Pedair Priffordd Fawr: Cwestiynau Cyffredin

A yw'r prosiect hwn yn rhan o ddatblygiadau Llangollen 2020?

A yw'r prosiect hwn yn rhan o ddatblygiadau Llangollen 2020?

Na, nid yw grŵp Llangollen 2020 bellach yn bodoli. Mae hwn yn brosiect newydd a gyflwynir gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae dal rhai prosiectau priffyrdd yn cael eu cyflawni o dan faner Llangollen 2020, mae’r rhain yn brosiectau ar wahân a gyflwynir gan wasanaethau Priffyrdd a Chludiant Sir Ddinbych.

A oes unrhyw ddyluniadau eto?

A oes unrhyw ddyluniadau eto?

Oes, mae'r dyluniadau cychwynnol bellach wedi eu rhannu gyda'n rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol am adborth erbyn 2 Ebrill 2023. Gallwch gyfeirio at adran yr Oriel ac Ymgynghori i gael gwybodaeth bellach. Edrychwn ymlaen at glywed eich safbwyntiau.

Beth sydd wedi digwydd i ddyluniadau cynharach ar gyfer yr ardal hon?

Beth sydd wedi digwydd i ddyluniadau cynharach ar gyfer yr ardal hon?

Bu i grŵp Llangollen 2020 ddatblygu rhai dyluniadau cysyniad cynnar ar gyfer prosiect y Pedair Priffordd Fawr.

Mae’r Cyngor wedi adolygu’r dogfennau hyn, mae rhai o’r cynigion eisoes wedi eu cyflawni ac ni fydd rhai yn bosib fel rhan o’r prosiect hwn. Un enghraifft o gynnig cynharach nad yw’n ymarferol fel rhan o’r prosiect hwn yw cynnig i gael llwyfan gwylio ger y bont.

Mae’r Cyngor yn casglu amrywiaeth o wybodaeth ar hyn o bryd i’w chynnwys mewn cynnig dylunio newydd ar gyfer y prosiect hwn.

Gwahoddir pobl leol, busnesau ac ymwelwyr i roi gwybodaeth ar beth sy’n bwysig iddyn nhw yn yr ardaloedd hyn i helpu i greu’r dyluniadau newydd.

Pan fydd dyluniadau newydd wedi eu datblygu byddant yn cael eu rhannu a chynhelir ymgynghoriad ar-lein ac yn y gymuned leol.

Sut mae hwn yn cyd-fynd â chynlluniau lleol eraill?

Sut mae hwn yn cyd-fynd â chynlluniau lleol eraill?

Mae'r prosiect yn ceisio ymdrin â hygyrchedd o amgylch y Lanfa a pharc Melin Dyfrdwy Isaf.

Mae hyn yn cefnogi blaenoriaethau o fewn Cynllun y Bobl 2022 - 2026 (gwefan allanol) a baratowyd gan 'Siapio fy Llangollen'.

Pan fydd dyluniadau yn barod ar gyfer y prosiect newydd hwn, a fydd ymgynghori pellach ar y cynigion?

Pan fydd dyluniadau yn barod ar gyfer y prosiect newydd hwn, a fydd ymgynghori pellach ar y cynigion?

Mae ymatebion i’n harolwg casglu gwybodaeth ym mis Chwefror wedi helpu i lywio dyluniadau cychwynnol sydd bellach ar gael ar-lein a hefyd yn cael eu harddangos yn Llyfrgell Llangollen tan ddydd Llun, 3 Ebrill 2023. Edrychwn ymlaen at glywed safbwyntiau pobl.

Mae’n bwysig i ni eich bod yn parhau i gymryd rhan drwy gydol y prosiect, felly byddwn yn gofyn am fwy o adborth ar unrhyw ddyluniadau eraill y byddwn yn eu datblygu.

A fyddaf yn cael gweld beth mae pobl wedi ei ddweud?

A fyddaf yn cael gweld beth mae pobl wedi ei ddweud?

Nid yw hon yn broses ymgynghori statudol felly nid oes yna ofyniad i’r Cyngor gyhoeddi ymatebion unigol.

Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn llunio adroddiadau ar ganfyddiadau ein hymgynghoriadau. Bydd y rhain ar gael yn gyhoeddus pan fyddant yn barod.

Pryd fyddaf yn gweld y dyluniadau newydd?

Pryd fyddaf yn gweld y dyluniadau newydd?

