Y Pedair Priffordd Fawr

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen: Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi. Gan gynnwys gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion.

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Nod y prosiect newydd hwn yw hyrwyddo a gwella pedair priffordd fawr Llangollen, drwy wneud gwelliannau i’r tirlun a’r beirianneg er mwyn gwella mynediad, bioamrywiaeth, gwelededd a dehongliad Safle Treftadaeth y Byd a Chamlas Llangollen, hen reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a Ffordd Llundain i Gaergybi hanesyddol Thomas Telford (A5). Y nod yw gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yma. I gyflawni hyn, mae pedair prif ardal wedi cael eu nodi:

  1. Y Lanfa
  2. Mannau mynediad i'r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy
  3. Parc Melin Isaf Dyfrdwy
  4. Arwyddion a Chyfeirbyst

Mae'r gwaith arfaethedig ym mhob un o'r ardaloedd allweddol hyn yn debygol o gynnwys:

  • Gwneud gwelliannau o amgylch y Lanfa, gan gynnwys gwelliannau i seddi, mynediad ac arwyddion
  • Gwella arwyddion ar gyfer y Rheilffordd
  • Gwella hygyrchedd ac arwyddion i Barc Melin Isaf Dyfrdwy
  • Gwella, atgyweirio ac ail-ddelweddu Parc Melin Isaf Dyfrdwy
  • Gwella arwyddion ymwelwyr ar gyfer lleoliadau allweddol
Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

  • Mae hwn yn brosiect newydd i greu gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen
  • Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y prosiect hwn a’r prosiect diweddar i ymestyn Heol y Castell na datblygiadau parhaus eraill yn Llangollen. Mae dyluniad a darpariaeth y prosiect hwn yn cael ei ystyried fel un sy’n berthnasol i gynlluniau eraill sy’n cael eu cyflawni yn y dre a’r cyffiniau. Mae’r dref yn seiliedig ar ddyluniad cysyniad dechreuol a gwblhawyd yn 2019. Roedd hwn yn cynnwys llawer o syniadau, rhai sydd eisoes wedi’u cwblhau fel rhan o’r gwaith priffyrdd diweddar. Mae’r prosiect hwn bellach yn canolbwyntio ar y 4 ardal a nodwyd, sef y Lanfa, mannau mynediad i’r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy, Parc Melin Isaf Dyfrdwy, ac Arwyddion a Chyfeirbyst.
  • Gwahoddir preswylwyr, busnesau ac eraill sydd â diddordeb i rannu eu syniadau am yr hyn sy’n bwysig yn y lleoliadau hyn gan gynnwys eu gwybodaeth am hanes lleol
  • Byddwn yn ymgynghori â thrigolion a busnesau am y prosiect i sicrhau bod pobl yn cael cyfrannu at ddatblygiad y pedair ardal hyn. Bydd yr adborth a gawn yn cael ei adolygu gyda budd-ddeiliaid lleol y prosiect, a bydd dyluniadau’r prosiect yn cael eu rhannu er mwyn cael sylwadau cyn iddyn nhw gael eu cadarnhau’n derfynol.
  • Rhannwyd dyluniadau cychwynnol gyda rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol am adborth ym Mawrth 2023. Bu i'r adborth a gafwyd helpu i greu'r dyluniadau terfynol a gynhyrchwyd yng Ngorffennaf 2023.
  • Gorffennaf 2023: Mae'r prosiect wedi dechrau ei broses dendro i ddod o hyd i gontractwr i ymgymryd â'r gwaith. Mae’r Cyngor yn gobeithio penodi contractwr erbyn canol Medi 2023 yn barod i gychwyn adeiladu yn Hydref 2023.
  • Bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach hefyd yn cael ei gynnal yn fuan i gasglu adborth gan bobl ar yr opsiynau dylunio a ffefrir gan bobl ar gyfer yr arwyddion newydd fydd yn cael eu gosod fel rhan o’r prosiect.
  • Nid oes unrhyw waith wedi dechrau ar y tir, bydd hwn yn dechrau yn yr Hydref.
Sefyllfa bresennol

