Cynllun Taliadau Arbennig Y Gweithlu Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
Ar 1 Mai cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai gweithwyr gofal yn cael taliad o £500.
i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad staff gofal cymdeithasol sydd wedi darparu gofal hanfodol i dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ystod cyfnod mwyaf heriol pandemig COVID-19.
I fod yn gymwys am y taliad hwn, mae’n rhaid i staff fod:
- yn weithiwr cyflogedig mewn cartref gofal cofrestredig neu wasanaeth gofal yn y cartref
- yn weithiwr gofal asiantaeth
- yn nyrs asiantaeth sydd wedi gweithio yn yr un lleoliad ers 12 wythnos neu fwy
- yn gynorthwyydd personol sy’n cael ei dalu drwy daliadau uniongyrchol
Nid yw staff sy’n gweithio fel contractwr/i gontractwr mewn cartref gofal wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn.
Gweler isod linc i Ganllawiau a Gwybodaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r cynllun.
Cynllun taliadau arbennig y gweithlu gofal cymdeithasol (gwefan allanol)
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru a bydd yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i ddod o hyd i weithwyr cymwys sydd wedi'u lleoli yn y sir. Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am y taliad, yna cysylltwch â'ch cyflogwr yn y lle cyntaf.