|
Amgylchedd
Naturiol
5.0 CYFLWYNIAD
5.1
Un o asedion mwyaf Sir Ddinbych yw ei hamgylchedd o ansawdd uchel a
werthfawrogir gan y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y Sir yn ogystal ag ymwelwyr
â'r ardal. Credir bod gwarchod yr amgylchedd hwn yn fesur positif fydd yn esgor
ar fanteision ehangach i'r Sir, yn enwedig ar gyfer twristiaeth a denu
buddsoddiad newydd. Yn wyneb y nifer fawr o bolisïau cysylltiedig â'r amgylchedd,
mae tair pennod ar wahân wedi cael eu paratoi. Mae'r Bennod hon yn ymdrin â'r
amgylchedd naturiol, yn cynnwys gwarchod y tirlun a chadwraeth natur. Mae Pennod
6, 'Cadwraeth yr Amgylchedd Adeiledig', yn ymdrin â'r amgylchedd adeiledig
hanesyddol, megis adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth. Mae Pennod 7, 'Gwarchodaeth
Amgylcheddol', yn ymdrin â materion megis llygredd, tir ansefydlog, tir
llygredig a gorlif.
5.2
Mae'r Polisi Strategol yn Rhan 1 yn ceisio sicrhau bod
ansawdd cadwraeth natur a thirlun y Sir yn cael ei warchod, ei gynnal a'i
hyrwyddo. Dylai unrhyw ddatblygiad newydd geisio gwneud y defnydd gorau o'r
adnoddau drwy ddiogelu'r tir amaethyddol gorau ac mwyaf ffrwythlon a thrwy
warchod a hyrwyddo bioamrywiaeth. Bydd y Polisïau yn y Bennod hon yn darparu'r
fframwaith cynllunio defnydd-tir manylach ar gyfer y gwaith hwn o warchod.
5.3 POLISI CENEDLAETHOL A RHANBARTHOL
5.4
Mae Deddf Cynllunio a Iawndal 1991 yn dweud ei bod yn ofynnol i "gynlluniau
datblygu gynnwys polisïau mewn perthynas â chadwraeth harddwch a dymunoldeb
naturiol y tir".
5.5
Mewn ardaloedd sydd wedi'u dynodi'n statudol oherwydd ansawdd eu tirlun, dylid
rhoi ystyriaeth i nodau a diben y dynodiad a'r nodweddion a'r rhinweddau a
arweiniodd at y dynodiad hwn, gan roi ystyriaeth briodol hefyd i les economaidd
a chymdeithasol y rhai sy'n byw yno. Dylid rhoi pwyslais mawr ar gadwraeth
harddwch naturiol cefn gwlad mewn polisïau cynllunio sy'n effeithio ar Ardaloedd
o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE'oedd). Nid yw dynodiadau tirlun lleol mor
bwysig â dynodiadau cenedlaethol a dylid seilio unrhyw ddynodiadau ar asesiad
ffurfiol o'r tirlun.
5.6
Nodau'r Llywodraeth ar gyfer cadwraeth natur yw sicrhau bod ei pholisïau yn
cyfrannu tuag at y doreth a'r amrywiaeth o fywyd gwyllt a'u cynefinoedd ym
Mhrydain, neu leihau'r effeithiau annerbyniol ar fywyd gwyllt lle mae
gwrthdaro'n anochel, a chwrdd â'i rhwymedigaethau a'i chyfrifoldebau rhyngwladol
ar gyfer cadwraeth natur. Mae'r Llywodraeth yn ymrwymedig i gadw a, lle bo modd,
hyrwyddo bioamrywiaeth. Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol roi ystyriaeth i
arwyddocâd cymharol y dynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol wrth ystyried
y pwysigrwydd sydd i'w roi i fuddiannau cadwraeth natur. Dylai polisïau'r
cynllun annog y gwaith o reoli'r nodweddion tirlun sydd o bwysigrwydd mawr i
blanhigion ac anifeiliaid gwyllt, sy'n hanfodol i ymfudiad, gwasgariad a
chyfnewidiad genynnol rhywogaethau gwyllt.
5.7
Mae nifer o asiantaethau'r Llywodraeth yn ymwneud â gwarchod yr amgylchedd
naturiol. Mae gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) rôl statudol yn y gwaith o
ddatblygu'r cynllun datblygu a rheolaeth ddatblygu mewn perthynas â thirlun,
cadwraeth natur a materion mynediad ynghyd â dyfroedd mewndirol. Bydd
Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan ddilyn cyngor CCGC, yn gofyn am weld ceisiadau
cynllunio fel rheol er mwyn cael penderfynu drosti’i hun pa rai sy'n debygol o
effeithio'n sylweddol ar safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol o safbwynt
cadwraeth natur, a cheisiadau sy'n effeithio ar SoDdGA'oedd pan fônt yn codi
materion cynllunio sydd o bwysigrwydd mwy na phwysigrwydd lleol. (Ceir manylion
am ddynodiadau a safleoedd cawraeth natur yn Sir Ddinbych mewn papur cefndir ar
wahân). Cadw yw asiantaeth weithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol
am yr amgylchedd hanesyddol, yn cynnwys parciau a gerddi hanesyddol ac Adran
Amaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (AACCC) sy'n gyfrifol am warchod y tir
amaethyddol gorau ac mwyaf ffrwythlon.
