARIAETH ADDAS AR Y SAFLE AR GYFER GWASANAETHU, PARCIO
A SYMUD YN DDAROSTYNGEDIG I BOLISI TRA
9;
c) BOD Y DATBLYGIAD AR RADDFA
AC O NATUR SY'N GWEDDU Â CHYMERIAD YR ARDAL O AMGYLCH;
d) NAD YW’R DATBLLYGIAD YN
ARWAIN AT GOLLI UNED YMARFEROL O LETY PRESWYL.
Mae llawer o ddatblygiadau
swyddfa yn dod oddi mewn i Ddosbarth B1 (Defnydd Busnes). Nid bwriad y rhain yw
darparu gwasanaethau yn bennaf ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld, yn
hytrach na swyddfeydd gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, sy'n dod oddi mewn
i ddefnyddiau Dosbarth A2 ac a geir fel rheol yng nghanol trefi. Mae swyddfeydd
dosbarth B1 yn tueddu i fod yn droedrydd a gallant weithredu mewn amrywiaeth o
leoliadau. Yng nghanol trefi, ni chaniateir swyddfeydd B1 ar loriau isaf y prif
strydoedd siopa sydd wedi'u bwriadu at ddibenion adwerthu A1 yn unig, neu ar
gyfer A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol) neu A3 (bwyd a diod) sy'n
darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol mewn mannau eraill oddi
mewn i ganol trefi. Os caiff adeiladau sy'n bodoli eisoes eu trawsnewid at
ddefnydd swyddfa B1, boed mewn cefn gwlad cyffredinol neu mewn ardaloedd preswyl,
bydd yr effaith ar gymeriad yr amgylchfyd yn cael ei hasesu’n ofalus.
Polisi EMP 7 - Datblygiadau
Cyflogaeth a all Greu Llygredd
CANIATEIR DATBLYGIADAU SY'N
CYNNWYS DIWYDIANT A ALL GREU LLYGREDD MEWN PRIF ARDALOEDD CYFLOGAETH AR YR
AMOD:
i) NA FYDD Y BWRIAD YN CAEL
EFFAITH ANNERBYNIOL AR DDYMUNOLDEB YR ARDALOEDD O
AMGYLCH NAC AR OFYNION GWEITHREDOL DEFNYDDWYR CYFAGOS O RAN YMDDANGOSIAD
GWELEDOL, SŴN, DIRGRYNIAD, AROGLAU, GOLAU, LLYGREDD ATMOSFFERIG, LLYGREDD
DŴR NEU UNRHYW BELYDRIAD NEU NIWSANS NIWEIDIOL ARALL;
ii) Y GWNEIR DARPARIAETH ODDI
MEWN I DDYLUNIAD Y DATBLYGIAD A'R DULL O WEITHREDU'R
DEFNYDD, YN CYNNWYS MESURAU MEGIS LLEDDFU SŴN, TRIN PELYDRIADAU A CHUDDIO
FFINIAU, ER MWYN DILEU UNRHYW EFFEITHIAU ANNERBYNIOL;
iii) NA WNEIR DRWG I'R GWAITH O
DDATBLYGU'R SAFLE A'R TIR CYFAGOS YN Y DYFODOL.
NID YW'R POLISI HWN YN
BERTHNASOL I BARC BUSNES LLANELWY.
Wedi diwygio Gorchymyn Cynllunio
Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 fis Mawrth 1995, mae'r Dosbarthiadau
Defnydd Diwydiannol Arbennig (B4-B7) wedi cael eu cynnwys yn y Dosbarth Defnydd
Diwydiannol Cyffredinol (B2). Felly, nid oes unrhyw ddosbarth defnydd
diwydiannol arbennig ar wahân. Fodd bynnag, pery'r angen am ddarparu cyfarwyddyd
polisi ar leoliad datblygiadau a allai greu llygredd sydd, yn ôl eu natur, â
phrosesau diwydiannol sy'n debygol o niweidio'r amgylchedd, y dymunoldeb lleol a
iechyd a diogelwch.
Er mai un o brif nodau'r Cynllun
yw creu swyddi, ni ddylid sicrhau hyn ar draul yr amgylchedd. Yn wyneb natur
wledig Sir Ddinbych, dim ond wedi edrych yn fanwl iawn ar y bwriad er mwyn
sicrhau bod y lleoliad, y safle, y dyluniad a natur weithredol y defnydd yn
sicrhau cyn lleied ag y bo modd o effaith amgylcheddol ar yr ardaloedd o amgylch
y caniateir diwydiant a allai greu llygredd. Yn gyffredinol, dyfernir caniatâd
cynllunio yn ddarostyngedig i amodau caeth er mwyn sicrhau bod mesurau lliniaru
yn cael eu gweithredu a bod y defnydd yn cael ei wneud mewn modd derbyniol.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sydd â chyfrifoldeb statudol am reoli pelydriadau
a allai greu llygredd megis sŵn, hylif, gwastraff solet etc. a ryddheir i'r
aer, i'r ddaear ac i ddŵr. Mae'n rhaid i unrhyw broses fusnes/ddiwydiannol
gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno a sicrhau unrhyw drwyddedau a chaniatâd
angenrheidiol a diben y polisi cynllunio defnydd tir yw rheoli'r effaith ar
gymeriad yr ardal o amgylch
Polisi EMP 8 - Cyflogaeth/Defnyddiau
'Cymydog Drwg'
CANIATEIR DATBLYGU NEU ROI
ESTYNIAD I SAFLEOEDD AR GYFER DEFNYDDIAU CYMYDOG DRWG AR YR AMOD:
i) BOD DARPARIAETH DDIGONOL YN
CAEL EI GWNEUD AR Y SAFLE AR GYFER GWASANAETHU, PARCIO A
SYMUD;
ii) NAD YW'R SAFLE’N ORAMLWG YN
WELEDOL, A'I FOD WEDI'I GUDDIO'N DDA;
iii) BOD GRADDFA A NATUR Y
BWRIAD YN GWEDDU Â'R ARDAL O AMGYLCH;
iv) NAD YW'R BWRIAD YN CAEL
UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR DDYMUNOLDEB LLEOL, AR ANSAWDD
AMGYLCHEDDOL NAC AR Y RHWYDWAITH O BRIFFYRDD;
v) NAD YW'R BWRIAD YN AMHARU AR
Y DEFNYDD O DIR CYFAGOS NAC AR EI DDATBLYGIAD.
NI FYDD DEFNYDDIAU O’R FATH YN
GYFFREDINOL DDERBYNIOL AR NEILLTUADAU NEWYDD NAC YM
MHARC BUSNES LLANELWY.
Mae un rhan angenrheidiol o'r
economi leol yn ymwneud â defnyddiau megis cael gwared o, a storio deunydd
gwastraff, glo a ierdydd hen heyrn, malwr ceir a thrin nwyddau trwm/mawr, a
defnyddiau tebyg eraill. Fodd bynnag, os na chânt eu rheoli'n briodol, gallant
gael effaith annerbyniol ar eu hamgylchfyd, o safbwynt s_n, llwch, arogl,
ansawdd weledol yr ardal a'r rhwydwaith o briffyrdd lleol.
Yn wyneb natur y defnyddiau hynny,
ni fyddant yn dderbyniol yn gyffredinol ar neilltuadau cyflogaeth newydd nac ym
Mharc Busnes Llanelwy, oherwydd mai safleoedd diwydiannol presennol neu hyn neu
hen chwareli sy'n addas ar eu cyfer, yn ddarostyngedig i fesurau diogelwch. Er
mwyn gwarchod defnyddiau blêr rhag lledaenu i ardaloedd mwy sensitif, dylid
lleoli 'cymdogion drwg' fel nad ydynt yn cael effaith weledol ymwthiol nac yn
amharu ar ddatblygiad neu ddefnydd o dir cyfagos. Rheolir natur weithredol
defnyddiau o'r fath drwy osod amodau cynllunio
Polisi EMP 9 - Gweithio o Gartref
CANIATEIR BWRIADAU I DDEFNYDDIO
RHAN O DŶ NEU EI FUARTH, NEU ADEILAD CYSYLLTIOL/ATEGOL I DŶ, AT DDIBENION
BUSNES OS OES ANGEN CANIATÂD CYNLLUNIO AR YR AMOD:
i) BOD Y DEFNYDD PRESWYL YN
PARHAU I FOD YN BRIF DDEFNYDD O'R UNED GYNLLUNIO;
ii) BOD YMDDANGOSIAD PRESWYL YR
ADEILAD A'I FUARTH YN CAEL EI WARCHOD;
iii) NA FYDD UNRHYW BEIRIANNAU
SWNLLYD YN CAEL EU DEFNYDDIO NAC UNRHYW WAITH NA STORIO YN
CAEL EI WNEUD Y TU ALLAN;
iv) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH
SYLWEDDOL AR DDYMUNOLDEB PRESWYL CYFAGOS;
v) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH
SYLWEDDOL AR Y RHWYDWAITH O BRIFFYRDD LLEOL.
Mae llawer o fusnesau bychain a
rhai mathau o swyddi naill ai yn dechrau neu yn gweithredu'n barhaol o gartref.
O ganlyniad i dechnoleg a dulliau cyfathrebu newydd, mae'n dod yn haws o hyd i
bobl weithio o gartref. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn eiddo a phentrefi
gwledig ynysig lle mae teithio yn anodd ac yn gostus;
mae'n lleihau'r cymudo ac o gymorth i gynnaladwyedd. Fodd bynnag, mae'n bwysig
nad yw unrhyw waith a wneir o gartref yn weithgaredd fydd yn cynyddu i fod yn
fwy nag a ellir ei ddioddef yn rhesymol oddi mewn i ardal breswyl, neu y gellid
ei leoli'n rhesymol yng nghanol trefi i fod o gymorth gyda'u hyfywedd a'u
ffyniant.
Yn gyffredinol, nid oes angen
caniatâd cynllunio ar gyfer gweithio o gartref, cyn belled â bod y gwaith yn
ategol i'r prif ddefnydd fel ty sengl. Fodd bynnag, pan fo defnydd o ran o dŷ neu ei fuarth at ddibenion busnes yn newid, neu'n debygol o newid, ei gymeriad
cyffredinol fel ty sengl, yna mae angen caniatâd cynllunio o ganlyniad i gynnydd
sylfaenol mewn gweithgarwch, ymwelwyr, sŵn, storio a thraffig.
Ymhlith gwahanol enghreifftiau o
weithio o gartref mae cerbydau llogi preifat, gwarchod plant, technoleg uchel,
peirianneg cartref graddfa fechan a gweithgareddau cysylltiedig â chrefftau.
Bydd angen ystyried pob cais yn unol â'i gryfderau ei hun gan gydnabod natur ac
effeithiau gwahanol pob un. Oni bai ei bod yn gwbl eglur sut y bydd busnes o
gartref yn gweithredu, efallai ei bod yn briodol dyfarnu caniatâd cynllunio am
gyfnod dros dro fel bod modd asesu natur y defnydd. Bydd disgwyl i geisiadau
gynnwys cynlluniau llawr a chynlluniau safle, yn manylu ynghylch graddfa'r
defnydd busnes, a all gael ei reoli gan amodau cynllunio
Polisi EMP 10 - Gwarchod Tir/Adeiladau
Cyflogaeth
CANIATEIR DATBLYGIADAU FYDDAI'N
ARWAIN AT GOLLI TIR NEU ADEILADAU CYFLOGAETH NEU EU DEFNYDD AT DDIBENION
ERAILL AR YR AMOD:
i) NAD OES UNRHYW SAFLE ARALL
ADDAS AR GAEL AR GYFER Y DATBLYGIAD;
ii) NAD YW'R SAFLE NA'R EIDDO
BELLACH YN GALLU DARPARU SAFON DDERBYNIOL O LETY AT
DDIBENION CYFLOGAETH;
iii) NA FYDDAI COLLI'R SAFLE
NEU'R EIDDO YN GWNEUD DRWG I ALLU ARDAL I DDIWALLU'R AMRYWIAETH
O ANGHENION CYFLOGAETH LLEOL;
iv) BOD Y BWRIAD YN YMWNEUD AG
ADLEOLI'N FODDHAOL DDEFNYDD ANGHYDFFURFIOL O SAFLE
ANADDAS.
