Tai: Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu hanghenion

Cydnabyddir fod angen sicrhau fod tai ar gael i ddiwallu anghenion trigolion Sir Ddinbych a bod hon yn ffactor bwysig wrth gadw neu ddenu pobl ifanc i fyw yn yr ardal. Yn ystod y Cynllun Corfforaethol diwethaf, gwnaethom ymrwymiad i ddatblygu argaeledd tai ac rydym eisiau parhau i ehangu ar y llwyddiant hwnnw yn ystod cyfnod y Cynllun Corfforaethol newydd hwn.

housing-1

To achieve this we will:

  • Cefnogi datblygiad 1000 yn rhagor o gartrefi yn Sir Ddinbych. Bydd hyn yn cynnwys:
      • Bydd 170 o’r rhain yn gartrefi’r Cyngor
      • Bydd 260 o’r rhain yn gartrefi fforddiadwy a ddarperir gan ddatblygwyr preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
      • Tai Gofal Ychwanegol.
      • Tai arbenigol newydd i gefnogi pobl gydag anableddau ac anghenion cefnogaeth lefel isel.
  • Cefnogi pobl ifanc i gael mynediad i dai addas y gallant eu fforddio.
  • Gwneud defnydd unwaith eto o 500 eiddo gwag a pherfformio ymhlith y gorau yng Nghymru.  

housing-2

Os byddwn yn llwyddo, disgwyliwn weld:

  • Ystod eang o lety ar gael i gwrdd â gwahanol anghenion.
  • Llai o bobl mewn cartrefi gofal preswyl.  
  • Mwy o bobl yn byw yn eu cartrefi eu hunain am hirach (gan gynnwys pobl gydag anghenion cefnogi).
  • Mwy o bobl ifanc (hyd at 35 oed) yn gallu fforddio tai.
  • Rhagor o anheddau gwag yn cael eu hailddefnyddio  

  

housing3