ADWERTHOL A MASNACHOL
Adwerthol a Masnachol

11.0 CYFLWYNIAD

11.1 Mae'r bennod hon yn nodi'r polisïau cynllunio defnydd tir sy'n gysylltiedig â defnyddiau adwerthol, masnachol a defnyddiau eraill o drefi a chanolfannau lleol. Mae adwerthu a'r defnyddiau masnachol cysylltiedig yn sector busnes deinamig sy'n newid o hyd, gyda goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer cynllunio defnydd tir ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae'n faes y mae'n anodd rhagweld ei ddyfodol a chynllunio ymlaen ar ei gyfer. Mae'n cynnwys:

– sector mawr o'r economi sy'n ymwneud â buddsoddiad a chyflogaeth sylweddol;

– defnyddiwr pwysig o dir ac adeiladau sy'n ymwneud â llif traffig trwm/dwys;

– pwnc sy'n creu dadlau sylweddol, yn arbennig mewn perthynas â datblygiadau mawr y tu allan i drefi.


11.2 CEFNDIR

11.3 O gadw'r uchod mewn cof, ac er mwyn ffurfio polisïau a bwriadau positif a realistig yn fasnachol, paratowyd dwy Astudiaeth Adwerthol yn canolbwyntio'n fras ar gyn-ardaloedd gweinyddol Rhuddlan a Glyndwr, mewn cydweithrediad ag ymgynghorwyr arbenigol annibynnol, Roger Tym a'i Bartneriaid (Rhuddlan) a Chesterton ccc (Glyndwr). Mabwysiadodd y ddwy astudiaeth yma ddull tebyg o edrych ar:

– arferion siopa a thueddiadau'r gorffennol ar lefel genedlaethol a lleol;

– y galw am adwerthu yn y dyfodol a'r gallu (neu ofod llawr) i roi lle i hynny;

– profion iechyd yng nghanol trefi;

– cyfleoedd a rhwystrau;

– strategaeth eang a meysydd a bwriadau polisi penodol ar gyfer eu hystyried yn y CDU, yn seiliedig ar eu darganfyddiadau

11.4 Un o brif ddarganfyddiadau'r ddwy astudiaeth oedd bod yr hyn a ellir ei gyflawni gan ddefnyddio cynllunio defnydd tir statudol yn gyfyngedig gan fod y rhan fwyaf o welliannau yng nghanol trefi yn cael eu gwneud gan ddefnyddio mentrau rheoli canol trefi yn hytrach na chynllunio defnydd tir, megis marchnata, parcio, rheoli traffig a gwelliannau amgylcheddol. Un o brif dasgau'r Cynllun Datblygu Unedol yw taro cydbwysedd rhwng y math o bolisïau cynllunio defnydd tir sydd eu hangen, boed yn rhagnodol neu'n ymatebol h.y. nodi polisïau manwl neu fwriadau penodol [rhagnodol] neu bolisïau cyffredinol/hyblyg yn defnyddio meini prawf amrywiol i asesu'r bwriadau a gyflwynir [ymatebol]) ac yn gysylltiedig â'r angen am a'r rhagolygon o fentrau rheoli canol trefi yn y dyfodol.


11.5 TUEDDIADAU A MATERION

11.6 Mae rhai o'r newidiadau pwysicaf a welwyd yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf neu fwy sy'n effeithio ar siopa a chanolfannau siopa fel a ganlyn:

– prynu bwyd mewn llwythi mawr;

– cynnydd cyffredinol mewn incwm defnyddiadwy;

– cynnydd yn symudoledd cwsmeriaid/siopwyr yn arbennig gan ddefnyddio car preifat;

– gwell cysylltiadau yn cynnwys gwelliannau i ffyrdd;

– mae siopa wedi dod yn fwy a mwy pwysig fel gweithgaredd hamdden;

– mwy o gyfleoedd siopa ymhellach i ffwrdd.

11.7 Yn gyffredinol, mae hyn wedi arwain at barodrwydd mwy a mwy o gwsmeriaid i deithio ymhellach i ymweld â lleoliadau siopa eraill sy'n cynnig dewis gwell ac ehangach h.y. canol trefi mawr (Caer) a lleoliadau mwy y tu allan i'r dref (archfarchnadoedd, parciau adwerthol, allfeydd ffatrïoedd etc.).

11.8 Mae'r tueddiadau cenedlaethol mewn adwerthu a chanol trefi yn gyfarwydd i bawb ac wedi'u dogfennu'n dda. Yn fyr, maent fel a ganlyn:

– mae buddsoddiadau'n cael eu harwain fwy a mwy gan yr adwerthwr (yn hytrach na'r datblygwr), gan amcanu at wella'r 'cynnig adwerthol' a'r dewis;

– mae hyn, ar y cyd â mwy o symudoledd, wedi arwain at siopau rhyddsefyll mwy y tu allan i'r dref sy'n cynnig dewis, prisiau cystadleuol a meysydd parcio, ac sydd wedi'u grwpio gyda'i gilydd fel canolfannau rhanbarthol (e.e. Caer) a pharciau warysau adwerthol (e.e. Parc Greyhound, Caer);

– datblygiadau adwerthol yn cynnwys atyniadau hamdden;

– ymgais i sefydlu trefn brisio fwy cystadleuol yn seiliedig ar arbedion maint yr adeilad a'r cwmni adwerthol;

– y dirywiad yn nifer y siopau annibynnol llai oddi mewn i ganol trefi, canolfannau lleol, siopau cornel a phentref;

– polareiddiad, lle mae'r canolfannau mwy yn mynd yn fwy ac yn well o safbwynt cyfleustra (bwyd), cymhariaeth (nwyddau parhaol) a siopa am nwyddau mawr, tra bo'r canolfannau llai yn dod yn fwy lleol gan ddarparu siopa lleol cyfleus neu siopa arbenigol yn unig.

11.9 Yn Sir Ddinbych, mae'r newidiadau hyn wedi peri i gwsmeriaid deithio ymhellach er mwyn cael hyd i'r cyfleusterau hyn. Mae hyn yn golygu teithio y tu allan i'r Sir i ganol dinasoedd mawr megis Caer, Lerpwl a Manceinion, a chyfleusterau tu-allan-i'r-dref mawr megis Cheshire Oaks, Parc Greyhound (Caer), Canolfan Trafford (Gorllewin Manceinion) a Brychdyn (Sir y Fflint).

11.10 Hefyd, gwelwyd dirywiad cyffredinol yn y trefi marchnad traddodiadol llai, a hynny oherwydd nifer o ffactorau lleol, megis:

– symud marchnadoedd da byw y tu allan i drefi;

– craidd adeiledig hanesyddol ac adeiladau hŷn/rhestredig cysylltiedig sy'n anodd i'w cynnal, eu gwella a'u hehangu;

– Rhwydwaith lleol o ffyrdd sy’n gymharol wael, gan achosi trafferthion hygyrchedd / tagfeydd a pharcio ceir, gan arwain at amgylchedd siopa mwy anghroesawus.


11.11 HIERARCHAETH SIOPA'R SIR

11.12 Ceir amrediad eang o gyfleusterau siopa ym mhob cwr o'r Sir. Yn y gogledd, mae'r Rhyl yn gweithredu fel canolfan is-ranbarthol ar frig hierarchaeth y Sir, gyda chysylltiad â rôl a phwysigrwydd Y Rhyl fel cyrchfan dwristaidd. Mae Prestatyn, Dinbych, Rhuthun a Llangollen yn dilyn fel trefi marchnad/canolfannau dosbarth. Ac mae Corwen, Rhuddlan a Llanelwy yn gweithredu'n debycach i ganolfannau lleol bellach. Mewn mannau eraill ceir canolfannau lleol cymdogol, strydoedd siopa a siopau cornel a phentref

11.13 Y tu allan i ganol y trefi, dim ond un parc warysau adwerthol sy'n bodoli, sef Parc Adwerthol Clwyd ar ymyl ddeheuol ardal adeiledig Y Rhyl. Mae'r parc hwn yn cynnwys 80,000 tr. sg. o ofod llawr gros ar gyfer siopau nad ydynt yn gwerthu bwyd a 40,000 tr. sg. gros ar gyfer siop fwyd fawr (Sainsbury's). Dangosir maint a safle cymharol y canol trefi mwy yn Sir Ddinbych oddi mewn i gyd-destun rhanbarthol a lleol yn Nhabl 1.

TABL 1

SAFLEOEDD ADWERTHU YN ÔL GOFOD LLAWR A NIFER Y SIOPAU

CANOLFAN SIOPA

CYFANSWM Y GOFOD LLAWR*

SAFLE

NIFER Y SIOPAU

RANKING

CAER

1459.3

1

624

1

WRECSAM

865.7

2

410

2

LLANDUDNO

628.0

3

346

3

Y RHYL

543.3

4

297

4

BAE COLWYN

487.2

5

256

5

YR WYDDGRUG

370.6

6

226

6

PRESTATYN

266.8

7

168

8

DINBYCH

191

8

108

10

FFLINT

167

9

100

11

RHUTHUN

159.7

10

175

7

LLANGOLLEN

113.4

11

116

9

LLANELWY

42.5

12

44

14

CORWEN

45.1

13

45

13

RHUDDLAN

26.2

14

48

12

*:’000 tr. sg. o ofod agored gros
Ffynhonnell: Yn seiliedig ar Astudiaeth R. Tym (1995) ac Astudiaeth Chesterton (1996).

11.14 Yn Sir Ddinbych, mae polareiddiad y canolfannau mwy a llai wedi arwain at wahaniaeth amlwg rhwng y tueddiadau a brofwyd yn y gorffennol a'r dull sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. A siarad yn gyffredinol, gwelwyd twf a datblygiad cymedrol yng nghanol trefi glan môr gogleddol Y Rhyl a Phrestatyn, ond yn y de bu crebachu, ad-drefnu ac addasu.

11.15 Fodd bynnag, mae'n bwysig cadw mewn cof bod canol trefi, yn arbennig y rhai yn y de mwy gwledig, yn parhau i fod yn ganolbwynt cymdeithasol i ardal eang ac mae'n hanfodol cynnal a hyrwyddo eu statws a'u safle.


11.16 RÔL CYNLLUNIO

11.17 Cefnogir y cyfarwyddyd cynllunio cenedlaethol a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru (2002) gan Nodyn Cyngor Technegol 4, Adwerthu a Chanol Trefi (TAN 4) sy'n nodi cyfarwyddyd ategol a gwybodaeth ychwanegol yn cynnwys y gwaith arolwg a argymhellir. Yr elfennau allweddol yw:

hyfywedd a ffyniant - rhydd y polisi cenedlaethol bwyslais ar bwysigrwydd cynnal a hyrwyddo hyfywedd a ffyniant.

y prawf cyfresol - os oes angen adwerthol heb ei ddiwallu wedi’i arenwi ac os nad oes safleoedd ymarferol ac addas ar gael oddi mewn i ganol y dref, yna dylid ystyried safleoedd ar gyrion y canol. Wedyn, mae'r gwaith chwilio yn symud o gyrion canol y dref i leoliadau ar gyrion y dref gyfan cyn belled â bod asesiad o effaith adwerthol yn dangos nad oes unrhyw effaith annerbyniol ar ganol y dref yn gyffredinol.

datblygiad cynnaladwy - lle rhoddir pwyslais cynyddol ar symud oddi wrth y defnydd cynyddol o gar preifat a thuag at ddefnyddio dulliau eraill o gludiant yn cynnwys cludiant cyhoeddus. Mae'r rhain yn gweithio'n erbyn datblygiadau y tu allan i'r dref sy'n dibynnu'n helaeth ar ddefnydd o gar preifat.


11.18 Y STRATEGAETH

11.19 Prif fyrdwn polisïau a bwriadau adwerthol a masnachol y Cynllun yw:

i) lleoli'r rhan fwyaf o ddatblygiadau adwerthol a masnachol mewn canolfannau presennol, yn gymesur â'u maint a'u swyddogaeth;

ii) dilyn y cyfarwyddyd cenedlaethol gan fabwysiadu'r prawf cyfresol;

iii) hyd nes bo hynny'n eglur ac yn gadarn, mae mentrau rheoli canol trefi wedi cael eu harenwi a'u cymeradwyo ar gyfer mabwysiadu polisi ymatebol h.y. hyblyg, realistig, seiliedig ar feini prawf yn hytrach na chyfres o bolisïau gor-ragnodol (h.y. cyfuniad o ddarpariaeth bositif ac ardal o rwystr);

iv) arenwi creiddiau'r canolfannau presennol (prif ganolfannau dosbarth a lleol) a mabwysiadu polisïau hyblyg oddi mewn i, ac ar gyrion y creiddiau hynny er mwyn cynnal eu hyfywedd a'u ffyniant;

v) asesu datblygiadau yn erbyn eu hygyrchedd drwy ddewis dull o gludiant/teithio ar wahân i gar.

11.20 Mae'r strategaeth yn amcanu at gryfhau safle Y Rhyl fel canolfan is-ranbarthol a chynnal a, lle bo modd, hyrwyddo hyfywedd a ffyniant y canolfannau eraill a'u galluogi i addasu eu rôl a'u safle fel canolfannau dosbarth, lleol neu arbenigol. Cefnogir siopau pentref a siopau lleol eraill sy'n gwasanaethu ardaloedd newydd neu bresennol o dai ac fe gefnogir cymunedau gwledig.

11.21 Rhydd Tabl 2 grynodeb byr o'r brydwn polisi eang ledled y Sir, wedi'i rannu yn bedair ardal ddaearyddol gymdeithasol-economaidd fras h.y.:

– Ardal 1 y rhimyn arfordirol (Y Rhyl a Phrestatyn);

– Ardal 2 Dyffryn Clwyd (Dinbych, Rhuthun, Llanelwy, Rhuddlan;

– Ardal 3 dyffryn yr Afon Dyfrdwy (Corwen a Llangollen;

– Ardal 4 Gwledig - yn y gorllewin a'r dwyrain yn arbennig.

TABL 2

ARDAL DISGRIFIAD/CRYNODEB PRIF FYRDWN Y POLISI YSTYRIAETHAU POLISI CYFFREDINOL
Rhimyn Arfordirol

Y Rhyl,
Prestatyn

(1) Canolfannau masnachol mwy, cryfach.
(2) Rôl ehangach, yn cynnwys twristiaeth
(3) ) Disgwylir peth twf a datblygiad
(1) Darpariaeth bosirif, ynghyd â pholisi seiliedig ar feini prawf i reoli datblygiad
(2) Cynnwys a gwella datblygiad oddi mewn i ffin canol y dref
 

 

 

 

(1) Maint a math y datblygiad newydd yn gysylltiedig â maint a swyddogaeth y ganolfan bresennol

(2) Cefnogi hyfywedd a ffyniant trefi/canolfannau lleol, yn cynnwys y prawf cyfresol

(3) Mae datblygiadau mawr angen dadansoddiad o effaith adwerthol

(4) Cynnwys cludiant cyhoeddus mewn datblygiadau newydd

 

 

Dyffryn Clwyd

Dinbych,
Rhuthun,
Llanelwy,
Rhuddlan

(1) Canolfannau masnachol bychain, gwan a bregus
(2) Fawr ddim twf na datblygiad
(3) Crebachu/dirywio i fod yn ganolfannau lleol
(1) Cryfhad/crebachiad rheoledig
(2) ) Polisïau hyblyg/realistig i annog amrywiaeth o ddefnyddiau priodol
(3) Annog rôl arbenigol/ dwristaidd
Dyffryn yr Afon Dyfrdwy

Corwen
Llangollen

(1) Llai ond iachach.
(2) Mwy cytbwys ar lefel leol (Corwen),
(3) Rôl dwristaidd bwysig (Llangollen)
(1) Cyfyngiant rheoledig
(2) Bwriadau posibl ar gyfer cyrion y canol yn Llangollen a Chorwen ar gyfer
(i) nid bwyd (arbenigedd/twristaidd)
(ii) siop fwyd fechan.
Gwledig (1) Gwasanaethau'n dirywio (1) Polisi seiliedig ar feini prawf i gynnal gwasanaethau a chefnogi bwriadau priodol

11.22 Mae Tabl 3 yn cynnwys crynodeb o gategoreiddiad y canolfannau a'r dynodiadau polisi sy'n berthnasol.

TABL 3

CRYNODEB O GATEGOREIDDIAD A DYNODIADAU POLISI
MATH O GANOLFAN TREF DYNODIAD POLISI
Canolfan Is-Ranbarthol Y Rhyl
  • Prif dalwynebau siopa
  • Ffin canol y dref
Prif Ganolfannau Prestatyn
Rhuthun
Dinbych
Llangollen
  • Prif stryd siopa
  • Ffin canol y dref
Canolfannau Ardal Rhuddlan
Llanelwy
Corwen
  • Ffin y ganolfan ardal
Canolfannau lleol/cymdogaethau  
  • Ffin y ganolfan leol

11.23 Dylid tynnu sylw at y ffaith bod amrediad o gyfleusterau adwerthol a masnachol nad ydynt yn ffitio'n daclus i'r hierarchaeth siopa draddodiadol ac felly mae'n anodd ffurfio polisïau ar gyfer rheoli'r ffurfiau o adwerthu sy'n newid o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys Siopau Un Stop, gorsafoedd petrol, siopau fferm, canolfannau garddio, marchnadoedd amaethyddol, siopau bwyd anifeiliaid a siopau anifeiliaid anwes mawr. allfeydd ffatri adwerthol ac amrediad cyfyngedig o siopau bwyd rhad. Gall y rhain amrywio o ran maint, math a lleoliad ledled y Sir.


11.24 GWERTHUSIAD AMGYLCHEDDOL

11.25 Drwy geisio gwarchod a hyrwyddo trefi a chanolfannau dosbarth, mae'r polisïau yn gyffredinol yn cael effaith amgylcheddol bositif drwy leihau'r angen am deithio mewn car ac annog opsiynau eraill, ailddefnyddio tir ac adeiladau safleoedd brown a gwella'r amodau amgylcheddol lleol. Bydd raid asesu bwriadau ar gyfer ffurfiau mwy troedrydd o adwerthu yn ofalus.


11.26 POLISÏAU A BWRIADAU

Polisi RET 1 - Canol Trefi a Chanolfannau Ardal

CANOL TREFI A CHANOLFANNAU ARDAL FYDD Y PRIF LEOLIADAU AR GYFER :

i) DATBLYGIADAU ADWERTHOL A MASNACHOL SYDD AR RADDFA A MATH PRIODOL I FAINT, CYMERIAD A SWYDDOGAETH Y GANOLFAN AC SY’N CYNNAL NEU’N HYRWYDDO EI HYFYWEDD A’I FFYNIANT;

ii) BWRIADAU ERAILL SY’N CYNNAL NEU’N HYRWYDDO HYFYWEDD A FFYNIANT Y GANOLFAN, YN CYNNWYS;

– GWELLIANNAU I GERDDWYR A/NEU AMGYLCHEDDOL;

– GWELLIANNAU RHEOLI A GWASANAETHU TRAFFIG A MEYSYDD PARCIO;

– GWELLIANNAU I GLUDIANT CYHOEDDUS, BEICIO A CHERDDED.

Mae'r polisi uchod yn nodi'r dull cyffredinol o geisio llywio'r rhan fwyaf o'r datblygiadau adwerthol a masnachol i'r canolfannau presennol (fel a ddangosir yn Nhabl 3) oni bai fod achos sylweddol dros eu lleoli yn rhywle arall. Dylai canolfannau presennol barhau yn brif ffocws ar gyfer datblygiadau adwerthol a masnachol newydd a bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth i'w lles economaidd parhaus wrth ystyried effaith y bwriadau adwerthol a masnachol oddi mewn i'r canolfannau eu hunain ac mewn lleoliadau eraill.

Yn y cyswllt hwn, lle bo caniatâd cynllunio i'w ddyfarnu naill ai ar gyfer bwyd/arall, adeiladau newydd neu drawsnewidiadau a) efallai y bydd angen asesiad economaidd a/neu asesiad o effaith traffig, yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth; b) neu efallai y gosodir amodau, ymhlith pethau eraill, i gyfyngu ar yr amrediad/math o nwyddau a werthir, yr oriau agor, etc.; ac c) lle bo hynny'n briodol, efallai y gorfodir goblygiadau cynllunio er mwyn sicrhau datblygiad boddhaol. Efallai y byddai'r rhain yn cynnwys unrhyw waith oddi ar y safle sydd ei angen, mesurau lliniaru er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn gweddu â'i amgylchedd a manteision cymunedol a ystyrir yn rhesymol a chyfiawn ynghylch maint, math ac effaith y datblygiad.

Mae Sir Ddinbych yn meddu ar amrywiaeth eang o ganolfannau siopau - mae'r rhain yn cynnwys canolfan ranbarthol Y Rhyl i'r gogledd, canolfannau mwy megis Prestatyn a'r trefi marchnad traddodiadol yn Nyffryn Clwyd a dyffryn yr Afon Dyfrdwy. Dylai'r rhain barhau'n ganolbwynt economaidd a chymdeithasol eu dalgylchoedd. Mae'n hanfodol cynnal a, lle bo modd, gwella'r 'cynnig adwerthol' yng nghanolfannau'r Sir. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n bwysig bod datblygiadau newydd yn cael eu lleoli yn y canolfannau presennol yn unol â'r cyfarwyddyd cenedlaethol a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru (2002)

Mae canol trefi'n hanfodol gan eu bod yn parhau i gynnwys trawsdoriad eang o gyfleusterau. Mae'r rhain fel a nodir yng Ngorchymyn Dosbarthiadau Defnydd Cynllunio Gwlad a Thref 1987 h.y.:

– Dosbarth A1 adwerthu;

– Dosbarth A2 swyddfeydd, banciau, etc., sydd yng nghanol trefi fel rheol;

– Dosbarth A3 bwyd a diod;

– Dosbarth D1 sefydliadau di-breswyl (Clinigau, Meddygfeydd, Defnyddiau Cymunedol;

– Dosbarth D2 ymgynnull ac adloniant (Theatrau, Sinemâu).

Gellir gwella pa mor atyniadol a chystadleuol yw canolfannau presennol mewn nifer o ffyrdd, megis gwella'r amrywiaeth, y dewis ac ansawdd y siopau a'r gwasanaethau; a hefyd gwella atyniad, diogelwch, cyfleustra a dymunoldeb canol y trefi yn gyffredinol.

Dylid cymryd gofal i sicrhau bod unrhyw ddatblygiad o fantais i ganol trefi yn gyffredinol, gan adlewyrchu eu rôl, eu cymeriad a'u lles economaidd. Mae rhai canolfannau'n fwy sensitif a bregus ac yn llai cadarn nag eraill ac felly'n llai abl i wrthsefyll newidiadau neu effeithiau, megis siopau mwy, rheolaeth draffig neu arferion parcio. Mae canolfannau eraill sylweddol fwy angen dulliau sylfaenol wahanol o ddatblygu, ac maent yn fwy abl i ymdopi â newidiadau o'r fath


Polisi RET 2 - Datblygiadau Adwerthol

NEILLTUIR TIR AR GYFER DATBLYGIADAU ADWERTHOL FEL A GANLYN:

1. GREENFIELD PLACE, Y RHYL (NID BWYD;

2. Y GANOLFAN DDINESIG, RHUTHUN (NID BWYD): GWELER POLISI RET 9;

3. GLASDIR, RHUTHUN (DATBLYGIAD CYSYLLTIEDIG Â CHERBYD, HEB FOD YNG NGHANOL Y DREF A HEB YMWNEUD Â BWYD);

Gwnaed darpariaeth briodol ar gyfer ffurfiau amrywiol o ddatblygiadau adwerthol newydd ledled y Sir, yng nghanol trefi neu ar eu cyrion yn bennaf. Mae'r rhain yn cynnwys safleoedd presennol a all fod yn ddarostyngedig i ailddatblygu, safleoedd ymrwymedig cyfredol (gyda chaniatâd cynllunio/wrthi'n cael eu hadeiladu), neu neilltuadau newydd. Lle bo bwriadau'n dod ger bron heb ganiatâd cynllunio, byddant yn cael eu penderfynu yn yr un modd dan y gyfres o bolisïau yn y Bennod hon, yn enwedig os credir bod asesiad effaith economaidd yn briodol.

Yr amcanion yw:

i) gwella'r cynnig adwerthol lle bo hynny'n dderbyniol, gydag amrywiaeth o ffurfiau newydd o adwerthu;

ii) gwella hyfywedd a ffyniant canolfannau;

iii) lleihau colledion a pholareiddiad;

iv) darparu lleoliadau/safleoedd realistig, ymarferol ac addas;

v) cynorthwyo i wrthod bwriadau annerbyniol/amhriodol.

Mae ffurfiau newydd o ddatblygiadau adwerthol yn cynnwys siopau bwyd/eraill, allfeydd ffatri gyda dalgylch rhanbarthol, nid lleol, mawr, yn arbennig wrth ddarparu neu'n gysylltiedig ag atyniad twristaidd/hamdden a siopau gostyngiad amrediad cyfyngedig.


Polisi RET 3 - Archfarchnadoedd Bwyd

CANIATEIR CEISIADAU AM ARCHFARCHNADOEDD BWYD NEWYDD AC ESTYNIADAU I RAI SY’N BODOLI EISOES ODDI MEWN I FFINIAU CANOL TREFI A RHANBARTHAU FEL A DDIFFINNIR AR Y MAPIAU BWRIADAU, AR YR AMOD:

i) NA FYDDAI MAINT, NATUR NA LLEOLIAD Y BWRIAD YN PERI NIWED ANNERBYNIOL I HYFYWEDD AC YMARFEROLDEB Y CANOLFANNAU ADWERTHU PRESENNOL, GAN ROI YSTYRIAETH I EFFEITHIAU CRONNOL Y DATBLYGIADAU ADWERTHOL ERAILL DIWEDDAR AC YMRODDEDIG;

ii) BOD Y BWRIAD YN CYD-FYND Â CHYMERIAD YR ARDAL O SAFBWYNT LLEOLIAD, GRADDFA, FFURF, DYLUNIAD A DEUNYDDIAU;

iii) NA FYDDAI'R DATBLYGIAD YN ARWAIN AT DREFNIADAU TRAFFIG ANFODDHAOL GAN BERI DIRYWIAD YN YR AMGYLCHEDD LLEOL;

iv) BOD Y BWRIAD YN HYGYRCH NEU’N CYNNWYS MESURAU I WELLA HYGYRCHEDD GAN DDEFNYDDIO DEWIS O DDULL O GLUDIANT, YN CYNNWYS CLUDIANT CYHOEDDUS;

v) NA FYDDAI'R BWRIAD YN EFFEITHIO AR ARDALOEDD NEU NODWEDDION O DREFTADAETH ADEILEDIG NEU NATURIOL;

vi) NA FYDDAI'R BWRIAD YN CAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR DIR A DDIOGELWYD AR GYFER DIBENION ERAILL YN Y CYNLLUN.

OS YW’R PRAWF CYFRESOL WEDI’I DDEFNYDDIO GYDA SAFLEOEDD POSIBL ODDI MEWN I FFINIAU CANOL TREFI A RHANBARTHAU AC OS NAD OES UNRHYW SAFLEOEDD YMARFEROL NEU ADDAS AR GAEL (NEU’N DEBYGOL O FOD AR GAEL), GELLIR CANIATÁU BWRIADAU AR GYRION/GERLLAW FFINIAU CANOL Y TREFI A’R RHANBARTHAU NEU MEWN MANNAU ERAILL ODDI MEWN I’R FFINIAU DATBLYGU AR YR AMOD BOD YR HOLL FEINI PRAWF UCHOD WEDI’U BODLONI.

BYDD TIR GWAG, ADFEILIEDIG, ISRADDOL AC A DANDDEFNYDDIR YN CAEL EI FFAFRIO.

Er gwaetha'r amcan o wella'r ddarpariaeth adwerthol yn Sir Ddinbych, mae angen cynnal economi adwerthol leol iach ac ymarferol. Mae angen cymryd gofal wrth gyflwyno allfeydd adwerthu mwy yng nghanol trefi ac o'u hamgylch, yn seiliedig ar pa un ai fyddant yn gwella neu'n niweidio hyfywedd a ffyniant yr ardaloedd hyn. Yn unol â'r cyfarwyddyd a gynhwysir yn TAN 4, bydd raid i fwriadau adwerthu gyda gofod llawr adwerthu gros sy’n fwy na 2,500 m. sg. (a bwriadau o lai na 2,500 m. sg. a all gael effaith ar drefi a chanolfannau dosbarth llai) gael eu cefnogi gan asesiad effaith yn darparu tystiolaeth of:

– y prawf cyfresol ac argaeledd safleoedd eraill

– yr effaith economaidd debygol a'r effeithiau eraill ar leoliadau adwerthol lleol

– hygyrchedd drwy ddewis o ddulliau o gludiant

– newidiadau tebygol mewn patrymau teithio yn y dalgylch

– unrhyw effeithiau amgylcheddol sylweddol

Mae'r astudiaeth adwerthol ar gyfer Sir Ddinbych yn nodi sgôp posibl ar gyfer siopau cyfleus neu archfarchnadoedd bychain yng Nghorwen a Llangollen. Rhoddir ystyriaeth ffafriol i archfarchnadoedd llai e.e. 10,000 - 16,000 tr. sg. gros o ofod llawr sy'n diwallu anghenion pobl leol tra'n diogelu neu'n hyrwyddo hyfywedd neu ffyniant trefi neu ganolfannau dosbarth. Yr unig beth a all gyfiawnhau gofod llawr ychwanegol ar gyfer siopa yw cynnydd rhagdybiol ym mhoblogaeth y Sir a'i grym gwario yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Os bydd y Sir yn datblygu ar raddfa arafach na'r hyn a ragdybiwyd, neu os bydd graddfa'r cynnydd mewn incwm defnyddiadwy yn gostwng, efallai y bydd yn ofynnol adolygu'r ddarpariaeth a'r gofynion adwerthol yn y Sir.

Dangosodd astudiaethau adwerthol Roger Tym a Chesterton nad oedd unrhyw angen brys yn ystod pum mlynedd cyntaf y Cynllun am unrhyw fwriadau arwyddocaol ar gyfer siopau bwyd. Felly, dim ond yn ystod rhan ganol cyfnod y Cynllun fyddai'r galw yn dod i'r amlwg. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddatblygwyr a gweithredwyr a'r awdurdod cynllunio lleol arenwi safleoedd addas yng nghanol trefi a chanolfannau dosbarth neu ar eu cyrion. O gadw hyn mewn cof ac adroddiad diweddar DETR "Effaith Siopau Bwyd ar Drefi Marchnad a Chanolfannau Dosbarth" (Medi 1998), nid yw'n debygol bod sgôp ar gyfer unrhyw siop fwyd fawr arall ar gyrion trefi na chyfiawnhad dros hynny. Yn unol â’r cyfarwyddyd cynllunio cenedlaethol, a chan fod yr angen a arenwyd yn yr astudiaethau adwerthol am ofod llawr adwerthol ychwanegol ar gyfer bwyd wedi’i ddiwallu drwy waith cwblhau a chaniatâd diweddar, nid oes unrhyw safleoedd wedi’u harenwi ar gyfer datblygu siopau bwyd.


Polisi RET 4 - Siopau Adwerthol a Warysau Heb Gysylltiad â Bwyd

CANIATEIR CEISIADAU AM SIOPAU ADWERTHOL MAWR NAD YDYNT YN GWERTHU BWYD, AC ESTYNIADAU I SIOPAU PRESENNOL ODDI MEWN I NEU AR GYRION CANOL TREFI A RHANBARTHAU, AR YR AMOD;

i) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL, NAILL AI'N UNIGOL NEU'N GRONNOL, AR HYFYWEDD NEU FFYNIANT HIRDYMOR TREFI A CHANOLFANNAU DOSBARTH;

ii) NAD OES UNRHYW EFFEITHIAU ANNERBYNIOL YN DEBYGOL O DDIGWYDD MEWN PERTHYNAS AG YSTYRIAETHAU TRAFFIG NEU AMGYLCHEDDOL;

iii) NAD YW'R DATBLYGIAD YN MYND YN GROES I FUDDIANNAU CADWRAETH NEU FUDDIANNAU ERAILL O BWYSIGRWYDD CYDNABYDDEDIG, MEGIS BARRAU GWYRDD, TIR AMAETHYDDOL, TIRLUN, CADWRAETH NATUR A'R AMGYLCHEDD HANESYDDOL/ ADEILEDIG;

iv) BOD Y DATBLYGIAD HWN YN HYGYRCH DRWY DDEFNYDDIO DEWIS O DDULLIAU O GLUDIANT YN CYNNWYS CLUDIANT CYHOEDDUS. OS CANIATEIR BWRIADAU O'R FATH, DYLID YSTYRIED A OES MODD DARPARU CYFLEUSTERAU PARCIO A REID A GWEITHREDU HYNNY OS YN BRIODOL.

OS DEFNYDDIWYD Y PRAWF CYFRESOL GYDA SAFLEOEDD POSIBL AR GYRION CANOL TREFI A RHANBARTHAU AC OS NAD OES UNRHYW SAFLEOEDD YMARFEROL AR GAEL NAC YN ADDAS (NAC YN DEBYGOL O FOD), GELLIR CANIATÁU DATBLYGIADAU O BOSIBL AR GYRION/GERLLAW FFINIAU CANOL Y TREFI A’R RHANBARTHAU NEU UNRHYW LE ARALL ODDI MEWN I’R FFINIAU DATBLYGU AR YR AMOD BOD Y MEINI PRAWF UCHOD WEDI’U BODLONI A BOD Y BWRIAD YN DIWALLU ANGEN MEINTIOL AC ANSODDOL A ARENWYD.

Cynhelir yr un profion gyda bwriadau ar gyfer datblygiadau adwerthu heb ymwneud â bwyd sy’n fwy na 2,500 metr sgwâr â’r bwriadau adwerthol yn ymwneud â bwyd. Amlinellir y rhain yn yr eglurhad i bolisi RET 3.

Arenwodd Astudiaeth Adwerthol Roger Tym (y cyfeiriwyd ati yn flaenorol) anghenion posibl y dyfodol dros gyfnod o 10 mlynedd o'r Cynllun am oddeutu 80,000 troedfedd sgwâr o warysau adwerthol heb gysylltiad â bwyd yn Y Rhyl a Phrestatyn yn bennaf. Y prif grwpiau o gynhyrchion a werthir mewn warysau adwerthu yw dodrefn, cyfarpar trydan a DIY a chyfarpar ar gyfer ceir. Mae'r posibilrwydd o gwrdd â'r galw hwn ym Mharc Adwerthol Clwyd wedi cael ei ystyried ymhellach a'i wrthod. Mae'r galw posibl i gael ei fodloni ar gyrion canol trefi Y Rhyl a Phrestatyn, lle mae safleoedd mwy ymarferol ac addas yn cael eu hystyried yn fanylach.