Oherwydd ansawdd uchel y tirlun,
a'r rhwystrau amgylcheddol ac eraill sy'n bresennol yn y Sir, mae'n anodd arenwi
safleoedd cyflogaeth, yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig. Felly, mae'n bwysig
bod safleoedd ac eiddo a glustnodir ar gyfer datblygiadau cyflogaeth yn cael eu
cadw at y defnydd hwnnw er mwyn sicrhau amrywiaeth o gyfleoedd yn nhermau
lleoliad, math a maint. Fodd bynnag, fe all fod amgylchiadau eithriadol pryd
ailddefnyddir tir neu eiddo cyflogaeth ar gyfer datblygiad neu ddefnydd arall.
Bydd hyn yn dibynnu ar natur yr eiddo neu'r safle presennol neu natur y
datblygiad arfaethedig, ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill fel a nodir uchod.
Polisi EMP 11 - Ehangu/Dwysáu y
Safleoedd/Eiddo Cyflogaeth Presennol
CANIATEIR DATBLYGIADAU SY'N
YMWNEUD AG EHANGU, RHOI ESTYNIAD I, IS-RANNU A DWYSAU SAFLEOEDD AC EIDDO
CYFLOGAETH PRESENNOL, AR YR AMOD:
i) NAD YW'R DATBLYGIAD YN
ARWAIN AT ORDDATBLYGU'R SAFLE GYDAG EFFEITHIAU ANNERBYNIOL
AR DDYMUNOLDEB, AMGYLCHEDD A RHWYDWAITH PRIFFYRDD YR ARDAL LEOL;
ii) NAD YW'R BWRIAD YN YMWNEUD
 DEFNYDD ANGHYDFFURFIOL SY'N CAEL EFFAITH ANNERBYNIOL
EISOES AR YR ARDAL O AMGYLCH, A LLE NAD OES MODD GORESGYN Y
PROBLEMAU A ARENWIR RWY GYFRWNG MESURAU LLINIARU;
iii) BOD UNRHYW FFIN NEWYDD YN
RHESYMEGOL, YN AMDDIFFYNADWY AC YN CYNNWYS
DEUNYDDIAU A THIRLUN ADDAS;
iv) BOD Y DATBLYGIAD YN
GWEDDU'N FFISEGOL Â'R ARDALOEDD ADEILEDIG PRESENNOL HEB
ARWAIN AT DDATBLYGIAD RHUBAN NEU YNYSIG DWYS O BATRWM DATBLYGU ACHLYSUROL A
GWASGAROG.
Mae'r pryderon diwydiannol a
busnes presennol yn chwarae rôl bwysig yn economi Sir Ddinbych. Mae annog y
gwaith o ehangu a datblygu busnesau brodorol yn rhan bwysig o Strategaeth
Ddatblygu Economaidd y Cyngor. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn Sir Ddinbych
wledig o ystyried ei lleoliad perifferal a'i chymeriad gwledig sy'n cyfyngu ar y
sgôp i ddenu buddsoddiadau mewnol mawr.
Bydd ehangu neu ddwysau yn
sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o'r isadeiledd presennol ac fel rheol, mae'n
well nag adleoli ar safleoedd gwyrdd a thu allan i'r sir hyd yn oed. Oddi mewn i
ardaloedd cyflogaeth sefydledig, nid yw'n debygol y ceir unrhyw wrthwynebiad i
ehangu mewn egwyddor. Mewn pentrefi neu oddi mewn i ardaloedd preswyl neu gefn
gwlad agored, bydd raid edrych yn ofalus ar effaith unrhyw ehangu a pha un ai yw
wedi gordyfu ac yn rhy fawr i'w safle neu ei eiddo presennol, ac yn fwy addas
mewn ardal gyflogaeth / fasnachol bresennol. Yr amcan yw sicrhau cydbwysedd
gofalus rhwng cefnogi busnesau bychain sy'n tyfu a niwed annerbyniol
di-droi'n-ôl i'r amgylchedd ac i gefn gwlad agored
Polisi EMP 12 - Datblygiadau
Cyflogaeth Mawr
DAN AMGYLCHIADAU EITHRIADOL,
CANIATEIR BWRIADAU AR GYFER DATBLYGIADAU CYFLOGAETH MAWR SY'N GOFYN AM RYDDHAU
DARNAU HELAETH IAWN O DIR, AR YR AMOD:
i) NAD OES UNRHYW SAFLEOEDD
ADDAS ERAILL NAILL AI WEDI'U NEILLTUO ODDI MEWN I'R
CYNLLUN NEU'N MANTEISIO AR GANIATÂD CYNLLUNIO I ROI LLE I DDATBLYGIADAU;
ii) NAD OES UNRHYW DIR
ADFEILIEDIG NEU A DANDDEFNYDDIR A ALLAI FOD YN ADDAS NEU GAEL
EI WNEUD YN ADDAS AR GYFER Y DATBLYGIAD;
iii) NA FYDDAI'R DATBLYGIAD YN
ARWAIN AT GOLLI DARN SYLWEDDOL/ ANNERBYNIOL O'R TIR AMAETHYDDOL GORAU AC MWYAF FFRWYTHLON NEU ARDALOEDD O
BWYSIGRWYDD O SAFBWYNT TIRLUN, CADWRAETH NATUR NEU DREFTADAETH ADEILEDIG;
iv) Y GALLAI'R DATBLYGIAD ESGOR
AR FANTEISION CYFLOGAETH NET SYLWEDDOL;
v) BOD Y SAFLE MEWN LLEOLIAD
ADDAS MEWN PERTHYNAS Â CHLUDIANT CYHOEDDUS, RHWYDWAITH O FFYRDD CYNRADD A GWEITHLU POSIBL.
