Gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022-2023

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi ddechrau

    Er mwyn llenwi’r cais hwn, bydd angen i chi ddarparu:

    • Eich manylion
    • Eich manylion busnes, yn cynnwys:
      • Rhif Cofrestru Cwmni os yw eich busnes yn Gwmni Cyfyngedig
      • Rhif Cofrestru Elusennol os yw eich busnes wedi cofrestru fel elusen
      • cyfeiriadau’r holl eiddo rydych yn ymgeisio ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru

    Rhif cyfeirnod ardrethi busnes

    Byddai’n ddefnyddiol os gallech ddarparu rhif cyfeirnod ardrethi busnes. Nid oes angen i chi ddarparu hwn, ond gall gymryd mwy o amser i brosesu eich cais hebddo.

    Gwerth Ardrethol

    Os ydych yn ymgeisio am Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer eiddo y tu allan i Sir Ddinbych, mae’n ddefnyddiol os gallwch ddarparu gwerth ardrethol. Nid oes angen i chi ddarparu hwn, ond gall gymryd mwy o amser i brosesu eich cais hebddo.

    Dod o hyd i werth ardrethol busnes (gwefan allanol)