Os ydych yn gwneud aciwbigo, electrolysis, tatŵs neu dyllau ar y corff mae’n rhaid i chi gofrestru eich busnes gyda’r cyngor.
Mae’r rheoliadau hyn yn bodoli er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r safonau iechyd a diogelwch perthnasol, ac i leihau risg heintiau.
Sut ydw i'n cofrestru?
Er mwyn cofrestru eich busnes, gallwch un anfon ebost neu ffonio ar 01824 706305.
Dim ond unwaith y bydd angen cofrestru eich busnes, ac nid oes angen adnewyddu eich cofrestriad oni bai bod eich manylion yn newid.
Os ydych eisoes wedi eich cofrestru a bod eich amgylchiadau yn newid, gadewch i ni wybod.
Faint mae'n ei gostio?
Mae’n costio
- £124 i gofrestru eich eiddo
- £62 am bob ymarferydd
Mae’n rhaid i chi ein hysbysu os oes unrhyw newidiadau ar ôl y cofrestriad cychwynnol.
Gallwch dalu dros y ffôn gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd, neu gallwch anfon siec yn daladwy i Cyngor Sir Ddinbych. Byddwn yn trafod dulliau o dalu pan fyddwch yn cofrestru.