Rwyf wedi darllen a deall dogfen ganllawiau'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau (Grant Dewisol).
Mae fy musnes yn gweithredu yng Nghymru.
Os dyfernir grant dewisol i mi, rwy'n cadarnhau nad yw cyfanswm y grant cymorth Covid-19 a dderbyniwyd (e.e. grantiau dewisol blaenorol) yn fwy nag 80% o'm trosiant busnes ar gyfer blwyddyn fasnachu nodweddiadol.
Roedd fy musnes wrthi'n masnachu ac yn creu refeniw gwerthiant hyd at 6pm ar 4 Rhagfyr 2020 ar gyfer busnesau lletygarwch neu 19 Rhagfyr 2020 ar gyfer busnesau eraill.
Rwy’n cydnabod y bydd fy Awdurdod Lleol neu Lywodraeth Cymru yn cwblhau unrhyw wiriadau busnes priodol y credir eu bod yn angenrheidiol i asesu’r cais ac i wirio natur, defnydd ac effaith y cyllid yn y dyfodol.
Nid wyf yn derbyn, nac yn gwneud cais am, Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.
Nid wyf yn gymwys am daliad pellach drwy Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr llawrydd.
Nid wyf wedi derbyn taliad drwy rhaglen Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru i gwrdd a colledion gweithredol rhwng Medi 2020 a Mawrth 2021.
Rwy'n cadarnhau mai'r busnes hwn yw fy mhrif ffynhonnell incwm (mwy na 50%)
Rwy'n cadarnhau y byddaf yn darparu'r holl dystiolaeth ofynnol i gefnogi fy nghais am Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau ar gais.
Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall datganiad preifatrwydd Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau (gwefan allanol)
Rwy'n derbyn y bydd unrhyw daliadau a nodir fel taliadau anghymwys yn destun camau adfer yn y dyfodol
Rwy’n datgan bod y wybodaeth sydd wedi’i darparu yn y cais hwn yn wir ac yn gywir.