Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen: Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi. Gan gynnwys gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion.
Nod y prosiect newydd hwn yw hyrwyddo a gwella pedair priffordd fawr Llangollen, drwy wneud gwelliannau i’r tirlun a’r beirianneg er mwyn gwella mynediad, bioamrywiaeth, gwelededd a dehongliad Safle Treftadaeth y Byd a Chamlas Llangollen, hen reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a Ffordd Llundain i Gaergybi hanesyddol Thomas Telford (A5). Y nod yw gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yma. I gyflawni hyn, mae pedair prif ardal wedi cael eu nodi:
Mae'r gwaith arfaethedig ym mhob un o'r ardaloedd allweddol hyn yn debygol o gynnwys:
Yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan y Gronfa Ffyniant Bro, rydym yn gwella’r mannau cyhoeddus sy’n cysylltu Pedair Priffordd Fawr Llangollen (Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi). Rhai o’r prif flaenoriaethau yw gwella hygyrchedd, arwyddion a deunyddiau.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn eich gwahodd i ddweud eich dweud. Am fwy o wybodaeth neu i ddweud eich dweud, gallwch gysylltu yn defnyddio’r manylion cyswllt neu gyfeirio at yr adran Ymgynghori isod am fanylion yr ymgysylltu diweddaraf sy’n digwydd.
Pedair Priffordd Fawr Llangollen: Dyluniadau Cychwynnol (PDF, 10MB)
Yn dilyn ein hymgynghoriad cyntaf, mae tîm prosiect Pedair Priffordd Fawr wedi datblygu dyluniadau cychwynnol ar gyfer y pedwar ardaloedd y prosiect, a hoffem glywed eich barn. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich adborth, bydd y tîm yn datblygu’r dyluniadau terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn cael eu hystyried gan Adran Gynllunio Sir Ddinbych os bydd angen.
Mae'n bwysig i ni eich bod yn parhau i fod yn rhan o'r prosiect, felly byddwn yn gofyn am fwy o adborth ar unrhyw ddyluniadau pellach y byddwn yn eu datblygu.
Rhaid i’r ymatebion ein cyrraedd erbyn 2 Ebrill 2023.
Cysylltwch â ni yn un o’r ffyrdd canlynol:
Y Pedair Priffordd Fawr: Cwestiynau Cyffredin
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon eraill, cysylltwch â Kimberley Mason a Sian Lloyd Price, Rheolwyr Prosiect trwy’r cyfeiriad e-bost canlynol: pedairprifforddfawr@sirddinbych.gov.uk.
Browser does not support script.