Sefyllfa bresennol

  • Mae tîm prosiect bellach mewn lle
  • Mae cyllid mewn lle ar gyfer y prosiect i wella hygyrchedd, arwyddion a dehongliad yn yr ardaloedd o amgylch y Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy
  • Amcangyfrifir y bydd y prosiect wedi cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024.
  • Mae gwaith casglu gwybodaeth am y safle wedi’i wneud, mae trafodaethau wedi eu cynnal gyda thirfeddianwyr ac arbenigwyr technegol i ddeall beth sy’n gallu bod yn bosibl ym mhob un o safleoedd y prosiect ac arolygon ecolegol perthnasol wedi eu cynnal
  • Dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus yn Ionawr 2023 i gael barn a bwydo i mewn i’r dyluniadau cychwynnol. Cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu mewn sawl ffordd drwy sesiynau rhithiol, ymgynghori ar-lein/ar bapur a sesiynau galw heibio diweddar yn Neuadd y Dref Llangollen
  • Rhannwyd y dyluniadau cychwynnol gyda’r holl fudd-ddeiliaid a’r cyhoedd i gael adborth. Roedd y dyluniadau i’w gweld ar-lein ac yn Llyfrgell Llangollen tan ddydd Llun 3 Ebrill 2023.
  • Bu i’r adborth a gafwyd ym mis Mawrth helpu i greu’r dyluniadau terfynol a gynhyrchwyd yng Ngorffennaf 2023.
  • Gorffennaf 2023: Mae’r prosiect wedi dechrau ei broses dendro i ddod o hyd i gontractwr i ymgymryd â’r gwaith. Mae’r Cyngor yn gobeithio penodi contractwr erbyn canol Medi 2023 yn barod i gychwyn adeiladu yn Hydref 2023.
  • Bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach hefyd yn cael ei gynnal yn fuan i gasglu adborth gan bobl ar yr opsiynau dylunio a ffefrir gan bobl ar gyfer yr arwyddion newydd fydd yn cael eu gosod fel rhan o’r prosiect.
Oriel

Oriel

Beth sy'n digwydd?

Yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan y Gronfa Ffyniant Bro, rydym yn gwella’r mannau cyhoeddus sy’n cysylltu Pedair Priffordd Fawr Llangollen (Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi). Rhai o’r prif flaenoriaethau yw gwella hygyrchedd, arwyddion a deunyddiau.

Y Pedair Priffordd Fawr: Cynlluniau Trefniant Cyffredinol Awst 2023 (PDF, 2.7MB)


Glanfa Llangollen

Gwaith Arfaethedig:

  • Set risiau 2800mm o led gydag wyneb â bondin resin a balwstrad pren caled
  • Pafin â bondin resin i roi blaenoriaeth i gerddwyr ar ben y grisiau
  • Wal gynnal o ddur â wyneb rhydlyd gydag ysgrifen wedi’i engrafu/ysgythru â laser
  • Mainc pren caled unigryw wedi’i hintegreiddio i’r wal dur rhydlyd
  • Rhoi wyneb newydd ar y ramp gydag wyneb gro llwydfelyn â bondin resin, cadw’r rhimynnau garw gwreiddiol a chodi a gwella’r system ddraenio bresennol
  • Llinell bresennol o gerrig draenio ar y ramp i gael ei thynnu a rhoi wyneb resin yn ei lle, gan gadw’r proffil pantiog ar draws y llwybr troed
  • Gwella landin y ramp a’i wneud yn fwy gydag wyneb gro llwydfelyn â bondin resin, seddau pren caled a dur â wyneb rhydlyd a bin
  • Cyfrifwyr cerddwyr arfaethedig i gael eu gosod – un wrth waelod y Cei ac un wrth ben y ramp
  • Nodwedd gynefin / swp coed / gwesty pryfed wrth waelod y Cei
  • Amryw folardiau i gael eu tynnu neu eu newid am rai pren caled
  • Cadw arwyddion Bwrdd Glandŵr Cymru a’u hadleoli i gyd-fynd â’r cynllun newydd
  • Pafin newydd arfaethedig i gyd-fynd â’r pafin tywodfaen ar hyd Heol y Castell o fewn y briffordd sydd wedi’i mabwysiadu yn unig
Glanfa Llangollen

Ramp Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Gwaith Arfaethedig:

  • Ramp arfaethedig 2m o led yn lle’r grisiau brics presennol. Pafin clai/cerrig naturiol presennol i gael ei gadw, ei storio a’i ailddefnyddio mewn man arall
  • Addasu safle’r wal i ganiatáu agoriad i’r ramp a thynnu’r goeden oddi yno
  • Plannu’n fertigol ar hyd strwythur y ramp
  • Mainc lechi unigryw newydd wedi’i chreu wrth y fainc lechi bresennol o flaen y ramp
  • Plannu gwrych arfaethedig o flaen y ramp
Ramp Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Stepiau Melin Isaf Dyfrdwy

Gwaith Arfaethedig:

  • Grisiau dur arfaethedig yn lle’r grisiau presennol. Gwaith metel i gael ei beintio’n ddu gyda chanllawiau pren caled. Wyneb bondin resin ar y grisiau
  • Darn o wal i gael ei dynnu er mwyn creu mynedfa at y grisiau arfaethedig
  • Grisiau presennol i gael eu tynnu a’u sefydlogi. Wal gerrig bresennol i gael ei llenwi / sefydlogi
  • Wal bresennol sy’n ffurfio rhan o strwythur y grisiau presennol i gael ei thynnu
  • Rheiliau metel du arfaethedig, 1.1m o uchder, ar hyd y wal ar lan yr afon i atal pobl rhag mynd drosti i/o’r afon
  • Rheilen warchod i gael ei gosod i atal cerddwyr wrth allanfa’r parc
Stepiau Melin Isaf Dyfrdwy

Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Gwaith Arfaethedig:

  • Pont bren bresennol i gael ei newid am bont fetel
  • Gosod meinciau picnic newydd, a thynnu’r rhai presennol ynghyd â’r wyneb brics
  • Llwybr chwarae natur anffurfiol sy’n defnyddio’r llethr sydd yn y tir
  • Gwella/rhoi wyneb newydd ar y llwybrau cerdded graean, ac adfer yr ymylon
  • Llwybr pren arfaethedig wedi’i godi uwch y llawr gyda llithren ac ysgol raffau integredig
  • Nodwedd dringo creigiau arfaethedig yn defnyddio cerrig lleol
  • Cerrig camu / polion
  • Lloches bren ag ochrau agored
  • Bar codi pwysau’r corff a chodi pwysau uwch y pen
  • Ardal goediog i’w phlannu gyda phlanhigion addurniadol a gwneud gwelliannau i gynefinoedd e.e. bocsys ystlumod ac adar a gwelliannau cynefin i anifeiliaid di-asgwrn cefn
  • Arwyddion a physt cyfeirio presennol i gael eu tynnu
Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Adborth dyluniadau dehongliad a dynodi ffordd

Dehongliad a dynodi ffordd wedi eu Cyfuno: Fersiwn bach a chul

Dyma'r cynlluniau ar gyfer pyst dynodi y ffordd. Defnyddir pyst dynodi ffordd i helpu pobl i lywio o gwmpas ardal.

Mae'r dyluniad hwn yn dangos postyn bach, cul. Gellid gosod y rhain mewn mwy o leoedd nag arwyddion mwy, lletach. Gellid eu defnyddio i ddangos hanes ardal, neu i helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas. Byddem yn sicrhau bod yr arwyddion yn defnyddio lliwiau sy'n cyd fynd â'r ardal y maent yn cael eu gosod ynddi.

* At ddibenion enghreifftiol yn unig.


Dehongliad a dynodi ffordd wedi eu: Cyfuno fersiwn mawr a llydan

Mae'r dyluniad hwn yn dangos postyn mawr, llydan. Gellir eu defnyddio i ddangos hanes ardal, helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas a dangos faint o amser y bydd yn ei gymryd i gerdded i leoliad arall.

Byddem yn sicrhau bod yr arwyddion yn defnyddio lliwiau sy'n cyd fynd â'r ardal y maent yn cael eu gosod ynddi.

* At ddibenion enghreifftiol yn unig.


Dehongliad gydag arwyddbyst sy'n dynodi ffordd

Gallwn hefyd gadw cynnwys y cyfeiriad ar wahân i'r hanes, ond cadw at bostyn sengl fel nad oes gormod o arwyddion yn yr ardal.

Mae'r dyluniad hwn yn dangos yr arwyddbyst i helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd, gyda hanes yr ardal ar waelod y postyn.*

* At ddibenion enghreifftiol yn unig.

Ymgynghoriad

Ymgynghoriad

Mae gwybodaeth a gasglwyd yn ymgynghoriadau mis Ionawr a mis Ebrill wedi’i chrynhoi a’i chyflwyno yn yr Adroddiadau Crynodeb Ymgysylltu â Budd-ddeiliaid a’r Gymuned, sydd i’w gweld isod.

Pedair Priffordd Fawr Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu â Budd-ddeiliaid a'r Gymuned.

Yn dilyn ein hymgynghoriad a’r casglu adborth a wnaed gennym yn gynharach eleni, dymuna tîm prosiect y Pedair Priffordd Fawr gasglu adborth ynglŷn â’r dewisiadau dylunio a ffefrir gan bobl ar gyfer y gosodiadau newydd a fydd yn cynnwys dehongliad ac yn dynodi ffordd, sydd yn mynd i gael eu gosod yn rhan o’r prosiect.

Defnyddir pyst dynodi ffordd i helpu pobl i lywio o gwmpas ardal. Defnyddir pyst dehongli i roi gwybod i bobl am rywbeth pwysig am yr ardal, er enghraifft, efallai y cânt eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth am hanes lleol.

Pan fyddwn wedi derbyn eich adborth, bydd y tîm yn ystyried pa ddyluniadau a darnau o ddehongliad yw’r dewis a ffefrir.

Mae’n bwysig i ni eich bod yn parhau i gymryd rhan drwy gydol y prosiect.

Mae’r dyluniadau a’r holiadur ar gael ar countyconversation.denbighshire.gov.uk.

Rhaid i’r ymatebion ein cyrraedd erbyn Dydd Sul Hydref 2023.


Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon pellach, cysylltwch â Thîm Prosiect y Pedair Priffordd Fawr yn y cyfeiriad e-bost canlynol: pedairprifforddfawr@sirddinbych.gov.uk.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro