TWRISTIAETH
Twristiaeth

12.0 CYFLWYNIAD

12.1 Mae'r Gymdeithas Dwristiaeth yn diffinio twristiaeth fel "symudiad dros dro pobl i gyrchfannau y tu allan i'r mannau lle maent yn arfer byw a gweithio a'r gweithgareddau yn ystod eu harhosiad yn y cyrchfannau hyn". Gall y diffiniad felly gynnwys teithio ac ymweliadau at ddibenion busnes, proffesiynol a domestig, yn ogystal ag ar gyfer gwyliau a hamdden. Mae'n cynnwys nid yn unig gwyliau teulu ond hefyd ymweliadau byrrach, seibiant dros benwythnos a theithiau diwrnod.

12.2 Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd ac economi'r Sir, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Yn 1997 derbyniodd Gogledd Cymru 3.5 miliwn o ymweliadau twristaidd gan breswylwyr gan arwain at 15.9 miliwn o nosweithiau a gwariant o £428 miliwn. Ceir 48,981 o wlâu gwyliau yn Sir Ddinbych yn unig. Mae'r diwydiant twristiaeth nid yn unig yn creu nifer fawr o ymwelwyr, cyflogaeth, trosiant/gwariant, ond hefyd mae'n ddefnyddiwr sylweddol ar dir ac adeiladau gan greu symudiadau traffig sylweddol.

12.3 Mae’r Sir yn meddu ar gymysgedd gyferbyniol o gyrchfannau twristaidd yn amrywio o'r trefi glan môr traddodiadol sef Y Rhyl a Phrestatyn i drefi marchnad a hanesyddol atyniadol y mewndir megis Llangollen, Dinbych a Rhuthun, sydd wedi'u lleoli mewn cefn gwlad hynod drawiadol a thirlun cyfoethog. Ceir Castell/Gwesty Bodelwyddan hefyd, sy'n sefyll ar ei ben ei hun mewn gerddi bendigedig yn ymyl yr A55 a Pharc Gwledig Tafarn y Gelyn ar yr A483 (Priffordd) ger yr Wyddgrug. Ar y cyd, maent yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr, am y dydd a rhai sy'n aros dros nos.

12.4 Un o dasgau'r CDU yw ceisio sicrhau cydbwysedd iach rhwng yr economi dwristaidd, y gymuned leol a'r amgylchedd. Wrth ystyried yr holl fwriadau ar gyfer datblygiadau twristaidd, rhoddir ystyriaeth i sicrhau bod datblygiadau mor gynnaladwy ag y bo modd.


12.5 TUEDDIADAU A DATBLYGIADAU

12.6 Mae'n rhaid i'r CDU roi ystyriaeth i'r tueddiadau cyfredol a'r tueddiadau yn y dyfodol, a'u harenwi, a lle bo hynny'n ymarferol ac yn ddymunol, rhoi lle i fwriadau mewn sectorau amrywiol sydd â goblygiadau o ran defnyddio/datblygu tir. Mae asesu tueddiadau mewn twristiaeth yn anodd iawn gan ei fod yn ddarostyngedig i newidiadau mewn marchnata, chwaeth a ffasiwn a ffactorau economaidd. Mae'n ymddangos bod y goblygiadau defnydd tir fel a ganlyn:-

  • newidiadau yn y farchnad yn arwain at safleoedd ac adeiladau gwag heb unrhyw ddefnyddiau economaidd;

  • galw cynyddol am ansawdd uwch o ran safonau datblygu, yr amgylchedd a chyfleusterau;

  • newid i ddull gwell o lety, o lety gyda gwasanaethau i hunanarlwyo;

  • creu gweithgareddau/cyfleusterau arbenigol newydd mewn ardaloedd atyniadol o amgylch -Oasis/Center Parcs;

  • datblygu gwestai cyllideb/arbenigol newydd - mewn trefi mawr neu ar eu cyrion,ar neu yn ymyl ffyrdd strategol.

  • yn seiliedig ar grwpiau mawr o adeiladau mewn ardal atyniadol.

  • pwysau ar gefn gwlad a'r arfordir am ddatblygiadau twristaidd a'r angen am warchod yr asedion bregus hyn

Y SIR

Yr Arfordir

12.7 Mae'r sôn am ddirywiad y dref wyliau lan môr Brydeinig yn gyfarwydd i ni i gyd. Mae'r gwaith o ailfarchnata, adfywio ac ailfodelu trefi gwyliau arfordirol Y Rhyl a Phrestatyn ar droed ers agor Heulfan Y Rhyl yn 1980. Mae'r cyflawniadau'n sylweddol, ond mae llawer o'r atyniadau a ffurfiau o lety (gwestai a thai lletya) wedi methu â goroesi. Mae'r rhai sydd yn wynebu amseroedd anrhagweladwy ac anodd efallai, tra bo atyniadau pob-tywydd a pharciau carafanau wedi parhau mewn cyflwr cymharol iach.

12.8 Bydd y broses hon o adfywio yn parhau ac mae llawer o waith i'w wneud eto. Mae angen mabwysiadu agwedd hyblyg a realistig wrth ymdrin â'r problemau a'r materion a wynebir, gan ddefnyddio strategaeth hirdymor ac ymrwymiad i greu diwydiant twristaidd arfordirol modern a newydd. Mae'r polisïau a'r bwriadau sy'n dilyn yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cael gwared o'r hen a chyflwyno'r newydd.

Y Mewndir

12.9 Mae'r cyfuniad o drefi marchnad atyniadol a hanesyddol mewn tirlun eithriadol yn darparu sylfaen ar gyfer marchnad dwristaidd fewndirol iach. Mae'r sector hwn o'r farchnad dwristaidd wedi bod yn tyfu'n raddol, yn arbennig ymhlith personau hŷn (grŵp cynyddol yn y farchnad dwristaidd) ac mae'n seiliedig yn aml ar wyliau byr a/neu deithiol. Mae'r Sir yn ffodus o feddu ar sawl tref o'r fath, ar hyd neu yn ymyl yr A525 yn gyffredinol - Rhuddlan, Llanelwy, Dinbych a Rhuthun ac ar yr A5, Llangollen. O'i datblygu'n sensitif, gyda gofal a sylw manwl, gellir defnyddio'r farchnad hon yn llwyddiannus.


12.10 POLISI CENEDLAETHOL A RHANBARTHOL

12.11 Mae'r Llywodraeth, yn genedlaethol ac yn lleol, yn ymrwymedig i annog twristiaeth a gwelliant mewn cyfleusterau twristaidd, gan hybu lledaeniad daearyddol a thymhorol a chan annog datblygu cyrchfannau anhraddodiadol, tra'n diogelu'r amgylchedd a buddiannau cymunedau lleol. Mae Polisi Cynllunio Cymru (2002) yn pwysleisio y dylai cynlluniau datblygu geisio rhoi lle i gyfleusterau a llety ar gyfer twristiaeth gael eu darparu. Yn ychwanegol at gefnogi llwyddiant parhaus yr ardaloedd twristaidd presennol, dylai cynlluniau annog datblygiadau masnachol priodol cysylltiedig â thwristiaeth mewn cyrchfannau newydd, yn cynnwys yr ardaloedd trefol presennol, mewn lleoliadau eraill a wasanaethir gan gludiant cyhoeddus ac mewn datblygiadau cysylltiedig â thwristiaeth ar raddfa fechan mewn ardaloedd gwledig.

12.12 Rôl y CDU yw ffurfio polisïau a bwriadau priodol er mwyn cyfarwyddo a rheoli'r datblygiad a'r defnydd o dir ac adeiladau at ddibenion twristaidd. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid deall cyfeiriad a ffurf twristiaeth yn y dyfodol cyn belled ag y mae'n berthnasol i dir ac adeiladau, yn ogystal â dyfroedd arfordirol a mewndirol.

12.13 Gan fod y CDU yn cynnwys cyfnod o 15 mlynedd, bydd raid i bolisïau a bwriadau cynllunio fod yn bositif, yn flaengar ac yn hyblyg er mwyn gwrthsefyll y newidiadau sy'n sicr o ddigwydd mewn twristiaeth yn ystod y cyfnod hwn. Bydd strategaeth dwristaidd y Sir yn cyfarwyddo byrdwn eang y polisïau cynllunio hyn, a all fod angen adolygiad cyfnodol a chyfarwyddyd cynllunio ategol er mwyn eu galluogi i wneud cyfraniad defnyddiol at ddatblygiad twristiaeth yn y dyfodol, tra ar yr un pryd, diogelu'r amgylchedd a'r dymunoldeb/ diwylliant lleol.


