Ystyriaethau Cyffredinol Parthed
Aneddiadau A Datblygiadau
4.0 CYFLWYNIAD
4.1
Mae sawl mater cynllunio’n berthnasol drwy gydol y cynllun. Mae'r rhain yn
cynnwys ystyriaethau cynllunio cyffredinol a dderbynnir yn eang ac a ystyrir fel
rheol wrth drafod y rhan fwyaf o fwriadau datblygu. Mae'r polisïau a ganlyn yn
darparu rhestr wirio gyfleus o feini prawf/ffactorau, a bydd disgwyl i'r Cyngor
roi sylw iddynt wrth ystyried pob bwriad i ddatblygu, gan osgoi ailadrodd meini
prawf yng ngweddill y cynllun.
4.2 GWERTHUSIAD AMGYLCHEDDOL
4.3
Mae'r polisïau yn y Bennod hon yn cael effaith bositif yn gyffredinol ar
yr amgylchedd. Fodd bynnag, gan fod y polisïau o natur gyffredinol, efallai fod
achosion pan fo goblygiadau amgylcheddol polisi yn ansicr. Fe'i heglurir yn
fanylach mewn polisïau mewn rhannau eraill o'r Cynllun.
4.4 POLISÏAU ANEDDIADAU
Polisi GEN 1 - Datblygiadau Oddi Mewn i Ffiniau Datblygu
LLEOLIR DATBLYGIADAU YN
BENNAF ODDI MEWN I ANEDDIADAU A DDIFFINNIR GAN Y FFINIAU DATBLYGU AC ODDI MEWN
I'R PRIF ARDALOEDD CYFLOGAETH, FEL A NODIR AR Y MAP BWRIADAU.
Mae ffiniau datblygu yn arf
cynllunio sylfaenol sy'n diffinio'n eglur gyfyngiadau ffisegol yr ardaloedd
datblygedig, yn cynnwys aneddiadau a'r prif ardaloedd cyflogaeth, boed naill ai
drwy'r datblygiad adeiledig presennol neu unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn y
dyfodol. Yn cael eu hadnabod hefyd wrth yr enwau 'cyfyngiadau' neu 'amlenni',
maent wedi'u darlunio ar y Map Bwriadau a'r Cynlluniau Mewnosod, gan ddilyn y
nodweddion naturiol lle bo modd (coed, gwrychoedd, dyfroedd, toriad mewn llethr
a thirffurfiau) neu nodweddion artiffisial (datblygiadau presennol, waliau,
ffensys, ffyrdd, rheilffyrdd, argloddiau a dyfroedd artiffisial).
Oddi mewn i'r ffiniau datblygu,
caniateir datblygiadau newydd, mewn egwyddor, cyn belled â'u bod yn cydymffurfio
â pholisïau eraill y Cynllun, ystyriaethau cynllunio sylfaenol a'r meini prawf
rheoli datblygiad manwl. Gall hyn gynnwys datblygiadau ar safleoedd sydd wedi'u
neilltuo neu eu diogelu, neu safleoedd heb eu dynodi (annisgwyl), neu drwy roi
estyniad i, addasu neu drawsnewid adeiladau presennol. Mae'r polisi'n cynorthwyo
i weithio tuag at batrwm cynnaladwy o ddatblygiad drwy gyfeirio'r rhan fwyaf o'r
datblygiadau i'r aneddiadau presennol a thrwy hynny wneud defnydd effeithiol o'r
isadeiledd, y cyfleusterau a'r gwasanaethau presennol a lleihau'r galw am
deithio.
Lle bydd datblygiad yn digwydd
bydd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru (2002), sy'n nodi ym Mharagraff
9.3.1 "Bydd datblygiadau tai newydd yn integreiddio'n dda ac yn cysylltu hefo
patrwm setladau. Wrth ehangu trefi a phentrefi dylid osgoi creu datblygiad
rhuban, ymdoddi setladau i'w gilydd neu ddilyn patrwm datblygu bratiog.
Ar gyfer yr aneddiadau hynny lle
mae modd, o ran eu maint, eu ffurf a'u nodweddion, gellir nodi a llunio ffiniau
datblygu ar y mapiau bwriadau. Llunnir y ffiniau gan gadw cymeriad, hunaniaeth a
hyfywedd y prif ganolfannau, y prif bentrefi a'r pentrefi presennol ond eto, gan
ganiatáu datblygiad os yw hynny'n briodol o ystyried yr anghenion, y cyfyngiadau
a'r cyfleoedd ar gyfer aneddiadau arbennig.
Polisi GEN 2 - Datblygu Tir Ananodiadol
CANIATEIR DATBLYGU TIR AC
ADEILADAU ANANODIADOL ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU CYN BELLED Â BOD Y
DATBLYGIAD:
i) YN CYD-FYND Â'R DEFNYDD
TIR O'I AMGYLCH, AC Â CHYMERIAD YR ARDAL, A HEB BERI GORDDATBLYGIAD;
ii) HEB ARWAIN AT UNRHYW GOLLED ANNERBYNIOL
O OFOD AGORED;
iii) YN BODLONI POLISÏAU
PERTHNASOL ERAILL Y CYNLLUN.
NI CHANIATEIR EHANGU NA
DWYSÁU UNRHYW DDEFNYDDIAU ANNYMUNOL NEU ANFODDHAOL.
