Un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r rhai sy’n ynysu yw cael cyflenwadau i’r cartref e.e. siopa bwyd. Lle bo modd, anogir pobl i ofyn i deulu, ffrindiau neu gymdogion y gallant ymddiried ynddynt helpu. Lle nad yw hyn yn bosibl, mae gwirfoddolwyr wedi cynnig helpu. Ond, er diogelwch ariannol (neu ddiogelwch ariannol eich anwyliaid), dilynwch y cynghorion hyn i warchod rhag cam-drin ariannol, dwyn, ayyb.
- Dylid gwneud taliadau (boed hynny ymlaen llaw neu yn ad-daliadau) drwy systemau cyfnewid electronig lle bo modd (e.e. trosglwyddiad banc, taliadau cerdyn dros y ffôn ayyb.) fel y gellir eu holrhain a’u cadw ar wahân i’r weithred o ddanfon.
- Dylid osgoi cyfnewid arian parod ar bob cyfrif (er mwyn lleihau’r posibilrwydd o ladrad a heintiad hefyd).
- Osgowch roi eich cerdyn banc a’ch rhif PIN i rywun, er mwyn eich amddiffyn chi a’r gwirfoddolwr sy’n eich cefnogi.
- Dylai gwirfoddolwyr dynnu lluniau ar eu ffonau symudol i’w rhannu gyda’r cartref (neu’r sefydliad maen nhw’n gwirfoddoli iddo) er mwyn creu tystiolaeth o’r hyn a brynwyd, y costau a’r danfon.
- Os yw’r preswylydd yn dioddef dryswch neu broblemau gyda'u ffôn, gallai aelod penodol o'r teulu dderbyn tecst gyda lluniau ynghlwm er mwyn diogelu rhag risgiau ariannol. Pan na fydd y preswylydd yn gallu gwneud taliad electronig, efallai y gallai aelod penodol o’u teulu wneud hynny ar eu rhan.
Efallai y gallwch ffonio siop leol i osod archeb a thalu dros y ffôn. Mae nifer o siopau bychan yn gallu gwneud taliadau electronig. Gall gwirfoddolwyr lleol wedyn fynd i gasglu’r siopa a’i ddanfon. Mae Sir Ddinbych wedi creu rhestr o adnoddau cymunedol, sy’n cynnwys busnesau lleol sy’n gallu derbyn taliadau dros y ffôn neu ddanfon.