Mae Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysu eu preswylwyr am gynigion newydd i gynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff yn y sir ac mae eisiau gweithio gyda chymunedau er mwyn wynebu'r her.
Yn hanesyddol mae gan y sir un o’r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru ac mae preswylwyr wedi chwarae rhan hanfodol yn y llwyddiant hwn. Er gwaethaf yr holl ymdrech, mae mwy na 5,000 tunnell o ailgylchu yn parhau i gael ei daflu trwy gasgliadau gwastraff cyffredinol sy’n costio £500,000, y gall yr arian fod yn cael ei wario ar wasanaethau cyngor angenrheidiol. Mae hon yn her arwyddocaol ac mae'r Cyngor angen ailgylchu mwy a lleihau costau gwaredu diangen. Yr unig ffordd i wneud hyn yw newid y ffordd y mae’r gwasanaeth gwastraff gweithio a thrwy newid y ffordd mae preswylwyr yn ailgylchu.
Y newidiadau arfaethedig i’n gwasanaethau ailgylchu yw:
- casgliad newydd wythnosol ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu fel papur, gwydr, caniau a phlastig
- casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd
- casgliad newydd bob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan
Gyda 64% o wastraff yn cael ei ailgylchu’n barod a chyda casgliad ailgylchu wythnosol gyda mwy o le, ychydig iawn o wastraff na ellir ei ailgylchu fydd ar ôl.
Felly mae’r Cyngor yn cynnig newid y casgliad o wastraff na ellir ei ailgylchu i bob pedair wythnos. Yn hytrach na’r biniau du 140 litr presennol, bydd y Cyngor yn darparu biniau du mwy, newydd, 240 litr yn eu lle.
Ar y cyfan, bydd gan gartrefi 35 litr o le ychwanegol bob wythnos er mwyn rheoli eu gwastraff ond mi fydd y sylw ar ailgylchu, er mwy rhwystro deunyddiau a ellir eu hailgylchu rhag cael eu rhoi yn y bin du heb fod angen. Mae hyn yn well i’r amgylchedd ac yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen pwysig eraill.
Mae’r Cyngor yn credu y bydd cynyddu maint y biniau i’r rhai mwy, newydd a chyflwyno casgliadau wythnosol ac ailgylchu, wedi’u cefnogi gan gasgliadau arbennig eraill, yn diwallu anghenion y preswylwyr.
Mae’r Cyngor hefyd yn annog preswylwyr i gwblhau arolwg ar-lein ar www.sirddinbych.gov.uk fel y gall ddeall patrymau ailgylchu pobl a pha gamau sydd eu hangen i baratoi pobl ar gyfer y newidiadau arfaethedig. Gellir dod o hyd i gopïau o’r arolwg mewn llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a prif dderbynfeydd ar draws y sir.
Gall y rhan helaeth o gartrefi yn Sir Ddinbych gael eu symud i’r drefn newydd. Mae’r Cyngor wrthi’n adnabod y cartrefi hynny lle gall y drefn newydd fod yn anaddas. Lle bo angen, gallai’r Cyngor gyflwyno modelau amgen o gasgliadau.
Gellir hefyd dod o hyd i gwestiynau cyffredin a manylion o oriau agor parciau ailgylchu, ynghyd â rhestr gyflawn o ba eitemau a ellir eu hailgylchu ar y wefan.
Cwestiynau Cyffredin
Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil ac wedi meddwl yn drylwyr am y newid hwn i’r gwasanaeth. Rydym hefyd wedi edrych ar brofiadau cynghorau eraill. Isod mae rhai o’r cwestiynau cyffredin yn ymwneud â’r math hwn o newid a fydd, gobeithio, yn rhoi sicrwydd i chi.
A fydda i’n gallu ymdopi?
A fydda i’n gallu ymdopi?
Gyda chasgliadau ailgylchu a bwyd, casgliadau newydd ar gyfer deunyddiau a bin mwy i’ch gwastraff, dylai fod yna ddigon o le i'ch gwastraff. Cofiwch y cewch focsys ailgylchu ychwanegol, os oes eu hangen arnoch. Bydd trefniadau arbennig i deuluoedd mwy a bydd casgliadau cewynnau a gwastraff anifeiliaid anwes newydd a fydd hefyd yn cynnig mwy o le yn eich bin.
Beth os yw’r bin yn rhy drwm?
Beth os yw’r bin yn rhy drwm?
Peidiwch â straffaglu gyda bocsys – bydd casgliadau â chymorth yn parhau i fod ar gael i’r rheiny sydd angen cymorth ychwanegol. Gyda sawl math trymach o wastraff megis bwyd a deunyddiau y gellir eu hailgylchu sy’n cael eu casglu'n wythnosol, efallai y byddwch yn gweld nad yw eich bin gwastraff yn rhy drwm. Yn aml iawn, mae deunyddiau nad ellir eu hailgylchu yn ysgafn, megis llwch yr hwfer neu blastig nad ellir ei ailgylchu eto.
A all hyn arwain at dipio anghyfreithlon?
A all hyn arwain at dipio anghyfreithlon?
O brofiadau cynghorau eraill, ni wnaeth yr ofnau am dipio anghyfreithlon ddod yn wir, gyda rhai ardaloedd yn gweld gwelliant yng nglanweithdra’r strydoedd. Drwy ddefnyddio casgliadau ailgylchu aml, mae lle yn y bin am eich gwastraff. Nid oes esgus dros dipio anghyfreithlon, felly nid oes rheswm i gredu y bydd preswylwyr Sir Ddinbych yn dechrau gwneud hynny.
A oes problemau yn gysylltiedig â gadael gwastraff am 4 wythnos?
A oes problemau yn gysylltiedig â gadael gwastraff am 4 wythnos?
Weithiau mae pryderon yn codi am arogl posib, pryfed neu blâu. Defnyddio’r casgliadau gwastraff bwyd wythnosol yw’r ffordd orau i atal y problemau hyn, yn enwedig oherwydd bod gan gynhwysyddion gwastraff bwyd, gaead sy'n cloi. Bydd y casgliadau ar gyfer cewynnau anwyddau anymataliaeth, a chyn belled bod mathau eraill o wastraff wedi’i lapio’n ddiogel cyn ei roi yn y bin, ni ddylai fod unrhyw broblemau.
Beth fydd y Cyngor yn ei wneud gyda’r hen biniau olwyn os yw’r cynlluniau arfaethedig yn cael eu derbyn?
Beth fydd y Cyngor yn ei wneud gyda’r hen biniau olwyn os yw’r cynlluniau arfaethedig yn cael eu derbyn?
Bydd unrhyw finiau olwyn sydd yn ddi-angen fel rhan o’r gwasanaeth newydd yn cael eu gwerthu ar gyfer eu hail-ddefnyddio, neu eu hanfon i’w hailgylchu. Mae’r plastig yn addas ar gyfer ei ail-brosesu i mewn i finiau olwyn newydd a dylai cost ail-werthu’r deunydd fod yn ddigon i gyfateb i’r gost o gasglu biniau gan breswylwyr. Bydd preswylwyr yn cael eu cynghori mewn digon o amser ymhle i osod eu biniau i’w casglu, os yw’r cynllun arfaethedig yn cael ei ganiatau.
Rhestr o eitemau y GALLWCH ei ailgylchu:
- Tetrapak gwag
- Papur a phapur newydd
- Ffoil glan
- Bocsys
- Rholyn toiled
- Bocsus bwyd gwag
- Cardiau penblwydd
- Poteli plastig glan/ gwag
- Poteli a jariai gwydr glan/ gwag
- Hambyrddau bwyd plastig glan
- Potel ymolchi plastig gwag
- Potiau iogwrt glan/ gwag
- Tuniau
- Caniau
- Erosolau
Rhestr o eitemau NA ALLWCH ei ailgylchu:
- Nodwyddau neu ddeunyddiau miniog
- Clytiau babi
- Bagiau plastig
- Plastig caled
- Gwastraff anifeiliaid anwes
- Sbwng polystyren neu becynnau polystyren
- Pecynnau plastig neu becynnau polythen
- Batris car
- Gwastraff bwyd neu hylifau
- Gwifrau neu bibellau dwr
- Pren
Mae gwasanaethau casgliadau bwyd a gwastraff gardd mewn lle.