Coronafeirws: Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Grantiau sy’n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig - Mawrth 2021
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau i gefnogi busnesau (yn bennaf yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad ydynt yn hanfodol) gyda llif arian ac i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a roddwyd mewn lle i reoli lledaeniad Covid-19.
Mae grantiau newydd sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig ar gael gan y Gronfa Busnesau dan Gyfyngiadau i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a chyrff elusennol.
Caeodd gwneud cais am y grant hwn am 5pm ddydd Mercher 31 Mawrth 2021.
Beth sydd ar gael?
Mae dau grant sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig ar gael trwy’r gronfa hon. Dim ond un o’r grantiau all busnes ei gael mewn uchafswm o ddau eiddo ym mhob ardal awdurdod lleol, a bydd y grant a geir yn dibynnu ar werth ardrethol yr eiddo.
Grant A
Mae grant A yn daliad o £4,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a chadwyni cyflenwi cysylltiedig, gan gynnwys rhai busnesau lletygarwch gyda Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sydd ag eiddo â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Mae grant A hefyd ar gael i drethdalwyr ar gyfer rhyddhad elusennol a rhyddhad Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol, sy’n gweithredu yn y sectorau hamdden a lletygarwch sydd ag eiddo.
Grant B
Mae grant B yn daliad o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a chadwyni cyflenwi cysylltiedig gan gynnwys rhai busnesau manwerthu sydd ag eiddo â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £500,000.
Mae grant B hefyd ar gael i sefydliadau dielw sydd ag eiddo lletygarwch a hamdden cymwys.
Cymhwysedd ar gyfer y grant
Gall eich busnes fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn os:
- Oedd yn atebol fel y talwr ardrethi annomestig (ardrethi busnes) o eiddo cymwys ar 1 Mawrth 2021
- Wedi gweld gostyngiad o 40% mewn trosiant ar gyfer Ionawr 2021 a Chwefror 2021 o gymharu ag Ionawr 2020 a Chwefror 2020
Eiddo cymwys
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o eiddo cymwys.
Eiddo sy'n cael eu defnyddio i werthu nwyddau
- Siopau (fel siop flodau, siop fara, cigydd, groser, siop ffrwythau a llysiau, gemydd, siop bapur ysgrifennu, siop drwyddedig, siop bapur newydd, siop caledwedd, archfarchnad ac ati)
- Siopau elusen
- Optegydd
- Fferyllfeydd
- Swyddfeydd post
- Siopau dodrefn neu ystafelloedd arddangos (fel siopau carpedi, gwydr dwbl, drysau garej)
- Ystafelloedd arddangos ceir neu garafannau
- Canolfannau gwerthu ceir ail law
- Marchnadoedd
- Gorsafoedd petrol
- Canolfannau garddio
- Orielau celf (lle mae modd prynu neu logi gwaith celf)
Eiddo sy'n cael eu defnyddio ar gyfer rhai gwasanaethau
- Gwasanaethau trin gwallt a harddwch
- Trwsio esgidiau/torri allweddi
- Asiantaethau teithio
- Swyddfeydd tocynnau, ee ar gyfer y theatr
- Gwasanaethau sychlanhau
- Golchdai
- Trwsio cyfrifiaduron, setiau teledu neu gyfarpar domestig
- Trefnwyr angladdau
- Prosesu lluniau
- Llogi DVD neu fideo
- Llogi offer
- Llogi ceir
- Sinemâu
- Swyddfeydd gwerthu a gosod tai
Busnesau nad ydynt yn gymwys i gael y grant hwn
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o fusnesau na fyddai’n gymwys ar gyfer y grant hwn:
- Gwasanaethau ariannol (ee banciau, cymdeithasau adeiladu, peiriannau arian parod, bureaux de change, benthycwyr diwrnod cyflog, siopau betio, gwystlyddion)
- Gwasanaethau meddygol (ee milfeddygon, deintyddion, meddygon, osteopathiaid, ceiropractyddion)
- Gwasanaethau proffesiynol (ee cyfreithwyr, cyfrifwyr, asiantaethau yswiriant, ymgynghorwyr ariannol, tiwtoriaid)
- Swyddfeydd dosbarthu Swyddfa’r Post
- Meithrinfeydd dydd
- Llety cŵn a chathod
- Clybiau casino a gamblo
- Cartrefi arddangos ac ystafelloedd marchnata
- Asiantaethau cyflogaeth
Llety hunanarlwyo
Nid yw llety hunanddarpar yn gymwys ar gyfer y grant hwn oni bai:
- y gallant ddarparu dwy flynedd o gyfrifon masnachu yn union cyn blwyddyn ariannol gyfredol y busnes
- eu bod wedi eu gosod am gyfnod o 140 diwrnod neu fwy yn y flwyddyn ariannol 2019-20
- eu bod yn brif ffynhonnell incwm y perchennog (y trothwy lleiaf yw 50%)
Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais
Byddwn yn anfon e-bost i gadarnhau ein bod wedi cael eich cais.
Bydd ceisiadau yn cael eu trin ar sail cyntaf i’r felin. Gallai hyn arwain at rai ceisiadau yn bod yn aflwyddiannus os nad oes unrhyw gyllid ar ôl.
Byddwn yn gwneud penderfyniad ynghylch llwyddiant eich cais yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir gennych yn ogystal â gwiriadau gan ffynonellau busnes eraill. Os yw’r wybodaeth neu’r dystiolaeth a ddarperir yn anghywir, yn anghyflawn neu'n annigonol, bydd y cais yn cael ei wrthod.
Anelwn i wneud penderfyniad ynghylch ceisiadau o fewn 30 diwrnod gwaith.
Sicrhewch eich bod yn edrych yn rheolaidd ar eich ffolder mewnflwch, sbam a sothach ar gyfer e-bost gennym, yn ogystal â’ch cyfrif banc am daliad.
Ceisiadau llwyddiannus
Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn talu’r grant yn llawn i’r cyfrif banc a nodwyd gennych.
Ceisiadau aflwyddiannus
Byddwn yn anfon e-bost atoch i adael i chi wybod os yw eich cais yn aflwyddiannus a rhoi’r rhesymau dros y penderfyniad hwn. Nid oes proses apelio.
Mwy gwybodaeth
Efallai y bydd angen ad-dalu Grant Cronfa Busnesau gan Gyfyngiadau yn rhannol neu’n llawn, os cawn dystiolaeth na ddylai fod wedi ei roi.