Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i helpu busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cael eu effeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau a gyflwynwyd yn ystod Rhagfyr 2020 (o’r 4ydd ar gyfer lletygarwch a rhai sectorau eraill ac yn fwy eang o’r 19fed). Diben y grant yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau diweddaraf. Mae’r grant yn ceisio ategu mesurau COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
- Wedi cael eu gorfodi i gau fel canlyniad i'r cyfyngiadau cenedlaethol a gyflwynwyd yn ystod Rhagfyr 2020
- Neu yn gallu dangos fod y cyfyngiadau diweddaraf yn arwain at ostyngiad o 40% o leiaf yn eu trosiant (amcangyfrif) yn y cyfnod Rhagfyr 2020 i Ionawr 2021 o’i gymharu a Rhagfyr 2019 i Ionawr 2020 (neu Medi 2020 os ddim yn masnachu yn Rhagfyr 2019)
Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn:
- Os ydych yn gymwys i dderbyn, neu wedi derbyn Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud gan eich Awdurdod Lleol
- Os ydych yn gymwys am, neu wedi derbyn Cymorth Penodol i'r Sector (ERF)
- Os yw'r busnes yn cynhyrchu llai na 50% o'ch incwm. Rhaid mai'r busnes yw eich prif ffynhonnell incwm.
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch y canllawiau ar gyfer Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud.