Rheoli Anghenion Gofal Iechyd Disgyblion

Mae’r polisi rheoli anghenion gofal iechyd disgyblion yn bolisi statudol ar gyfer ysgolion i gefnogi disgyblion gydag anghenion gofal iechyd ac i sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl i’w addysg.

Mae polisi enghreifftiol wedi’i ddatblygu gan Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Ddinbych gydag ysgolion a phartneriaid, a gall cyrff llywodraethu'r ysgolion ei fabwysiadu, neu mae’n rhaid iddynt gynhyrchu un eu hunain yn unol â Chanllaw Statudol Llywodraeth Cymru.

Gweld y polisi enghreifftiol rheoli anghenion gofal iechyd disgyblion

Astudiaethau Achos

Isod ceir enghreifftiau o sut y mae’r polisi rheoli anghenion gofal iechyd wedi ei ddefnyddio i gefnogi rhai disgyblion. Cliciwch ar ddisgybl A, B neu C i wybod mwy.

Disgybl A

Mae disgybl A yn 10 oed ac mewn ysgol gynradd prif ffrwd leol. Mae wedi cael diagnosis yn ddiweddar fod ganddo ddiabetes math 1 ac angen monitro lefelau siwgr yn ei waed yn rheolaidd yn ystod y dydd. Mae’r nyrs sy'n arbenigo mewn diabetes wedi bod yn rhan o'r gwaith o ofalu amdano ar y cyd â'i deulu ac wedi llunio cynllun gofal iechyd meddygol.

Nid yw ei ddiabetes o dan reolaeth eto ac yn cael ei effeithio gan amryw o ffactorau fel diet ac ymarfer corff. Felly bydd y disgybl angen cynllun iechyd gan yr ysgol er mwyn rhoi sylw i’w anghenion ychwanegol ac i roi cymorth iddo trwy gydol y dydd.

Disgybl B

Mae disgybl B yn 9 oed a gyda hanes o asthma sydd yn cael ei reoli’n dda. Mae hi wedi cael anadlydd lleddfu ar bresgripsiwn ac mae’r rhiant/gofalwr wedi llenwi atodiad (ffurflen ganiatâd) i’r ysgol oruchwylio defnydd disgybl B o’r anadlydd pan fo angen. Defnyddiodd yr ysgol atodiad 3 a rhoddwyd ystyriaeth i effaith y cyflwr yn yr amgylchedd ysgol a phenderfynwyd nad oedd angen cynllun ar yr amser hwn. (Noder bod cofnod ysgrifenedig wedi’i wneud o hyn). Fodd bynnag, roedd yr ysgol yn ymwybodol y byddai hyn yn gallu newid a bod gweithdrefn adolygu yn ei le i fonitro ei anghenion gofal iechyd a'u heffaith ar ei diwrnod ysgol.

Disgybl C

Mae disgybl C yn yr ysgol uwchradd. Mae ganddo cerebal palsy heb fod yn ddifrifol ac mae’n defnyddio roliwr cerdded o gwmpas adeilad yr ysgol ac yn defnyddio cadair olwyn ar gyfer teithiau hirach tu allan i’r ysgol. Nid oes angen meddyginiaeth arno gartref nac yn ystod diwrnod ysgol ac ychydig iawn o ymrwymiad sydd gan weithwyr iechyd proffesiynol ar wahân i apwyntiadau ffisiotherapi a gwiriadau blynyddol. Nid oes ganddo gynllun gofal iechyd meddygol. Mae ei broblemau symudedd fodd bynnag yn cael effaith ar ei ddiwrnod ysgol ac angen cael eu cydnabod yn ffurfiol o fewn cynllun gofal iechyd unigolyn gan yr ysgol fel ein bod yn gallu sicrhau ei ddiogelwch wrth iddo symud o amgylch yr ysgol a bod yr holl staff cyswllt yn ymwybodol o'i ofynion ychwanegol.