Mae’r dyluniadau cychwynnol bellach wedi eu rhannu gyda’n rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn gyffredinol ar gyfer adborth erbyn 2 Ebrill 2023. Gallwch gyfeirio at adran yr Oriel ac Ymgynghori i gael gwybodaeth bellach. Edrychwn ymlaen at glywed eich safbwyntiau.

A fydd y gwaith a gynlluniwyd yn garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?

A fydd y gwaith a gynlluniwyd yn garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?

Gan nad ydym wedi dylunio’r prosiect eto, nid ydym yn gwybod beth fydd yr effaith carbon. Fodd bynnag, yn 2019, bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac mae wedi gosod targedau uchelgeisiol i fod yn Ddi-Garbon erbyn 2030, mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Felly bydd yr effaith carbon yn ystyriaeth allweddol wrth ddylunio a chyflawni’r prosiect.

Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?

Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?

Bydd gwybodaeth am y prosiect wrth iddo esblygu ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal â thrwy’r dulliau canlynol:

Gan fod Cyngor Sir Ddinbych yn anelu i fod yn Ddi-Garbon erbyn 2030, rhaid i ni ystyried sut rydym yn ymgysylltu â phawb i osgoi argraffu dogfennau yn ormodol.

Faint o arian mae Llangollen wedi ei gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?

Faint o arian mae Llangollen wedi ei gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?

Bron i £1.2 miliwn wedi ei roi i brosiect y Pedair Priffordd Fawr.

Ar gyfer beth y rhoddwyd yr arian?

Ar gyfer beth y rhoddwyd yr arian?

Ar gyfer gwelliannau parth cyhoeddus 960 metr sgwâr, darparu dau beiriant cyfrif cerddwyr ar y Lanfa ac i wella arwyddion a dehongliad.

A yw’r prosiect ond i wella mynediad i wneud i ymwelwyr aros am fwy o amser, neu a fydd anghenion trigolion yn cael eu hystyried hefyd?

A yw’r prosiect ond i wella mynediad i wneud i ymwelwyr aros am fwy o amser, neu a fydd anghenion trigolion yn cael eu hystyried hefyd?

Cydnabyddir fod twristiaeth yn bwysig i’r dref, ond hefyd y gall effaith twristiaeth fod yn heriol i rai trigolion. Trwy gyflwyno’r prosiect hwn anelwn i wella mynediad i holl ddefnyddwyr y dref, gyda gwell arwyddion ar gyfer canfod cyrchfannau twristiaeth, dylai alluogi ymwelwyr i fynd o amgylch y dref yn rhwyddach.

Rwyf wedi clywed bod y tîm yn ystyried adeiladu llwyfan gwylio ar y bont. A yw hyn yn mynd i ddigwydd?

Rwyf wedi clywed bod y tîm yn ystyried adeiladu llwyfan gwylio ar y bont. A yw hyn yn mynd i ddigwydd?

Roedd y cais gwreiddiol am gyllid yn 2019 yn cyfeirio at y llwyfan gwylio / man cyhoeddus newydd ar gyffordd Heol y Castell a Ffordd yr Abaty Llangollen. Gan ein bod bellach bedair blynedd yn ddiweddarach mae llawer wedi newid, ac mae rhywfaint o’r gwaith yn y dyluniad gwreiddiol bellach wedi ei gwblhau gan Wasanaethau Priffyrdd a Chludiant Sir Ddinbych.

Ers cychwyn y prosiect, o’r wybodaeth a gasglwyd a’r adborth a gafwyd, daeth yn amlwg na ddylem gael llwyfan gwylio ar gyffordd Ffordd yr Abaty a Heol y Castell, ac felly mae’r elfen hon wedi ei dileu o’r prosiect.

A ydych yn bwriadu trwsio’r bont bren ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy?

A ydych yn bwriadu trwsio’r bont bren ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy?

Ydyn, gallwn gadarnhau y bydd y bont bren yn ffurfio rhan o’n hystyriaethau ar gyfer unrhyw waith ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy.

Nid wyf yn ymweld â Pharc Melin Isaf Dyfrdwy gan na allaf ddefnyddio’r stepiau. A edrychir ar y rhain i wneud y parc yn fwy hygyrch?

Nid wyf yn ymweld â Pharc Melin Isaf Dyfrdwy gan na allaf ddefnyddio’r stepiau. A edrychir ar y rhain i wneud y parc yn fwy hygyrch?

Gallwn nawr gadarnhau y bydd gwell mynediad i mewn/allan o’r parc yn ffurfio rhan o’n hystyriaethau ar gyfer unrhyw waith ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy.