Y strategaeth ariannol i gefnogi ein Cynllun Corfforaethol

Mae awdurdodau lleol yn dal i fod mewn sefyllfa ariannol anodd iawn. Mae ariannu toriadau dros gyfnod estynedig yn golygu fod llawer llai o arian ar gael gennym i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau rŵan nac yn y gorffennol. Hyd yma, rydym wedi llwyddo rheoli’r sefyllfa drwy leihau ein gwariant drwy fod yn fwy effeithlon a chyfyngu’r effaith ar y gwasanaethau rheng flaen y mae ein cymunedau yn eu gwerthfawrogi.

Nid ydym yn disgwyl i’r sefyllfa ariannol wella dros y pum mlynedd nesaf, ac rydym yn credu y bydd angen i ni barhau i wneud arbedion o £5 miliwn fan lleiaf bob blwyddyn hyd y gellir rhagweld. Yn amlwg, mae hyn yn mynd i gyfyngu ar yr hyn y gall y cyngor ei wneud, a bydd angen gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud yr arbedion hynny. Bydd yn rhaid i'r cyngor flaenoriaethu ei adnoddau yn ofalus gan na fydd yn gallu parhau i ariannu pob gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd ar yr un lefel.

Mae pwysau ariannol yn debyg o barhau mewn meysydd fel gofal cymdeithasol ac ysgolion yn ogystal â chostau parhaus yn gysylltiedig â staff, adeiladau a chludiant.

Ein huchelgais

Er gwaethaf y sefyllfa anodd sy’n ein hwynebu, mae gan y cyngor hwn uchelgais bendant i gynnal safon ei wasanaethau a mynd i’r afael â materion pwysig a godir gan drigolion. Rydym hefyd eisiau parhau i drawsnewid safon adeiladau ein hysgolion, gwella ein ffyrdd a’n pontydd a chynyddu’r stoc o dai fforddiadwy yn y sir. Rydym yn credu ein bod yn bwysig bod yn glir ynglŷn â chost bosibl cyflawni’r uchelgeisiau hyn, sut y gallem dalu amdanynt a beth fydd y goblygiadau i’r cyngor.

Mae’r cynllun felly’n amlinellu faint o arian ychwanegol rydym yn awyddus i’w fuddsoddi ar ein blaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau. Ni fydd yn hawdd ei gyflawni a bydd gan bob un o'n Cynghorwyr ddewisiadau anodd iawn i’w gwneud i gwrdd â’u huchelgeisiau gyda’r buddsoddiad ychwanegol sydd angen.

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Mae’n Cynllun Corfforaethol yn egluro’n huchelgeisiau a’r blaenoriaethau y gellir eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Mae angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar rai o’r blaenoriaethau hyn, mae angen cyllid refeniw ar eraill a gellir cyflawni rhai heb gost ychwanegol. Rydym yn credu bod angen i ni fuddsoddi yn rhywle yn y rhanbarth am gost ychwanegol o £135 miliwn o bunnoedd ar ein blaenoriaethau corfforaethol dros y pum mlynedd nesaf, os ydym am gyflawni popeth yr hoffem ni.

Mae hwn yn swm sylweddol, ac yn ychwanegol i unrhyw arian rydym eisoes wedi ei ymrwymo i’r meysydd blaenoriaeth hynny. Dyhead yw’r £135 miliwn hefyd, ac mae’n seiliedig ar ragdybiaethau presennol am ein sefyllfa ariannol dros y pum mlynedd nesaf. Os bydd ein sefyllfa yn newid, mae rheolaethau a phrosesau ar waith i’n galluogi i adolygu ein strategaeth ariannol yn ystod oes y Cynllun Corfforaethol.

Mae ein syniadau presennol o ran yr hyn y gallem wario’r arian ychwanegol arno wedi eu hamlinellu yn yr adrannau ar bob blaenoriaeth. Ni fydd angen arian cyfalaf sylweddol ar gyfer pob un o’n blaenoriaethau, ond byddai rhai – yn enwedig gwella addysg, ffyrdd a thai – yn amhosibl hebddo. Gallai blaenoriaethau eraill, fel amgylchedd diogel ac wedi ei amddiffyn, gynnwys gwneud pethau yn wahanol, neu efallai y bydd angen cyllid refeniw ychwanegol.

I dalu am y buddsoddiad cyfalaf a nodwyd, bydd angen i ni ymrwymo cyllideb refeniw ac arian ar gyfer y blaenoriaethau. Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, bydd hyn yn golygu bod llai o arian ar gael ar gyfer meysydd heb eu nodi’n flaenoriaethau.

Yn ystod 2017/18 clustnodwyd £1 miliwn o’n cyllideb refeniw i gefnogi blaenoriaethau corfforaethol newydd, ond rhaid i ni amcangyfrif fod angen £1 miliwn arall o’r gyllideb i ariannu’r blaenoriaethau a nodwyd. Bydd yn anodd cyflawni hyn wrth i gyfanswm cyllideb y cyngor ostwng.

Beth yw’r risgiau?

Fforddiadwyedd yw’r risg fwyaf a bydd yn ystyriaeth allweddol pan fyddwn yn asesu pob strategaeth unigol sy’n cyfrannu at y Cynllun. Bydd pob amser risgiau ynghlwm â gwariant cyfalaf, ond rydym yn deall y risgiau hynny ac yn hyderus bod modd cyflawni’r cynigion. Rydym yn deall hefyd fod peryglon os na fyddwn yn buddsoddi mewn rhai o’r meysydd blaenoriaeth.

Os na fyddwn yn buddsoddi yn ein blaenoriaethau, bydd ein asedau yn dirywio, mae'n bosibl na fydd gwasanaethau yn gallu gwella, a byddwn yn gwario mwy o arian i gynnal safonau presennol. Er enghraifft, heb fuddsoddiad ychwanegol, byddai’n rhaid i ni dderbyn y byddai cyflwr ein ffyrdd a’n pontydd yn dirywio, byddai adeiladau ein hysgolion yn dirywio ac ni fyddem yn gwella cyflenwad tai eraill i ddiwallu anghenion cymunedau lleol.

Os na fyddwn yn buddsoddi yn ein blaenoriaethau, ni fyddwn yn gwireddu ein huchelgeisiau. Mae angen llawer o fuddsoddiad ar ein huchelgeisiau, ac mae’n bosibl y bydd angen rhoi mwy o flaenoriaeth neu ganolbwynt gwahanol ar eraill. Dylai’r ddau ddull gynnig gwelliant, boed mewn darpariaeth addysgol, tai, gwell amgylchedd naturiol, neu drwy’r ffordd rydym yn cysylltu ac yn cyfathrebu gyda chymunedau.  Rydym hefyd yn credu y bydd ein huchelgais i fuddsoddi £135 miliwn yn Sir Ddinbych dros y pum mlynedd nesaf yn cael effaith sylweddol ar yr economi leol. Byddwn yn sicrhau gymaint o fudd â phosibl i Sir Ddinbych o'r gwariant hwn, er enghraifft, drwy weithio gyda'r rhai sy'n cwblhau prosiectau adeiladu fel bod cymaint o bobl leol a phosibl yn cyflawni'r gwaith.

Sut fedrwn ni fforddio hyn?

Er bod £135 miliwn yn swm mawr, ni fyddai’n rhaid i’r cyngor ddarparu'r holl wybodaeth ei hun. Disgwyliwn y bydd grantiau ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu ariannu’r gwaith a gynllunnir i wella ein hysgolion a'n hamddiffynfeydd llifogydd. Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio incwm o renti tai i helpu ariannu tai cyngor newydd. 

Mewn gwirionedd, credwn mai oddeutu £71 miliwn o’r £135 miliwn y bydd yn rhaid i’r cyngor ei gyfrannu. Byddai rhywfaint o'r £71 miliwn hwn yn dod o gronfeydd werth gefn a drwy werthu asedau. Byddai cyfran yn cael ei greu drwy fenthyca darbodus. Bydd yn rhaid i’r benthyca ac unrhyw ymrwymiadau refeniw eraill gael eu diwallu o gyllid refeniw ac felly bydd angen gwneud penderfyniadau i ymrwymo cyllidebau refeniw i ariannu’r blaenoriaethau, gan olygu y bydd llai ar gael ar gyfer meysydd pwysig eraill.

Mae gennym brofiad o ddefnyddio benthyca darbodus yn synhwyrol ac yn ofalus ac rydym wedi ei ddefnyddio yn llwyddiannus yn y gorffennol i fuddsoddi cyllid ychwanegol sylweddol yn ein ffyrdd, ysgolion a’n stoc tai. Mae gennym fesurau ar waith i sicrhau fod pob penderfyniad buddsoddi cyfalaf unigol rydym yn eu gwneud yn seiliedig ar achosion busnes cadarn a bod y sefyllfa ariannu dyledion cyffredinol yn cael ei monitro’n ofalus ac yn parhau’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy. Mae ein cynlluniau a’n prosesau cyllideb refeniw wedi eu hen sefydlu a byddant yn ein galluogi i reoli fforddiadwyedd.

A yw pawb yn y cyngor yn cefnogi’r ymagwedd hon?

Datblygwyd y strategaeth ariannol uchod gyda’n Cynghorwyr. Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut y mae’r cyngor yn gwario ei arian mewn hinsawdd ariannu anodd. Os bydd amgylchiadau’n newid, a bod y cynlluniau hyn yn dod yn anfforddiadwy, mae gennym yr hyblygrwydd i newid lefelau ein gwariant yn unol â hynny.

Wrth i ni gyflwyno’r newidiadau radical hyn, bydd y bum mlynedd nesaf yn gyfnod cyffrous ond hefyd yn heriol i’r cyngor. Gyda'r lefelau hyn o fuddsoddiad ychwanegol, rhaid i ni gyflwyno gwelliannau sylweddol. Os byddwn yn llwyddo – ac rydym yn credu y gwnawn ni – bydd Sir Ddinbych yn barod am y dyfodol, ac yn parhau i fod yn un o’r lleoedd gorau i fyw, dysgu, gweithio ac ymweld ag o yn y DU.