Taliad Cefnogaeth i Ofalwyr Di-dâl
Bydd Taliad Cefnogaeth i Ofalwyr Di-dâl ar gael i’r holl ofalwyr di-dâl cymwys yng Nghymru i gynorthwyo gyda’r pwysau ariannol a brofwyd yn sgil pandemig Covid-19.
Beth sydd ar gael a phwy sy’n gymwys?
Mae taliad o £500 ar gael i ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd:
- yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022
- yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos
- yn derbyn incwm isel
Nid ydych yn gymwys am y taliad os:
- oes gennych hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr ond nad ydych yn derbyn taliad am eich bod yn derbyn budd-dal arall o’r un faint neu ar gyfradd uwch; neu
- Dim ond premiwm gofalwr o fewn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd yr ydych yn ei dderbyn
Sut i wneud cais
Bydd angen cyflwyno cais i’r cyngor lle rydych yn byw, nid y cyngor lle mae’r unigolyn sy’n derbyn gofal gennych yn byw (os yw’n wahanol).
Y dyddiad cau fydd 5pm ar Dydd Gwener 15 Gorffennaf 2022.
Gwneud cais ar-lein am Daliad Cefnogaeth i Ofalwyr Di-dâl
Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais
Byddwn yn anfon e-bost i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais ac yn gwneud penderfyniad o ran a yw’r cais yn llwyddiannus ai peidio yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynir gennych.
Ceisiadau llwyddiannus
Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn talu’r grant yn llawn i’r cyfrif banc a nodwyd gennych.
Gwneir y taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus rhwng mis Mehefin a diwedd Medi 2022.
Ceisiadau aflwyddiannus
Byddwn yn anfon e-bost atoch i adael i chi wybod os yw eich cais yn aflwyddiannus a rhoi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn. Nid oes proses apelio.