NI CHANIATEIR UNRHYW
DDATBLYGIAD A YSTYRIR FEL DATBLYGIAD
HAPFUDDSODDOL, TAMEIDIOG, A HEB FOD AR
GYFER DATBLYGIAD MAWR SENGL, NEU DDATBLYGIAD FYDDAI'N GWNEUD DRWG I'R
TEBYGOLRWYDD I SAFLE O'R FATH GAEL EI DDEFNYDDIO GAN DDATBLYGIAD FYDD YN CREU
LLAWER O WAITH.
BYDD YN OFYNNOL DERBYN
CEISIADAU LLAWN AC MAE'N RHAID I UNRHYW GANIATÂD CYNLLUNIO DDECHRAU AR Y
SAFLE O FEWN DWY FLYNEDD.
Er eu bod angen darnau helaeth o
dir a buddsoddiad sylweddol mewn isadeiledd, gall cwmnïau mawr ddarparu
cyfleoedd gwaith sylweddol a chael effeithiau catalytig pwysig ar yr economi
leol. Achlysurol fydd y galw am safleoedd o'r fath ac nid yw'r Cynllun yn
neilltuo unrhyw safleoedd penodol.
Mae'r polisi’n darparu ar gyfer
datblygiadau cyflogaeth mawr o ansawdd uchel dan amgylchiadau eithriadol, os nad
oes modd rhoi lle iddynt naill ar safleoedd neilltuedig, safleoedd gyda
chaniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau cyflogaeth neu dir a danddefnyddir. Er
mwyn bod yn gymwys ar gyfer ystyriaeth, bydd raid bodloni'r Cyngor bod y bwriad
yn ddilys, heb fod yn hapfuddsoddol na thameidiog. Mae'n rhaid i fwriadau fod
ar ffurf ceisiadau llawn, manwl a asesir yn ofalus mewn perthynas â'u
heffeithiau ar y tirlun, ar gadwraeth natur, ar briffyrdd ac ar fuddiannau
eraill o bwysigrwydd cydnabyddedig. Mae'n rhaid i unrhyw ganiatâd cynllunio
ddechrau ar y safle o fewn dwy flynedd. Byddai angen asesiad effaith
amgylcheddol fel rheol. Lle bo hynny'n briodol, gall gwaith oddi ar y safle, yn
cynnwys isadeiledd, cyfleusterau cymunedol, hyrwyddo tirlun a chynefinoedd bywyd
gwyllt, gael eu diogelu drwy gyfrwng cytundebau cynllunio
Polisi EMP 13 - Datblygiadau
Amaethyddol
CANIATEIR DATBLYGIADAU
AMAETHYDDOL SYDD ANGEN CANIATÂD CYNLLUNIO AR YR AMOD:
i) BOD Y DATBLYGIAD YN OFYNNOL
ER MWYN DIWALLU ANGHENION Y FENTER FFERMIO;
ii) NAD OES UNRHYW ADEILADAU
GWAG PRESENNOL AR Y FFERM SY'N ADDAS AR GYFER Y BWRIAD
ARFAETHEDIG;
iii) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH
ANNERBYNIOL AR GYMERIAD AC YMDDANGOSIAD Y CEFN GWLAD
NEU’R AMGYLCHEDD LLEOL;
iv) BOD Y SAFLE YN OSGOI
LLEOLIADAU AMLWG, GYDA PHERTHYNAS DDA
 PHATRWM PRESENNOL
ADEILADAU'R FFERM.
Er gwaetha'r dirywiad parhaus o
safbwynt cyflogaeth a'r newidiadau posibl yn ystod cyfnod y cynllun, bydd
amaethyddiaeth yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r economi leol ac yn ffynhonnell
gyflogaeth sylweddol. Bwriad y polisi hwn yw cefnogi buddsoddiadau mewn busnesau
ffermio er mwyn sicrhau eu hyfywedd a'u ffyniant yn y dyfodol, tra'n parhau i
warchod yr amgylchedd. Mae amaethyddiaeth, fel pob busnes arall, yn addasu ac yn
newid i amgylchiadau, technoleg newydd etc. a allai arwain at ffurfiau newydd o
adeiladau.
Mae llawer o ddatblygiadau
amaethyddol wedi'u heithrio o'r angen am ganiatâd cynllunio. Dim ond i'r
bwriadau hynny sydd angen caniatâd cynllunio y mae'r polisi hwn yn berthnasol,
neu'r bwriadau sy'n ddarostyngedig i'r angen am roi rhybudd ymlaen llaw i'r
awdurdod cynllunio. Byddai'n ofynnol i'r bwriadau fodloni gofynion cyffredinol
polisi GEN 6
Polisi EMP 14 - Chwarel
Dyserth
CANIATEIR BWRIADAU AR GYFER
DATBLYGIADAU CYFLOGAETH (B1 A B2) YN CHWAREL DYSERTH AR YR AMOD:
i) BOD Y BWRIAD YN BODLONI'R
MEINI PRAWF YM MHOLISI GEN 6;
ii) YR YMGYMERIR Â GWELLIANNAU AMGYLCHEDDOL I:
a) LEIHAU EFFAITH WELEDOL GYFFREDINOL Y CHWAREL;
b) GYDWEDDU UNRHYW DDATBLYGIAD
NEWYDD Â'R CHWAREL A'I HAMGYLCHEDD;
c) SICRHAU SEFYDLOGRWYDD
HIRDYMOR UNRHYW LETHRAU NEU WYNEBAU A DYLLIR;
iii) BOD CYTUNDEBAU A106 /
RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIO WEDI'U GOSOD ER MWYN DILEU UNRHYW GANIATÂD CYNLLUNIO SYDD MEWN BODOLAETH/SEGUR PARTHED MWYNAU;
iv) BOD Y BWRIAD YN DIOGELU
UNRHYW FUDDIANNAU CADWRAETH NATUR.
DIM OND OS OES MODD DANGOS BOD
Y DEFNYDD FFAFREDIG YN ANYMARFEROL A/NEU YN ANADDAS AC Y CYDYMFFURFIR Â'R MEINI
PRAWF UCHOD YN LLAWN Y CANIATEIR BWRIADAU AR GYFER DATBLYGIADAU MASNACHOL,
TWRISTAIDD/HAMDDEN NEU DAI.
Chwarel galchfaen segur yw
Chwarel Dyserth. Mae hyn yn golygu bod iddi ganiatâd cynllunio a gyhoeddwyd ar
19eg Mehefin 1979 tan y flwyddyn 2042 dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 fel chwarel
segur. Mae hyn hefyd yn golygu na all y safle ailddechrau cael ei weithio hyd
nes bo cyfres lawn o amodau modern ar gyfer gweithio, adfer ac ôl-ofal o'r
chwarel wedi'u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau (CSDd).
Defnyddiau cyflogaeth yw'r
defnyddiau gorau o ystyried y prinder lleol cydnabyddedig o dir cyflogaeth,
hanes blaenorol y safle a'i nodweddion. Fodd bynnag, dylid ystyried defnyddiau
eraill megis defnyddiau masnachol, twristaidd a hamdden a thai pe bai modd
dangos bod y defnydd gorau yn anymarferol, yn anaddas neu y byddai'n cael
effaith annerbyniol ar yr ardal.
O gadw mewn cof yr anawsterau a
brofwyd yn y gorffennol gyda gweithrediadau chwarelu, mae'n bwysig hefyd fel
rhan o unrhyw ddatblygiad yn y chwarel bod y caniatâd cynllunio segur yn cael ei
ddileu. Byddai unrhyw ddatblygiad yn y chwarel yn ddarostyngedig i
ddeddfwriaethau a rheoliadau eraill hefyd
Polisi MDA 4 - Ardal Datblygiad
Cymysg Pwysig - Cyn -Ysbyty Gogledd Cymru,
Dinbych
BYDD BWRIADAU AR GYFER DATBLYGU
27HE (67 ERW) O GYN-YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH AR FFURF ARDAL DDATBLYGU
DEFNYDD CYMYSG FEL A ARENWIR AR Y MAP BWRIADAU YN DERBYN CANIATÂD CYNLLUNIO
AR YR AMOD:
i) MAI AT DDIBENION CYFLOGAETH
YN BENNAF Y DEFNYDDIR Y SAFLE
CYFAN, YNGHYD AG UNRHYW
GYFLEUSTERAU CYSYLLTIEDIG A DEFNYDDIAU’R SECTOR GWASANAETHU;
ii) BOD Y SAFLE’N CAEL EI
DDATBLYGU MEWN DULL CYNHWYSFAWR AC AR FFURF CAMAU DROS GYFNOD
Y CYNLLUN OS OES ANGEN AC NID YN DAMEIDIOG A/NEU DRWY IS-RANNU;
iii) Y GWARCHODIR CYMERIAD AC
AMGYLCHEDD CYNHENID YR ADEILADAU RHESTREDIG, A’U
HYRWYDDO;
iv) BOD UNRHYW DAI YN EILRADD
AC YN ATEGOL I’R PRIF DDEFNYDD CYFLOGAETH O’R TIR A’R
ADEILADAU, A DIM OND ER MWYN GALLUOGI AIL-DDEFNYDD / GWAITH ADFER BODDHAOL
O’R ADEILADAU RHESTREDIG Y CAIFF EI RYDDHAU. GALL DATBLYGIADAU TAI GYNNWYS:
a) TAI NEWYDD A GODIR AR DIR
YNG NGHEFN Y PRIF FLOC
b) TRAWSNEWID Y PRIF ADEILADAU
AT DDEFNYDD PRESWYL AR YR AMOD EU BOD YN ATEGOL I’R
PRIF DDEFNYDD CYFLOGAETH O’R PRIF ADEILADAU AC YN CAEL EU CYFIAWNHAU GAN:
1) COST YCHWANEGOL YR ADFER
YN CYNNWYS GWERTHUSIAD ARIANNOL AR GYFER Y SAFLE CYFAN;
2) DIFFYG GALLU I ADDASU’R
ADEILADAU AT DDEFNYDD CYFLOGAETH;
v) DYLID CYFYNGU UNRHYW
DDATBLYGIADAU NEWYDD I ‘FEWNLENWI’ MEWN GRWPIAU EANG
O BRIF ADEILADAU ODDI MEWN I FFIN YR MDA;
vi) DYLAI MAINT / MAS / UCHDER
/ RHYCHWANT UNRHYW ADEILADAU NEWYDD FOD O SAFON UCHEL AC O
DDWYSEDD PRIODOL AC YN EILRADD I’R ADEILADAU RHESTREDIG A GEDWIR FEL RHAN O
UNRHYW DDATBLYGIAD, GAN BARCHU CYMERIAD Y SAFLE A RHOI YSTYRIAETH I’R
GOLYGFEYDD I MEWN AC ALLAN O’R SAFLE YN CYNNWYS I AC O’R DREF A’R CASTELL;
vii) GWNEIR TREFNIADAU BODDHAOL
I DDARPARU MYNEDFA I GERBYDAU, I GERDDWYR AC I
FEICWYR YN CYNNWYS DARPARIAETH LEIAFSWM O WASANAETH CLUDIANT CYHOEDDUS I’R
SAFLE O’R A525 A CHANOL Y DREF, YN FEWNOL I WASANAETHU’R SAFLE A’I
DDATBLYGIAD;
viii) RHAID DARPARU PARCIO A
GWASANAETHAU PRIODOL YN UNOL A CHANLLAWIAU CYMERADWY’R
AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL;
ix) DARPARIAETH DAWELU TRAFFIG
BRIODOL A DARPARIAETH BRIODOL I GERDDWYR A BEICWYR;
x) CADW A GWARCHOD Y NODWEDDION
TIRLUNIOL PRESENNOL (COED / GWRYCHOEDD / WALIAU /
PATRYMAU’R CAEAU;
xi) DIM OND AT DDEFNYDD BUSNES
/ CYFLOGAETH B1 Y RHYDDHEIR TIR ER MWYN GALLUOGI AILDDEFNYDD
/ ADFER / BODDHAOL O’R ADEILADAU RHESTREDIG.
BYDD
UNRHYW GAIS CYNLLUNIO YN CYNNWYS DATGANIAD PARTHED SUT MAE CYRRAEDD NODAU A
GOFYNION POLISI MDA 4 A’I FRIFF CYNLLUNIO SAFLE CYSYLLTIEDIG YNGHYD A’R
RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIO A GANLYN
FEL RHAN O GYTUNDEB ADRAN 106:
a) YR ANGEN AM WELLIANNAU
FFORDD;
b) DARPARU GWELLIANNAU I’R
LLWYBRAU CLUDIANT CYHOEDDUS, BEICIO A CHERDDED;
c) ADFER Y PRIF ADEILADAU;
d) CADW A CHYNNAL ARDALOEDD
AGORED / HEB EU DATBLYGU;
e) YR ANGEN AM A DARPARU UNRHYW
GYFLEUSTERAU CYMUNEDOL LLEOL;
f) YR ANGEN AM WARCHOD A
HYRWYDDO BUDDIANNAU CADWRAETH NATUR ARCHEOLEGOL.
Caewyd yr ysbyty i gyd yn 1995
wedi iddi weithredu am flynyddoedd fel ysbyty meddwl ranbarthol fawr. Mae unrhyw
ymdrechion i ganfod defnyddiau economaidd buddiol o'r adeilad ers hynny wedi bod
yn aflwyddiannus. Mae'r safle yn 125 erw o dir coediog, tirluniol gydag
adeiladau'n gorchuddio 400,000 troedfedd sgwâr. Mae
adeilad gwreiddiol yr ysbyty yn adeilad rhestredig Gradd II* ac mae nifer o'r
adeiladau o amgylch wedi'u rhestru hefyd, er bod ychwanegiadau diweddarach, mwy
modern.
Mae'r Cynllun yn mabwysiadu dull
realistig ond hyblyg o ddatblygu'r safle yn y dyfodol. Nodau'r Cyngor ar gyfer y
safle yw cael hyd i ddefnydd ymarferol arall neu gymysgedd o ddefnyddiau ar
gyfer y safle oherwydd ei werth fel grŵp arwyddocaol o adeiladau rhestredig a
byddai'n ofynnol i unrhyw fwriad datblygu gyfrannu tuag at hyfywedd a ffyniant
tref Dinbych.
Dylai unrhyw ddatblygiad neu
ddefnydd o'r safle fod at ddefnydd cyflogaeth neu economaidd yn bennaf ynghyd ag
unrhyw gyfleusterau cysylltiedig a defnyddiau'r sector gwasanaethu yn cynnwys
-
B1 (diwydiannol ysgafn,
swyddfeydd, ymchwil a datblygiad)
-
C1 (gwestai)
-
C2 (cartrefi preswyl)
-
C3 (anheddau)
-
D1 (sefydliadau di-breswyl)
-
D2 (ymgynnull a hamdden)
-
A3 (bwyd a diod) ond heb
ddatblygiad / trawsnewid caniataol i siopau A1 oni bai fod hynny'n ategol i'r
prif ddefnydd o'r adeilad, ond dim mwy na gofod llawr o 100 m sg.
Dylai unrhyw ddatblygiad preswyl
alluogi defnydd economaidd addas o'r prif adeiladau a dylai fod yn ategol i'r
prif ddefnydd. Dylai'r bwriadau datblygu fod o ansawdd uchel gan barchu
integriti'r adeiladau rhestredig, a'u hamgylchfyd yn gyffredinol.
Ceir cyfarwyddyd datblygu pellach
mewn briff datblygu safle sy'n un o gyfres o Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio
Ategol |