Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Mae ymgyrch Mis Mawrth Menter yn ôl ar gyfer 2023, ac mae’n cynnig gweithdai yn rhad ac am ddim, digwydiadau rhwydweithio a sesiynau cyngor ar gyfer busnesau ledled Sir Ddinbych.
Bydd rhagor o ddigwyddiadau’n cael eu hychwanegu’n fuan. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Ymunwch â ni am noson o gwmni da, bwyd ardderchog ac awgrymiadau ymarferol i liniaru’r gost o gynnal busnes.
Gweithdy ymarferol sy’n eich galluogi chi i deimlo’n hyderus a deall y rhesymau pam mae trethi a chadw cyfrifon yn effeithiol yn hollbwysig ac yn arferion busnes cadarn.
Dysgu am bob cysyniad o ran dechrau busnes, datblygu cynllun busnes, prisio ar gyfer elw a mwy.
Trafod beth yw ymchwil i’r farchnad a sut i'w wneud, dysgu sut i droi eich ymchwil yn Gynllun Marchnata a mwy.
Dysgu sut i wneud y gorau o’ch proffil LinkedIn ac adeiladu eich rhwydwaith ar-lein.
Dyma gyfle i fusnesau rwydweithio a chwrdd â'r tîm yn Siambr Fasnach Gorllewin Sir Gaer a Gogledd Cymru.
Bydd 'Sales Club Taster Session’ yn rhoi cyfle i chi ddysgu am bynciau amrywiol fel gosod targedau, meithrin cysylltiad â chwsmeriaid tebygol a gwerthu drwy straeon.
Mae Gwobrau Ardal Gwella Busnes (AGB) y Rhyl yn dathlu ac yn gwobrwyo’r gorau sydd gan y dref i’w chynnig trwy daflu golau ar y busnesau ac unigolion sy’n ceisio helpu’r Rhyl i ffynnu.
Browser does not support script.