5.8 TUEDDIADAU A MATERION
5.9
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o faterion amgylcheddol wedi dod â materion cadwraeth
tirlun a natur i'r amlwg. Mae'r pryder hwn wedi cael ei adlewyrchu yn y cynnydd
mewn deddfwriaeth Ewropeaidd a Chenedlaethol a luniwyd i warchod a hyrwyddo'r
amgylchedd. Mae llawer o'r ddeddfwriaeth hon yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n
anuniongyrchol â chynllunio ac mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddi wrth baratoi'r
CDU ac mewn penderfyniadau rheoli datblygiad.
5.10
Ni ellir ystyried cadwraeth tirlun a natur ar wahân, ond fel rhan o becyn o
fesurau sy'n cynnwys CDU'au, Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth, Agenda 21 Leol
a Strategaethau/Cynlluniau Rheoli Cefn Gwlad. Mae'r Sir yn paratoi Strategaeth
Agenda 21 ac wrthi’n llunio Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, yng
nghyd-destun Agenda 21 Leol, ar y cyd â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Lleol Sir
Ddinbych. Nid yw'r CDU yn ymdrin yn uniongyrchol â'r agweddau gweinyddol neu
reoli ar warchod a hyrwyddo cefn gwlad. Gweithredir hyn gan Wasanaethau Cefn
Gwlad CSDd ac mae 'Strategaeth Gefn Gwlad' wedi cael ei pharatoi er mwyn darparu
sylfaen ar gyfer hyrwyddo a rheoli cefn gwlad yn ogystal â chynorthwyo i
weithredu polisïau'r CDU. Hefyd, mae strategaeth reoli wedi cael ei llunio i
warchod tirlun Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd, ardal
sydd wedi’i dynodi’n genedlaethol. Mae AHNE’oedd yn derbyn yr un lefel o statws
a gwarchodaeth â Pharciau Cenedlaethol mewn perthynas â’u harddwch naturiol.
5.11 STRATEGAETH DDATBLYGU
5.12
Fel a amlinellwyd yn Rhan 1 o'r CDU, un o nodau strategol y cynllun yw gwarchod,
cynnal a hyrwyddo'r amgylchedd naturiol. Dim ond dan amgylchiadau arbennig y mae
Polisi GEN 3 ym Mhennod 1 (Rhan II)
yn caniatáu datblygiadau y tu allan i'r ffiniau datblygu mewn cefn gwlad agored
ac ar yr arfordir sydd heb ei ddatblygu. Bydd Barrau Gwyrdd strategol (Polisi
GEN 5) hefyd o gymorth i warchod cefn gwlad er nad oes raid i'r ardaloedd
hyn fod o werth mawr o safbwynt tirlun.
5.13
Cydnabyddir pwysigrwydd yr amgylchedd gan bolisïau sy'n ceisio gwarchod y tirlun
a'r ardaloedd a'r nodweddion o bwysigrwydd o safbwynt cadwraeth natur. Mae hyn
yn cynnwys nid yn unig safleoedd dan warchodaeth statudol ond nodweddion tirlun
sy'n bwysig i gynnal a hyrwyddo bioamrywiaeth. Rhoddir sylw hefyd i ddiogelu tir
amaethyddol o safon uchel fel adnodd pwysig.
5.14
Yn dilyn asesiad tirlun eang ledled y Sir, mae haenau o ddynodiadau tirlun wedi
cael eu nodi a pholisïau priodol wedi cael eu ffurfio.
-
Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd
-
Ardal o Harddwch Eithriadol (AHE)
Llandysilio a'r Berwyn
-
Ardaloedd Tirlun Lleol (ATLl)
a'r Tirlun Arfordirol
-
tirlun o ansawdd dda yn
gyffredinol ledled y Sir
5.15
Cymeradwywyd Strategaeth Sir Ddinbych wedi ymarfer ymgynghori gan ddefnyddio’r
methodoleg asesu tirlun a elwir yn LANDMAP gyda chefnogaeth CCGC. Mae
Strategaeth y Tirlun yn darparu fframwaith ar gyfer y gwaith o reoli’r tirlun yn
y dyfodol, a’r polis_au a’r penderfyniadau cadwriaethol. Gall fod yn sail i
benderfyniadau cynllunio a defnydd tir hefyd.
5.16 GWERTHUSIAD AMGYLCHEDDOL
5.17
Mae'r bennod hon yn amcanu at warchod a hyrwyddo'r amgylchedd naturiol ac mae'n
tueddu i gael effeithiau positif yn gyffredinol. Fodd bynnag, drwy ddiogelu
buddiannau cadwraeth natur, efallai y rhoddir rhai cyfyngiadau ar fynediad i'r
cyhoedd.
5.18 POLISÏAU A CHYNIGION
Polisi ENV 1 - Gwarchod yr Amgylchedd Naturiol
GWARCHODIR TIRLUN A
BIOAMRYWIAETH YR AMGYLCHEDD NATURIOL, YN CYNNWYS YR AMGYLCHEDD DYFROL, LEDLED
Y SIR. MAE'N RHAID DYLUNIO DATBLYGIADAU FEL EU BOD YN CYNNAL A HYRWYDDO
CYMERIAD TIRLUN Y CEFN GWLAD, A BIOAMRYWIAETH YR AMGYLCHEDD NATURIOL.
Mae'r polisi hwn yn ymwneud â
phob ardal y tu allan i'r ffiniau datblygu ac yn cydnabod bod cefn gwlad Sir
Ddinbych gyfan, nid dim ond yr ardaloedd dynodedig, o ansawdd eithriadol dda yn
gyffredinol. Yn unol â strategaeth gyffredinol y CDU, rheolir unrhyw
ddatblygiadau y tu allan i'r ffiniau datblygu, yn llym. Os caniateir bwriadau
datblygu gan bolisïau eraill y cynllun, dylid eu dylunio mewn ffordd cynorthwyo
i warchod cymeriad gwledig y cefn gwlad agored. Mae
polisi GEN 6 yn ymdrin â'r gofynion
rheoli cyffredinol yn cynnwys yr ystyriaethau dylunio.
Mae Rheol 37 o Reoliadau
Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc.) 1994 yn ceisio rheoli nodweddion tirluniol
sy'n bwysig iawn i anifeiliaid a phlanhigion gwyllt. Ymhlith y nodweddion o'r
fath mae'r rhai sydd, oherwydd eu strwythur llinellol a pharhaus (megis afonydd
a'u glannau, terfynau caeau traddodiadol), neu oherwydd eu swyddogaeth fel "cerrig
camu" (megis pyllau, llwyni) yn hanfodol ar gyfer mudiad, ymlediad a chyfnewid
genetig rhywogaethau gwyllt. Dylai unrhyw ddatblygiadau roi ystyriaeth i unrhyw
effeithiau niweidiol posibl ar fioamrywiaeth. Er enghriafft, gall gosod
ceuffosydd mewn afonydd arwain nid yn unig at fwy o berygl o orlifo ond gall
hefyd beri niwed annerbyniol i werth cadwraeth natur yr afon. Mae polisïau
eraill yn y bennod yn ymdrin â gwarchod rhywogaethau, nodweddion tirlun a
choetiroedd.
Polisi ENV 2 - Datblygiadau'n Effeithio ar Yr AHNE/AHE
ARDAL O HARDDWCH NATURIOL
EITHRIADOL
BYDD DATBLYGIADAU SY’N
EFFEITHIO AR ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL (AHNE) YN CAEL EU HASESU’N
ERBYN Y NOD CYNLLUNIO SYLFAENOL O WARCHOD A HYRWYDDO HARDDWCH NATRUIOL YR
ARDAL. DIM OND OS NAD YDYNT YN CAEL EFFAITH NIEWEIDIO AR GYMERIAD AC
YMDDANGOSIAD YR ANHE Y CANIATEIR DATBLYGIADAU AR RADDFA FECHAN.
BYDD DATBLYGIADAU
DIWYDIANNOL A MASNACHOL MAWR YN YR AHNE YN DDAROSTYNGEDIG I ARCHWILIADAU MANWL
AC NI CHANT EU CANIATAU ONI BAI FOD GWIR ANGEN O SAFBWYNT DIDDORDEB
CENEDLAETHOL WEDI’I BROFI AC OS NAD OES UNRHYW SAFLEOEDD ERAILL.
DYLID DYLUNIO DATBLYGIADAU
MEWN AHNE I SAFON UCHEL A DYLENT GYFRANNU AT GADWRAETH HARDDWCH NATURIO YR
ARDAL A’I HYRWYDDO.
ARDAL O HARDDWCH
EITHRIADOL
CANIATEIR DATBLYGIADAU SY’N
EFFEITHIO AR ARDAL O HARDDWCH EITHRIADOL (AHE) AR YR AMOD NAD YDYNT:
i) YN GWNEUD NIWED
ANNERBYNIOL I GYMERIAD AC YMDDANGOSIAD Y TIRLUN;
ii) YN GWNEUD DRWG I
DDYNODIAD YN Y DYFODOL FEL ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL.
Cafodd Bryniau Clwyd eu dynodi'n
statudol fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn 1985. Goruchwylir y
gwaith o reoli'r AHNE gan Gyd-Bwyllgor Ymgynghorol ac mae Cynllun Rheoli mewn
grym.
Nid yw'r polisi'n ymwneud â
datblygiadau yn yr AHNE yn unig, ond hefyd â datblygiadau y tu allan i'r ardal
hon a allai gael effaith niweidiol ar yr AHNE, yn cynnwys golygfeydd i mewn ac
allan o’r ardal. Bydd datblygiadau a ganiateir yn yr AHNE yn ddarostyngedig i
safonau dylunio uchel ac mae'n rhaid eu hintegreiddio'n briodol i'r tirlun o
safbwynt lleoliad, dyluniad, y defnydd o adnoddau priodol i’r ardal, deunyddiau,
peirianwaith, tirluniad a thrin y ffin. Dylid cadw nodweddion tirlun, megis coed
a gwrychoedd, sy'n bwysig i gymeriad tirluniol yr ardal.
Nodwyd bod Bryniau Clwyd a'r
Berwyn o bwysigrwydd tirluniol cenedlaethol gan Adroddiad Hobhouse yn 1947.
Mae'r Berwyn eto i gael ei ddynodi fel AHNE, er ei fod yn cael ei gydnabod fel
tirlun o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn parhau i gael ei ystyried gan CCGC ar
gyfer statws AHNE llawn. Er mwyn cydnabod pwysigrwydd tirluniol cenedlaethol yr
ardal hon, mae'r ardal wedi cael ei dynodi fel 'Ardal o Harddwch Eithriadol' (AHE).
Mae dynodi'r Berwyn i gyd fel
AHNE yn parhau'n bosibilrwydd ac fe fydd y Cyngor yn dilyn trywydd hyn. Fodd
bynnag, fel mesur byrdymor, cynigiodd CSDd y dylid ehangu AHNE Bryniau Clwyd
tua'r de i gynnwys Llandysilio, Eglwyseg a dyffryn yr Afon Dyfrdwy oedd wedi'u
cynnwys yn wreiddiol fel rhan o'r Berwyn. Cydnabyddir na ellir rhoi’r un lefel o
warchodaeth i’r AHE anstatudol ag i’r AHNE, er gwaetha’i gwerth uchel o safbwynt
y tirlun, yn enwedig mewn perthynas â datblygiadau mawr. Fodd bynnag, ni
ddylai’r datblygiadau gael effaith niweidiol ddiangen ar y tirlun drwy beryglu
dynodiad fel AHNE yn y dyfodol.
Bydd yr asesiad tirlun ar gyfer y
sir i gyd (Landmap) wedi’i gwblhau o gymorth i ddiffinio cymeriad y tirlun ac yn
cynnwys canllawiau rheoli tirlun sy'n gysylltiedig â datblygiad nid yn unig yn
yr ardaloedd dynodedig ond yn y cefn gwlad ehangach hefyd. Bydd yr ymarfer
LANDMAP o gymorth i arenwi ardal estyniad bresennol AHNE Bryniau Clwyd. Mae Sir
Ddinbych hefyd yn ffinio â Pharc Cenedlaethol Eryri ac mae datblygiadau sy’n
debygol o gael effaith niweidiol ar y Parc yn cael eu hasesu’n ofalus, a lle bo
hynny’n briodol ymgynghorir ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dywed Polisi Cynllunio Cymru,
paragraff 5.36: "Rhoddir yr un statws i Barciau Cenedlaethol ac AHNE’oedd o
safbwynt tirlun a harddwch golygfaol ac mae’n rhaid rhoi’r warchodaeth o’r
statws uchaf i’r ddau rhag datblygiadau amhriodol. Ym mholisïau’r CDU ac mewn
penderfyniadau rheoli datblygiad, mae’n rhaid trin Parciau Cenedlaethol ac
AHNE’oedd yn gyfartal. Mewn Parciau Cenedlaethol ac AHNE’oedd, dylai polisïau’r
CDU a phenderfyniadau rheoli datblygiad roi sylw mawr i warchod a hyrwyddo
harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardaloedd hyn."
Polisi ENV 3 - Ardaloedd Tirlun Lleol
CANIATEIR DATBLYGIADAU ODDI
MEWN I’R ARDALOED TIRLUN LLEOL (ATLl’oedd) LLE:
i) MAE MODD INTEGREIDDIO
I’R TIRLUN HEB BERI NIWED ANNERBYNIOL I’R NODWEDDION
SY’N ARWAIN AT DDYNODIAD.
NEU
ii) YR ANGEN AM
DDATBLYGIAD WRTHBWYSO PWYSIGRWYDD Y DYNODIAD. YN YR ACHOSION HYN, MAE’N
RHAID CYMRYD CAMAU PRIODOL I LEIHAU UNRHYW EFFAITH NIWEIDIOL AR YR ADL.
Cydnabyddir bod llawer o dirlun
Sir Ddinbych y tu allan i'r AHNE/AHE yn bwysig iawn a dylid gwarchod y tirlun
hwn yn addas gyda Pholisi ENV 1 a
Pholisi GEN 6 ym Mhennod 1, 'Ystyriaethau
Rheoli Datblygiad'. Fodd bynnag, mae rhai ardaloedd sydd â phwysigrwydd
tirluniol lleol arbennig ac mae'r ardaloedd hyn yn sensitif i ddatblygiadau
newydd.
Cynhaliwyd asesiad tirlun eang
gan hen gyngor Sir Clwyd. Mae'r astudiaeth hon yn sail i asesiad tirlun manwl a
gynhaliwyd gan Wasanaeth Cefn Gwlad CSDd, fel a gynhwysir yn Astudiaeth Ardal
Dirlun Leol CSDd sydd ar gael ar wahân fel papur cefndir. Mae'r asesiad manwl
hwn yn canolbwyntio ar safleoedd oddi mewn i ardaloedd trefol (gofod gwyrdd
trefol) ac ar y 'cyrion trefol', gan arenwi tirluniau gwerthfawr lleol a
nodweddion triluniol sydd:
i) yn werthfawr oherwydd y
cyfraniad gweledol a wneir i'r olygfa leol, oherwydd ansawdd cynhenid y tirlun
ac oherwydd y gwerth a wêl y gymuned leol ynddo;
ii) yn ardaloedd bychain sy'n
sensitif i ddatblygiad a lle byddai unrhyw niwed posibl o arwyddocâd lleol yn
hytrach na chenedlaethol.
Ni chaniateir datblygiad mewn
ATLl'oedd oni bai fod modd ei integreiddio i'r tirlun heb niweidio'r ansawdd a'r
cymeriad a barodd iddi gael ei dynodi.
Policy ENV 4 - Safleoedd Cenedlaethol/Rhyngwladol o Werth
Cadwraeth Natur
BYDD DATBLYGIAD ALL
EFFEITHIO AR INTEGRITI SAFLE EWROPEAIDD SYDD O WERTH CADWRIAETHOL O SAFBWYNT
NATUR YN DDAROSTYNGEDIG I ARCHWILIAD MANWL. DIM OND OS NA CHEIR UNRHYW ATEB
ARALL Y CANIATEIR DATBLYDIADAU O’R FATH A LLE CEIR RHESYMAU HANFODOL DROS
SICRHAU LLES Y CYHOEDD I DDECHRAU. OS YW’R SAFLE’N CYNNWYS CYNEFIN NATURIOL
SYDD I DDERBYN BLAENORIAETH A/NEU RYWOGAETHAU, DIM OND AM RESYMAU’N YMWNEUD Â
IECHYD Y CYHOEDD A LLES Y CYHOEDD Y CANIATEIR DATBLYGIADAU, NEU OS CEIR
MANTEISION SY’N BWYSIG IAWN I’R AMGYLCHEDD.
NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU
FYDDAI’N CAEL EFFAITH NIWEIDIOL AR WERTH Y SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL
ARBENNIG (SODDGA) I GADWRAETH ONI BAI FOD Y RHESYMAU CYDNABYDDEDIG DROS Y
DATBLYGIAD YN GWRTHBWYSO’N EGLUR EI WERTH O SAFBWYNT CADWRAETH NATUR.
LLE CANIATEIR DATBLYGIADAU,
GELLIR CEISIO AMODAU CYNLLUNIO A RHWYMEDIGAETHAU I SICRHAU MESURAU IAWNDAL
ANGENRHEIDIOL.
Mae'r Berwyn, yn ne’r Sir, wedi
cael ei arenwi fel Ardal Warchodaeth Arbennig (AWA) ar gyfer adar gwyllt yn
wyneb ei bwysigrwydd ar gyfer adar sy'n magu ar rostir. Gellir dynodi Ardaloedd
Cadwraeth Arbennig (ACA) yn yr
ardal hefyd, dan Gyfarwyddyd Cynefinoedd Ewrop, gyda rhan helaeth o'r Berwyn
wedi'i arenwi fel safle posibl. Mae Aber yr Afon Dyfrdwy (sydd yn rhannol yn Sir
Ddinbych) yn rhan o safle RAMSAR, a restrir dan y Confensiwn ar Wlybdiroedd o
Bwysigrwydd Rhyngwladol yn arbennig fel cynefin adar dŵr (confensiwn RAMSAR
1971). Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu goblygiadau cadwraeth
unrhyw fwriad sy'n effeithio ar 'safle Ewropeaidd' cyn dyfarnu caniatâd
cynllunio (ac eithrio ceisiadau sy'n ymwneud â rheoli'r safle yn unig). Mae'n
rhaid gwarchod 'safleoedd Ewropeaidd' rhag unrhyw ddatblygiad fyddai'n cael
effaith annerbyniol ar eu hintegriti. Os caniateir datblygiadau, efallai fod
angen defnyddio amodau neu rwymedigaethau cynllunio er mwyn sicrhau bod gwerth
cadwriaethol y safle'n cael ei warchod.
Mae Safleoedd o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig (SoDdGA'oedd) yn safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol sy'n
cynrychioli enghreifftiau o rannau digyffelyb o'n treftadaeth genedlaethol
oherwydd eu plahigion, eu hanifeiliaid a'u nodweddion daearegol a
ffisiograffegol eithriadol. Gwarchodir y safleoedd hyn rhag datblygiad sydd
naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn peri newidiadau annerbyniol i'w
gwerth o safbwynt cadwraeth natur. Nid oes raid i ddatblygiad gael ei leoli o
fewn SoDdGA i niweidio ei gwerth cadwriaethol oherwydd gall rhai ffurfiau o
ddatblygiad a leolir y tu allan i SoDdGA'oedd gael effaith anuniongyrchol arnynt.
Os caniateir datblygiad, efallai ei bod yn angenrheidiol defnyddio amodau neu
rwymedigaethau cynllunio er mwyn sicrhau bod gwerth cadwraeth natur y safle'n
cael ei warchod.
Ceir rhyw 25 SoDdGA, yn llawn
neu'n rhannol, yn Sir Ddinbych (gweler y Papur Cefndir ar wahân) yn amrywio mewn
maint o 0.2 hectar (Chwarel Coedwig Cynwyd) i 15,991 hectar (Y Berwyn - yn
rhannol y tu allan i Sir Ddinbych). Mae ardal helaeth i'r de-ddwyrain o
Landrillo a Hafod Elwy ar Fynydd Hiraethog wedi’u dynodi fel Gwarchodfeydd Natur
Cenedlaethol (GNC). Mae gan bob GNG ddiddordeb cadwriaethol arbennig ac fe'u
hystyrir fel ardaloedd o bwysigrwydd cenedlaethol.
Polisi ENV 5 - Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwriaethol Lleol
NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU
FYDDAI'N CREU NIWED ANNERBYNIOL I WERTH CADWRIAETHOL SAFLEOEDD O BWYSIGRWYDD
CADWRIAETHOL LLEOL, YN CYNNWYS Y RHAI A DDANGOSIR AR Y MAP BWRIADAU, ONI BAI
FOD MODD GWEITHREDU MESURAU LLINIARU PRIODOL.
Mae gan awdurdodau lleol rym dan
Adran 21 o'r Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad (1949) i
sefydlu a rheoli Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl). Mae Pwll Brickfields yn
Y Rhyl, Moel Findeg ger Maeshafn a
Thwyni Gronant ym Mhrestatyn wedi cael eu datgan
fel Gwarchodfeydd Natur Lleol a chynigir Bryndir
Prestatyn fel GNL. Gall y gwarchodfeydd hyn wneud cyfraniad gwerthfawr i
gadwraeth natur a darparu cyfleoedd ar gyfer addysgu'r cyhoedd a mwynhau bywyd
gwyllt. Diogelir tir ar fferm Maes Gwilym, y Rhyl ar
gyfer darparu safle lleol o werth cadwriaethol.
Cynhaliodd Cymdeithas Fywyd
Gwyllt Gogledd Cymru (CFGGC) arolwg ar 'safleoedd bywyd gwyllt' yng
nghyn-fwrdeistref Rhuddlan. Mae CSDd wedi cynnal ymarfer tebyg mewn
cydweithrediad â CFGGC a CCGC ar yr ardaloedd sy'n weddill yn Sir Ddinbych.
Mae'r ddau ymarfer yma wedi'u cyfuno fel rhan o adroddiad - "Prosiect Safleoedd
Bywyd Gwyllt Lleol Sir Ddinbych - Cyfnodau 1&2" sydd ar gael ar wahân. Mae'r
Safleoedd Bywyd Gwyllt hyn (yr arferid eu galw yn 'Safleoedd o Bwysigrwydd
Cadwraeth Natur') yn cynrychioli safleoedd anstatudol o bwysigrwydd cadwraeth
natur lleol. Maent yn cyd-fynd â dynodiadau statudol megis SoDdGA'oedd, gan ei
bod yn ofynnol i gadwraeth natur gael ei ystyried ar sail ehangach na nifer
bychan o safleoedd statudol os am gynnal a hyrwyddo bioamrywiaeth a 'choridorau
bywyd gwyllt'. Ceir mwy na 200 o safleoedd bywyd gwyllt yn Sir Ddinbych ac mae’r
rhain yn cynnwys enghreifftiau o goetir, glaswelltir, tir arfordirol a
chynefinoedd eraill. Ni all safleoedd gyda rhywogaethau Ewropeaidd a warchodir
gael eu harenwi bob amser oherwydd eu maint. Mae Papur Cefndir yn amlinellu'r
fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr arolwg er mwyn arenwi 'safleoedd bywyd gwyllt'.
Bydd dynodiadau eraill yn cael eu
gwarchod dan y polisi hwn yn cynnwys SD/GBRh (Safleoedd Daearegol/Geomorffolegol
o Bwysigrwydd Rhanbarthol). Y mae nifer ohonynt wedi'u harenwi eisoes,
gwarchodfeydd YNGC ac ardaloedd a reolir eisoes fel gwarchodfeydd gan grwpiau
lleol ac a all ddod i'r amlwg hefyd yn ystod cyfnod y Cynllun.
Os caniateir datblygiad, efallai
fod angen defnyddio amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio er mwyn diogelu gwerth
cadwraeth natur y safle, neu ddarparu mesurau cyfiawnhau priodol drwy hyrwyddo a
chreu cynefinoedd newydd naill ai mewn man arall neu ar y safle hwn.
Polisi ENV 6 - Gwarchod Rhywogaethau
NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU
FYDDAI'N CREU NIWED ANNERBYNIOL I RYWOGAETHAU SY'N DERBYN GWARCHODAETH
ARBENNIG GAN Y GYFRAITH, ONI BAI Y GELLIR CYMRYD CAMAU PRIODOL I SICRHAU EU
DIOGELWCH.
Mae'r polisi hwn yn ceisio cynnal
rhywogaethau a warchodir yn y Sir drwy sicrhau nad ydynt hwy, na'u cynefinoedd
na'u cysgodfannau, yn cael eu niweidio'n annerbyniol gan ddatblygiadau.
Mae Rhan 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt
a Chefn Gwlad 1981 yn nodi'r warchodaeth a roddir i blanhigion ac anifeiliaid
gwyllt ac mae'r atodlenni i'r Ddeddf yn rhestru'r adar hynny (atodlen 1) , yr
anifeiliaid (atodlen 5) a'r planhigion (atodlen 8) sy'n derbyn gwarchodaeth
arbennig. Mae'r rhywogaethau yn yr atodlenni hyn yn cynnwys y dylluan wen,
rhywogaethau o ystlumod a'r Rhwyddlwyn Sbigog, sydd i'w gweld i gyd yn y Sir.
Fodd bynnag, mae Atodlenni 5 ac 8 yn ddarostyngedig i adolygiad bob pum mlynedd
a gall y rhywogaethau a restrir newid. Rhoddir gwarchodaeth ychwanegol i
rywogaethau o ystlumod dan Ddeddf 1981 a rhoddir gwarchodaeth hefyd i foch daear
a'u daearoedd dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992. Gwarchodir rhai rhywogaethau
sy’n byw yn Sir Ddinbych, megis y Medfyll Cribog Mawr, y Pathew a Dyfrgwn gan y
Rheoliadau ar gyfer Cynefinoedd Ewropeaidd. Dim ond ymwneud â gwarchod
rhywogaethau mewn perthynas â datblygu a defnyddio tir mae'r Polisi hwn, ac nid
yw'n newid y warchodaeth gyffredinol a roddir gan y Deddfau Seneddol amrywiol
neu dan Gyfraith Ewrop.
Mewn rhai achosion, efallai fod
modd defnyddio dyluniad gofalus a sensitif i gynnal y rhywogaethau a'u
cynefinoedd ar y safle. O fethu â gwneud hyn, ac fel dewis olaf, efallai fod
modd adleoli'r rhywogaethau'n llwyddiannus mewn safle arall. Lle bo modd, ceisir
barn Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac asiantaethau eraill ynghylch yr opsiynau hyn.
Mae'r Cyfarwyddyd Cynllunio Ategol yn darparu cyngor manylach ynghylch gwarchod
rhywogaethau a mesurau lliniaru.
Polisi ENV 7 - Nodweddion Tirlun / Treflun
DYLID DYLUNIO’R DATBLYGIAD I
GADW NODWEDDION MEGIS FFINIAU TRADDODIADOL CAEAU, COED A PHYLLAU NEU UNRHYW
NODWEDDION ERAILL SYDD O WERTH SYLWEDDOL I GYMERIAD Y TIRLUN/TREFLUN A
CHADWRAETH NATUR.
DIM OND LLE GWEITHREDIR
MESURAU LLINIARU PRIODOL Y CANIATEIR DATBLYGIADAU FYDDAI’N ARWAIN AT NIWED
ANNERBYNIOL I’R NODWEDDION HYN.
Mae gwrychoedd, waliau, pyllau a
choed (ymhlith pethau eraill) yn elfennau tirluniol sy'n cyfrannu tuag at
gymeriad cyffredinol ardal. Mae'r nodweddion hyn yn elfennau pwysig o'r tirlun/treflun
ac yn gynhenid i gymeriad y Sir.
Mae'r CDU nid yn unig yn ceisio
gwarchod yr ardaloedd dynodedig ond hefyd cynnal a chadw amgylchedd ehangach
cydymdeimladol. Mae nodweddion megis gwrychoedd, cloddiau a ffosydd yn
gweithredu fel 'coridorau bywyd gwyllt' sy'n darparu rhwydwaith pwysig o orchudd
a chysgod i fywyd gwyllt. Dylid cynllunio datblygiadau fel bod nodweddion pwysig
fel y rhain yn cael eu cynnwys yn sensitif yn y bwriad. Gan gadw at adran 37 o
Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) 1994, anogir rheoli nodweddion tirlun
sydd o bwysigrwydd mawr i blanhigion ac anifeiliaid gwyllt, a lle bo hynny'n
briodol, fe hybir hyn drwy gyfrwng dulliau megis amodau a chytundebau cynllunio.
Gall Rheoliadau Gwrychoedd 1997
ei gwneud yn drosedd i ddileu rhai gwrychoedd sydd dros 30 oed ac yn 20 metr o
hyd heb dderbyn caniatâd yr awdurdod lleol i ddechrau. Os difrodir/ tynnir
gwrychoedd yn anghyfreithlon, efallai y bydd raid i'r person oedd yn gyfrifol
dalu dirwy a gosod gwrych newydd yn ei le. Gellir gwarchod coed unigol gyda
Gorchmynion Gwarchod Coed (GGC’ion) ac fe gedwir y rhain fel rheol. Ceir
cyfarwyddyd ychwanegol yn y Cyfarwyddyd Cynllunio Ategol ar Goed a Datblygiadau.
Polisi ENV 8 - Coetiroedd
NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU
OS BYDDANT YN ARWAIN AT NIWED ANNERBYNIOL I GOETIROEDD, YN ENWEDIG COETIROEDD
HYNAFOL LLED-NATURIOL, SY'N WERTHFAWR O SAFBWYNT CADWRAETH A DYMUNOLDEB.
Mae coetiroedd yn ychwanegu
amrywiaeth at y tirlun a gallant arwain at golled fawr i'r amgylchedd os cânt eu
difrodi, eu clirio neu eu rhannu. Gellir achosi difrod i'r coetiroedd hyn yn
uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a bydd datblygiadau sy'n agos i goetiroedd yn
ddarostyngedig i'r Polisi hwn hefyd. Hefyd, mae coetiroedd, yn enwedig
coetiroedd llydanddail, yn bwysig i gadwraeth natur gan eu bod yn darparu
cynefinoedd ar gyfer planhigion, llwyni, infertebrata, mamaliaid ac adar.
Mae coetiroedd hynafol,
lled-naturiol yn ardaloedd o goetir sydd wedi bod â gorchudd parhaus o goed a
phlanhigion brodorol yn bennaf ers o leiaf 1600 oed Crist, heb gael eu clirio na/neu
eu hailblannu'n helaeth ers hynny. Maent yn safleoedd cadwraeth natur pwysig gan
mai dim ond yn yr ardaloedd cymharol ddigyffro a chysgodol hyn y gall rhai
rhywogaethau ffynnu. Gwerthfawrogir y coetiroedd hyn hefyd am eu rhinweddau
esthetig, dymunol a hanesyddol. Mae gan Sir Ddinbych bum safle o'r fath - Coed
Bishop a Choed Bell Prestatyn, Parc Gwledig Tafarn y Gelyn, Pen y Pigyn, Corwen
a Nant Plas Newydd, Llangollen. Ceir nifer fawr o goetiroedd hynafol
lled-naturiol o eiddo preifat yn y Sir hefyd.
Gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol
wneud defnydd o Orchmynion Gwarchod Coed (GGC'ion) i warchod gwerth dymunoldeb
coed unigol neu grwpiau o goed neu goetiroedd, ac fe ddefnyddir y grymoedd hyn
pan fo hynny'n briodol. Cefnogir rheolaeth bositif ar y coetiroedd hyn gan
Wasanaethau Cefn Gwlad CSDd a chyrff cadwriaethol eraill er mwyn hwyluso eu
cynnal a'u cadw a/neu eu hailfywiad
Polisi ENV 9 - Coetiroedd Cymunedol
DIOGELIR YR ARDALOEDD A
GANLYN, FEL A DDANGOSIR AR Y MAP BWRIADAU, FEL COETIROEDD CYMUNEDOL:
1. PWLL BRICKFIELDS,
Y RHYL;
2. HEN DOMEN SBWRIEL ODDI
AR FFORDD ISA, PRESTATYN;
3. GLAN MORFA,
RHYL.
NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU
FYDDAI'N ATAL EU DEFNYDD AT Y DIBEN HWN.
Coetiroedd aml-bwrpas yw
coetiroedd cymunedol a ddatblygir ac a reolir i ddarparu cyfleoedd ar gyfer
hamdden, adloniant a mynediad i'r cyhoedd ac er mwyn hyrwyddo cadwraeth natur a
thirlun. Plennir y coetiroedd hyn fel rheol ar dir is ei safon ac nid ydynt o
angenrheidrwydd yn ardaloedd mawr o goetir. Yn hytrach, gallant fod yn ardaloedd
llai sydd wedi'u cysylltu â llwybr troed ac ardaloedd eraill o ofod agored.
Lle bwriedir plannu coetiroedd
newydd, ni ddylent niweidio'r tirlun, y buddiannau cadwraeth natur, yr
amgylchedd hanesyddol, nac arwain at golli tir amaethyddol o safon uchel na
chwaith arwain at effeithiau amgylcheddol annerbyniol eraill megis amharu ar
ansawdd dwr. Bydd unrhyw goetiroedd cymunedol a arenwir yn y dyfodol yn cael eu
diogelu dan y Polisi hwn
Polisi ENV 10 - Tir Comin
NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU
FYDDAI'N NIWEIDIO STATWS, CYMERIAD WERTH ECOLEGOL A HANESYDDOL TIR COMIN MEWN
MODD ANNERBYNIOL.
Bydd y CDU yn ceisio cynnal
cymeriad agored unrhyw dir comin drwy wrthwynebu codi ffensys mewnol neu unrhyw
fesurau eraill fyddai'n arwain at ei amgáu. Gall yr ardaloedd hyn fod o werth
ecolegol mawr hefyd a byddant yn cael eu gwarchod rhag unrhyw waith a allai eu
difrodi, megis mynedfeydd neu ffyrdd newydd, neu unrhyw ddatblygiadau eraill
sy'n ddarostyngedig i reolaeth gynllunio. Mae llawer o'r tir comin yn Sir
Ddinbych i'w ganfod yn ucheldir y Sir, yn enwedig yn AHNE Bryniau Clwyd a'r AHE.
Polisi ENV 11 - Diogelu Tir Amaethyddol o Ansawdd Uchel
NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU
FYDDAI'N ARWAIN AT GOLLI TIR AMAETHYDDOL GRADD 1, 2 A 3A YN BARHAOL MEWN MODD
ANNERBYNIOL ONI BAI:
i) FOD GWIR ANGEN AM Y
DATBLYGIAD AC NAD OES TIR O ANSAWDD SALACH AR GAEL;
NEU
ii) FOD TIR O ANSAWDD
SALACH WEDI'I DDYNODI'N STATUDOL I GYDNABOD GWERTH AMGYLCHEDDOL.
Dosberthir tir amaethyddol yn
nhermau ansawdd (Dosbarthiad Tir Amaethyddol Y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth,
Pysgodfeydd a Bwyd (GAPB)) ac mae cyfarwyddyd y Llywodraeth yn ceisio cadw'r tir
o ansawdd gorau (graddau 1, 2 a 3a). Unwaith y mae'r tir hwn wedi'i ddatblygu,
pur anaml y mae'n ymarferol ei ddychwelyd at ddefnydd amaethyddol.
Dan rai amgylchiadau, ystyrir
colli tir gradd 1, 2 a 3a am byth pan fo gwir angen am y datblygiad. Mae'r
achosion hyn yn ymwneud yn gyntaf â (i) dim tir addas o radd is ar gael ac yn
ail ii) tir addas o radd is ar gael ond wedi'i warchod gan ddynodiad tirlun,
bywyd gwyllt, hanesyddol neu archeolegol statudol sy'n bwysicach nag
ystyriaethau amaethyddol. Os oes dewis, dylid cyfeirio pob datblygiad i'r tir
o'r radd isaf. Ymhlith y ffactorau eraill a all fod yn berthnasol wrth
benderfynu rhwng safleoedd gyda thir amaethyddol tebyg o ran ansawdd, wrth
benderfynu ynghylch ceisiadau ar gyfer tir o ansawdd is ac wrth ddynodi
datblygiadau i leihau'r effaith ar amaethyddiaeth leol mae:
i) lleoliad y datblygiad mewn
perthynas â ffermydd;
ii) maint a strwythur y fferm;
iii) adeiladau'r fferm ac offer
sefydlog eraillt;
iv) draeniad y tir.
Lle ceir dewis rhwng safleoedd
gyda thir o ansawdd tebyg, bydd maint, strwythur ac ymarferoldeb yr uned fferm
yn ystyriaethau sylfaenol wrth ddod i benderfyniad.
Mae gan y Sir ardaloedd helaeth o
dir amaethyddol o'r safon uchaf (graddau 1, 2 a 3a) sydd wedi'u lleoli'n bennaf
ar y llain arfordirol ac yn Nyffryn Clwyd. Cydnabyddir y ffermdir cyfoethog hwn
fel adnodd hynod bwysig a dim ond dan amgylchiadau arbennig iawn y caniateid ei
golli. Fodd bynnag, mae prif aneddiadau'r Sir wedi'u lleoli yn yr ardaloedd hyn
hefyd ac fel rhan o'r Strategaeth Ddatblygu
gyffredinol a amlinellir yn Rhan 1 o'r CDU, credir bod angen ehangu rhai o'r
aneddiadau hyn (i'r tir amaethyddol o ansawdd uchel). |