Arenwodd Astudiaeth Adwerthol (Chesterton) De Sir Ddinbych ychydig/dim sgôp ar gyfer datblygiadau ychwanegol arwyddocaol heb gysylltiad â bwyd ar wahân i nwyddau arbenigol, neu nwyddau cysylltiedig â thwristiaeth neu grefftau. Roedd hyn yn seiliedig ar y colledion a'r polareiddiad presennol mewn perthynas â gwariant heb gysylltiad â bwyd ac argaeledd gofod sbâr/gofod llawr adwerthol gwag yng nghanolfannau De Sir Ddinbych.

Mae'r datblygiadau adwerthol heb gysylltiad â bwyd yn cynnwys allfeydd ffatri modern sydd, fel rheol, ond nid bod amser, yn allfeydd a adeiledir i bwrpas sy'n gwerthu nwyddau diwedd-llinell a weithgynhyrchir yn rhywle arall


Polisi RET 5 - Prif Dalwynebau Siopa yng Nghanol Trefi : Nid Defnyddiau A1

CANIATEIR NEWID Y DEFNYDD O EIDDO LLAWR ISAF O DDEFNYDD A1 (ADWERTHOL) I DDEFNYDDIAU ERAILL ODDI MEWN I BRIF DALWYNEBAU SIOPA RHANNAU O'R RHYL (YN CYNNWYS CANOLFAN Y RHOSYN GWYN), PRESTATYN, DINBYCH, RHUTHUN A LLANGOLLEN FEL A ARENWIR AR Y MAPIAU BWRIADAU MEWNOSOD, AR YR AMOD:

i) NA FYDD Y DATBLYGIAD YN ARWAIN AT GLYSTYRU NEU GRYNHOAD DEFNYDDIAU HEB GYSYLLTIAD AG A1, NAC YN CAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR GYMERIAD ADWERTHOL HANFODOL A FFYNIANT Y RHAN HONNO O'R GANOLFAN;

ii) NAD YW'R DATBLYGIAD YN CREU TALWYNEB PARHAUS O DRI NEU FWY O DDEFNYDDIAU HEB GYSYLLTIAD AG A1, NEU DDIM MWY NAG UN MEWN TRI O DDEFNYDDIAU HEB GYSYLLTIAD AG A1 ODDI MEWN I'R PRIF DALWYNEB SIOPA.

MAE'N RHAID I BOB BWRIAD ODDI MEWN I BRIF DALWYNEBAU SIOPA FOD WYNEB SIOP AC ARDDANGOSFA FFENESTR HEB GREU NODWEDD WAG NEU DDIFLAS.

Prif swyddogaeth canol y dref yw darparu canolbwynt o weithgarwch ar gyfer pobl sy'n chwilio am wasanaethau adwerthol. Mae canol trefi hefyd wedi denu gwasanaethau megis banciau, gwerthwyr tai, yswiriant, caffis a ffurfiau amrywiol o adloniant. Mae'r gwasanaethau hyn yn cyd-fynd â, ac yn ychwanegu at y swyddogaeth adwerthu. Fodd bynnag, os ceir gorgrynhoad oddi mewn i'r prif ardaloedd siopa yng nghanol y dref, gall hyn amharu ar gymeriad cyffredinol y strydoedd hynny a hefyd niweidio hyfywedd a ffyniant y ganolfan yn gyffredinol. Mae'n rhaid i ddefnyddwyr adwerthol lywodraethu yn y strydoedd pwysicaf mewn canolfannau mwy neu allweddol fel a arenwir uchod, er mwyn diogelu rôl siopa hanfodol y ganolfan berthnasol. Gellir cael cyfarwyddyd pellach ynghylch dyluniad wyneb siop yn y Gyfres o Gyfarwyddiadau Cynllunio Ategol.


Polisi RET 6 - Canol Trefi a Chanolfannau Ardal : Nid Defnyddiau A1

CANIATEIR NEWID Y DEFNYDD O EIDDO O DDEFNYDDIAU A1 (ADWERTHOL) MEWN MANNAU ERAILL ODDI MEWN I FFINIAU CANOL TREF Y RHYL, PRESTATYN, DINBYCH, RHUTHUN A LLANGOLLEN AC ODDI

MEWN I FFINIAU CANOLFANNAU DOSBARTH RHUDDLAN, LLANELWY A CHORWEN AR YR AMOD BOD Y BWRIAD:

i) YN CYNNAL, YN HYRWYDDO AC YN GWELLA HYFYWEDD A FFYNIANT Y GANOLFAN;

ii) YN GWEDDU Â'R ARDAL O AMGYLCH O RAN GRADDFA, MATH A DYLUNIAD, HEB GAEL EFFAITH ANNERBYNIOL ARNI.

Mae'r polisi uchod yn amcanu at ddarparu'r amrediad ehangaf posibl o siopau a gwasanaethau yng nghanol trefi. Gall cyfyngu ar ddefnyddiau anadwerthol drwy gyfrwng y polisi o brif strydoedd siopa mewn rhai canol trefi fod o gymorth i gefnogi canol trefi gyda'u prif rôl fel canolfan siopa. Mewn mannau eraill yn Sir Ddinbych, ceir sawl canol tref lle mae'n rhesymol i ddefnyddiau anadwerthol buddiol eraill ddefnyddio eiddo gwag nad ydynt yn debygol o weithredu fel siopau eto.

Mae darganfyddiadau'r ddwy Astudiaeth Adwerthol yn awgrymu bod y canolfannau llai yn profi dirywiad a'u bod mewn cyflwr gwael. Mae'n bwysig cymryd agwedd hyblyg felly er mwyn cynorthwyo i adfywio cyflwr canolfannau o'r fath. Yn unol â hynny, mae ffiniau canol y trefi wedi cael eu llunio'n dynn, er mwyn canolbwyntio gweithgarwch masnachol a bod yn realistig


Polisi RET 7 - Ardaloedd Cyrion yn Ymyl Canol Trefi a Chanolfannau Ardal

CANIATEIR DATBLYGIADAU ADWERTHOL A MASNACHOL (ADEILADAU NEWYDD, TRAWSNEWIDIADAU NEU NEWID DEFNYDD) AR GYRION FFINIAU TREFI A CHANOLFANNAU DOSBARTH, OND ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU, AR YR AMOD:

i) BOD GRADDFA, MATH A DYLUNIAD Y DATBLYGIAD YN CADW AT GYMERIAD YR ARDAL O AMGYLCH HEB GAEL EFFAITH ANNERBYNIOL ARNI;

ii) NAD OEDD MODD LLEOLI'R DATBLYGIAD YN RHESYMOL ODDI MEWN I FFIN Y DREF NEU'R GANOLFAN DDOSBARTH;

iii) NA FYDD Y DATBLYGIAD YN CAEL EFFAITH NIWEIDIOL AR HYFYWEDD A FFYNIANT Y GANOLFAN GYFAGOS;

iv) BOD Y DATBLYGIAD YN CYDYMFFURFIO Â PHOLISI RET 16 SY'N YMDRIN Â DEFNYDDIAU BWYD POETH I'W FWYTA ALLAN (DOSBARTH A3).

CANIATEIR TRAWSNEWID O DDEFNYDD ADWERTHOL NEU FASNACHOL I DDEFNYDD PRESWYL AR YR AMOD BOD CYNLLUN TRAWSNEWID ADDAS YN GYNWYSEDIG, BOD Y DYMUNOLDEB PRESWYL YN CAEL EI GYNNAL, AC NA CHEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR GYNLLUNIAU TREF NEU'R RHWYDWAITH O BRIFFYRDD.

Mae ffiniau trefi a chanolfannau dosbarth wedi cael eu llunio'n dynn, o'u cymharu â'r rhai yng Nghynlluniau Rhanbarthol Rhuddlan a Glyndwr. Bydd hyn yn galluogi cynnal craidd masnachol realistig dros gyfnod y Cynllun, yn hytrach na chanol tref wasgarog a darniog. Bydd pob bwriad adwerthol neu fasnachol newydd yn cael ei gyfeirio i'r eiddo neu'r safleoedd gwag yng nghanol y trefi. Os nad yw hyn yn bosibl, rhoddir ystyriaeth i fwriadau adwerthol a masnachol ar gyrion canol y trefi, yn ddarostyngedig i nifer o ystyriaethau amgylcheddol ac ystyriaethau parthed dymunoldeb a phriffyrdd. Fodd bynnag, mae nifer o'r ardaloedd cyrion hyn wedi cael eu troi'n ôl yn raddol at ddefnydd preswyl ac fe ganiateir hyn cyn belled â bod y cynllun trawsnewid yn un safonol. Yn unol â hynny, efallai na fydd bwriadau A3/bwyd poeth i'w fwyta allan yn addas bob amser ac fe gynhwysir cyfarwyddyd pellach ym Mholisi RET 16.