Nid yw'r holl dir ar y Map
Bwriadau wedi'i glustnodi at ddefnydd arbennig, na'i neilltuo ar gyfer
datblygiad neu i fod yn ddarostyngedig i bolisi penodol. Mae'n anymarferol ac yn
ddiangen arenwi defnydd arbennig ar gyfer pob darn o dir. Yn unol â hynny, mae
darnau helaeth o dir, yn arbennig ardaloedd preswyl sefydledig, yn ymddangos fel
'tir gwyn' sy'n 'ananodiadol' ar y Map Bwriadau a'r Cynlluniau Mewnosod. Er y
bydd defnyddiau o'r fath yn aros fel ag y maent yn bennaf, nid yw hyn yn golygu
na chaniateir newid a datblygu'r defnydd o'r tir. Yn hytrach, rhoddir ystyriaeth
i ddatblygiadau (adeiladu o'r newydd, newid defnydd, estyniadau etc.) yn unigol
yn erbyn nodau, polisïau ac ystyriaethau hanfodol eraill y Cynllun. Bydd unrhyw
ddefnydd neu ddatblygiad presennol sy'n annymunol neu'n anfoddhaol o safbwynt ei
effaith yn cael ei atal rhag dwysáu neu ehangu. Er mai nod y Cynllun yw rhoi lle
i gymaint ag y bo modd o ddatblygiad oddi mewn i'r ardaloedd adeiledig presennol,
ni ddylai hyn arwain at orddatblygu neu orlenwi prif ganolfannau, prif bentrefi
neu bentrefi, na cholli gofod agored sy'n werthfawr i'r gymuned o safbwynt
hamdden, gwerth ecolegol a rhyddhad gweledol.
Polisi GEN 3 - Datblygiadau y Tu Allan i Ffiniau Datblygu
NI CHANIATEIR DATBLYGU Y TU
ALLAN I'R FFINIAU DATBLYGU AC EITHRIO:
i) PAN FO ANGEN TAI AR GYFER
GWEITHWYR FFERM NEU GOEDWIGAETH SY'N GORFOD BYW YN EU GWEITHLE, NEU YN EI YMYL
(POLISI HSG 6);
ii) DATBLYGIAD MEWNLENWI
SY'N CYNNWYS UN NEU DDAU UNED TY ODDI MEWN I GRWP AMLWG O DAI MEWN CEFN GWLAD
AGORED (POLISI HSG 5);
iii) TRAWSNEWID, ADDASU,
AILDDEFNYDDIO A RHOI ESTYNIAD I ADEILADAU GWLEDIG SY'N BODOLI EISOES (POLISI
HSG 9);
iv) DARPARU CYNLLUNIAU TAI
EITHRIOL Y GELLIR EU FFORDDIO YN YMYL PRIF BENTREFI A PHENTREFI (POLISI
HSG 11);
v) TAI I GYMRYD LLE TAI
ERAILL MEWN CEFN GWLAD AGORED (HSG 8);
vi) DATBLYGIAD MEWN
PERTHYNAS AG AMAETHYDDIAETH, ECHDYNNU MWYNAU, ARALLGYFEIRIO'R ECONOMI WLEDIG,
TWRISTIAETH WLEDIG, HAMDDEN A SEFYDLIADAU ADDYSGOL/SEFYDLIADOL PRESENNOL AC
ADLONIANT, CYN BELLED NAD YW'N CAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR YR AMGYLCHEDD
CYMDEITHASOL, NATURIOL AC ADEILEDIG;
vii) GWAITH HANFODOL YN
GYSYLLTIEDIG AG YMGYMERWYR STATUDOL YN DDAROSTYNGEDIG I GYMRYD MESURAU
DIOGELWCH AMGYLCHEDDOL PRIODOL.
Y tu hwnt i ffiniau datblygu, neu
oddi mewn i 'gefn gwlad agored' a'r arfordir sydd heb ei ddatblygu, er mwyn
gwarchod y cefn gwlad agored, ni chaniateir datblygiadau newydd fel rheol. Fodd
bynnag, ceir achosion penodol sy'n ymwneud â datblygiadau presennol neu â
bwriadau ar gyfer datblygiadau newydd sydd (i) yn cwrdd â nodau'r Cynllun o
adfywio ac arallgyfeirio cefn gwlad a (ii) yn hanfodol ac yn angenrheidiol i'w
lleoli yng nghefn gwlad, lle caniateir datblygiad newydd.
Polisi GEN 4 - Datblygiadau Gwasgarog y Tu Allan i'r Ffiniau
Datblygu
NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU
FYDD YN ARWAIN AT DDATBLYGIADAU YNYSIG NEU GEFNOGI DATBLYGIADAU GWASGAROG,
ACHLYSUROL HEB FAWR DDIM CYSWLLT YNG NGHEFN GWLAD.
Oherwydd natur wledig Sir
Ddinbych, mae'r datblygiadau'n wasgarog ac wedi'u dosbarthu ar hyd a lled cefn
gwlad y sir. Nid oes modd adnabod y 'pentrefannau' hyn neu'r grwpiau o dai ac
adeiladau eraill fel "aneddiadau" na'u diffinio felly gan eu bod, yn aml, heb
fawr ddim cysylltiad â'i gilydd ac yn wasgarog iawn. Yn yr achosion hyn, ni
chaniateir datblygiadau pellach, gan y byddai hynny'n arwain at drefoli
ychwanegol ac annymunol mewn ardaloedd gwledig. Hefyd, ceisir osgoi datblygiadau
rhuban,
yn unol â’r eglurhad o bolisi GEN 1. Gwneir darpariaeth benodol ym mholisi
HSG 5 ar gyfer datblygiad mewnlenwi
o un neu ddau uned ty oddi mewn i grwpiau amlwg o dai mewn cefn gwlad agored.
Polisi GEN 5 - Barrau Gwyrdd
MAE BARRAU GWYRDD WEDI'U
DYNODI AR Y MAPIAU BWRIADAU ER MWYN:
i) DIOGELU'R CEFN GWLAD
O AMGYLCH NEU'R ARFORDIR SYDD HEB EI DDATBLYGU;
ii) ATAL TREFI CYFAGOS
RHAG UNO;
iii) GWARCHOD CYMERIAD
ARBENNIG Y TREFI HANESYDDOL;
iv) CYNORTHWYO GYDAG
ADFYWIAD TREFOL.
ODDI MEWN I'R BARRAU
GWYRDD, NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU ONI BAI Y GELLIR DANGOS NA NIWEIDIR
CYMERIAD AGORED AC YMDDANGOSIAD Y TIR.
BARRAU GWYRDD DYNODEDIG
Gwahoddwyd holl ACLl'au Cymru i
ystyried Beltiau Gwyrdd yng Nghymru. Rhagflaenwyd hyn gan Gynllun Strwythur
Drafft Clwyd (Ail Addasiad) oedd yn codi cwestiynau ynghylch Beltiau Gwyrdd yng
Nghlwyd. Wedi ymgynghori â'r cyhoedd, cadwodd y Cynllun y barrau gwyrdd, yn
ddarostyngedig i adolygiad strategol a chynigiodd Felt Werdd yn ymyl y ffin â
Swydd Caer. Fodd bynnag, wedi ymgynghoriad cyhoeddus pellach, argymhellwyd
dileu'r Felt Werdd arfaethedig.
Mae barrau gwyrdd wedi bod yn
cael eu gweithredu yn hen sir Clwyd ers i'r Cynllun Strwythur cyntaf gael ei
gymeradwyo yn 1982. Mae eu rôl yn debyg iawn i rôl y Beltiau Gwyrdd drwy warchod
cefn gwlad agored ac atal aneddiadau rhag uno. Maent yn wahanol, fodd bynnag,
oherwydd eu statws, eu maint a'u parhauster.
Mae Beltiau Gwyrdd yn arf polisi
cenedlaethol a statudol ac maent yn llawer mwy parhaol gan bara am o leiaf 30
mlynedd cyn cael eu hadolygu. Arf polisi lleol, anstatudol yw barrau gwyrdd, ac
fel rheol, maent yn para am gyfnod y Cynllun cyn cael eu hadolygu. Mae Beltiau
Gwyrdd yn berthnasol fel rheol i leiniau mawr o dir sy'n sawl milltir o hyd, o
amgylch dinasoedd neu gytrefi mawr lle profir pwysau datblygu sylweddol a chyson.
Mae barrau gwyrdd yn llawer llai o ran maint a graddfa, yn ymwneud â 'phocedi'
llai o dir, o amgylch neu rhwng aneddiadau.
Gwledig o ran natur yw Sir
Ddinbych yn gyffredinol, gyda nifer fawr a phatrwm gwasgarog o drefi a phentrefi
bychain, yn profi pwysau datblygu gweddol gymedrol o'u cymharu â chytrefi mwyaf
Lloegr. Dyna pam y credir bod Beltiau Gwyrdd yn amhriodol yn Sir Ddinbych.
Yn gyffredinol, mae barrau gwyrdd
wedi gweithio'n dda a heb newid fawr ddim. Fodd bynnag, credid bod gormod o
farrau gwyrdd, o ran niferoedd a graddfa, yn gwarchod safleoedd a allai gael eu
datblygu heb gael llawer o effaith ar yr amgylchedd. Mae'r Barrau Gwyrdd yn hen
Gynlluniau Lleol Rhuddlan, Glyndŵr a Cholwyn wedi cael eu hadolygu'n strategol
yn erbyn y pedwar maen prawf yn y polisi uchod. Mae llai o Farrau Gwyrdd yn awr,
ac ar raddfa lai, ond maent yn fwy strategol gyda'r bwriad o fod yn ddynodiadau
polisi hirdymor yn para y tu hwn i gyfnod y cynllun. Nid ydynt wedi cael eu
dynodi mewn mannau lle byddent yn atal yn afresymol unrhyw anheddiad rhag ehangu.
Yn hytrach, maent yn canolbwyntio ar leiniau neu goridorau cul o dir sy'n profi
pwysau datblygu, ble mae'n bwysig cadw cymeriad agored a rhinweddau arbennig
eraill y tir. Cryfhau'r barrau gwyrdd sydd wedi'u dynodi yn y Cynllun yw'r nod
yn y diwedd.
Mae Barrau Gwyrdd yn chwarae rôl
sylfaenol yn Strategaeth Ddatblygu Gyffredinol y Cynllun ble cydbwysir yr angen
am ddatblygu yn erbyn yr angen am warchod cefn gwlad. Mae'r tir oddi mewn i'r
Barrau Gwyrdd yn agored o ran cymeriad ac ymddangosiad, a dyma'r union
nodweddion y mae'r polisi am eu gwarchod.
Ni fydd barrau gwyrdd yn atal pob
datblygiad, ac efallai y caniateir defnyddiau tir neu ddatblygiadau sy'n cynnal
cymeriad agored y tir, e.e. cyrsiau golff. Nid yw'n dilyn bod barrau gwyrdd o
werth tirluniol nac o unrhyw werth arall, yr hyn sy'n hanfodol yw bod cymeriad
ac ymddangosiad y tir yn agored. Fodd bynnag, gellir cryfhau'r polisi drwy
gytundebau i reoli a gwella'r amgylchedd.
YSTYRIAETHAU
DATBLYGU CYFFREDINOL
Polisi GEN 6 - Gofynion Rheoli Datblygiad
CANIATEIR DATBLYGIADAU SYDD
YN UNOL Â PHOLISÏAU A BWRIADAU ERAILL Y CYNLLUN AR YR AMOD:
i) EU BOD YN PARCHU'R
SAFLE A'R AMGYLCHEDD O SAFBWYNT LLEOLIAD, LLUNWEDD, GRADDFA, FFURF, DYLUNIAD,
DWYSEDD, DEUNYDDIAU, WYNEBWEDD, MICRO-HINSAWDD A DWYSEDD Y DEFNYDD O DIR/ADEILADAU
A'R GOFOD O'U HAMGYLCH A RHWNG YR ADEILADAU;
ii) NAD YDYNT YN
EFFEITHIO'N ANNERBYNIOL AR FFURF A CHYMERIAD Y TIRLUN A'R TREFLUN O AMGYLCH
NA'R AMGYLCHEDD NATURIOL A HANESYDDOL LLEOL;
iii) NAD YDYNT YN
EFFEITHIO'N ANNERBYNIOL AR YR OLYGFA I'R CYHOEDD I MEWN I, ALLAN O, NEU AR
DRAWS UNRHYW BRIF GANOLFAN, PRIF BENTREF, PENTREF NEU ARDAL O GEFN GWLAD
AGORED;
iv) EU BOD YN CYNNWYS, LLE
BO MODD, Y TIRLUN NEU'R NODWEDDION ERAILL SY'N BODOLI EISOES, GAN ROI
YSTYRIAETH I SIÂP Y TIR A'R NEWIDIADAU MEWN LEFEL GAN OSGOI NENLINELLAU
AMLWG;
v) NAD YDYNT YN
EFFEITHIO'N ANNERBYNIOL AR DDYMUNOLDEB YR ARDAL I'R PRESWYLWYR LLEOL NEU I
DDEFNYDDWYR ERAILL Y TIR A'R EIDDO, NEU AR NODWEDDION YR ARDAL O GANLYNIAD I
FWY O WEITHGARWCH, AFLONYDDWCH, SŴN, LLWCH, NWYON, SBWRIEL ETC., AC AR YR
AMOD EU BOD YN DARPARU SAFONAU DYMUNOLDEB BODDHAOL;
vi) EU BOD YN DARPARU
MYNEDIAD DIOGEL A CHYFLEUS I BOBL GYDAG ANABLEDDAU, CERDDWYR, BEICWYR,
CERBYDAU A CHERBYDAU BRYS, LLE BO HYNNY'N BRIODOL, YNGHYD Â MAES PARCIO
DIGONOL, GYDA GOFOD I WASANAETHU A THROI CERBYD YN UNOL Â SAFONAU
CYMERADWY'R CYNGOR;
vii) NAD YDYNT YN CAEL
EFFAITH ANNERBYNIOL AR Y RHWYDWAITH LLEOL O BRIFFYRDD O GANLYNIAD I DAGFEYDD,
PERYGL A NIWSANS A GEIR YN SGIL CREU TRAFFIG A GREIR A’U BOD YN CYNNWYS
MESURAU RHEOLI/TAWELU TRAFFIG LLE MAE HYNNY’N ANGENRHEIDIOL AC YN BRIODOL;
viii) EU BOD YN RHOI
YSTYRIAETH I DDIGONOLRWYDD Y CYFLEUSTERAU A'R GWASANAETHAU CYHOEDDUS
PRESENNOL. OS OES ANGEN ISADEILEDD NEWYDD, DYLID BOD MODD EI DDARPARU AM
BRIS RHESYMOL AC MEWN AMSER RHESYMOL;
ix) NAD YDYNT YN GWNEUD
DRWG I DIR NAC ADEILADAU SYDD WEDI'U DIOGELU AT DDEFNYDD ARALL, NAC YN
AMHARU AR DDATBLYGIAD A DEFNYDD O DIR CYFAGOS;
x) EU BOD YN BODLONI'R
YSTYRIAETHAU AMGYLCHEDDOL FFISEGOL NEU NATURIOL SY'N YMWNEUD Â SEFYDLOGRWYDD
TIR, Y GWAITH O'I DDRAENIO A'R TEBYGOLRWYDD IDDO GAEL EI ORLIFO;
xi) EU BOD YN RHOI
YSTYRIAETH I DDIOGELWCH PERSONOL A CHYMUNEDOL O RAN DYLUNIAD A PHATRWM, AC I
OFOD CYHOEDDUS/PREIFAT AC YN YSTYRIED GOBLYGIADAU TROSEDDAU AC ANHREFN;
xii) EU BOD YN CYNNWYS
MESURAU TIRLUNIO ADDAS YN CYNNWYS, LLE BO HYNNY’N BRIODOL, TRINIAETH
DIRLUNIO FEDDAL A CHALED A THREFNIADAU AR GYFER GWAITH CYNNAL A CHADW
DILYNOL;
xiii) EU BOD YN RHOI
YSTYRIAETH I GREU, TRIN A CHAEL GWARED O WASTRAFF.
