Maes Parcio Lôn Las a Stryd Fawr Corwen: Gwelliannau Priffyrdd ac Amgylcheddol (Llythyr at breswylwyr a busnesau)

Annwyl Syr / Fadam

Perchennog / Preswylydd

Ynglŷn â: Maes Parcio Lôn Las a Stryd Fawr Corwen - Gwelliannau Priffyrdd ac Amgylcheddol

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio adnewyddu ardal priffordd o amgylch Stryd Fawr Corwen a hefyd rhoi cilfan bws newydd a gwaith cysylltiedig a chyflawni gwaith adnewyddu’r bloc toiledau presennol ym Maes Parcio Lôn Las.

Mae gwaith cam un i fod i ddechrau ar ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023 (gyda’r posibilrwydd of ddechrau 29 Menhefin) am bythefnos, ar gynllun gwella priffordd Corwen. Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o welliannau ar yr A5, o amgylch y Stryd Fawr a Maes Parcio Lôn Las.

Mi fydd cam un yn cynnwys y rhan o’r palmant y tu allan i’r Hen Fanc HSBC a gerllaw’r A5.

Mae cam dau i fod i ddechrau dydd Llun 4 Medi am hyd at 6 wythnos a bydd yn cynnwys y prif eitemau a glanlyn:-

Mae'r gwaith Stryd Fawr yn bennaf yn cynnwys:

  • Diweddaru/paentio a glanhau dodrefn stryd ar y Stryd Fawr h.y. arwyddion a rheiliau metel,
  • Diweddaru holl ddraeniau ACO,
  • Gosod bolardiau, biniau a rheiliau i gerddwyr,
  • Adnewyddu meinciau,
  • Glanhau ac ail bwyntio slabiau pafin presennol
  • Gosod pafin newydd i gyd-fynd â’r garreg Efrog presennol,
  • Ardal ddynodedig o fewn y Stryd Fawr ar gyfer coeden Nadolig bob blwyddyn.

Mae’r gwaith ym Maes Parcio Lôn Las yn bennaf yn cynnwys:

  • Ailwampio’r bloc toiledau.
  • Cilfan bysiau newydd a marciau ffordd cysylltiedig.
  • Gwaith arwyddion.

Y prif gontractwr ar gyfer y cynllun, a gymeradwywyd gan Sir Ddinbych ym Mai 2023 yn dilyn ymgynghoriad gyda’r gymuned leol, yw Tom James Construction Services Ltd.

Bydd goleuadau traffig dros dro ar yr A5 a Lôn Las yn ystod y gwaith gosod pafin newydd a bydd croesfan dros dro i gerddwyr hefyd yn cael ei ddefnyddio i leihau amhariad.

Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos â busnesau a thrigolion lleol drwy gydol y prosiect i sicrhau na fydd y gwaith yn tarfu’n ormodol arnyn nhw, ac i ddatrys unrhyw bryderon neu broblemau cyn gynted ag y bo modd drwy gydol y gwaith.

Yn ddiffuant

Emlyn Jones

Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad

Manylion cyswllt allweddol pan fydd y gwaith yn dechrau fydd:

Cyngor Sir Ddinbych

laura.taylor@sirddinbych.gov.uk

laura.taylor@denbighshire.gov.uk

01824 706000

Contractwr - Tom James Construction Services Ltd.