Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon er mwyn gwneud cais am brydau ysgol am ddim a grant gwisg ysgol a chyfarpar i hyd at 5 o blant. Os hoffech wneud cais am brydau ysgol am ddim ar gyfer mwy o blant, cwblhewch y ffurflen cynifer o weithiau ag sydd angen.
Budd-daliadau cymwys
Er mwyn derbyn brydau ysgol am ddim a grant gwisg ysgol a chyfarpar, rhaid i chi dderbyn un o’r budd-daliadau cymwys:
- Cymhorthdal Incwm,
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig
- Treth Credyd Plant gydag incwm blynyddol llai na £16,190
- Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Cynhwysol a ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400
Ni allwch dderbyn prydau ysgol am ddim na grant gwisg ysgol ac offer os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith.
Ymgeiswyr y tu allan i Sir Ddinbych
Os ydych yn byw y tu allan i Sir Ddinbych bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’r budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn. Gellir uwch lwytho copiau o'ch tystiolaeth o fudd-daliadau.