Mae'r polisi hwn yn amcanu at
sicrhau bod bwriadau datblygu'n cydymffurfio â'r meini prawf rheoli datblygiad a
dderbynnir yn eang a sicrhau yr ymgymerir â hwy mewn dull priodol, i safon uchel
a chyda chyn lleied ag y bo modd o effaith. Mae'n darparu man cyfeirio
defnyddiol ar gyfer y rhai sy'n cyflwyno ceisiadau cynllunio neu sy'n rhoi
bwriadau datblygu ger bron. Cynhwysir y meini prawf mewn polisïau dilynol pan
fônt yn benodol berthnasol i'r mater datblygu dan sylw a phan fo angen darparu
cyfarwyddyd polisi manylach
Dylid cydnabod nad yw pob maen
prawf yn berthnasol i bob ffurf o ddatblygiad. Yn fwy na hynny, nid yw'r rhestr
o feini prawf yn cynnwys popeth a dylid edrych bob amser ar bolisïau a bwriadau
eraill y Cynllun fel sy'n berthnasol i'r bwriadau datblygu dan sylw.
Wrth ystyried bwriadau datblygu,
rhoddir ystyriaeth i unrhyw oblygiadau o ran troseddu ac anhrefn fel sy’n
ofynnol dan y Ddeddf Troseddu ac Anhrefn a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail
Anabledd hefyd.
Polisi GEN 7 - Yr Iaith Gymraeg a'i Diwylliant
WRTH YSTYRIED BWRIADAU
DATBLYGU MEWN ARDALOEDD GYDA HUNANIAETH GYMDEITHASOL, DDIWYLLIANNOL AC
IEITHYDDOL GREF, YN ARBENNIG YN SEILIEDIG AR YR IAITH GYMRAEG, RHODDIR
YSTYRIAETH ARBENNIG I'R HUNANIAETH HONNO ER MWYN SICRHAU NA WNEIR UNRHYW NIWED
PROFADWY
I GYMERIAD Y GYMUNED LEOL.
Mae’r iaith Gymraeg yn elfen
bwysig o ffabrig cymdeithasol y Sir. Siaredir y Gymraeg gan ryw 26% o boblogaeth
y Sir. Mewn sawl cymuned wledig yn y de a’r gorllewin, mae’r iaith Gymraeg yn
rhan bwysig iawn o ffabrig cymdeithasol yr ardal. Mewn 14 allan o 39 o ardaloedd
cymunedol mae cyfran y bobl sy’n siarad y Gymraeg yn fwy na 50%. Ceir y
dwyseddau uchaf o siaradwyr y Gymraeg yng
Ngwyddelwern, Cynwyd,
Llandrillo,
Cyffylliog, Betws Gwerful Goch a
Llanrhaeadr yng Nghinmeirch. Yn y cymunedau hyn
mae canran y rhai sy’n siarad y Gymraeg yn fwy na 60%.
Cred y Cyngor y dylai polisïau a
bwriadau’r Cynllun Datblygu Unedol roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg ac y dylai
fod yn ystyriaeth sylfaenol wrth benderfynu ynghylch ceisiadau ac apeliadau
cynllunio.
Mae graddfa a math y tai a’r
ddarpariaeth o gyflogaeth yn dylanwadu ar ffyniant yr iaith Gymraeg hefyd. Ond
dim ond un ffactor yw hyn. Ceir llawer o ddylanwadau eraill y tu allan i
reolaeth y system gynllunio sy’n dylanwadu ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant.
Gwyddir bod y cynnydd mewn tai, yn cynnwys stadau mawr mewn pentrefi gwledig,
wedi cael effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg. Mae Strategaeth a pholisïau’r
CDU yn ceisio darparu twf cytbwys er mwyn diwallu anghenion lleol am dai a
swyddi gyda’r rhan fwyaf o’r datblygiadau yn y prif ganolfannau. Mae’r Cynllun
hefyd yn ceisio lleihau’r lefelau blaenorol o gynnydd yn y byd tai. Ni fwriedir
gweld unrhyw ddatblygiadau ar raddfa fawr mewn aneddiadau llai. Bydd y polisïau
cyflogaeth yn darparu cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd gwledig ac yn darparu
cymunedau cynnaladwy.
Mae Polisi
GEN 7 yn ymwneud â bwriadau datblygu
ar raddfa ac o gymeriad sy’n debygol o gael effaith annerbyniol ar y gymuned
ehangach, yn cynnwys y bwriad i godi arwyddion. Gwrthodir datblygiadau sy’n peri
anghydbwysedd neu sy’n cael effaith niweidiol ar gydbwysedd ieithyddol a
chymdeithasol anheddiad.
Bydd y Cynllun yn mabwysiadu dull
rhagofalol o weithredu fydd yn galw ar i’r datblygwr, lle mae niwed sylweddol yn
debygol, gynnwys gwybodaeth ac eglurhad priodol parthed effeithiau tebygol y
bwriad ar yr iaith Gymraeg a chymeriad diwylliannol yr ardal.
Bydd y Cyngor yn paratoi
Gyfarwyddiadau Cynllunio Ategol yn darparu cyfarwyddyd manwl ac yn amlinellu, yn
arbennig, y dull o weithredu a argymhellir parthed mesur 'niwed sylweddol'.
Nid yw’r ffaith bod yr ymgeisydd
yn siarad y Gymraeg neu beidio yn ystyriaeth gynllunio sylfaenol ac nid yw’n
golygu bod modd ffafrio bwriad ar draul polisïau cynllunio perthnasol.
Bydd effaith y Cynllun a’r
penderfyniadau datblygu ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn cael ei fonitro yn
ofalus. Cynhwysir y manylion hyn mewn adroddiad monitro ar wahân.
Polisi GEN 8 -
Ymrwymiadau Cynllunio
LLE BO HYNNY'N BRIODOL AC YN
ANGENRHEIDIOL I DDYFARNU CANIATÂD CYNLLUNIO, A LLE NAD OES MODD EI SICRHAU
DRWY AMOD CYNLLUNIO, BYDD YR AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL YN CEISIO CYSYLLTU
CANIATÂD CYNLLUNIO GYDA YMRWYMIADAU CYNLLUNIO ER MWYN SICRHAU BOD Y DATBLYGIAD
YN UNOL Â NODAU A STRATEGAETH DDATBLYGU'R CYNLLUN.
Mae
ymrwymiadau cynllunio
cyfreithiol rhwng awdurdod cynllunio lleol a datblygwyr yn dod yn fwy a mwy
cyffredin er mwyn sicrhau bod bwriadau datblygu yn dderbyniol o safbwynt
cynllunio defnydd tir. Gall ymrwymiadau cynllunio:
– gyfyngu ar ddatblygu neu
ddefnyddio tir;
– nodi ei bod yn ofynnol i
weithrediadau neu weithgareddau gael eu cyflawni yn, ar, oddi tan neu uwch ben
y tir;
– nodi ei bod yn ofynnol
defnyddio'r tir mewn ffordd benodol;
– nodi ei bod yn ofynnol i
daliadau gael eu gwneud i'r awdurdod naill mewn un swm neu'n gyfnodo.
Efallai mai dim ond pan fo
hynny'n angenrheidiol i bolisi/bwriad y cynllun datblygu y defnyddir
ymrwymiadau
cynllunio, neu wrth ddyfarnu caniatâd cynllunio sy'n berthnasol i gynllunio ac
i'r datblygiad a ganiatawyd. Dim ond os nad oes modd goresgyn problemau drwy
ddefnyddio amodau cynllunio fydd y Cyngor yn defnyddio mesurau o'r fath. Ni
fyddant yn cael eu defnyddio i gefnogi nac i gymeradwyo bwriadau sy'n
annerbyniol fel arall ar sail y ffaith bod rhyw fath o 'fudd' wedi'i gynnig i'r
gymuned. Mae ymrwymiadau cynllunio o'r fath yn rhan allweddol o'r Strategaeth
Ddatblygu Gyffredinol a, lle bo hynny'n angenrheidiol ac yn briodol, byddant yn
ymwneud ag amrywiaeth o ffactorau y bydd 'budd cymunedol' yn deillio ohonynt yn
cynnwys isadeiledd, cyfleusterau a gwasanaethau, parcio, gofod agored, tirlunio
a chadwraeth natur.
Isod, nodir y polisïau a'r
bwriadau lle bydd yn ofynnol sicrhau budd cymunedol efallai;
i) Ardaloedd Datblygiad Cymysg
Pwysig:
MDA 1 - Tir yn Ne Ddwyrain Y
Rhyl.
MDA 2 -
Tir yng Nglasdir, Rhuthun.
MDA 3 -
Traeth y Tŵr, Prestatyn.
MDA 4 -
Cyn-Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych.
MDA 5 -
Gorsaf Reilffordd Corwen.
MDA 6 -
Triongl Rhuddlan.
ii) Symiau cymudol am ofod
agored (Polisi REC 2) a pharcio
(Polisi TRA 9) etc.
Polisi GEN 9 - Asesiad/Datganiad Amgylcheddol
BYDD YN OFYNNOL I
DDATBLYGIAD SY'N DEBYGOL O GAEL EFFAITH SYLWEDDOL AR YR AMGYLCHEDD:
i) FEDDU AR DDATGANIAD
AMGYLCHEDDOL I GYD-FYND AG EF YN DILYN ASESIAD AMGYLCHEDDOL PAN FO ANGEN,
DAN REOLIADAU'R 'ASESIAD O EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL';
ii) FEDDU AR WYBODAETH
AMGYLCHEDDOL GEFNOGOL ADDAS YM MHOB ACHOS ARALL.
Bydd angen Asesiad Amgylcheddol
ar gyfer rhai mathau penodol o brosiectau sy'n debygol o gael effaith sylweddol
ar yr amgylchedd yn rhinwedd eu natur, eu maint a'u lleoliad, yn unol â‘r
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Amgylcheddol) 1999 a Chylchlythyr
Asesiad Effaith Amgylcheddol 11/99.
Mae Asesiad Amgylcheddol (A.A.)
yn broses o gasglu, asesu a rhoi ystyriaeth i wybodaeth am effeithiau
amgylcheddol tebygol rhai mathau o ddatblygiad, a hynny gan y datblygwr (fel
rhan o ddyluniad y prosiect) a chan yr awdurdod cynllunio lleol (er mwyn
penderfynu ar ba mor dderbyniol yw'r cais cynllunio). Os oes angen Asesiad
Amgylcheddol, mae'n rhaid i'r datblygwr baratoi a chyflwyno Datganiad
Amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio.
Mae'r Rheoliadau'n rhannu
prosiectau yn ddatblygiadau Atodlen 1 ac Atodlen 2. Mae'n ofynnol i brosiectau
Atodlen 1 fod ag A.A. ym mhob achos ac mae'n cynnwys enghreifftiau megis
purfeydd olew, gorsafoedd pŵer etc. Efallai y bydd yn ofynnol i brosiectau
Atodlen 2 gyflwyno A.A. yn ôl mympwy'r Cyngor, cyn belled â bod y datblygiad yn
debygol o greu effeithiau amgylcheddol sylweddol. Gall yr enghreifftiau gynnwys
adeiladau magu moch neu ieir, gweithfeydd cloddiol a rhai diwydiannau
gweithgynhyrchu. Os nad yw'r datblygiad yn dod oddi mewn i Atodlen 1 neu 2, ond
yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, bydd y Cyngor angen gwybodaeth
amgylcheddol gefnogol addas. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ddigonol i asesu
effeithiau amgylcheddol datblygiad arfaethedig yn briodol.
Polisi GEN 10 - Canllawiau Cynllunio Atodol
BYDD YR AWDURDOD CYNLLUNIO
LLEOL YN CYNHYRCHU AC YN ADOLYGU CYFRES GYNHWYSFAWR O NODIADAU CANLLAWIAU
CYNLLUNIO ATODOL YN YMWNEUD Â SAFLEOEDD UNIGOL, MATERION DATBLYGU A MATHAU
ARBENNIG O DDATBLYGIAD ER MWYN GWELLA ANSAWDD Y DATBLYGIAD. BYDDANT YN CAEL EU
TRIN FEL YSTYRIAETHAU CYNLLUNIO HANFODOL YN DDAROSTYNGEDIG I (1) BENDERFYNIAD
GAN Y CYNGOR A (2) YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS.
Mae cyfres o Nodiadau Canllawiau
Cynllunio Atodol (CCA) wedi cael eu paratoi a'u cymeradwyo gan y Cyngor a
byddant yn ddarostyngedig i ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd y nodiadau hyn yn
cyd-fynd â, ac yn ymhelaethu ar lawer o'r polisïau a'r bwriadau yn y Cynllun.
Byddant yn darparu cyngor manylach ac yn nodi'r canllawiau i'w hystyried wrth
benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio. Yr amcan ym mhob achos fydd gwella
ansawdd y datblygiad. Bydd nodiadau cyfarwyddyd unigol yn cael eu diweddaru ac
fe gyhoeddir rhai newydd fel a phan fo angen.
Mae’r CCA’au seiliedig ar bwnc
fel a ganlyn:
CCA 1: Estyniadau I
Anheddau
CCA 2: Tirlunio
Datblygiadau Newydd
CCA 3: Gofal Plant yn Ystod y Dydd
CCA 4: Mannau Agored
Cyhoeddus I Hamddena
CCA 5: Cerbydau Llogi
Preifat (Tacsis)
CCA 6: Coed A
Datblygiadau
CCA 7:
Fflatiau Hunangynhwysol A Thai Amlddaliadaeth
CCA 8: Mynediad i Bawb
CCA 9: Tai Gweithwyr
Amaethyddol A Choedwigol
CCA 10: Tai Mewnlenwi
Yng Nghefn Gwlad
CCA 11: Siopau Bwyd
Poeth I'w Fwyta Allan
CCA 12:
Blaenau Siopau
CCA 13: Ardaloedd
Cadwraeth
CCA 14:
Adeiladau Rhestredig
CCA 15: Archeoleg
CCA 16:
Trawsnewid Adeiladau Gwledig
CCA 17:
Hysbysebion
CCA 18:
Cadwraeth Batur A Gwarchod Rhywogaethau
CCA 19:
Ciosgau Gwerthu
CCA 20: Datblygiad
Carafanau Statig a Chalets
Polisi GEN 11 - Hysbysebion Oddi Mewn i Ffiniau Datblygu
ODDI MEWN I FFINIAU DATBLYGU,
CANIATEIR CEISIADAU AM GANIATÂD I ARDDANGOS HYSBYSEBION ALLANOL AR YR AMOD EU
BOD:
i) O FAINT A MATH SY'N
GWEDDU'N DDA I'R ADEILAD Y'U GOSODIR ARNO;
ii) O SAFON UCHEL O
SAFBWYNT DYLUNIAD A DEUNYDDIAU;
iii) WEDI'U LLEOLI FEL NAD
YDYNT YN PERYGLU DIOGELWCH AR Y FFORDD;
iv) YN GWEDDU Â NAWS Y
STRYD O AMGYLCH HEB AMHARU DIM ARNO;
v) EU BOD YN SICRHAU CYN
LLEIED AG Y BO MODD O DDWYSEDD O RAN GOLEUO.
Yr Awdurdod Cynllunio Lleol sy'n
penderfynu ar geisiadau am hysbysebion awyr agored er lles dymunoldeb a
diogelwch y cyhoedd. Gall hysbysebion sydd wedi'u dylunio a'u lleoli'n briodol
gyfrannu'n bositif tuag at gymeriad adeilad neu ardal. Fodd bynnag, gall
hysbysebion mewn lleoliad gwael, sy'n llachar ac yn rhy fawr, amharu ar neu
beryglu diogelwch, drwy ddrysu gyrwyr mewn arwyddion traffig neu groesfannau i
gerddwyr er enghraifft. Hefyd, gall toreth o hysbysebion, a chynnydd yn eu maint
a'u hamlygrwydd yn unigol a chyda'i gilydd, amharu ar ddymunoldeb yr ardal.
Felly, dylid osgoi unrhyw orlenwi a dryswch diangen mewn stryd a all fod yn lle
prysur eisoes, a sicrhau nad yw arwyddion yn cuddio nac yn amharu ar nodweddion
eraill yr amgylchedd.
Polisi GEN 12 - Hysbysebion y Tu Allan i Ffiniau Datblygu
Y TU ALLAN I FFINIAU
DATBLYGU, DIM OND OS YDYNT WEDI'U LLEOLI AR NEU YN UNIONGYRCHOL GYFAGOS I'R
EIDDO Y MAE'R HYSBYSEB YN YMWNEUD AG EF Y CANIATEIR ARDDANGOS HYSBYSEBION, NEU
OS YDYNT YN DARPARU CYFEIRIAD NEU RYBUDD YMLAEN LLAW HANFODOL YNGHYLCH EIDDO
ER LLES DIOGELWCH Y CYHOEDD, AR YR AMOD:
i) EU BOD YN BRIODOL AC YN
CYD-FYND Â'R ARDAL O AMGYLCH;
ii) NAD YDYNT YN AMHARU AR
DDYMUNOLDEB GWELEDOL YR ARDAL;
iii) NAD YDYNT YN CAEL
EFFAITH ANNERBYNIOL AR Y TIRLUN NAC AR FUDDIANNAU CADWRAETH NATUR;
iv) EU BOD WEDI'U GWNEUD O
DDEUNYDDIAU TRADDODIADOL A'U BOD O FAINT A LLIW PRIODOL;
v) BOD DWYSEDD UNRHYW OLAU
YN CAEL EI GADW I'R LLEIAFSWM MEWN MANNAU LLE MAE GOLAU YN DDERBYNIOL Y TU
ALLAN I ARDALOEDD GYDA STRYDOEDD WEDI'U GOLEUO;
vi) NAD YDYNT YN PERI NAC
YN CREU PERYGL I DDIOGELWCH Y BRIFFORDD.
Mae pob hysbyseb yn yr awyr
agored yn effeithio ar ymddangosiad y tirlun a'r cefn gwlad. Gall arwyddion
siopau, garejis, gwersylloedd gwyliau, tafarndai, busnesau gwledig a
digwyddiadau fod yn nodweddion aflonyddol, yn enwedig mewn cefn gwlad agored ac
mewn AHNE. Gall golau cryf darfu ar fuddiannau cadwraeth natur hefyd a pheri
llygredd trwy olau yn yr awyr yn y nos. Mewn ardaloedd gwledig, mae'r Cyngor yn
derbyn bod angen arwyddion cyfeiriadol ymlaen llaw os yw busnesau wedi'u lleoli
beth pellter oddi wrth y priffyrdd. Fodd bynnag, dylid cadw arwyddion o'r fath i
leiafswm a sicrhau bod eu hymddangosiad yn briodol i'r ardal. Mae deunyddiau
traddodiadol fel rheol yn golygu pren wedi'i staenio neu eu baentio gyda
llythrennau wedi'u paentio arno.
Ceir cyfarwyddyd manwl pellach
yng nghyfarwyddyd Cynllunio Ategol y Cyngor.
Polisi GEN 13 - Celf Gyhoeddus
ANOGIR BWRIADAU DATBLYGU
MAWR MEWN MANNAU CYHOEDDUS I WNEUD DARPARIAETH AR GYFER GWEITHIAU CELF
NEWYDD PRIODOL.
Gall darparu gweithiau celf mewn
mannau cyhoeddus fod yn ffactor allweddol o safbwynt hyrwyddo ansawdd datblygiad
a'r amgylchedd lleol. Bydd celf gyhoeddus yn arbennig o bwysig mewn trefi a
chanolfannau dosbarth, ardaloedd cadwraeth a datblygiadau cyflogaeth/masnachol
mawr ymhlith eraill. Yn ychwanegol at y "gweithiau celf" arferol, dylid rhoi
ystyriaeth hefyd i gynnwys celf mewn nodweddion megis waliau, rheiliau, giatiau
a mesurau tirlunio. Efallai fod Swyddog Celf y Sir ar gael i drafod bwriadau. |