Rydym yn diweddaru tudalennau Adfywiad y Rhyl ar ein gwefan.
Bydd tudalennau newydd yn ymddangos yma yn fuan. Diolch i chi am eich amynedd.
Adeiladau’r Frenhines
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid datblygu o’r sector preifat i drawsnewid y safle yn gymysgedd bywiog o leoedd manwerthu, bwyd a diod, marchnad gyfoes, swyddfeydd ac ardaloedd preswyl gan wella mynediad o lan y môr a’r promenâd i ganol y dref.
Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys iard agored a man cyhoeddus yn y datblygiad sydd werth dros £30 miliwn ac sy'n cynnwys cyn Westy'r Savoy ac adeiladau Marchnad y Frenhines.
Oherwydd cyflwr difrifol wael y safle, bydd yn rhaid dymchwel nifer sylweddol o adeiladau sy’n eiddo i'r Cyngor.
Ceisiadau Cynllunio
Gallwch weld ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau adfywio’r Rhyl drwy chwilio am geisiadau cynllunio yn Porth Cynllunio.