Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon er mwyn gwneud cais am brydau ysgol am ddim i hyd at 5 o blant. Os hoffech wneud cais am brydau ysgol am ddim ar gyfer mwy o blant, cwblhewch y ffurflen cynifer o weithiau ag sydd angen.
Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim:
- Cymhorthdal Incwm,
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig
- Treth Credyd Plant gydag incwm blynyddol llai na £16,190
- Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Cynhwysol a ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400.
Ni ellir derbyn y grant gwisg ysgol os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith.
Os ydych yn byw y tu allan i Sir Ddinbych bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’r budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn. Gellir uwch lwytho copiau o’ch tystiolaeth o fudd-daliadau.
Cliciwch nesa i wneud cais am brydau ysgol am ddim.