Nid yw'n debygol y bydd gweithrediadau Llogi Preifat (tacsis) yn dderbyniol yng nghanol trefi a chanolfannau dosbarth, nac mewn ardaloedd preswyl oherwydd y sŵn a'r aflonyddwch. Ymhlith y lleoliadau addas ar gyfer y math yma o wasanaeth mae ardaloedd cyflogaeth, ardaloedd masnachol cymysg neu gyrion trefi a chanolfannau dosbarthl, yn ogystal â lloriau uchaf eiddo masnachol (os cânt eu defnyddio fel swyddfa yn unig ac nid defnyddiau gweithredol) yn ddarostyngedig i ystyriaethau parthed yr amgylchedd, dymunoldeb a pharcio. Gellir cael cyfarwyddyd pellach yn y Cyfarwyddyd Cynllunio Ategol ar 'Logi Cerbydau Preifat (Tacsis) '.


Polisi RET 8 - Ailddatblygu Canol Tref : Y Rhyl

ER MWYN CYNNAL A GWELLA SAFLE CANOL TREF Y RHYL FEL CANOLFAN IS-RANBARTHOL AC ER MWYN HYRWYDDO EI HYFYWEDD A'I FFYNIANT, MAE'R AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL YN YMRWYMEDIG I WELLA EI ATYNIAD CYFFREDINOL A'R CYNNIG ADWERTHOL DRWY DDARPARU, YMHLITH PETHAU ERAILL, GWELL CYFLEUSTERAU, AR FFURF SIOP DEWIS EANG A/NEU GANOLFAN SIOPA DAN DO.

YN DDAROSTYNGEDIG I BOLISÏAU CYNLLUNIO ERAILL, CYMERADWYIR Y BWRIADAU AR GYFER AILDDATBLYGU RHAN O GRAIDD CANOL Y DREF YN HELAETH FEL A NODIR AR Y MAP BWRIADAU.

BYDD BWRIADAU SY'N CYNNWYS DATBLYGIADAU CYNAMSEROL NEU FESUL DARN FYDDAI, NEU SY'N DEBYGOL O WNEUD DRWG I BOTENSIAL HIRDYMOR Y SAFLE, YN CAEL EU GWRTHOD.

Mae'r Cyngor yn dymuno cynnal a hyrwyddo hyfywedd a ffyniant y cynnig adwerthol a gwella safle cymharol Y Rhyl yn gyffredinol, ac yn arbennig fel canolfan is-ranbarthol. Felly, nodir llain o dir ac eiddo ar gyfer ei ailddatblygu'n gynhwysfawr fel siop dewis eang neu adrannol a/neu ganolfan siopa dan do. Nododd Astudiaeth Roger Tym y bydd angen/galw am oddeutu 10,000 m.sg. (100,000 tr. sg.) o ofod llawr canol tref heb gysylltiad â bwyd (h.y. nwyddau parhaol; dillad, esgidiau etc.) am ddeng mlynedd yn y dyfodol yng nghanol tref y Rhyl. Ni chaniateir unrhyw fwriad fydd yn peryglu gweithredu'r bwriad hwn. Mae'r Cyngor, fel dewis terfynol, yn barod i ddefnyddio ei Archeb Brynu Orfodol i gynorthwyo gyda chydosod y safle hwn mewn cydweithrediad ag Adran Dir ADC.

Dylid ystyried y polisi hwn mewn cydweithrediad â'r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Ategol 'Ailddatblygu Canol Tref: Y Rhyl' sy'n cynnwys briff cynllunio safle. Mae hyn yn egluro'r angen am ailddatblygu ac mae'n amlinellu cyfarwyddyd ar gyfer defnyddiau a ystyrir yn dderbyniol ynghyd â dyluniad deunyddiau ac agweddau eraill ar yr ailddatblygu sy'n bwysig ym marn y Cyngor. Mae'r ddogfen hon hefyd yn cyfiawnhau'r polisi hwn ymhellach. Yn dilyn penderfyniad y Cyngor ac ymgynghoriad cyhoeddus, mae gan y briff statws cyfarwyddyd cynllunio ategol. Felly, gellir ei ddefnyddio fel ystyriaeth hanfodol wrth benderfynu ar unrhyw gais cynllunio.


Polisi RET 9 - Safle'r Ganolfan Ddinesig, Rhuthun

DIOGELIR TIR YN RHUTHUN SYDD WEDI'I ARENWI AR Y MAP BWRIADAU FEL ARDAL DATBLYGIAD CYNHWYSFAWR AR Y MAP BWRIADAU FEL ARDAL DATBLYGIAD CYMYSG. CANIATEIR DATBLYGIADAU SY'N YMWNEUD Â CHYMYSGEDD GYTBWYS O DDEFNYDD ADWERTHOL, MASNACHOL, PRESWYL A CHYMUNEDOL SY'N DEBYGOL O HYRWYDDO HYFYWEDD A FFYNIANT CANOL Y DREF.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i adfywio Canol Tref Rhuthun. Mae'r polisi uchod yn amcanu at fanteisio ar y cyfle lle mae safle yn barod ar gyfer ei ailddatblygu gan fod llawer ohono yn wag, yn cael ei danddefnyddio, mewn cyflwr gwael, yn cael ei ddefnyddio dros dro neu'n ymddangos yn flêr. Pennir bod bwriadau sy'n ymwneud â chymysgedd gytbwys o gyfleusterau swyddfa, adwerthol, masnachol, preswyl a chymunedol yn briodol ar gyfer y safle hwn. Mae hyn yn unol â'r cyfarwyddyd cenedlaethol a Strategaeth y Cynllun Datblygu Unedol mewn perthynas â'r defnydd o safleoedd brown gerllaw'r prif ardaloedd masnachol, a buddiannau Canol Tref Rhuthun.


Polisi RET 10 - Canolfannau Siopa Lleol ac Ardal

CANIATEIR NEWID DEFNYDD O DDEFNYDDIAU DOSBARTH A1 (ADWERTHOL) I DDEFNYDDIAU ERAILL ODDI MEWN I FFINIAU CANOLFANNAU LLEOL AC ARDAL I HYD AT UCHAFSWM O 1 MEWN 4 UNED MEWN UNRHYW GANOLFAN LEOL UNIGOL AC AR YR AMOD:

i) Y BYDDAI'R DEFNYDD YN DARPARU GWASANAETH LLEOL;

ii) BOD YR UNED WEDI BOD YN WAG ERS CYFNOD SYLWEDDOL O AMSER AC YN DIBYNNU AR Y NIFER O UNEDAU GWAG YN Y GANOLFAN ARBENNIG;

iii) BOD SIOP O FAINT RHESYMOL YN Y GANOLFAN AC ALLFA ADWERTHOL ARALL SY'N CWRDD Â'R NOD O SIOPA CYFLEUS;

iv) MEWN PERTHYNAS Â SIOPAU BWYD POETH I'W FWYTA ALLAN, EU BOD YN CYDYMFFURFIO Â PHOLISI RET 16.

NI CHANIATEIR NEWID DEFNYDD I DDEFNYDD PRESWYL ODDI MEWN I GANOLFANNAU LLEOL AC ARDAL.

Yn bennaf, mae canolfannau siopa lleol ac ardal yn darparu gwasanaethau siopa cyfleus i boblogaeth fechan leol. Maent yn arbennig o bwysig ar gyfer y rhai sydd heb ddefnydd llawn-amser o gar. Dylai anghenion siopa lleol fod o fewn 500 metr o bellter cerdded fel rheol. Mae'r 'canolfannau siopa lleol' yn y polisi hwn yn cynnwys canolfannau newydd a adeiladwyd i bwrpas, yn amrywio o glystyrau bychain o siopau unigol a gwasanaethau eraill a gysylltir â man cyfarfod i ganolfannau mwy yn aml, yn cynnwys 10 i 12 uned, yn ogystal â chanolfannau hŷn.

Er mwyn gwarchod swyddogaeth siopa'r ganolfan leol, mae'n bwysig bod mwyafrif yr unedau oddi mewn i'r ganolfan unigol yn cael eu cadw at ddefnydd adwerthol. Fodd bynnag, mae'n bwysig osgoi gadael unedau'n wag yn yr hirdymor oherwydd gallai hyn amharu ar hyfywedd ac atyniad y ganolfan ac arwain at ddirywiad yn yr adeiladau. Efallai y caniateir newid y defnydd o ddefnydd adwerthol mewn canolfannau lleol mwy (a ddiffinnir fel y rhai sy'n cynnwys 4 uned neu fwy) os byddai'r defnydd arfaethedig yn darparu gwasanaeth lleol/cymunedol yn bennaf. Ymhlith yr enghreifftiau posibl mae defnyddiau D1, h.y. meithrinfa ddydd, deintyddion neu filfeddygon, siopau un stop etc.


Polisi RET 11 – Ystafelloedd Arddangos Ceir a Defnyddiau Cysylltiedig â Cherbydau

CANIATEIR YSTAFELLOEDD ARDDANGOS CEIR, GWASANAETHU CEIR A DEFNYDDIAU ADWERTHOL ERAILL CYSYLLTIEDIG Â CHLUDIANT/CERBYDAU SYDD ANGEN ARDALOEDD O DIR AGORED HELAETH YN Y LLEOLIADAU A GANLYN YN UNIG:

i) PARCIAU ADWERTHOL CYFREDOL;

ii) PRIF ARDALOEDD CYFLOGAETH A NEILLTUR CYFLOGAETH SAFLOEDD, YN DDAROSTYNGEDIG I EMP 10;

iii)YNG NGHANOL TREFI, NEU AR GYRION CANOL TREFI, AR BRIFFYRDD NEU FFYRDD STRATEGOL AR YR AMOD:

a) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR Y CANOLFANNAU PRESENNOL;

b) NAD YW'R BWRIAD YN AMHARU AR Y DEFNYDD O'R ARDALOEDD CYFLOGAETH;

c) NA CHEIR UNRHYW BROBLEMAU AMGYLCHEDDOL NEU GYSYLLTIEDIG Â THRAFFIG YN YR ARDAL;

Mae pobl sy'n delio mewn ceir yn masnachu o eiddo mwy gydag ardaloedd sylweddol o fannau parcio cerbydau a chyflenwadau gan lorïau cludo mawr iawn. Nid yw'r rhain yn ddefnyddiau derbyniol mewn canol trefi hŷn ac ardaloedd o dai. Mae gwasanaethu ceir yn golygu y bydd nifer fawr o gerbydau yn ymweld â'r safle ac fe esgorir ar broblemau gyda thraffig, parcio, sŵn ac arogl. Mae'n well lleoli defnyddiau o'r fath oddi wrth siopau a thai.


Polisi RET 12 - Siopau a Swyddfeydd Post Lleol

MEWN PERTHYNAS Â SIOPAU A SWYDDFEYDD POST LLEOL BYDD Y CYNGOR:

i) YN RHOI CEFNOGAETH I GADW'R CYFLEUSTERAU PRESENNOL AC YN GWRTHOD DATBLYGIAD FYDDAI;N ARWAIN AT GOLLI CYFLEUSTERAU PRESENNOL;

ii) YN CANIATÁU BWRIADAU AR GYFER CYFLEUSTERAU NEWYDD, YN CYNNWYS SIOPAU GORSAFOEDD PETROL AR YR AMOD:

a) EU BOD YN DARPARU GWASANAETH LLEOL;

b) EU BOD WEDI'U LLEOLI ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU NEU'N HYGYRCH IAWN I'R BOBLOGAETH LEOL, YN CYNNWYS Y RHAI HEB GEIR;

c) BOD EU MAINT, EU MATH A'U DYLUNIAD YN PARCHU'R ARDAL O AMGYLCH HEB GAEL EFFAITH NIWEIDIOL ARNI.

Mae siopau, swyddfeydd post a thafarndai lleol yn cyflawni swyddogaeth bwysig mewn cymunedau gwledig a maestrefi preswyl mawr a dylid eu cadw os oes modd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent wedi gostwng yn eu nifer o ganlyniad i lai o fasnach a chostau gweithredu. Yn aml, mae mesurau i wella neu gefnogi cyfleusterau siopa lleol y tu allan i sgôp y Cynllun. Ni all cynllunio tir yn unig atal siopau rhag cau na chreu marchnad hirdymor artiffisial - er enghraifft, drwy neilltuo tir sylweddol ar gyfer tai. Os gellir profi nad yw busnes yn fasnachol ymarferol bellach, a bod pob dull o gadw'r siopa ar agor wedi cael ei archwilio efallai y caniateir newid defnydd. Yn unol â'r Strategaeth Ddatblygu Gyffredinol, bydd y Cynllun yn ceisio sicrhau, drwy gyfrwng cytundebau neu oblygiadau cynllunio, cyfleusterau siopa lleol gyda datblygiadau tai newydd mawr. Bydd y gwaith o geisio sicrhau digon o siopau lleol mewn ardaloedd gwledig yn parhau.


Polisi RET 13 - Siopau Ffatri Bychain Cysylltiedig â Thwristiaeth

CANIATEIR SIOPAU BYCHAIN CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN, CREFFTAU, TWRISTIAETH A CHYFLEUSTERAU GWEITHGYNHYRCHU AR YR AMOD:

i) MEWN CEFN GWLAD AGORED MAE’R BWRIAD YN YMWNEUD AG

(a) AILDDEFNYDDIO ADEILADAU PRESENNOL

(b) ESTYNIADAU CYDYMDEMLADOL AR RADDFA FECHAN AR ADEILADAU PRESENNOL

(c) LLE NAD YW (a) na (b) YN YMARFEROL, ADEILADAU NEWYDD CYDYMDEIMLADOL AR YR AMOD BOD YR ADEILADAU NEWYDD YN CYD-FYND YN FFISEGOL Â GRŴP PRESENNOL O ADEILADAU;

ii) BOD YR ELFEN ADWERTHOL YN PARHAU'N ATEGOL;

iii) BOD Y BWRIAD YN BODLONI POLISÏAU ERAILL Y CYNLLUN;

iv) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR YR ARDAL LEOL O GANLYNIAD I YMDDANGOSIAD, GWEITHGARWCH, TRAFFIG AC ARWYDDION;

v) BOD Y BWRIAD YN CYNNAL ARDDANGOSFA FFENESTR MEWN TREF NEU GANOLFAN DDOSBARTH.

Mae'r Cyngor yn cefnogi cyfleusterau twristaidd, crefft a hamdden ond mae'n ceisio osgoi codi adeiladau newydd yng nghefn gwlad neu yn ymyl atyniadau i ymwelwyr. Dim ond mewn lleoliadau lle ceir adeiladau presennol addas y caniateir siopau newydd, ac os nad oes angen hysbysebion sy'n amharu ar naws wledig yr ardal. Efallai y bydd bwriadau ar gyfer allfeydd adwerthol bychain yn dderbyniol os ydynt yn rhan o, ac yn ategol i weithred weithgynhyrchu neu gydosod, naill ai mewn ardaloedd trefol, tref/canolfan leol, neu ardaloedd gwledig. Nid yw'n fwriad i'r Polisi hwn fod yn berthnasol i ffurfiau mawr o allfeydd ffatri a adeiledir i bwrpas sy'n gwerthu nwyddau diwedd llinell a weithgynhyrchir yn rhywle arall.


Polisi RET 14 - Canolfannau Garddio

CANIATEIR CANOLFANNAU GARDDIO AR YR AMOD:

i) MAI CANOLFAN ARDDIO YW'R PRIF DDEFNYDD O'R SAFLE A'I BOD YNGHLWM WRTH FEITHRINFA SY'N BODOLI EISOES OS YW WEDI'I LLEOLI Y TU ALLAN I'R FFINIAU DATBLYGU;

ii) BOD UNRHYW DDATBLYGIAD ADEILEDIG YN CADW AT GYMERIAD YR ARDAL O AMGYLCH O RAN GRADDFA, FFURF, DYLUNIAD A DEUNYDDIAU;

iii) NAD YW'R BWRIAD YN CAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR AMODAU PRESWYL, DYMUNOLDEB LLEOL A'R PRIFFYRDD LLEOL.

Ceir hyd i ganolfannau garddio traddodiadol ar safleoedd yn y cyrion trefol fel rheol neu ar eu pennau eu hunain mewn cefn gwlad agored. Yn ddiweddar, mae warysau adwerthol DIY yn cynnwys canolfannau garddio yn aml. Fodd bynnag, mae'r polisi hwn yn berthnasol i ganolfannau garddio traddodiadol, nid rhai sydd ynghlwm wrth siop adwerthol heb gysylltiad â bwyd.

Mae maint a nifer yr adeiladau sydd eu hangen, ynghyd â'r mynedfeydd a'r gofynion parcio, yn golygu y gall canolfannau garddio fod yn nodwedd ymwthiol yng nghefn gwlad.

Bydd bwriadau ar gyfer datblygiadau newydd oddi mewn i ganolfannau garddio sy'n bodoli eisoes, yn cynnwys y rhai mewn cefn gwlad agored, yn dderbyniol hefyd ar yr amod eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â'r gwaith o redeg safle'r ganolfan arddio. Fe asesir bwriadau o'r fath hefyd yn erbyn y polisïau cyffredinol a restrir uchod, gan roi sylw arbennig i faint o draffig a greir, y ddarpariaeth barcio, yr ymyrraeth weledol a'r effaith ar breswylwyr lleol.


Polisi RET 15 - Lloriau Uchaf Eiddo Masnachol

CANIATEIR DEFNYDD ECONOMAIDD BUDDIOL O LORIAU UCHAF EIDDO MEWN TREFI A CHANOLFANNAU DOSBARTH YN DDAROSTYNGEDIG I:

i) YSTYRIAETHAU DYMUNOLDEB CYFFREDINOL;

ii) UNRHYW YSTYRIAETHAU TREFLUN GWELEDOL NEU YSTYRIAETHAU CYNLLUN TREF; AR YR AMOD NA CHEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR Y PRIFFYRDD LLEOL, AR WASANAETHU NAC AR DREFNIADAU PARCIO.

DYLID ASESU'R DEFNYDD PRESWYL O LORIAU UCHAF YN ERBYN POLISI HSG 13.

Mae llawer o loriau uchaf siopau a defnyddiau masnachol mewn canolfannau presennol wedi newid o fod naill ai at ddefnydd preswyl neu storio i fod yn wag yn bennaf, neu'n cael eu tanddefnyddio'n sylweddol. Fel rhan o Strategaeth Ddatblygu Gyffredinol y Cynllun, ac er mwyn ailgylchu ac ailddefnyddio tir ac adeiladau gwag neu a danddefnyddir, er lles datblygiad cynnaladwy, cefnogir defnydd buddiol o loriau uchaf. Mabwysiedir agwedd hyblyg tuag at ddefnyddiau masnachol neu breswyl cyn belled na cheir unrhyw effaith annerbyniol ar ddymunoldeb lleol o safbwynt ystyriaethau gweledol a threflun a materion priffyrdd a mynediad. Un defnydd derbyniol o'r fath fyddai swyddfa dacsis ar yr amod na fyddai'n cael ei defnyddio mewn cydweithrediad â defnydd gweithredol (parcio/aros/gwasanaethu).


Polisi RET 16 - Bwyd a Diod - Bwyd Poeth i'w Fwyta Allan

CANIATEIR DEFNYDDIAU A3 (BWYD A DIOD) MEWN TREFI A CHANOLFANNAU DOSBARTH AR YR AMOD:

i) BOD Y BWRIAD YNG NGHANOL TREF/CANOLFAN DDOSBARTH;

ii) NAD YW'R BWRIAD YN ARWAIN AT GLYSTYRU DEFNYDDIAU O'R FATH, HEB GADW AT GYMERIAD YR ARDAL O AMGYLCH;

iii) NA FYDDAI'R BWRIAD YN ARWAIN AT EFFAITH ANNERBYNIOL AR DDYMUNOLDEB PRESWYL DRWY GREU SŴN, AFLONYDDWCH, PELYDRIADAU A GWEITHGARWCH YN HWYR Y NOS;

iv) NA FYDDAI'R BWRIAD YN ARWAIN AT SYMUDIAD/TREFNIADAU TRAFFIG/ PRIFFYRDD ANFODDHAOL;

v) BOD Y BWRIAD YN CYNNWYS WYNEB SIOP SYDD WEDI'I DYLUNIO'N ADDAS.

Mae'n ofynnol rhoi ystyriaeth arbennig i ddatblygiadau sy'n cynnwys defnyddiau Dosbarth 3 megis allfeydd bwyd poeth i'w fwyta allan. Fel rheol, maent yn ymwneud â gweithgarwch cynyddol, yn arbennig ar oriau anghymdeithasol. O ganlyniad, bwriad y polisi uchod yw cyfyngu defnyddiau o'r fath i ganol trefi, ar gyrion canol trefi mewn canolfannau lleol ac mewn rhodfeydd siopa. Mewn ardaloedd preswyl yn bennaf, lle maent yn debygol o beri'r problemau a arenwyd, ni ddyfernir caniatâd cynllunio.

Gellir cael cyfarwyddyd pellach yn y gyfres o Gyfarwyddiadau Cynllunio Ategol. Bydd hyn o gymorth gyda chynghori ynghylch addasrwydd graddfa, math, lleoliad a gofynion bwriadau o'r fath.


Polisi RET 17 - Cabanau

CANIATEIR LLEOLI CABANAU ADWERTHOL NEWYDD, A CHADW'R RHAI SY'N BODOLI EISOES, ODDI MEWN I'R PARTH ADLONIANT (POLISI TSM 17) AC MEWN MANNAU ERAILL DAN AMGYLCHIADAU EITHRIADOL, AR YR AMOD:

i) EU BOD YN RHAN HANFODOL O ATYNIADAU/GYFLEUSTERAU TWRISTAIDD ERAILL;

A

ii) BOD Y BWRIAD AR RADDFA BRIODOL, AC O ANSAWDD UCHEL O SAFBWYNT MAINT, DYLUNIAD A DEFNYDD O DDEUNYDDIAU.

Cydnabyddir bod cabanau yn ddull traddodiadol o fasnachu mewn trefi glan môr ond os na chânt eu rheoli'n briodol, gallant arwain at ffurf anfoddhaol o adwerthu. O ystyried y nifer o gabanau sydd ar hyd Rhodfa'r Gorllewin yn Y Rhyl, mae'n rhesymol cyfyngu ar yr holl ddatblygiadau pellach mewn rhai ardaloedd. Dylid rhoi ystyriaeth i gabanau mewn ardaloedd a ddefnyddir yn helaeth ar lefel y llawr ar gyfer peiriannau chwarae, caffis a siopau cysylltiedig â thwristiaeth, ond nid mewn ardaloedd preswyl yn bennaf, ble gwrthodir cyflwyno cabanau o'r fath. Dylai pob bwriad gydymffurfio â safonau maint priodol, lefelau uchel o ddylunio a defnydd gofalus o ddeunyddiau. Gellir cael cyfarwyddyd pellach yn y gyfres o Canllawiau Cynllunio Atodol.


Polisi RET 18 - Marchnadoedd

OS OES ANGEN CANIATÂD CYNLLUNIO, DYLAI MARCHNADOEDD (YN CYNNWYS ARWERTHIANNAU CIST CAR), GYDYMFFURFIO Â'R MEINI PRAWF ISOD:

i) NI DDYLID CAEL UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR HYFYWEDD AC YMARFEROLDEB Y CANOLFANNAU HYNNY;

ii) NI DDYLAI TREFNIADAU PARCIO BERYGLU TREFNIADAU TRAFFIG AR Y RHWYDWAITH O BRIFFYRDD O AMGYLCH;

iii) DYLID CAEL MAES PARCIO ADDAS AR Y SAFLE AR GYFER CERBYDAU'R HOLL FASNACHWYR A'R CWSMERIAID, HEB DDEFNYDDIO MANNAU PARCIO MEWN MEYSYDD PARCIO SY'N BODOLI EISOES;

iv) DYLENT FOD YN GYFLEUS I GERDDWYR AC I DDEFNYDDWYR CLUDIANT CYHOEDDUS;

v) DYLID EU LLEOLI AR DIR NEU MEWN EIDDO SY'N WAG NEU A DANDDEFNYDDIR OS OES MODD;

vi) NI DDYLID CAEL UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR DDYMUNOLDEB YR ARDALOEDD PRESWYL O AMGYLCH, A DYLENT OSGOI ARDALOEDD PRESWYL.

vii) NI DDYLAI’R BWRIADAU BERI NIWED ANNERBYNIOL I GYMERIAD, YMDDANGOSIAD GWELEDOL NA CHADWRAETH NATUR Y SAFLE NEU’R ARDAL O AMGYLCH NA CHWAITH EFFEITHIO AR FUDDIANNAU HANESYDDOL NEU ARCHEOLEGOL.

WRTH BENDERFYNU AR FAINT, MATH AC AMLEDD MARCHNADOEDD ACARWERTHIANNAU CIST CAR, GWNEIR ASESIAD I WELD A GEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL DEBYGOL AR ADDASRWYDD Y RHWYDWAITH FFORDD O AMGYLCH NEU GYNHWYSEDD AMGYLCHEDDOL YR ARDAL.

Mae marchnadoedd wedi bod yn ffurf draddodiadol a sefydledig o adwerthu, yn arbennig marchnadoedd stryd hanesyddol. Ymdrinnir â bwriadau ar gyfer safleoedd ychwanegol neu estyniadau i safleoedd presennol mewn perthynas â'r effaith ar swyddogaeth economaidd y canolfannau presennol a'r effaith amgylcheddol gyffredinol ar yr ardal, yn cynnwys aflonyddwch gan sŵn, sbwriel a thraffig. Gall arwerthiannau cist car, yn arbennig y rhai mwyaf a rheolaidd, gael effaith debyg ac fe wneir penderfyniad yn eu cylch mewn ffordd debyg.

Fodd bynnag, derbynnir bod marchnadoedd yn amrywio’n sylweddol o ran maint, amledd, trefniadaeth, cymeriad, lleoliad etc. ac felly mae’n rhaid i bob bwriad gael ei ystyried yn unol â’i rinweddau unigol. Er enghraifft, nid yw arwerthiant cist car bychan ar ddydd Sul yn debygol o greu’r un pryderon a materion a allai godi o arwerthiant cist car fasnachol fawr y tu allan i’r dref.