Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i gefnogi busnesau (yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a manwerthu nad yw’n hanfodol yn bennaf) gyda chymorth llif arian ac i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith i reoli lledaeniad COVID-19 gan ddechrau ddydd Gwener 4 Rhagfyr.
Nod y grantiau hyn sy’n gysylltiedig â’r Grant Ardrethi Annomestig yw ategu mesurau ymateb COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru. Ni allwch ac ni ddylech wneud cais am grant y gronfa ddewisol leol os ydych yn gymwys i gael un o'r grantiau hyn sy’n gysylltiedig â’r Grant Ardrethi Annomestig.
Grant A
Taliad grant arian parod o £3,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sydd â hereditamentau sy’n gymwys i dderbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Grant B
Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.
Grant C
Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £150,000.
Mwy gwybodaeth
Bydd y grantiau ar gael hefyd i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden / sefydliadau nid-er-elw lletygarwch, twristiaeth a hamdden a’u cadwyni cyflawni a busnesau manwerthu sydd ag eiddo cymwys a all ddangos (ar sail hunanddatganedig) gostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’r cyfyngiadau newydd.
Gofynnir i'r busnesau hynny hunan-ddatgan a ydynt wedi profi gostyngiad o 40% yn y trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019. Os nad oedd y busnes yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019, dylai'r gymhariaeth mewn trosiant fod ar gyfer y trosiant misol ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o gymharu â mis Medi 2020. Rhaid i'r gostyngiad mewn trosiant fod yn ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau newydd a gyflwynwyd ar ac ers 4 Rhagfyr.
Nid oes angen i fusnesau lletygarwch a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy’n gymwys a phob sefydliad nid-er-elw wneud unrhyw fath o hunan-ddatganiad mewn perthynas â'u trosiant.
Rhaid bod hereditament yr ymgeisydd wedi bod ar restr raddio’r Grant Ardrethi Annomestig ar 1 Medi 2020 ac mae'n rhaid i'r trethdalwr fod wedi bod yn meddiannu'r eiddo ar 30 Tachwedd 2020.
Peidiwch a cwblhau y ffurflen hon os nad ydych yn atebol am dalu ardrethi busnes i’ch Awdurdod Lleol.