Yr hyn rydym yn ei wneud i helpu
Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (LFFN)
Fel Cyngor Sir rydym wedi defnyddio cyllid Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol i gysylltu nifer o safleoedd cyhoeddus gwledig gyda chysylltiadau band eang ar draws Sir Ddinbych.
Fe gymeradwywyd cyllid ar gyfer y rhwydwaith gan yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Mae disgwyl i Openreach ei osod rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2021.
Unwaith y bydd wedi’i osod, gall cyflenwyr band eang sy’n gweithio gydag unigolion, busnesau neu grwpiau cymunedol ddefnyddio canghennau o’r safleoedd gwledig yma i wneud cysylltiadau terfynol i gyflwyno band eang cyflym iawn i gartrefi, busnesau a chymunedau gwledig yn Sir Ddinbych. Serch hynny, efallai na fydd modd darparu cyswllt band eang i rai eiddo hyd yn oed ar ôl y gwaith yma.
Cefnogaeth Gymunedol
Rydym eisiau cefnogi cymunedau Sir Ddinbych i weithio gyda'i gilydd i ganfod datrysiadau ar gyfer yr ardaloedd sy'n methu â chael mynediad i Fand Eang Cyflym Iawn.
Rydym yn fodlon hwyluso digwyddiadau band eang cymunedol, cyfarfodydd gweithgor, rhoi cyngor i ddatblygu cynlluniau busnes a chyfleoedd cyllido gyda chymunedau sydd eisiau cydweithio i gael band eang gwell. Yr hyn sydd ei angen yw 'cefnogwyr' lleol sydd yn fodlon ac yn gallu cydlynu’r gwaith sydd ei angen i weithredu datrysiad cymunedol.
Os oes gennych ddiddordeb (neu’n adnabod rhywun â diddordeb yn y rôl hon), cysylltwch â ni drwy ffonio 01824 706000 neu e-bostiwch ni.
Mae rhagor o wybodaeth am Gynlluniau Band Eang a arweinir gan y Gymuned yn y DU, gan gynnwys enghreifftiau o gynlluniau eraill, ar gael ar wefan GOV.UK (gwefan allanol).
Cefnogaeth i Fusnesau
I helpu busnesau i wella'n ddigidol, mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio'n agos gyda Cyflymu Cymru i fusnesau i weinyddu grantiau o hyd at Fil o bunnau sy'n gallu helpu busnesau bach a chanolig gyda gwaith ymgynghori digidol, caledwedd, e-fasnach a rheoli cysylltiadau cwsmeriaid.
I gael rhagor o wybodaeth am y grantiau a sut i wneud cais, e-bostiwch ni.