Bydd cronfa Fferm Wynt Gwastadeddau’r Rhyl yn buddsoddi dros £2 filiwn mewn gweithgareddau a phrosiectau lleol yn y cymunedau o amgylch y safle, drwy gydol cyfnod oes y fferm wynt.
Bydd Fferm Wynt Clocaenog yn darparu cronfa mantais gymunedol o hyd at £768,000 y flwyddyn, yn fynegrifol, a fydd ar gael unwaith fydd y fferm wynt yn gwbl weithredol.
Bydd Fferm Wynt Brenig yn darparu cronfa mantais gymunedol o hyd at £152,000 y flwyddyn, yn fynegrifol. Bydd y gronfa’n cael ei dosbarthu i gymunedau lleol a grwpiau ar gyfer dibenion amgylcheddol, economaidd-gymdeithasol ac addysgol.