Mwy wybodaeth

Cliciwch ar y penawdau isod i gael mwy wybodaeth

Lladdwyr poen

Yn dilyn ymgynghoriad gyda chydweithwyr cyfreithiol ac iechyd, rydym wedi dod i'r casgliadau ni ddylai ysgolion gael eu cyflenwad eu hunain o barasetamol (neu unrhyw fath o laddwr poen) i’w roi i ddisgyblion.

Mae’r penderfyniad yn seiliedig ar y faith bod risgiau i ddiogelwch y plentyn a staff yr ysgol yn drech na’r manteision. Rhestrir y prif bwyntiau isod:

Byddai unrhyw aelod o staff yr ysgol gyda'r cyfrifoldeb o roi cyflenwad parasetamol yn gwneud penderfyniadau clinigol mewn perthynas ag angen meddygol y plentyn. 

bydd gofyn iddynt wneud diagnosis, rhoi presgripsiwn, a rhoi’r dos cywir o barasetamol i’r plentyn (gyda dos anghenion parasetamol i’w newid i blant â phwysau isel -  byddai hyn yn golygu bod angen i staff bennu pwysau plentyn).

  • Byddai gofyn i unrhyw aelod o staff sy’n rhoi cyflenwad parasetamol yr ysgol i bennu a yw’n ddiogel i blentyn wneud hynny: A yw’r statws meddygol sy’n cael ei gadw gan yr ysgol am y plentyn yn parhau i fod yn gywir?  Pa feddyginiaeth arall mae’r plentyn yn ei gymryd?  Pryd oedd dos parasetamol diwethaf y plentyn?  Faint o dabledi parasetamol a gymerwyd yn y 24 awr ddiwethaf / pa laddwr poen arall a gymerwyd yn y 24 awr ddiwethaf?   A yw’r plentyn wedi yfed alcohol (neu wedi cymryd unrhyw sylwedd cyfreithiol/anghyfreithlon arall yn y 24 awr ddiwethaf)?
  • Drwy roi lladdwr poen i ddisgybl, mae ysgolion o bosib yn cuddio'r arwyddion a'r symptomau wrth wraidd salwch meddygol arall yn y plentyn.
  • Mae’r ysgol yn rhoi eu hunain mewn safle peryglus os nad yw’r plentyn / rhiant yn dweud y gwir am y wybodaeth maent yn eu darparu am y plentyn (h.y. treuliant cyffuriau eraill neu alcohol, cyflwr meddygol ac ati).
  • Rydym wedi derbyn adroddiadau o ddisgyblion yn Sir Ddinbych yn casglu cyflenwadau o laddwyr poen gyda’r bwriad o hunan-niweidio.  Er enghraifft, cymryd parasetamol gan staff yr ysgol a ffrindiau.

Gallai weithdrefnau amgen gynnwys:   a) plant nad ydynt yn dda i fynd adref; b) rhieni i ddod â aladdwr poen i'r ysgol a'i roi i'w plentyn.

At ddiben y polisi hwn, beth yw’r diffiniad o iechyd?

Bydd llawer o ddysgwyr angen gofal iechyd tymor byr ar ryw adeg. Gyda chefnogaeth briodol dylent allu mynychu a chymryd rhan yn y rhan fwyaf o weithgareddau yn rheolaidd. Er hynny, efallai y bydd gan rai disgyblion anghenion gofal iechyd sylweddol neu hir dymor sy’n effeithio eu gallu gwybyddol neu gorfforol, eu hymddygiad neu eu cyflwr emosiynol, a bydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer hynny.

For more information, see page 4, paragraph 3 of Supporting learners with healthcare needs

Pa staff ddylai darllen a deall y polisi?

Holl Staff. Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys y polisi fel rhan o'r cyfnod cynefino ar gyfer holl staff newydd a staff llanw.

Gweler y polisi, adran 11.

Beth yw rôl yr athrawon a staff cymorth wrth reoli anghenion gofal iechyd y disgyblion?

Efallai y gofynnir i unrhyw aelod staff mewn lleoliad addysg i gefnogi disgyblion gydag anghenion gofal iechyd, gan gynnwys cynorthwyo neu oruchwylio wrth roi'r feddyginiaeth. Mae’r rôl hon yn gwbl wirfoddol.

Dylai’r lleoliad addysg sicrhau fod staff:

  • Yn deall y polisïau a threfniadau yn llwyr ar gyfer gofynion gofal iechyd y sefydliad addysg.
  • Yn ymwybodol pa ddisgyblion sydd ag anghenion gofal iechyd mwy cronig, ac, lle y bo’n briodol, yn gyfarwydd â phroblemau iechyd unigol y dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybod sut i gyfathrebu gyda rhieni a’r hyn sy’n eu sbarduno i’w galw, fel pan fydd disgybl yn sâl, yn gwrthod cymryd meddyginiaeth neu’n gwrthod gweithgareddau penodol oherwydd eu gofynion gofal iechyd.
  • Yn ymwybodol o arwyddion, symptomau a sbardunau cyflyrau iechyd sy’n peryglu bywyd a gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys gwybod pwy yw’r swyddogion cymorth cyntaf a chael nhw i helpu mewn argyfwng meddygol.
  • Yn deall gweithdrefnau mewn argyfwng y sefydliad addysg yn llwyr ac fod wedi paratoi eu hunain ar gyfer argyfwng.
  • Yn gofyn a gwrando ar safbwyntiau disgyblion a’u rhieni/gofalwyr, ac o bosib eu cymryd i ystyriaeth wrth drefnu cefnogaeth.
  • Yn sicrhau bod ein disgyblion (neu eu ffrindiau) yn gwybod wrth bwy y dylent ddweud os ydynt yn teimlo’n sâl, angen cefnogaeth neu newidiadau i’w cefnogaeth.
  • Yn gwrando ar bryderon disgyblion os ydynt yn teimlo’n sâl ar unrhyw adeg, ac ystyried yr angen am gymorth meddygol (yn enwedig mewn achosion o anawsterau anadlu).
  • Yn sicrhau nad yw disgyblion gydag anghenion gofal iechyd yn cael eu heithrio o weithgareddau maent yn dymuno cymryd rhan ynddynt heb reswm teilwng yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys unrhyw deithiau/ymweliadau allanol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad i feddyginiaeth a bod aelod o staff gyda hyfforddiant priodol yn bresennol i helpu pan fo angen.
  • Yn ymwybodol o achosion yn ymwneud â bwlio a lles emosiynol disgyblion gydag anghenion iechyd meddwl, ac yn barod i ymyrryd yn unol â pholisi addysg y lleoliad.
  • Yn ymwybodol bod gofynion gofal iechyd yn gallu cael effaith ar allu disgyblion i ddysgu a darparu cymorth ychwanegol pan fo angen.
  • Yn cefnogi disgyblion sydd wedi bod yn absennol a’u helpu nhw i ddal i fyny ar waith a gollwyd oherwydd absenoldeb – gall gynnwys gweithio gydag athrawon a gwasanaethau arbenigol.
  • Yn hysbysu rhieni o sut mae’r gofyniad gofal iechyd yn effeithio’r disgyblion mewn lleoliad addysg. Gall hyn gynnwys adrodd ar unrhyw ddirywiad, pryderon neu newidiadau i arferion disgybl neu staff
Beth yw rôl y disgybl a rhiant/gofalwr wrth reoli eu hanghenion gofal iechyd?

Mae’n hanfodol bod disgyblion a rhieni/gofalwyr yn rhan weithgar o gynllunio cymorth a rheoli gofynion gofal iechyd. Dylent:

  • Dderbyn diweddariadau ynglŷn â materion/newidiadau gofal iechyd sy’n digwydd o fewn lleoliad addysg;
  • Bod yn rhan o’r gwaith creu, datblygu ac adolygu unrhyw CIU (os oes rhai). Y rhiant/gofalwr a’r disgybl fyddai orau i ddarparu gwybodaeth am sut y mae eu hanghenion gofal iechyd yn eu heffeithio. Dylent gyfrannu'n llawn at drafodaethau am sut y mae gofynion gofal iechyd y disgybl yn cael eu cwrdd yn y lleoliad addysg, a chyfrannu at ddatblygiad ac, neu gydymffurfio â'u CIU;
  • Darparu lleoliad addysg gyda gwybodaeth ddigonol a diweddar am ofynion gofal iechyd, gan gynnwys arweiniad ar weinyddu meddyginiaethau a/neu driniaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Pryd bynnag y bo'n briodol, dylid annog disgyblion a'u cefnogi i gymryd cyfrifoldeb i reoli eu hanghenion gofal iechyd eu hunain;
  • Hysbysu’r lleoliad addysg o unrhyw newidiadau fel y math o feddyginiaeth, dos neu ddull o weinyddu;
  • Darparu meddyginiaethau perthnasol o fewn eu dyddiad ac wedi'u labelu'n gywir gyda'r dos a chyfarwyddiadau gweinyddu;
  • Sicrhau bod oedolyn wedi’i enwebu ar gael bob amser a bod yr holl ffurflenni priodol wedi eu llenwi a’u harwyddo;
  • Hysbysu’r lleoliad addysg os yw eu plentyn wedi cael /gyda chlefyd neu gyflwr heintus tra’n bresennol.

Gweler y polisi, adran 2.1.2.

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng cynllun gofal iechyd unigol yn yr ysgol (CIU) a chynllun gofal iechyd meddygol gan weithiwr iechyd proffesiynol?

Cynllun Gofal Iechyd Unigol yn yr Ysgol (CIU):

Mae'r cynllun hwn yn cael ei gyflwyno gan yr ysgol pan nodir fod gan ddisgybl anghenion gofal iechyd (atodiad 3 o’r polisi). Dyma gynllun ar gyfer gofal disgybl unigol tra’i f/bod yn yr ysgol ac fe all gynnwys cyfraniad gan weithiwr iechyd a chynllun gofal iechyd meddygol.

Cynllun Gofal Iechyd Meddygol:

Mae hwn yn gynllun gofal iechyd sy'n cael ei ddarparu gan weithiwr iechyd proffesiynol.

Gweler pwynt 1.1.4.

Oes rhaid i ni gael cynllun gofal iechyd unigol yn yr ysgol (CIU) ar gyfer pob cyflwr meddygol, hyd yn oed os oes ganddynt gynllun iechyd meddwl meddygol gan weithiwr iechyd proffesiynol?

Cyn belled â bod yr holl agweddau o’ch polisi ysgol (gan gynnwys atodiad 3) wedi cael eu hystyried yn ofalus a bod y cynllun gofal iechyd meddygol gan y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ymdrin â holl anghenion y disgybl dan sylw mewn amgylchedd ysgol yna ni fydd angen CIU gan yr ysgol.

Mae arfer da yn awgrymu y dylech gofnodi eich bod wedi adolygu’r gofynion polisi ar gyfer y disgybl ac wedi derbyn y cynllun gofal iechyd meddygol i sicrhau bod y disgybl yn ddiogel yn yr ysgol ar y cyfnod penodol hynny.

Noder bod yr holl gynlluniau gofal iechyd, yn feddygol neu gan yr ysgol, yn amodol i’w hadolygu’n rheolaidd, fel y cytunwyd a nodwyd yng nghynllun y disgybl.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â gofynion gofal iechyd y disgybl, mae croeso i chi gysylltu â’r gweithiwr iechyd proffesiynol perthnasol.

Gweler pwynt 1.1.4

Esiamplau o gyflyrau iechyd a fyddai o bosib angen cynllun gofal iechyd unigol (CIU) neu gynllun gofal iechyd meddygol.

Nid oes ateb penodol i’r cwestiwn hwn. Dylid mynd i’r afael â gofynion gofal iechyd pob disgybl ar sail achos i achos gan roi ystyriaeth i effaith eu cyflwr yn yr amgylchedd ysgol. Bydd modd rheoli rhai plant ag anghenion gofal iechyd heb gynllun.

Gwelwch yr ateb i gwestiwn 5.

Ydi’n bosib defnyddio cynlluniau gofal iechyd asthma unigol neu brotocolau yn seiliedig ar dempledi wedi'u darparu gan Asthma UK?

Ydi. Byddwch angen gwirio gyda’ch nyrs arbenigol/ysgol bod y cynllun yn ddiweddar ac mai dyma’r fersiwn mwyaf diweddar.

Noder: gall hyn hefyd gyfeirio at gyflyrau meddygol eraill.

Gweler y polisi, adran 4.4.7.

Pa fath o hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer staff yr ysgol gan gynnwys y rhai gyda chyfrifoldeb penodol am weinyddu meddyginiaethau? Sut y mae costau yn cael eu cwrdd?

Rhaid gwneud yr holl staff (gan gynnwys dros dro a llanw) yn ymwybodol o’ch Polisi Rheoli Anghenion Gofal Iechyd, cyflyrau cyffredin yn yr ysgol (i sicrhau cydnabyddiaeth o symptomau a deall lle i gael cymorth priodol) a rolau staff mewn cyflawni trefniadau gofal iechyd. Er enghraifft, gall fod yn rhan o gyfnod cynefino staff, cyfarfod staff, llawlyfr staff.

Dylai’r corff llywodraethu sicrhau bod staff sy'n gwirfoddoli neu ar gontract i reoli anghenion gofal iechyd y disgyblion yn cael mynediad i'r hyfforddiant a'r canllawiau priodol.

Dylai ysgolion wastad sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael i holl staff cyswllt i gwrdd ag anghenion gofal iechyd y disgyblion yn eu gofal. Mae posib trafod hyn â'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol.

Mae hyfforddiant ar gael gan weithwyr iechyd proffesiynol NEU os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu ymrwymo darparwyr eraill, rhaid i’r gost gael ei dalu o gyllideb yr ysgol.

Rhaid i ysgolion fod yn ymwybodol o ofynion iechyd a diogelwch o ran staff cymorth cyntaf wedi'u hyfforddi a chymarebau. Gallwch ffonio’r Tîm Iechyd a Diogelwch ar: 01824 712502 neu e-bost: healthandsafetyteam@denbighshire.gov.uk

Pwy sy’n gyfrifol am hyfforddiant?

Mae’r corff llywodraethu a’r pennaeth yn gyfrifol am sicrhau bod yr hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i staff i gwrdd ag anghenion cymorth gofal y disgyblion. Cyfeirir at hyn yn yr ymgynghoriad gyda’r gweithiwr iechyd proffesiynol priodol.

Gweler pwynt 1.2.5 ac adran 11.

Pa hyfforddiant a chymorth sydd ar gael gan weithwyr iechyd proffesiynol, ac oes modd cyflwyno hyfforddiant fesul clwstwr?

Rydym yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ar hyn o bryd i ddarparu hyfforddiant mewn modd amserol. Yn y cyfamser gall pob ysgol gysylltu gyda'u nyrs ysgol a derbyn manylion cyswllt ar gyfer y tîm nyrsio arbenigol.

Sut y dylid cludo a chyflwyno meddyginiaeth i’r ysgol?

Bydd ysgolion yn trafod gyda'r rhieni /gofalwyr ynglŷn â sut i gludo'r feddyginiaeth i'r ysgol a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu ar y ffurflen ganiatâd (atodiad 2).

Gweler y polisi, pwynt 13.2.2 ac adran 2.

Beth a wnawn os oes gan blentyn anghenion gofal iechyd ac yn mynd at ddarparwr gofal plant cyn neu ar ôl ysgol?

Dylid mynd i’r afael â hyn ar sail achos i achos a bydd yn dibynnu ar natur y darparwr gofal plant. Dylid cytuno ar hyn gyda’r rhiant/gofalwr ac wedi’i amlinellu yn atodiad 2 neu 3. Dylid nodi bod angen i unrhyw ddarparwr gofal plant fod â threfniadau gofal iechyd yn eu lle ar gyfer y disgybl.

Dylai’r ysgol fod â gweithdrefn gadarn ar gyfer trosglwyddo a bod hynny wedi’i nodi yn atodiad 2 neu 3 fel y bo’n briodol.

Sut y mae gofynion Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cyd-fynd â’r polisi rheoli anghenion gofal iechyd?

Mae’r model polisi rheoli anghenion gofal iechyd yn cyfeirio at feithrinfeydd, ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig sy’n cael eu cynnal ac unedau atgyfeirio disgyblion (UAD). Mae cyngor ar gyfer lleoliadau heb eu cynnal i'w gael yn uniongyrchol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Ydi’n bosib i ni rannu cynllun gofal iechyd unigol gan yr ysgol (CIU), y cynllun gofal iechyd meddygol neu gofnod o feddyginiaeth gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill?

Gallwch cyn belled â bod y rhiant/gofalwr wedi cytuno i hynny hy trwy atodiad 2 neu 3. Fodd bynnag, gyda’r cynllun gofal iechyd meddygol byddai’n rhaid derbyn caniatâd ysgrifenedig gan y rhiant/gofalwr.

Beth os nad ydym yn glir am y feddyginiaeth sydd wedi’i roi i’r plentyn cyn ysgol?

Ni ddylid rhoi unrhyw feddyginiaeth i ddisgybl cyn derbyn caniatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan y rhiant/gofalwr trwy gwblhau atodiad 2.

Os oes unrhyw amheuaeth, ni ddylech ar unrhyw gyfrif rhoi meddyginiaeth oni bai ei fod yn dilyn gweithdrefn mewn argyfwng a gytunwyd arno.

Oes gennym bolisi gofal personol?

Mae’r awdurdod lleol yn datblygu model polisi ar hyn o bryd i'w argymell i ysgolion.

Mae plentyn wedi dychwelyd i’r ysgol ganol bore o’r feddygfa gyda meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Mae’r holl ffurflenni caniatâd wedi cael eu cwblhau yn yr ysgol. Ydi’r ysgol mewn perygl wrth weinyddu’r ddos gyntaf?

Ydi. Dylid bod yn ofalus iawn. Rydym yn argymell fel rheol bod y ddos gyntaf yn cael ei wneud gartref; ar wahân i orfod rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn mewn achos o argyfwng (hy anadlydd asthma).

Defnyddio anadlyddion salbutamol mewn argyfwng mewn ysgolion

Gweld canllawiau ar ddefnyddio anadlyddion salbutamol mewn argyfwng mewn ysgolion yng Nghymru.

Defnyddio awto-chwistrellwyr adrenalin mewn argyfwng mewn ysgolion 

Gweld canllawiau ar ddefnyddio awto-chwistrellwyr adrenalin mewn argyfwng mewn ysgolion yng Nghymru

Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin – Dewis Fferyllfa

Mae’r ‘Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin - Dewis Fferyllfa’ sydd yn cael ei weithredu gan rai Fferyllfeydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Mae’r cynllun hwn yn galluogi fferyllwyr i roi triniaeth i gleifion ar gyfer rhestr o fân anhwylderau.  Mewn rhai achosion, bydd y driniaeth ar ffurf Meddyginiaeth.  Bydd y feddyginiaeth hon yn cael ei labelu yn yr un modd ag y byddai petai wedi cael ei ragnodi gan Feddyg Teulu neu Ymarferydd Nyrsio. 

Os bydd rhiant/gofalwr wedi cofrestru ar gyfer y broses hon a bod disgybl angen triniaeth/dos yn yr ysgol, os yw’n briodol, gall ysgolion ddewis cais o’r fath, ond mae’n rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau sydd wedi’u nodi yn y polisi rheoli anghenion gofal iechyd a llenwi’r gwaith papur perthnasol yn unol â phob meddyginiaeth sydd wedi’i ragnodi (e.e. atodiad 2 ar gyfer caniatâd ac atodiad 5 ar gyfer cofnodi’r gweinyddiad).

Ar rai achlysuron, fe all Meddyg Teulu, Ymarferydd Nyrsio neu Fferyllydd awgrymu bod cleifion yn prynu meddyginiaeth dros y cownter (gan fod hyn yn rhatach na rhagnodi). Er enghraifft: diferion llygaid ar gyfer clwy’r gwair.   Eto, os yw'n briodol gall ysgolion ddewis cais o'r fath, mae'n rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau sydd wedi’u nodi uchod.

I ddarganfod mwy am y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin - Dewis