
Cwestiynau Cyffredin: Cronfa Ffyniant Bro - Gorllewin Clwyd.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o fod wedi sicrhau £10.95 miliwn o Rownd 2 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i gefnogi datblygu 10 prosiect sydd â’r bwriad o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, cefnogi cymunedau gwledig a chefnogi lles.
Roedd y cynllun cyllid hwn ar agor i awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ynghlwm â themâu adfywio, treftadaeth neu gludiant.
Cefnogwyd y cynigion oedd wedi’u cynnwys ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd gan AS yr etholaeth, David Jones, ac aelodau etholedig lleol.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am gyflawni 8 o’r prosiectau. Bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd yn cyflawni prosiect Eglwys a Chlwystai Sant Pedr a bydd Cymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni prosiect Ysgol Bryneglwys – Canolbwynt Cymunedol.
Mae'r rhestr lawn o brosiectau i’w gweld isod.
Bydd digwyddiad gwybodaeth cyhoeddus yn cael ei drefnu – nid oes dyddiad penodol eto ond mae disgwyl iddo fod ddechrau haf 2023. Bydd y digwyddiad yn cael ei hyrwyddo gan y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg leol yn nes at yr amser.
Mae angen rhagor o waith datblygu a bydd y Cyngor yn ymgynghori ar brosiectau yn nes ymlaen eleni (i'w ddisgwyl yn hydref 2023). Darpar amserlenni yw’r rhain i gyd ar hyn o bryd a gallent newid.
Dylai unrhyw un a hoffai gael y wybodaeth ddiweddaraf ddilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych.
Cronfa Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd
Enw'r Prosiect / Gweithgaredd | Lleoliad | Disgrifiad |
Sgwâr Sant Pedr |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Cynllun o welliannau i’r parth cyhoeddus i wella llif cerddwyr a thraffig o amgylch y sgwâr a hwyluso lle canolog mwy hyblyg i gynnal digwyddiadau.
Tîm Prosiect wrthi’n cael ei greu.
Bydd angen ymgynghori ar y prosiect hwn – i'w ddisgwyl yn hydref 2023.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Eglwys a Chlwystai Sant Pedr |
Rhuthun |
Cenhadaeth Dyffryn Clwyd fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Gwelliannau er mwyn gwarchod yr adeiladau treftadaeth hyn yn well a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch i bawb.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Tŵr Cloc Rhuthun |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Rhaglen o waith atgyweirio ac atgyfnerthu yn cynnwys adfer deialau’r cloc ar y tŵr cloc rhestredig gradd 2 gyda gosodiadau deialau newydd.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Carchar Rhuthun/46 Stryd Clwyd |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Tîm Prosiect wrthi’n cael ei greu.
Bydd mynedfa newydd i adeilad rhestredig gradd 2* Carchar Rhuthun yn cael ei hychwanegu drwy 46 Stryd Clwyd gyda gwell cyfleusterau ar gael i’r cyhoedd.
Bydd rhagor o wybodaeth am y cynigion ar gael yn nes ymlaen eleni.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Nantclwyd-y-Dre, Rhuthun |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Tîm Prosiect wrthi’n cael ei greu.
Adfer yr adain orllewinol restredig gradd 1 sydd wedi dadfeilio.
Bydd rhagor o wybodaeth am y cynigion ar gael yn nes ymlaen eleni.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Cae Ddôl, Rhuthun |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Tîm Prosiect wrthi’n cael ei greu.
Cynllun o welliannau i’r parth cyhoeddus sy’n ceisio gwella cysylltedd drwy’r parc a rhwng y parc a chanol y dref. Gwelliannau i’r fynedfa a’r maes parcio a’r cynnig hamdden o fewn y parc.
Bydd angen ymgynghori ar y prosiect hwn – i’w ddisgwyl yn hydref 2023.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Cyfleusterau a Llwybrau Beicio Moel Famau |
Moel Famau |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Tîm Prosiect wrthi’n cael ei greu.
Bydd y prosiect yn creu cyfleusterau toiledau a lluniaeth newydd a gwell. Bydd llwybrau beicio’n cael eu hymestyn a’u rheoli’n gynaliadwy.
Bydd rhagor o wybodaeth ac ymgynghoriad yn nes ymlaen eleni.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Adeilad ac Ardal Allanol Loggerheads |
Loggerheads |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Tîm Prosiect wrthi’n cael ei greu.
Gwelliannau i’r adeilad presennol yn cynnwys gwelliannau mewnol ac ardal fwy dan do y tu allan. Mesurau rheoli llifogydd.
Bydd rhagor o wybodaeth ac ymgynghoriad yn nes ymlaen eleni.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Ysgol Bryneglwys - Canolbwynt Cymunedol |
Bryneglwys |
Cymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Trawsnewid hen adeilad ysgol yn ganolfan gymunedol newydd.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|
Gwyddelwern - Canolbwynt Cymunedol |
Gwyddelwern |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Tîm Prosiect wrthi’n cael ei greu.
Bydd canolbwynt cymunedol newydd, effeithlon o ran ynni yn cynyddu’r ystod o gyfleusterau sydd yn y pentref.
Bydd rhagor o wybodaeth am y prosiect ac ymgynghoriad arno yn nes ymlaen – i’w ddisgwyl yn haf 2023.
Dyddiad cyflawni disgwyliedig: Mawrth 2025.
|