12.14 STRATEGAETH DWRISTAIDD

12.15 Fel rhan o Strategaeth Ddatblygu Economaidd ehangach y Sir o adfywio, arallgyfeirio a chryfhau, mae'n rhaid i dwristiaeth chwarae ei rhan. Gellir crynhoi strategaeth dwristaidd y Sir, sy'n debyg iawn i raddau helaeth i'r strategaeth a nodir yn 'Gwireddu ein Potensial', dogfen Bwrdd Croeso Cymru, fel a ganlyn:

i) Parhau i ad-drefnu ac adfywio'r diwydiant Trefi Gwyliau Glan Môr, gan ganolbwyntio ar Y Rhyl a Phrestatyn, drwy roi cyfleusterau a marchnadoedd newydd yn lle'r hen rai anymarferol a henffasiwn oddi mewn i ardal bresennol y dref wyliau draddodiadol.

ii) Hybu, datblygu a gwella'r trefi hanesyddol a marchnad drwy eu haddasu yn raddol gan sicrhau bob amser nad yw'r union asedion hynny eu hunain sy'n denu twristiaid yn cael eu difetha, eu difrodi neu'n diflannu o ganlyniad i ddatblygiadau amhriodol o ran graddfa, math ac effaith.

iii) Mwynhau cefn gwlad gan ddefnyddio trefi Sir Ddinbych fel canolfan, cyn belled na cheir unrhyw orddefnydd, gorddatblygiad neu ddatblygiad amhriodol, yn arbennig trwy wneud newidiadau bychain sy'n cael effaith gronnol annerbyniol.

12.16 Mae angen cyfarwyddyd parthed graddfa, math, lleoliad ac effaith y datblygiadau twristaidd. Oddi mewn i Strategaeth Ddatblygu Gyffredinol y CDU a strategaeth economaidd/dwristaidd ehangach y Cyngor, mae’n ddoeth:-

i) canolbwyntio yn gyffredinol ar fwriadau datblygu mawr, boed yn adeiladu o’r newydd, ailddatblygu neu drawsnewid, oddi mewn i brif aneddiadau; ac yna

ii) lleihau maint, graddfa ac effaith y bwriadau ar aneddiadau llai yn ôl cyfrannedd;

iii) sicrhau mai dim ond bwriadau ar raddfa lai sy’n briodol mewn cefn gwlad agored, yn seiliedig ar ystyriaethau cynhwysedd;

v) adolygu, dileu neu ffurfio polisïau a bwriadau newydd yn lle'r polisïau a'r bwriadau henffasiwn sy'n afrealistig yn fasnachol neu'n niweidiol yn amgylcheddol, er mwyn galluogi i ffurfiau newydd a gwell o dwristiaeth ffynnu.

12.17 Mae hefyd yn fwriad gan y Cyngor wneud defnydd llawn o'r cyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrwng statws Nod 1.


12.18 GWERTHUSIAD AMGYLCHEDDOL

12.19 Any tourism development is likely to generate significant car borne journeys and utilise resources and therefore score poorly. however, by locating major tourism development in existing tourist areas, particularly the coast, opportunities exist to use brownfield sites / buildings, combine trips, encourage the use of public transport and alternative means of travel and improve local environmental quality. Elsewhere, in the County, policies seek to ensure an appropriate scale, type and location of tourism development which minimises negative environmental effects.


12.20 POLISÏAU A BWRIADAU

Polisi TSM 1 - Datblygiadau Twristaidd

CANIATEIR DATBLYGIADAU TWRISTAIDD ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU GAN DDEFNYDDIO TIR AC ADEILADAU GWAG, SEGUR, A DANDDEFNYDDIR NEU ADFEILIEDIG CYN CHWILIO AM SAFLEOEDD MEWN MANNAU ERAILL. OS NAD OES CYFLEOEDD ADDAS AR GAEL ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU, DYFERNIR CANIATÂD AR GYFER:

i) TRAWSNEWID ADEILADAU PRESENNOL;

NEU

ii) ESTYNIAD AR YR ADEILADAU PRESENNOL SY’N RHAN O SEFYDLIAD TWRISTAIDD PRESENNOL;

iii) ADEILADAU NEWYDD LLE NAD YW TRAWSNEWIDIADAU NAC ESTYNIADAU’N YMARFEROL AR YR AMOD;

a) BOD Y BWRIAD AR RADDFA FECHAN AC YN ATEGOL I SEFYDLIAD TWRISTAIDD SY’N BODOLI EISOES A CHYDA PHERTHYNAS DDA AG ADEILADAU PRESENNOL;

b) BOD Y BWRIAD AR RADDFA, MATH A CYMERIAD SY’N PARCHU’R SAFLE A’I AMGYLCHEDD A CHYDA PHERTHYNAS DDA A’R ADEILADAU SY’N BODOLI EISOES;

c) NAD YW’R BWRIAD YN CALE EFFAITH NIWEIDIOL ANNERBYNIOL AR Y DYNODIADAU TIRLUN, YR ARDALOEDD O WERTH O SAFBWYNT CADWRAETH NATUR, Y TIR AMAETHYDDOL GORAU A MWYAF HYBLYG, RHAGFURIAU GWYRDD, CEFN GWLAD AGORED, YR ARFORDI HEB EI DDATBLYGU, TREFTADAETH ADEILEDIG NEU FUDDIANNAU ARCHEOLEGOL A THIRLUNIAU, PARCIAU A GERDDI HANESYDDOL.

BYDD DATBLYGIADAU TWRISTAIDD YN HYGYRCH, LLE BO MODD, DRWY AMRYWIOL FFYRDD O DEITHIO.

Mae'n bolisi cenedlaethol a lleol gan y llywodraeth, lle bo modd, i wneud y defnydd gorau o dir 'brown' ac adeiladau presennol segur/a danddefnyddir oddi mewn i ardaloedd adeiledig, cyn datblygu ar safleoedd gwyrdd ar gyrion ardaloedd o'r fath, neu mewn cefn gwlad agored. Dyna paham yr awgrymir defnyddio'r prawf 'dilyniannol' ar gyfer datblygiadau twristaidd, fel egwyddor gyfarwyddo hyblyg. Felly, mewn polisïau dilynol, bydd y pwyslais ar ddatblygiadau twristaidd newydd oddi mewn i ffiniau datblygu neu mewn ardaloedd gwledig drwy drawsnewid adeiladau presennol neu roi estyniad i adeiladau presennol os ydynt yn rhan o sefydliad twristaidd sy’n bodoli ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r polisi uchod yn cydnabod bod achosion lle gall adeiladau o’r newydd fod yn dderbyniol y tu allan i ffiniau datblygu gan nodi sawl maen prawf y byddai’n rhaid ei fodloni mewn achosion o’r fath.


Polisi TSM 2 - Ardaloedd Datblygiadau Twristaidd

CANIATEIR BWRIADAU DATBLYGU FEL RHEOL AR GYFER ADFYWIO A GWELLA TREFI GWYLIAU ARFORDIROL Y RHYL A PHRESTATYN ODDI MEWN I ARDALOEDD DATBLYGIADAU TWRISTAIDD PROMENÂD Y RHYL A THRAETH FFIRTH/GERDDI'R WŶL, PRESTATYN FEL A DDANGOSIR AR Y MAPIAU BWRIADAU.

MAE'R EITHRIADAU I'R POLISI CYFFREDINOL HWN FEL A GANLYN:

i) NID OES UNRHYW SAFLE ODDI MEWN I'R ARDALOEDD DATBLYGIADAU TWRISTAIDD I ROI LLE I'R MAINT/GRADDFA O DRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN FWRIAD DERBYNIOL FEL ARALL, A

ii) OHERWYDD EI NATUR, BYDD GAN Y BWRIAD OFYNION SAFLE/LLEOLIAD ARBENNIG.

BYDD ANGEN CYFIAWNHAD ARBENNIG FELLY DROS FWRIADAU O'R FATH Y TU ALLAN I'R ARDALOEDD HYNNY A ARENWIR.

Mae digon o le a chyfleoedd oddi mewn i'r ardaloedd sefydledig ar gyfer y rhan fwyaf o ffurfiau newydd o dwristiaeth. Dyma'r dull mwyaf rhesymol o adfywio'r trefi gwyliau gan osgoi tir o ansawdd uchel/dda a chadwraeth tirlun/natur. Mae hyn yn cynrychioli datblygiad cynnaladwy ac mae angen cyfiawnhau unrhyw fwriadau mawr y tu allan i'r ardaloedd hynny yn seiliedig ar anghenion safle penodol. Gwneir darpariaeth cyfyngedig ar gyfer datblygiadau twristaidd yn Nhraeth y T_r, Prestatyn hefyd (Polisi MDA 3).


Polisi TSM 3 - Datblygiadau Cysylltiedig â Thwristiaeth Mewn Trefi Hanesyddol a Marchnad

CANIATEIR DATBLYGIADAU CYSYLLTIEDIG Â THWRISTIAETH ODDI MEWN I FFINIAU ANHEDDOL TREFI HANESYDDOL A MARCHNAD RHUDDLAN, LLANELWY, LLANGOLLEN, DINBYCH A RHUTHUN AR YR AMOD:

i) BOD HYFYWEDD AC YMARFEROLDEB TREFI O'R FATH YN CAEL EU EHANGU A'U HYRWYDDO;

ii) NAD YW MAINT, GRADDFA, MATH NAC EFFAITH BWRIADAU O'R FATH YN GWNEUD UNRHYW NIWED I ANSAWDD A CHYMERIAD Y DREF, GAN HYRWYDDO:

a) EU SWYDDOGAETH ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL;

b) ANSAWDD A CHYMERIAD YR ADEILADAU, Y STRYDOEDD, Y GOFOD A'R AMGYLCHEDD ADEILEDIG YN GYFFREDINOL;

c) ARBENIGRWYDD LLEOL CANOL Y DREF/Y PATRWM O ANEDDIADAU;

d) Y RHWYDWAITH O BRIFFYRDD LLEOL, YN CYNNWYS HOLL DDEFNYDDWYR Y BRIFFORDD.

BYDD YN OFYNNOL I'R DATBLYGIADAU A GANIATEIR GYDYMFFURFIO Â'R SAFONAU UCHEL PARTHED LLUNWEDD, DYLUNIAD A DEUNYDDIAU.

Ni ddylai'r angen am hybu twristiaeth fod ar draul peri niwed i'r asedion hynny, sy'n fregus ac yn sensitif, sy'n denu twristiaid. Mae angen cymryd gofal mawr i sicrhau bod bwriadau o'r fath yn gynnaladwy yn yr hirdymor o safbwynt twristiaeth, cadwraeth a'r gymuned leol. Gellir cael yfarwyddyd pellach yng nghyfres gymeradwy'r Cyngor o Gyfarwyddyd Cynllunio Ategol sy'n cynnwys gwerthusiadau Cadwraeth Natur a briffiau datblygu safle.


Polisi TSM 4 - Datblygiadau Cysylltiedig â Thwristiaeth yn Llangollen

CANIATEIR DATBLYGIADAU CYSYLLTIEDIG Â THWRISTIAETH YN LLANGOLLEN OS YDYNT YN GWARCHOD/HYRWYDDO SAFLE'R DREF YN Y TIRLUN AC YN CYFRANNU AT, NEU’N GWELLA EI HAPÊL DWRISTAIDD, YN ARBENNIG:

i) CYNYDDU/GWELLA NIFER AC ANSAWDD Y LLETY GWYLIAU, YN ARBENNIG FFLATIAU GWYLIAU HUNANARLWYO, CYFLEUSTERAU EN SUITE A CHYFLEUSTERAU AR GYFER POBL GYDAG ANABLEDDAU (TSM 7);

ii) DIOGELU A HYRWYDDO EI GORSAF REILFFORDD, Y TRAC A'R CYFLEUSTERAU ATEGOL, A'R BWRIAD O ROI ESTYNIAD I'R LLINELL O GARROG I GORWEN (FEL A NODIR YM MHOLISI TRA 12);

iii) DIOGELU A HYRWYDDO'R GAMLAS A'I CHYFLEUSTERAU CYSYLLTIEDIG (POLISI TSM 18);

iv) I WELLA HYGYRCHEDD DRWY AMRYWIAETH O DDULLIAU O GLUDIANT A GWELLA AMODAU AR GYFER CERBYDAU, BEICWYR A CHERDDWYR DRWY FESURAU MEGIS MESURAU RHEOLI A THAWELU TRAFFIG, STRATEGAETHAU A RHEOLAETH BARCIO, YN CYNNWYS PARCIO A REID LLE BO HYNNY’N BRIODOL A CHYNLLUNIAU NEU FENTRAU AR GYFER CLUDIANT CYHOEDDUS, BEICIO NEU GERDDED;.

Mae Llangollen yn meddu ar gymysgedd arbennig o atyniadau yn ogystal ag anawsterau gyda'r rhwydwaith lleol o briffydd, mynediad a thopograffi sydd angen triniaeth arbennig a gofal. Wrth asesu bwriadau datblygu, rhoddir ystyriaeth i gynhwysedd Llangollen i allu rhoi lle i ddatblygiadau twristaidd pellach o safbwynt ansawdd y tirlun, cadwraeth natur, dymunoldeb ac amodau traffig. Mae'r polisi uchod yn ceisio sicrhau lle arbennig i Langollen ym mywyd a datblygiad twristaidd Sir Ddinbych.


Polisi TSM 5 – Twristiaeth Wledig

CANIATEIR BWRIADAU I DDATBLYGU A GWELLA TWRISTIAETH WLEDIG MEWN PERTHYNAS Â PHRIF BENTREFI A PHENTREFI, AC YNG NGHEFN GWLAD, OS YN BENNAF SEILIEDIG AR DDEFNYDDIO, AILDDEFNYDDIO NEU DRAWSNEWID ADEILADAU SY’N BODOLI EISOES, AR YR AMOD BOD Y BWRIADAU:

i) MEWN CEFN GLWAD AGORED, YN YMWNEUD AG ADEILAD SAERNÏOL GADARN (GYDA CHEFNOGAETH ADRODDIAD SAERNÏOL ANNIBYNNOL LLE BO ANGEN) HEB ANGEN UNRHYW WAITH AILADEILADU MAWR SY'N GYFYSTYR Â CHODI ADEILAD NEWYDD; A

ii) O RADDFA, MATH A CHYMERIAD SYDD:

a) YN CADW UNRHYW NODWEDDION CYNHENID O BWYS YN YR ADEILAD;

b) YN DIOGELU'R NODWEDDION CYMDEITHASOL, CYMUNEDOL A DIWYLLIANNOL SENSITIF YN AML, A HEB FOD Y TU HWNT I ALLU'R ARDAL I ROI LLE I FWRIADAU O'R FATH YN RHESYMOL;

c) HEB FOD YN FWY NA CHYNHWYSEDD Y SAFLE A'R ARDAL O AMGYLCH O SAFBWYNT DYMUNOLDEB, TIRLUNIO, BUDDIANNAU AMGYLCHEDDOL A'R RHWYDWAITH LLEOL O FFYRDD;

d) YN GYMHARUS Â'R DEFNYDDIAU TIR O AMGYLCH A CHYMERIAD YR ARDAL

iii) WEDI'U CYNNWYS YN FRAS YM MAINT/GRADDFA GYFFREDINOL YR ADEILAD(AU) A'I FUARTH;

iv) YN FWRIADAU NAD YDYNT YN CYNNWYS COLLI ANNEDD YMARFEROL.

Ceir llawer o gyfleoedd twristaidd ledled yr ardaloedd gwledig i gyd ar gyfer trawsnewid adeiladau presennol. Cyn belled â bod bwriadau o'r fath yn aros yn gyffredinol gymedrol, heb dyfu yn fwy na'r dechrau cymedrol, gallant wneud cyfraniad hynod werthfawr tuag at gymuned ac amgylchedd yr economi leol. Mae hyn o gymorth hefyd drwy:

i) warchod enghreifftiau o bensaernïaeth leol yn ogystal ag enghreifftiau o ddiddordeb pensaernïol/hanesyddol arbennig;

ii) greu cyfleoedd cyflogaeth lleol wrth drawsnewid adeilad a'r busnes sy'n dilyn;

iii) gefnogi gwasanaethau lleol sy'n cyfrannau at hyfywedd a ffyniant bywyd gwledig.


Polisi TSM 6 – Arallgyfeirio ar Ffermydd

CANIATEIR DATBLYGIADAU TWRISTAIDD AR FFERMYDD, YN CYNNWYS TRAWSNEWID ADEILADAU GWLEDIG, SY'N ARALLGYFEIRIO HYFYWEDD Y FFERM DRWY GYFRWNG ATYNIADAU A LLETY, AR YR AMOD:

i) BOD Y DEFNYDD TWRISTAIDD YN EILRADD NEU'N ATEGOL I'R PRIF DDEFNYDD O'R FENTER FFERMIO O SAFBWYNT DEFNYDD TIR / YSTYRIAETHAU CYNLLUNIO;

ii) NAD YW'R DWRISTIAETH YN GWNEUD NIWED ANNERBYNIOL I EFFEITHLONRWYDD YR UNED FFERMIO A'R DULL O'I GWEITHREDU YN BARHAOL AC YN YR HIRDYMOR;

iii) NA CHOLLIR DARN SYLWEDDOL O DIR AMAETHYDDOL GORAU A MWYAF AMRYDDAWN AC AR YR AMOD NA WNEIR UNRHYW NIWED I FUDDIANNAU CADWRAETH TIRLUN NEU NATUR;

iv) BOD BWRIADAU AR GYFER TRAWSNEWIDIADAU YN DEFNYDDIO ADEILADAU SY’N BODOLI EISOES, HEB ARWAIN AT FWRIADAU I GODI ADEILADAU YN EU LLE MEWN MAN ARALL, A ALLAI GAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR YR ARDAL (TRAFFIG, SŴN, MYGDARTH, GWEITHGARWCH;

v) BOD Y CYNLLUN TRAWSNEWID YN CADW, GYDAG UNRHYW ADDASIADAU, NODWEDDION CYNHENID YR ADEILAD NEU'R GRŴP O ADEILADAU;

vi) PARCHU ANSAWDD HANESYDDOL/BENSAERNÏOL/GYNHENID LEOL YR ADEILADAU.

CANIATEIR ADWERTHU AR FFERMYDD AR YR AMOD EI FOD:

  • YN BODLONI'R MEINI PRAWF UCHOD;

  • YN GYMHARUS Â, AC YN ATEGOL I NAILL AI'R GWEITHREDIADAU FFERMIO NEU'R GWEITHGARWCH ARALLGYFEIRIO AR Y FFERM;

  • AR RADDFA FECHAN; YN CAEL EI GYNNAL ODDI MEWN I ADEILAD FFERM SY'N BODOLI EIESOES;

  • YN DDERBYNIOL WRTH YSTYRIED NIWED I HYFYWEDD AC YMARFEROLDEB CANOLFANNAU SY'N BODOLI EISOES, YN CYNNWYS UNRHYW NIWED I SWYDDOGAETH ADWERTHU/WASANAETHU PENTREFI CYFAGOS.

Mae dulliau o ffermio, ac economeg hynny, wedi newid ac fe fyddant yn parhau i newid. Mae hyn wedi peri i dir fferm a grwpiau o adeiladau fferm fod yn llai ymarferol ac mewn angen am ddefnydd buddiol.

Mae'n rhaid i'r CDU roi ystyriaeth i'r newidiadau hyn a gwneud y defnydd gorau o unrhyw nodweddion segur gan roi sylw hefyd i ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol perthnasol. Nid gadael i'r nodweddion hyn beidio â chael eu defnyddio a dirywio, dadfeilio a mynd i gyflwr drwg iawn yw'r nod. Cyn belled ag y sicrheir mesurau diogelwch addas, croesewir bwriadau ar gyfer gwneud defnydd da o dir/adeiladau o'r fath.

Dylai siopau fferm fod yn fychan o ran maint ac yn gyfyngedig i werthu cynnyrch naill ai o'r ddaliadaeth unigol neu o'r ardal yn union o amgylch. Gall sefydliadau adwerthu bychain fod yn dderbyniol hefyd fel rhan o weithgareddau arallgyfeirio ar fferm, e.e. pysgota, crefftau etc. Nid yw'r Cyngor am weld siopau ffarm o'r fath yn datblygu yn unedau adwerthu mawr sy'n creu problemau gweledol, traffig a pharcio neu sy'n cael effaith niweidiol ar siopau pentref lleol a chanolfannau siopa rhanbarthol. Mae'n anodd diffinio "bychan" oherwydd bydd hyn yn dibynnu ar sawl ffactor yn cynnwys y math o gynnyrch a'i berthynas â gweithredu'r fferm, graddfa, llunwedd a ffurf yr adeiladau, y nifer a'r math o symudiadau cerbydol a grëir etc.


Polisi TSM 7 – Llety Gwyliau Gyda Gwasanaethau

CANIATEIR DATBLYGU GWESTAI A THAI LLETYA AR FFURF:

i) ADEILADAU NEWYDD ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU, NEU AR SAFLEOEDD A NEILLTUWYD YN BENODOL;

ii) ESTYNIADAU I SAFLEOEDD PRESENNOL;

iii)TRAWSNEWID ADEILADAU/EIDDO ADDAS;

AR YR AMOD:

a) NAD YW'R BWRIAD YN ARWAIN AT ORDDATBLYGU O GANLYNIAD I'R FFAITH BOD YR ADEILAD AR RADDFA RHY FAWR AC YN LLAWER MWY NA'R ADEILADAU CYFAGOS, NEU AM FOD GORMOD O WLÂU A/NEU GYFLEUSTERAU ERAILL YN PERTHYN IDDO NEU AM EI FOD YN ANNIGONOL IAWN O SAFBWYNT EI DDARPARIAETH WASANAETHU A PHARCIO ODDI-AR-Y-STRYD;

b) NAD YW'R BWRIAD YN PERI NIWED ANNERBYNIOL I DDYMUNOLDEB LLEOL NEU BRESWYL O GANLYNIAD I SŴN, MYGDARTH, AFLONYDDWCH, GWEITHGARWCH, ORIAU HWYR, TRAFFIG A THAGFEYDD.

Mae llety gwyliau gyda gwasanaethau ar ffurf gwestai a thai lletya (ac i raddau llai, sefydliadau gwely a brecwast) yn gwneud cyfraniad hanfodol tuag at yr amrywiaeth o lety gwyliau sydd ar gael i ymwelwyr. Dylid croesawu'r bwriadau i ehangu a gwella nifer ac ansawdd yr amrediad hwn, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf defnydd tir rhesymol a nodir yn a) a b) uchod.

Ceir diffyg gwesty cynhadledd canolig/mawr i gefnogi'r sector pwysig hwn o'r economi yn y Sir yn gyffredinol ac ar yr Arfordir yn arbennig. Mae caniatâd cynllunio yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer gwesty cynhadledd ger yr Heulfan/ Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl. Rhoddir ystyriaeth i fwriadau eraill ar gyfer datblygu gwesty tebyg gan y polisi hwn.


Polisi TSM 8 – Diogelu'r Llety Presennol Sydd â Gwasanaethau

CANIATEIR NEWID Y DEFNYDD O LETY PRESENNOL SYDD Â GWASANAETHAU AR YR AMOD BOD UN NEU FWY O'R MEINI PRAWF A GANLYN YN CAEL EU BODLONI :

i) MAE HANES CYNLLUNIO'R SAFLE YN EI GWNEUD YN AFRESYMOL I WEITHREDU FEL ARALL;

ii) MAE MAINT, PATRWM FFISEGOL A RHWYSTRAU ERAILL YR ADEILAD A'I ADEILADAU CYFAGOS YN EI GWNEID YN ANODD AC YN ANECONOMAIDD I ADDASU AC UWCHRADDIO I GWRDD Â GALW'R FARCHNAD FODERN;

iii) MAE'R BUSNES WEDI METHU Â GWEITHREDU'N LLWYDDIANNUS FEL GWESTY/TŶ LLETYA, MAE WEDI CAEL EI FARCHNATA'N DDIFLINO OND YN AFLWYDDIANNUS ER MWYN EI WERTHU AM BRIS RHESYMOL AC MAE WEDI METHU Â SICRHAU BUDDSODDIAD A/NEU GYMORTH GRANT AR GYFER GWAITH ATGYWEIRIO, GWELLA AC UWCHRADDIO PRIODOL;

iv) NID YW'R EIDDO YN GORWEDD ODDI MEWN I GLWSTWR PWYSIG/ ALLWEDDOL O DDEFNYDDIAU LLETY GYDA GWASANAETHAU (YN CYNNWYS Y RHAI A DDANGOSIR AR Y MAP BWRIADAU MEWNOSOD) A YSTYRIR YN HANFODOL I'W GWARCHOD GAN YR ACLl FEL RHAN O'I YMRWYMIAD I STRATEGAETH DWRISTAIDD HIRDYMOR A CHADW AMRYWIAETH DIGONOL O LETY GWYLIAU.

OS YW CANIATÂD YN DEBYGOL O GAEL EI DDYFARNU AR SAIL (I) - (IV) UCHOD, DYLAI'R DEFNYDD NEWYDD YN Y DYFODOL FOD YN FUDDIOL I A/NEU BEIDIO Â CHAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR Y POLISÏAU CYNLLUNIO CYFFREDINOL NAC AR GYMERIAD YR ARDAL YN UNION O AMGYLCH, YN ARBENNIG OS MAI'R AMCAN YW DARPARU AMGYLCHEDD SEFYDLOG A LEFELAU DERBYNIOL O DDYMUNOLDEB PRESWYL. DYLID YSTYRIED BWRIADAU AR GYFER LLETY GWYLIAU HUNANWASANAETH YN ERBYN POLISI TSM 15.

Fel rhan o'u cyfraniad i dwristiaeth ac er lles datblygiad ac adfywiad yr economi leol yn yr hirdymor, dylid cynnal amrywiaeth lleiafswm o lety gwyliau er mwyn cwrdd â gofynion amrywiol twristiaid. Mae'r Cyngor (a'i ragflaenydd) wedi edrych i'r hirdymor ac wedi buddsoddi'n drwm mewn prosiectau a mentrau ar gyfer cyfleusterau twristaidd newydd. Byddai'n amhriodol os na fyddai'n mabwysiadu agwedd realistig a hirdymor parthed llety gwyliau. Fodd bynnag, mae'r stoc bresennol o lety gyda gwasanaethau wedi dirywio'n raddol mewn rhai ardaloedd, i lefelau isel iawn ble ystyrir gwarchodaeth yn hanfodol.

Ni all polisïau defnydd tir gadw busnesau anymarferol ar agor na chefnogi marchnadoedd anymarferol yn yr hirdymor. Byddai hynny ond yn arwain at eiddo gwag, dirywiedig wedi'u bordio - arwydd yn aml o ddirywiad pellach. A siarad yn gyffredinol, fodd bynnag, mae'n bolisi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i warchod defnyddiau o'r fath lle bo hynny'n rhesymol bosibl ac yn arbennig mewn pocedi neu glystyrau bychain lle credir ei bod yn hanfodol cadw clystyrau o'r fath er budd hirdymor. Fel arall, mae'r polisi yn ddigon realistig a hyblyg ledled y Sir i ganiatáu newidiadau i ddefnyddiau buddiol ac addas eraill.


Polisi TSM 9 – Safleoedd Carafanau Statig a Chabanau Gwyliau

CANIATEIR SAFLEOEDD NEWYDD AR GYFER CARAFANAU STATIG A/NEU GABANAU GWYLIAU LLE BODLONIR Y MEINI PRAWF A GANLYN:

i) MAE'R SAFLE YN HYGYRCH I RWYDWAITH DIGONOL O BRIFFYRDD LLEOL AC MAE MODD EI GYRRAEDD GAN DDEFNYDDIO DEWIS O DDULLIAU CLUDIANT;

ii) GELLIR LLEOLI'R SAFLE HEB IDDO FOD YN ORAMLWG A'I GYDWEDDU'N LLWYR Â'R TIRLUN;

iii) NID YW’R BWRIAD YN GWNEUD NIWED ANNERBYNIOL I: YR AHNE, YR AHE, TIRLUNIAU/ GERDDI HANESYDDOL, ARDALOEDD CADWRAETH, ARFORDIR HEB EI DDATBLYGU, TIR AMAETHYDDOL DA, ARDALOEDD O WERTH TIRLUNIOL LLEOL, SoDdGA'oedd NEU SAFLEOEDD BYWYD GWYLLT LLEOL, YN CYNNWYS Y RHAI A ARENWIR AC A DDANGOSIR AR Y MAPIAU BWRIADAU.

Er yn ffurf boblogaidd a ffyniannus o lety gwyliau twristaidd, mae'r Sir wedi'i gwasanaethu'n dda eisoes, os nad â gorddarpariaeth ar yr arfordir o ddefnyddiau o'r fath, gyda llawer ohonynt yn edrych yn ddigon diolwg ac yn oramlwg. Mae'n dra annhebygol y bydd achos dros gyfiawnhau safleoedd newydd, hyd yn oed yn yr ardaloedd mewndirol. Mae'n anodd lleoli parciau carafanau statig a chabanau gwyliau mawr ac maent yn ymestyn dros ardaloedd mawr iawn, gan amharu ar safon y tirlun.

Diffinnir 'Carafan' gan Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 fel "unrhyw strwythur sydd wedi'i gynllunio a'i addasu i bobl fyw ynddo ac y gellir ei symud o un lle i'r llall (drwy gael ei lusgo, neu ei gludo ar gerbyd modur neu drelar) ac unrhyw gerbyd modur sydd wedi'i ddylunio felly, ond nid yw'n cynnwys (a) unrhyw stoc reilffordd sydd, ar hyn o bryd, ar gledrau ac yn ffurfio rhan o system reilffordd, neu (b) unrhyw babell." (See Supplementary Planning Guide)


Polisi TSM 10 – Estyniadau ar / Gwelliannau i Safleoedd Carafanau Statig a Chabanau Gwyliau Presennol

CANIATEIR ESTYNIADAU CYMEDROL AR, A GWELLIANNAU CYMEDROL I SAFLEOEDD CARAFANAU STATIG A CHABANAU GWYLIAU PRESENNOL AR YR AMOD:

i) BOD Y BWRIAD YN GWELLA AMRYWIAETH, CYFLEUSTERAU AC ANSAWDD Y LLETY TWRISTAIDD YN YR ARDAL;

ii) BOD Y BWRIAD YN ARWAIN AT WELLIANT ARWYDDOCAOL A PHARHAOL I ANSAWDD, YMDDANGOSIAD AC AMGYLCHEDD Y SAFLE, A'R ARDAL YN UNION O'I AMGYLCH;

iii) BOD Y BWRIAD YN ARWAIN AT LEIHAD YN YR EFFAITH AR Y TIRLUN/ TREFLUN O AMGYLCH, YN ARBENNIG YR AHNE/AHE;

iv) BOD Y BWRIAD YN DDERBYNIOL O RAN GRADDFA MEWN PERTHYNAS Â'R SAFLE A'R ARDAL BRESENNOL, HEB DDEFNYDDIO TIR NEU EIDDO A WARCHODIR NEU A ARENWIR AT DDIBENION HANFODOL ERAILL YM MHOLISÏAU ERAILL Y CYNLLUN;

v) NAD YW'R BWRIAD YN CAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR DDYMUNOLDEB PRESWYL, TIRLUN, AMAETHYDDIAETH, CADWRAETH NATUR NEU YSTYRIAETHAU TRAFFIG.

Mae sawl parc carafanau a chabanau a sefydlwyd ers nifer o flynyddoedd yn ymddangos yn ddigon diolwg a blêr yn aml wrth edrych o'r tu mewn a'r tu allan i fuarth y safle, yn arbennig y rhai hynaf ar hyd yr arfordir. Mae rhai safleoedd yn cael eu gwella o hyd, ac fe groesewir hyn. Mae safleoedd eraill mewn angen dybryd am eu gwella a'u huwchraddio. Mae'r polisi hwn yn galluogi i'r gwelliannau hyn y mae eu gwir angen gael eu gwneud. Ystyrir ‘Cymedrol’, yn ôl synnwyr y fawd, fel dim mwy na +10% o ardal/buarth tir presennol y safle. Fodd bynnag, mae cymedrol yn anodd i’w ddiffinio a bydd yn dibynnu ar sawl ffactor yn cynnwys maint a natur y safle, ei amgylchedd, nifer a dwysedd yr unedau a pha mor dderbyniol yw’r bwriad o safbwynt nifer a dwysedd yr unedau, y gwaith tirlunio a’r gwelliannau amgylcheddol a gyflwynir. Mae'r polisi ar gyfer estyniadau "un tro" ac nid estyniadau cronnol nad ydynt yn gwella'r safle a'r ardal yn gyffredinol.


Polisi TSM 11 – Ailddatblygu a Newid y Defnydd o Safleoedd Carafanau Statig Bychain

ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU, CANIATEIR NEWID Y DEFNYDD O SAFLEOEDD CARAFANAU STATIG BYCHAIN AC ANYMARFEROL SYDD MEWN LLEOLIAD GWAEL MEWN ARDALOEDD TREFOL, AR YR AMOD:

i) NAD YW'R GOLLED YN CYNRYCHIOLI LLEIHAD ARWYDDOCAOL YN Y NIFER A'R AMREDIAD O LETY GWYLIAU YN YR ARDAL GAN GAEL EFFAITH NIWEIDIOL AR YR ECONOMI DWRISTAIDD LEOL;

ii) BOD Y DEFNYDD NEWYDD YN GYSYLLTIEDIG, Â AC YN CYDYMFFURFIO Â'R PRIF BATRWM DEFNYDD TIR A CHYMERIAD YR ARDAL, HEB EFFEITHIO'N ANNERBYNIOL AR Y CYMERIAD HWNNW O GANLYNIAD I SŴN, AFLONYDDWCH, GWEITHGARWCH CYFFREDINOL, MYGDARTH/AROGL A'R EFFAITH AR Y RHWYDWAITH O BRIFFYRDD LLEOL;

iii) NAD YW'R BWRIAD YN ARWAIN AT ORDDEFNYDD NEU ORDDATBLYGU OHERWYDD Y RADDFA A'R MATH O DDATBLYGIAD.

Ceir nifer o safleoedd carafanau statig cymharol fach (llai nag 1 hectar) yn y Sir o hyd. Dros gyfnod o amser, gall amgylchiadau a'r farchnad garafanau statig yn gyffredinol ac yn lleol arwain at eu cau ac at fwriadau ar gyfer newid y defnydd i ddefnyddiau mwy buddiol. Mae rhai o'r rhain wedi'u lleoli naill yn yr ardaloedd preswyl yn bennaf neu'r ardaloedd masnachol cyffredinol. O ganlyniad, byddai eu defnyddio ar gyfer datblygiadau preswyl neu fasnachol fel sy'n briodol i'r defnydd tir o amgylch yn dderbyniol fel rheol, mewn egwyddor.


Polisi TSM 12 – Safleoedd Carafanau Teithiol

CANIATEIR SAFLEOEDD CARAFANAU TEITHIOL NEWYDD AC ESTYNIADAU I RAI SY'N BODOLI EISOES AR YR AMOD:

i) BOD Y SAFLE YN ANYMWTHIOL AC WEDI'I GUDDIO'N DDA GAN NODWEDDION NATURIOL/TIRLUNIOL ERAILL, A/NEU BOD MODD EI GYDWEDDU YN HAWDD Â'R TIRLUN HEB YMDDANGOS YN ORAMLWG NEU'N DDIEITHR O GWBL, YN ARBENNIG YN YR AHNE/AHE;

ii) BOD Y SAFLE YN AGOS I AC YN HYGYRCH I'R RHWYDWAITH O BRIFFYRDD LLEOL, HEB WNEUD ADDASIADAU ARWYDDOCAOL NEU AMHRIODOL I'R PRIFFYRDD SY'N DIFETHA NEU'N DISTRYWIO CYMERIAD Y RHWYDWAITH LLEOL O BRIFFYRDD;

iii) BOD ANSAWDD CYFFREDINOL Y DATBLYGIAD O'R SAFON UCHEL O RAN DYLUNIAD, LLUNWEDD AC YMDDANGOSIAD WRTH EDRYCH ARNO O'R TU MEWN A'R TU ALLAN I'R SAFLE;

iv) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR YR ARDAL O

AMGYLCH O RAN:

a) SŴN, AFLONYDDWCH, MYGDARTH/AROGL NEU NIWSANS ARALL;

b) YSTYRIAETHAU TIRLUNIOL, AMAETHYDDOL A CHADWRAETH NATUR.

v) BOD Y SAFLE'N CAEL EI DDEFNYDDIO AT DDIBENION TEITHIO YN UNIG A BOD UNRHYW FANIAU TEITHIOL YN CAEL EU SYMUD O'R SAFLE YN YSTOD Y CYFNODAU PAN NAD YDYNT YN CAEL EU DEFNYDDIO. DYLAI'R SAFLE FOD YN WAG YN YSTOD Y CYFNOD RHWNG 1AF TACHWEDD I 31AIN MAWRTH ONI BAI FOD CANIATÂD CYNLLUNIO PENODOL WEDI'I DDYFARNU YMLAEN LLAW.

MAE TIR WEDI CAEL EI NEILLTUO YN FFORDD MARSH, RHUDDLAN AR GYFER SAFLE CARAFANAU TEITHIOL PELLACH.


Polisi TSM 13 – Storio Carafanau Dros y Gaeaf

CANIATEIR STORIO CARAFANAU TEITHIOL Y TU ALLAN I'R TYMOR AR YR AMOD:

i) BOD Y SAFLE AR RADDFA FECHAN AC WEDI'I GUDDIO;

ii) BOD Y CARAFANAU'N WAG, HEB GAEL EU DEFNYDDIO;

iii) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR Y TREFLUN NEU'R   TIRLUN, YN ARBENNIG YR AHNE/AHE.

Mae carafanau teithiol yn ffurf boblogaidd o lety gwyliau gan esgor ar fanteision economaidd sylweddol yn yr ardal. Fodd bynnag, gallant greu anawsterau os cânt eu lleoli'n beryglus ac mewn safle amlwg ar y ffordd, mewn cilfannau neu mewn safleoedd gwag eraill. Cyn belled â bod y safleoedd a ddarperir ar eu cyfer yn gyfyngedig ac wedi'u lleoli, eu cuddio a'u cynllunio'n dda, gellir rhoi lle iddynt yn rhwydd yn y tirlun a'u cydweddu â'r tirlun hefyd. Mae galw lleol wedi cael ei arenwi yn Rhuthun yn ogystal ag yn ardal Y Rhyl/Rhuddlan.


Polisi TSM 14 – Harbwr Foryd/Ocean Beach, Y Rhyl

CANIATEIR BWRIADAU SY'N CYNNWYS ATYNIADAU, LLETY NEU ISADEILEDD AR GYFER AILDDATBLYGU ARDAL HARBWR FORYD/OCEAN BEACH YN Y RHYL, FEL A DDANGOSIR AR Y MAP BWRIADAU AR GYFER Y RHYL FEL 'ARDAL DATBLYGIAD CYMYSG PWYSIG', AR YR AMOD:

i) EU BOD YN ARWAIN AT WELLIANT CYFFREDINOL YN APÊL AC ATYNIAD TWRISTAIDD YR ARDAL;

ii) EU BOD YN CYNNWYS ASESIAD O'R EFFAITH ECONOMAIDD, GYMDEITHASOL, WELEDOL AC AMGYLCHEDDOL, AC EFFAITH TRAFFIG AR YR ARDAL, AR AC ODDI AR Y SAFLE, GAN GYNNWYS CAMAU I DDILEU NEU LEDDFU UNRHYW EFFEITHIAU ANNERBYNIOL ER BODLONRWYDD YR ACLl.

Mae adfywiad Y Rhyl fel tref wyliau yn nod cadarn a hirdymor gan y Cyngor. Byddai gwella ac uwchraddio ardal Harbwr Foryd/Ocean Beach, gan ehangu apêl ac atyniad Y Rhyl yn cael ei gefnogi fel rhan o'r adfywiad hwnnw, yn ddarostyngedig i'w effeithiau economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol derbyniol, a'i effaith ar draffig. Efallai y gwrthodir unrhyw fwriadau ar raddfa fechan neu fesul darn, a allai wneud drwg i unrhyw fwriadau cadarn, ar sail y ffaith eu bod yn gynamserol. Bernir unrhyw fwriadau sy'n ymwneud â datblygiadau morol yn erbyn Polisi CPZ 8.


Polisi TSM 15 – Llety Gwyliau Hunanwasanaeth

A) ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU

CANIATEIR BWRIADAU AR GYFER ADEILADAU NEWYDD NEU NEWID Y DEFNYDD O, A THRAWSNEWID EIDDO YN LLETY GWYLIAU HUNANWASANAETH AR YR AMOD:

i) BOD Y BWRIAD WEDI'I LEOLI MEWN ARDALOEDD LLE MAE'R PRIF DDEFNYDD YN CYDWEDDU Â'R LLETY GWYLIAU;

ii) NAD YW'R BWRIAD WEDI'I LEOLI MEWN ARDALOEDD PRESWYL PREIFAT YN BENNAF LLE MAE'N DEBYGOL O BERI NIWSANS AFRESYMOL A LEFEL O WEITHGARWCH FYDD YN CAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR GYMERIAD A DYMUNOLDEB PRESWYL YR ARDAL YN UNION O AMGYLCH;

iii) BOD Y LLETY A DDARPERIR YN GWBL HUNANGYNHWYSOL AC YN CWRDD Â SAFONAU CYMERADWY'R CYNGOR PARTHED LLUNWEDD, GOFOD A CHYFLEUSTERAU;

iv) BOD Y GWAITH TRAWSNEWID YN CADW CYMERIAD/PENSAERNÏAETH LEOL Y GRŴP ADEILADU;

v) NAD YW NIFER YR UNEDAU LLETY A FWRIEDIR YN ARWAIN AT ORDDATBLYGU'R SAFLE, NAC YN CAEL EFFAITH GRONNOL ANNERBYNIOL AR DDYMUNOLDEB CYFFREDINOL YR ARDAL O GANLYNIAD I WEITHGARWCH CYFFREDINOL, TRAFFIG/PARCIO (FEL YN (II) UCHOD).

B) Y TU ALLAN I FFINIAU DATBLYGU

CANIATEIR NEWID Y DEFNYDD O A/NEU DRAWSNEWID ADEILADAU PRESENNOL Y TU ALLAN I FFINIAU DATBLYGU YN LLETY TWRISTAIDD HUNANWASANAETH AR YR AMOD:

i) BOD YR ADEILAD YN SAERNÏOL GADARN AC YN GALLU DERBYN Y GWAITH TRAWSNEWID A WNEIR HEB FOD YN GYFYSTYR, MEWN GWIRIONEDD, Â CHODI ADEILAD NEWYDD;

ii) BOD Y GWAITH TRAWSNEWID YN CADW CYMERIAD/ PENSAERNÏAETH LEOL YR ADEILAD NEU'R GRŴP O ADEILADAU;

iii) BOD Y RHWYDWAITH O BRIFFYRDD O AMGYLCH O SAFON SY'N GALLU GWASANAETHU NATUR A DWYSEDD Y TRAFFIG A GREIR;

iv) BOD SAFONAU BODDHAOL O LETY MEWNOL AC ALLANOL YN CAEL EU DARPARU YN UNOL Â SAFONAU CYMERADWY'R CYNGOR PARTHED LLUNWEDD, GOFOD A CHYFLEUSTERA;

v) NAD YW NIFER YR UNEDAU LLETY A FWRIEDIR YN ARWAIN AT ORDDATBLYGU'R SAFLE, NAC YN CAEL EFFAITH GRONNOL ANNERBYNIOL AR DDYMUNOLDEB CYFFREDINOL Y GRŴP/ARDAL O GANLYNIAD I WEITHGARWCH CYFFREDINOL, TRAFFIG/PARCIO.

OS CANIATEIR DATBLYGIAD, GOSODIR AMOD YN SICRHAU Y BYDD YN CAEL EI DDEFNYDDIO AT DDIBENION GWYLIAU YN UNIG (AC NID AT DDEFNYDD PRESWYL PARHAOL).

Er mwyn sicrhau bod amrywiaeth priodol o fathau o lety gwyliau ar gael ar gyfer ei defnyddio fel rhan o'r cynnig twristaidd yn y Sir, mae'n ofynnol i bolisïau alluogi i fflatiau gwyliau cwbl hunangynhwysol gael eu darparu ledled y Sir, yn ddarostyngedig i rai meini prawf/amodau.

Ceir sgôp ar gyfer llety o’r fath ledled y Sir, ond yn arbennig yn Llangollen, trwy ddulliau amrywiol, boed adeiladu o’r newydd neu drwy drawsnewid eiddo fyddai’n wag fel arall. Er mwyn sicrhau eu bod yn gwasanaethu’r diben y’u bwriadwyd ac y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer, defnyddir amod(au) a eirir ac a weithredir yn briodol.


Polisi TSM 16 – Y Promenâd, Y Rhyl

CANIATEIR BWRIADAU AR GYFER DATBLYGU AC AILDDATBLYGU ARDAL DATBLYGIAD TWRISTAIDD PROMENÂD Y RHYL YMHELLACH AR YR AMOD:

i) EU BOD YN OFYNNOL ER MWYN CEFNOGI, CYNORTHWYO A HYRWYDDO'R ATYNIADAU A'R CYFLEUSTERAU PRESENNOL AC YN FFURFIO RHAN O FWRIAD AILDDATBLYGU MAWR, NEU'N CWBLHAU AILDDATBLYGIAD SY'N BODOLI EISOES;

ii) EU BOD YN DARPARU DULL BODDHAOL H.Y. DIOGEL O SYMUDIAD A MYNEDIAD AR GYFER CERDDWYR A CHERBYDAU GAN GYNNAL LLIF RHYDD O DRAFFIG CERBYDOL AR HYD RHODFA'R DWYRAIN A'R GORLLEWIN A LLIF RHYDD O GERDDWYR AR Y PROMENÂD EI HUN;

iii) EU BOD YN SEFYDLU CYSYLLTIADAU GYDA CHANOL Y DREF A RHODFEYDD Y DWYRAIN A'R GORLLEWIN.

iv) EU BOD YN BODLONI POLISÏAU CPZ 2 & 3

Gwelwyd newidiadau dramatig, ar ffurf datblygiadau ac ailddatblygiadau, mewn cyfnod byr o amser ym Mhromenâd Y Rhyl sy'n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych. Mae'n ymddangos yn addas yn awr i ailasesu ei rôl hirdymor, ei ffurf a'i ddatblygiad. Mae hyn er gwaetha'r ffaith ei fod yn 'anghyflawn' ar hyn o bryd fel a nodir yng 'Nghynllun Meistr y Promenâd' a baratowyd gan Derek Lovejoy a'i Bartneriaid a'i gymeradwyo fel syniad gan hen Gyngor Bwrdeistref Rhuddlan yn 1993.

Mae 'Cynllun Meistr y Promenâd' i gael ei drin nid fel ymrwymiad sefydlog a chadarn i ailddatblygu'r Promenâd, ond fel dim mwy na chanllaw cyffredinol. Bydd atyniadau/ cyfleusterau twristaidd newydd sy'n ymarferol ac yn ddychmygus yn cael eu hystyried a'u caniatáu yn ddarostyngedig i'r canllawiau polisi uchod, gan fynd â'r dref wyliau hon ymlaen i'r unfed ganrif ar hugain fel cyrchfan gynyddol fodern ac atyniadol gyda dyfodol hirdymor.


Polisi TSM 17 – Parth Adloniant, Y Rhyl

ODDI MEWN I'R PARTH ADLONIANT FEL A DDANGOSIR AR Y MAP BWRIADAU, CANIATEIR DATBLYGIADAU TWRISTAIDD, YN CYNNWYS ARCEDAU PEIRIANNAU CHWARAE, DEFNYDDIAU DOSBARTH A3, DOSBARTH D1 A DOSBARTH D2 (AC EITHRIO NEUADDAU DAWNS) (CYNLLUNIO GWLAD A THREF [GORCHYMYN DOSBARTHIADAU DEFNYDD] 1987) AR YR AMOD:

i) NA CHEIR UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR YR EIDDO CYFAGOS O GANLYNIAD I SŴN, AFLONYDDWCH, GWEITHGARWCH, ORIAU HWYR, TAGFEYDD TRAFFIG A PHROBLEMAU PARCIO;

ii) NA CHEIR EFFAITH ANNERBYNIOL AR LIF DIOGEL A RHYDD CERDDWYR AC OS OES MODD, GWELLA HYNNY DRWY DDATBLYGU AR HYD LLWYBR TROED RHODFA'R GORLLEWIN;

iii) BOD Y DEFNYDD AR GYFER ADLONIANT TEULUOL YN BENNAF (FEL A DDIFFINNIR ISOD);

iv) BOD Y BWRIAD YN ARWAIN AT DDEFNYDD BUDDIOL O LORIAU UCHAF EIDDO;

v) Y CYFYNGIR AR DDEFNYDDIAU A3 DRWY GYTUNDEBAU CYFREITHIOL ER MWYN ATAL NEWID Y DEFNYDD I SIOPAU DOSBARTH A1 A SWYDDFEYDD DOSBARTH A2.

MAE'N RHAID WRTH FANYLION AM Y CANLYNOL I GEFNOGI UNRHYW GEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO:

a) TRINIAETH WEDDLUNIOL ER MWYN OSGOI TALWYNEBAU MARW;

b) TREFNIANT MEWNOL YR ADEILAD MEWN PERTHYNAS Â BAR, BWYTY, LLAWR DAWNSIO;

c) DEFNYDD O LORIAU UCHAF;

d) ORIAU AGOR (FYDD YN DDAROSTYNGEDIG I AMOD WEDI'I EIRIO'N ADDAS).

Mae'r Dosbarthiadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd) fel a ganlyn yn fras:

A1 - Adwerthol / Siopau

A2 - Swyddfeydd

A3 - Caffis / Bwytai / Tafarndai etc.

D1 - Sefydliad Di-Breswyl ee: Neuadd Arddangos

D2 - Ymgynnull a Hamdden

Un duedd ddiweddar sy'n effeithio ar Y Rhyl ar hyn o bryd yw bod y fasnach gysylltiedig ag arcedau peiriannau chwarae yn newid gyda'r arcedau presennol yn ymddangos fel pe baent yn gostwng mewn nifer ond eto'n ehangu ac yn mynd yn fwy soffistigedig. Hefyd, nodweddir yr ardal gan unedau a/neu ddefnyddiau adwerthol gwag sy'n dod i'r amlwg yn ystod misoedd yr haf yn unig. Mae sgôp ar gyfer amrywiaeth eang o atyniadau twristaidd, yn arbennig atyniadau ar thema ar gyfer y teulu sy'n darparu ar gyfer plant o 0-12 oed, gan sicrhau amgylchedd diogel ac adloniannol a hefyd cynnig gwerth am arian. Er mwyn rhoi sylw i'r mater hwn, fe groesewir bwriadau ar gyfer newid y defnydd o arcedau presennol, hen arcedau ac unedau eraill yn yr ardal a arenwir, sy'n ehangu apêl ac atyniad yr ardal ar gyfer twristiaeth deuluol ac yn cynorthwyo gydag adfywio'r ardal, ar yr amod eu bod yn cwrdd â meini prawf y polisi. O ystyried y ddarpariaeth o ddefnyddiau difyrrwch ac adloniant yn yr ardaloedd dynodedig, a'r angen am warchod cyfleusterau mewn mannau eraill, ni chaniateir bwriadau ar gyfer defnyddiau difyrrwch/adloniant y tu allan i'r ardaloedd diffiniedig fel rheol.

Mae 'neuadd ddawns' yn ddefnydd oddi mewn i Ddosbarth D2 Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd). Fodd bynnag, oherwydd natur, dwysedd ac effaith annerbyniol debygol y defnydd arbennig hwn, credir ei bod yn briodol arenwi'n benodol y math hwn o ddefnydd yn nosbarth D2. Yr unig reswm dros ystyried defnydd o'r fath fyddai mewn perthynas â'r ddarpariaeth gyffredinol a/neu leol o ddefnyddiau o'r fath ar y pryd, a'r lefel o weithgarwch/anawsterau/ aflonyddwch a grëir. Y bwriad yw osgoi gweithgarwch dwys ar adegau arbennig, yn hwyr y nos yn aml pan fo defnyddiau o'r fath yn cau, ac yn anodd i'w rheoli yn aml o safbwynt traffig cerbydol/cerddwyr ac ymddygiad, ac felly efallai nad ydynt yn cydweddu â chymeriad a dymunoldeb yr ardal o amgylch. Cyn belled ag y mae defnyddiau A3 yn y cwestiwn, h.y. sefydliadau sy'n darparu bwyd a diod, wrth reswm, mae ffurfiau modern amrywiol o A3 yn dod i'r amlwg, gyda rhai ohonynt yn dderbyniol yn y parth hwn (e.e. McDonalds/tafarndai hwyliog sy'n croesawu plant). Dim ond peth dylanwad a rheolaeth gaiff polisïau cynllunio. Mae trwyddedau Adloniant Cyhoeddus a thrwyddedau gwirod (hwyr y nos), perchnogion, trefn reoli a'r heddlu oll yn cael dylanwad pwysig ar briodolrwydd ac effaith gweithgaredd.

Bydd yn ofynnol i fwriadau ar gyfer defnyddiau A3 lunio cytundeb cyfreithiol er mwyn atal newid y defnydd dan hawliau datblygu caniataol i ddefnydd adwerthol/siopau A1 a swyddfeydd A2 er mwyn rheoli lleoliad siopau adwerthol A1 a swyddfeydd A2 a'u math.


Polisi TSM 18 – Camlas Swydd Amwythig

MEWN PERTHYNAS Â CHAMLAS SWYDD AMWYTHIG, CANIATEIR DATBLYGIADAU SYDD:

i) YN CYNNAL/A NEU HYRWYDDO MYNEDIAD Y CYHOEDD I, AC AR HYD Y GAMLAS;

ii) YN CYNNAL NEU'N GWELLA NATUR FORDWYOL Y GAMLAS;

iii) YN DARPARU CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU YCHWANEGOL SY'N HYRWYDDO RÔL DWRISTAIDD Y GAMLAS

iv) YN YMWNEUD Â GWELLA A HYRWYDDO AMGYLCHEDD YMYL Y GAMLAS A GWARCHOD BUDDIANNAU CADWRAETH NATUR.

DIOGELIR TIR YN LLANGOLLEN, FEL A DDANGOSIR AR Y MAPIAU BWRIADAU, AR GYFER BASN ANGORI DROS NOS.

Mae Camlas Swydd Amwythig, sy'n tynnu tua'i derfyn i'r gorllewin o Langollen, yn llwybr cludiant hamdden pwysig yn awr. Mae iddo werth mawr, nid yn unig ar gyfer mynd mewn cwch, ond hefyd fel llwybr cerdded a beicio ac fel adnodd bywyd gwyllt. Mae'r Cyngor yn dymuno sicrhau nad yw bwriadau datblygu'n gwneud drwg i fordwyaeth neu i fynediad y cyhoedd i, ac ar hyd y llwybr halio. Cefnogir unrhyw fwriadau datblygu sy'n gwella rôl dwristaidd y gamlas cyn belled â'u bod yn ymwneud â hyrwyddo amgylchedd ymyl y gamlas.

Mae Dyfrffyrdd Prydain wedi arenwi'r angen am fasn angori dros nos yn Llangollen. Bydd hyn yn galluogi cychod i aros am noson neu ddwy i dorri eu siwrnai gan arwain at 'wariant' twristaidd sylweddol yn Llangollen a'r ardaloedd o amgylch. Mae safle ar ochr ogleddol y gamlas yn Llangollen wedi cael ei ddiogelu ar y mapiau bwriadau.


Polisi MDA 5 – Ardal Datblygiad Cymysg Pwysig - Gorsaf Reilffordd Corwen

NEILLTUIR TIR (6.8 He) GER CANOL TREF/PAFILIWN CORWEN, FEL A DDANGOSIR AR Y MAP BWRIADAU, FEL 'ARDAL DATBLYGIAD CYMYSG' ER MWYN DIOGELU A CHANIATÁU DATBLYGIADAU AMRYWIOL, YN CYNNWYS:

i) ESTYNIAD ARFAETHEDIG I LINELL RHEILFFORDD STÊM LLANGOLLEN - CARROG I GORWEN, YNGHYD Â GORSAF REILFFORDD, MAES PARCIO I GYFLEUSTERAU CYSYLLTIEDIG (POLISI TRA 12);

ii) DATBLYGIAD CYSYLLTIEDIG Â THWRISTIAETH;

iii) CYFLEUSTERAU DINESIG/PARC/GOFOD AGORED;

iv) MAES PARCIO YCHWANEGOL;

v) TIRLUNIO STRWYTHUROL A MESURAU RHEOLI DWR ARWYNEB;

vi) DARPARU MYNEDFA ARALL ADDAS I WAITH TRIN DŴR GWASTRAFF;

vii) DARPARIAETH BRIODOL AR GYFER TAWELU TRAFFIG A DARPARIAETH BRIODOL AR GYFER CERDDWYR A BEICWYR.

NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU CYNAMSEROL NEU FESUL DARN SY'N DEBYGOL O WNEUD DRWG I'R DATBLYGIAD HWN.

Dyfarnwyd caniatâd cynllunio - yn ddarostyngedig i gytundebau A.106, ar gyfer - (i) gorsaf reilffordd yng Nghorwen a chyswllt rheilffordd â llinell Llangollen-Carrog, a (ii) cyfleusterau dinesig, parc, hamdden a pharcio, ar dir yng Nghorwen gerllaw canol y dref a'r pafiliwn. Yn ddarostyngedig i fanylion pellach ac i gytuno ynghylch yr ariannu, ynghyd ag unrhyw drefniadau rheoli traffig adolygedig ar gyfer yr A5 yn dilyn Astudiaeth Draffig. Mae'r gymysgedd o ddefnyddiau'n cyd-fynd â datblygiad yr orsaf a chanol y dref ac yn ychwanegu at atyniad cyffredinol Corwen. Dylid gweithredu'r bwriadau hyn yn gynnar yn ystod cyfnod y Cynllun - maent yn chwarae rhan allweddol yn adfywiad economaidd-twristaidd yr ardal, ac mae'r Cyngor yn gwbl ymrwymedig i'r datblygiadau.

Gellir cael cyfarwyddyd pellach, yn cynnwys patrwm y defnydd tir cyffredinol, erwau etc., ar ffurf Briff Cynllunio Safle, 'Gorsaf Reilffordd Corwen', sy'n rhan o'r gyfres o Gyfarwyddiadau Cynllunio Ategol.


Polisi MDA 6 – Ardal Datblygiad Cymysg Pwysig - Triongl Rhuddlan

CANIATEIR AILDDATBLYGIAD CYNHWYSFAWR TIR A ADNABYDDIR FEL TRIONGL RHUDDLAN, FEL A ARENWIR AR Y MAPIAU BWRIADAU, AR FFURF CYNLLUN DATBLYGU SY'N GYMYSGEDD O DWRISTIAETH, HAMDDEN A CHYFLOGAETH, AR YR AMOD:

i) BOD MAINT, MÁS, UCHDER, LLUNWEDD A CHYFEIRIAD YR ADEILADAU YN PARCHU CYMERIAD ARDAL GADWRAETH RHUDDLAN AC YN RHOI YSTYRIAETH I AMGYLCHFYD YR ARDAL A'R GOLYGFEYDD I MEWN IDDI;

ii) BOD TREFNIADAU BODDHAOL YN CAEL EU GWNEUD I DDARPARU MYNEDIAD I GERBYDAU, CERDDWYR A BEICWYR I'R SAFLE GYDA AC O'R HEN A525 A CHANOL Y DREF, YN CYNNWYS MESURAU TAWELU TRAFFIG;

iii) BOD UNRHYW LETY GWYLIAU PRESWYL NEU HUNANARLWYO YN ATEGOL I'R PRIF FFURF O DDATBLYGIAD;

iv) BOD Y BWRIAD YN YMWNEUD Â GWELLA GLAN YR AFON SY’N PARCHU BIOAMRYWIAETH A BUDDIANNAU CADWRAETH NATUR;

v) BOD Y BWRIAD YN CYNNWYS CYFLEUSTERAU I YMWELWYR YN CYNNWYS PWYNT/CANOLFAN WYBODAETH I DWRISTIAID, MAES PARCIO, CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS A SAFLE PICNIC;

vi) BOD Y BWRIAD YN GWNEUD TREFNIADAU ADDAS AR GYFER DIOGELU NEU ADLEOLI'R PRYDERON CYFLOGAETH CYFREDOL.

EFALLAI Y RHODDIR YSTYRIAETH I ALLFA ADWERTHOL (HEB GYSYLLTIAD Â BWYD) AMHENODOL SY'N GYSYLLTIEDIG Â FFATRI FAWR, TREFTADAETH NEU DWRISTIAETH, AR YR AMOD EI BOD YN RHAN ANHEPGOROL O'R GWAITH O HWYLUSO DATBLYGIAD CYNLLUN CYNHWYSFAWR, YN CYD-FYND Â'R MEINI PRAWF (i) - (vii) UCHOD A HEB NIWEIDIO HYFYWEDD A FFYNIANT CANOLFANNAU CYFAGOS.

DIM OND OS YDYNT YN CYD-FYND Â'R FFRAMWAITH A DDARPARWYD GAN Y POLISI HWN, HEB WNEUD DRWG I DDATBLYGIAD CYNHWYSFAWR Y SAFLE, Y RHODDIR YSTYRIAETH I FWRIADAU AR GYFER DATBLYGIADAU FESUL DARN.

DYLAI UNRHYW DDATBLYGIAD DDANGOS BOD ASESIAD MANWL O BERYGL GORLIF WEDI CAEL EI GYNNAL A BOD MESURAU LLINIARU PRIODOL WEDI’U HYMGORFFOR.

Wedi agor ffordd osgoi Rhuddlan ym mis Gorffennaf 1997, mae safle Triongl Rhuddlan yn gyfle ardderchog i ddatblygu safle brown mewn lleoliad hynod gyfleus. Yn ffinio â safle'r Triongl, sy'n mesur 4.5 hectar (11.1 erw), mae'r ffordd osgoi (yr A525), Afon Clwyd a Ffordd Abergele (yr A547), sydd wedi'i leoli ar ochr ddeheuol Rhuddlan.

Ceisir cynllun datblygiad cymysg cynhwysfawr ar gyfer y safle yn cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau twristaidd, hamdden a chyflogaeth. Dylai unrhyw gynllun gynnwys bwriadau i wella glan yr afon a sicrhau cysylltiadau da â Rhuddlan er mwyn cynorthwyo gydag adfywiad y ganolfan. O gadw agosrwydd y safle i graidd hanesyddol y dref mewn cof, bydd angen datblygiad o ansawdd uchel o safbwynt lleoliad a llunwedd, gan roi sylw arbennig i'r deunyddiau, y ffurf, y dyluniad a'r tirluniad.

Dan amgylchiadau arbennig iawn, efallai y darperir datblygiadau adwerthol amhenodol heb gysylltiad â bwyd, ar yr amod eu bod yn hwyluso'r gwaith o ddatblygu cynllun cynhwysfawr heb niweidio hyfywedd a ffyniant y canolfannau cyfagos. Gwrthodir bwriadau ar gyfer datblygu fesul darn os credir y byddant yn gwneud drwg i'r datblygiad cynhwysfawr. Gellir cael cyfarwyddyd pellach mewn briff cynllunio safle sy'n rhan o gyfres o nodiadau’r Cyfarwyddyd Cynllunio Ategol.