Cronfa Ffyniant Bro: Rhaeadr y Bedol

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae Rhaeadr y Bedol yn gored siâp pedol 140m o hyd, y cafodd ei dylunio gan Thomas Telford i ddargyfeirio dŵr o Afon Dyfrdwy i fan cychwyn Camlas Llangollen. Mae Tŷ’r Mesurydd ar y safle yn rheoli dros 12 miliwn galwyn o ddŵr sy'n cael ei dynnu o’r afon i'r gamlas bob dydd. Yn 2009 dynododd UNESCO Raeadr y Bedol yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen.

Bydd y prosiect hwn yn galluogi’r ardal i ymdopi â chynnydd parhaus yn nifer yr ymwelwyr a bydd yn rhoi’r cyfle i wella cyfleusterau a llif ymwelwyr ym Maes Parcio Gwyrdd Llandysilio. Mae Rhaeadr y Bedol wedi dod yn un o’r prif atyniadau yn Nyffryn Dyfrdwy, ac mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer yr ymwelwyr yn y blynyddoedd diwethaf (dros 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn); felly mae angen uwchraddio'r cyfleusterau yn awr er mwyn bodloni’r cynnydd hwn yn y galw a’r disgwyliadau gan ymwelwyr.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Mae gweithgarwch y prosiect hwn wedi’i gynnwys yng nghais Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd a’r bwriad yw cyflwyno gwelliannau cysylltedd symudiad defnyddwyr / ymwelwyr ar hyd 11 Milltir Camlas Llangollen, Safle Treftadaeth y Byd. Bwriad hyn yn ei dro yw cynyddu’r amser y mae ymwelwyr yn aros yn Llangollen sydd â manteision economaidd a chymdeithasol cysylltiedig i'r ardal leol.

Yn ogystal â hyn, bydd gwelliannau yn Rhaeadr y Bedol yn cefnogi’r buddion canlynol:

  • Bydd yr hyn sydd ar gael i ymwelwyr yn well o ganlyniad i wella amrywiaeth o gyfleusterau.
  • Cyfleusterau gwell a fydd yn lleihau’r effaith amgylcheddol ar Safle Treftadaeth y Byd o ganlyniad i’r nifer uchel o ymwelwyr.
  • Tebygolrwydd uwch y bydd ymwelwyr yn dychwelyd.
  • Gwell cysylltiadau ffisegol rhwng atyniadau allweddol a Llangollen, sydd â’r bwriad o annog gwell llif o ran ymwelwyr o atyniadau i’r dref, gan ddod â budd economaidd i fusnesau lleol.

Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at y canlyniadau sydd wedi’u nodi yng nghais Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd ar gyfer yr ardal. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwella mynediad i Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen a’r lleoliadau cysylltiedig i ymwelwyr yn Sir Ddinbych, fel Rhaeadr y Bedol.
  • Buddsoddi yn y safleoedd hyn i'w gwneud nhw’n atyniadau i ymwelwyr sy’n flaenllaw, yn addas i deuluoedd ac yn diogelu a gwella eu gwerth amwynder i gymunedau lleol.
  • Nid yw'r tanc septig presennol wedi'i ddylunio i ymdopi â'r nifer o bobl sy’n ymweld â’r safle bellach ac nid yw’n addas at y diben erbyn hyn. Bydd gosod system newydd briodol yn ei lle yn sicrhau na fydd unrhyw halogyddion a ffosffadau posibl yn mynd i mewn i gamlas Llangollen.
  • Bydd manteision hirdymor i'r gwaith paratoadol i gynnal cyfleuster arlwyo symudol yn y dyfodol. Mae rheoli ymwelwyr yn elfen allweddol i’r Tîm Ceidwaid yn Nyffryn Dyfrdwy, yn enwedig yn Rhaeadr y Bedol, ac mae’n gofyn am lawer o amser gan staff. Yn dilyn creu’r llawr caled, gofynnir am gyllid ar gyfer y cyfleuster arlwyo symudol gan ffynonellau eraill a fyddai wedyn yn gwella profiad ymwelwyr, ac yn cynhyrchu’r incwm i sicrhau bod lefelau staffio’n briodol hefyd a sicrhau bod cyn lleied o broblemau â phosibl yn digwydd ar y safle, fel gwersylla, barbeciws a thanau trwy gynyddu nifer y staff ar y safle.
Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Mae tîm prosiect bellach wedi’i sefydlu.

Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi’i gadarnhau.

Yr amserlen amcangyfrifedig ar gyfer cwblhau’r prosiect yw Mawrth 2024.

Oriel

Oriel

Erydiad ar y safle:

Rhaeadr y Bedol: Erydiad ar y safle.

Erydiad o gwmpas y llethr presennol:

Rhaeadr y Bedol: Erydiad o gwmpas y llethr presennol.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Beth fydd yn cael ei gyflenwi?

  • System trin carthion newydd sy’n dangos dull y Cyngor o ddarparu arferion gorau o ran cynaliadwyedd a chyfrifoldeb amgylcheddol:
    • Adeiladwyd y bloc toiledau presennol ar y safle yn y 1960au - mae angen uwchraddio’r cyfleusterau tanc septig a’r gwaith o reoli gwastraff sy’n gysylltiedig ag ef ar frys. Bydd y prosiect yn ystyried gosod system carthbwll mwy cynaliadwy sy'n cydymffurfio â chanllawiau a rheoliadau cyfredol. Gellir gosod y system hon gan amharu fawr ddim ar y safle a’r ecoleg leol.
  • Darpariaeth ar gyfer cyfleuster arlwyo yn y dyfodol:
    • Bydd y prosiect yn gosod llawr caled ar gyfer lleoli cyfleuster arlwyo yn y dyfodol. Bydd yr ardal hon yn cynnig y posibilrwydd o osod uned arlwyo symudol wedi’i staffio gan swyddogion Gwasanaethau Cefn Gwlad, fel y cwt bugail sydd ar waith ar hyn o bryd ym Moel Famau.
  • Gwell mynediad i Afon Dyfrdwy ar gyfer chwaraeon padlo:
    • Mae angen gwneud gwelliannau i’r llethr presennol sy’n rhoi mynediad i Afon Dyfrdwy er mwyn ei gwneud yn haws i’w ddefnyddio ac i liniaru erydiad glannau’r afon. Bydd hyn yn gwella mynediad i'r afon ac yn helpu i adfer planhigion mewn ardal sydd wedi erydu'n ddifrifol.
  • Lliniaru erydiad:
    • Bydd y prosiect hefyd yn edrych ar ffyrdd o amddiffyn ac atal rhag erydiad ar hyd yr afon sydd wedi’i achosi gan nifer yr ymwelwyr.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk gan nodi pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro