Beth os nad wyf yn gallu derbyn band eang cyflym Iawn ar hyn o bryd?
Rydym yn ymwybodol bod sawl eiddo yn Sir Ddinbych sy'n methu â derbyn mynediad i Fand Eang Cyflym Iawn fel rhan o brosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru.
Map - Ymgynghoriad i roi Mynediad i Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf yng Nghymru (Llywodraeth Cymru) (gwefan allanol)
Cynllun Talebau Band Eang
Mae Cynlluniau Talebau Band Eang yn grantiau gan y llywodraeth i ariannu (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) costau gosod cysylltiadau band eang newydd.
Rydym yn annog preswylwyr yn Sir Ddinbych nad ydynt yn rhan o brosiect Cyflymu Cymru gan Lywodraeth Cymru i ystyried a gwneud cais am un o’r cynlluniau talebau band eang os ydynt yn gymwys.
Mae tri math o Gynllun Taleb ar gael ar hyn o bryd:
- Cynllun Talebau Band Eang Gigabit a Thaleb Atodol Llywodraeth Cymru
- Cynllun Taleb Gigabit Gwledig
- Cynllun Allwedd Band Eang Cymru
Cynllun Talebau Band Eang Gigabit y DU a Thaleb Atodol Llywodraeth Cymru
Mae'r cynllun talebau Gigabit yn canolbwyntio ar gynlluniau grŵp lle mae naill ai busnes yn gweithio gydag un neu fwy o fusnesau, neu mae busnes lleol yn gweithio gydag isafswm o 10 preswylydd o’r gymuned a’r dalgylch.
Mae talebau yn cyfrannu at gost gosod cysylltiad band eang sydd yn gallu ymdopi â gigabit (1,000Mbps), a thrwy’r cynllun gall fusnesau hawlio £2,500 yn erbyn cost cysylltiad sydd yn gallu ymdopi â gigabit a gall preswylwyr hawlio taleb gwerth £500 fel rhan o brosiect grŵp gyda busnes.
Mae cyllid ychwanegol ar gael i fusnesau a phreswylwyr yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn talu hyd at £3,000 ychwanegol fesul busnes maint bach a chanolig (BBaCh) ynghyd â £300 ychwanegol fesul eiddo preswyl. Mae hyn yn golygu fod hyd at £5,500 ar gael i brosiectau grŵp yng Nghymru fesul busnes, a bod hyd at £800 ar gael fesul eiddo preswyl.
Mae modd cael gafael ar y talebau gan y cyflenwr band eang a ddewisir gan weithio gyda chynllun grŵp.
I wirio a ydych yn gymwys a’r telerau ac amodau, ewch i wefan Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (gwefan allanol).
Cynllun Taleb Gigabit Gwledig
Mae’r cynllun taleb Gigabit Gwledig yn opsiwn i fusnesau a phreswylwyr mewn lleoliadau gwledig i ddefnyddio talebau ar gyfer cysylltedd band eang lle nad yw 1000mbps ar gael ar hyn o bryd ond mae disgwyl 30 mbps.
Rhaid dewis cyflenwyr band eang penodol i gael gafael ar dalebau a gellir eu defnyddio gan unigolion a busnesau ar wahân neu fel rhan o grwpiau (dau neu fwy o breswylwyr a/neu fusnesau yn cyfuno talebau).
Mae’r talebau werth hyd at £3,500 i bob busnes maint bach a chanolig (BBaCh), a hyd at £1,500 fesul eiddo preswyl i gefnogi’r gost o osod cysylltiadau newydd sydd yn gallu ymdopi a gigabit.
I wirio a ydych yn gymwys a’r telerau ac amodau, ewch i wefan Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (gwefan allanol).
Cynllun Allwedd Band Eang Cymru
Mae'r cynllun yn darparu grantiau i breswylwyr unigol neu fusnesau i ariannu (neu dalu am ran) o'r costau gosod ar gyfer cysylltiadau band eang newydd yng Nghymru. Nid yw'n cynnwys costau rhentu misol.
Mae'n rhaid i gysylltiadau newydd drwy'r cynllun hwn ddarparu newid sylweddol mewn cyflymder - gan ddyblu eich cyflymder lawr lwytho presennol fel isafswm e.e. mae'n rhaid i gysylltiad presennol o 10Mbps wella i o leiaf 20Mbps.
Mae faint o gyllid y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:
- £400 ar gyfer 10Mbps ac uwch
- £800 ar gyfer 30Mbps ac uwch
Gall unigolion gael cyngor a chanllawiau ynglŷn â sut i wneud cais am gynllun Allwedd Band Eang Cymru ar wefan Band Eang Cyflym Iawn Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).
Crynodeb o'r cynlluniau uchod
|
Taleb Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU a Thaleb Atodol Cymru | Taleb Gigabit Gwledig | Taleb Allwedd Band Eang Cymru |
Fesul Busnes (BBaCh) yng Nghymru |
£2,500 + £3,000
= Cyfanswm £5,500
|
£3,500
|
£400 ar gyfer 10Mbps ac uwch
£800 ar gyfer 30mbps ac uwch
|
Fesul Cartref yng Nghymru |
£500 + £300
= Cyfanswm £800
|
£1,500
|
Y cyflymder gofynnol newydd |
1000Mbps/1Gbps
|
30Mbps
|
10Mbps neu 30Mbps (rhaid iddo ddyblu’r cyflymder presennol)
|
Pwy sy’n Gymwys |
Cynlluniau grŵp yn unig
|
Unigolion yn gymwys
|
Unigolion yn gymwys
|
Lead |
Supplier Led
|
Supplier Led
|
Individual Led – retrospective payment
|