Sesiynau Galw Heibio Cymorth i Fusnesau
Mae sesiynau galw heibio Cymorth i Fusnesau Mis Mawrth Menter ar gyfer busnesau neu’r rhai sy’n ystyried dechrau busnes neu sydd wedi dechrau busnes i siarad gyda darparwyr cymorth am ystod o bynciau, yn cynnwys dechrau busnes, cyllid a thwf.
Bydd darparwyr fel Busnes Cymru a’r Banc Datblygu ar gael ar y diwrnod i siarad â chi.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer:
- Busnesau newydd
- Busnes sydd eisoes yn bod
- Y rhai sy’n ystyried dechrau busnes
Pryd a lle mae’r digwyddiad hwn yn digwydd?
Dewiswch dref i weld pryd a lle mae’r digwyddiad hwn yn digwydd:
Dinbych
Bydd y sesiwn galw heibio Cymorth i Fusnesau yn Ninbych yn cael ei chynnal yn Neuadd y Farchnad, ddydd Iau 30 Mawrth 2023, rhwng 12pm a 2pm.
Manylion y lleoliad
Cyfeiriad Neuadd y Farchnad yw:
Neuadd y Dref
Lôn Crown
Dinbych
LL16 3TB
Parcio
Y meysydd parcio agosaf yw:
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan y lleoliad hwn fannau mynediad ar gyfer pobl anabl.
Sut i gymryd rhan
Does dim angen i chi gadw lle, gallwch alw heibio a siarad â darparwr cymorth am eich syniad busnes neu eich angen busnes.