Mae ein cyflawniadau mewn perthynas â Chymunedau Cryf yn cynnwys:
- Cawsom ein cydnabod gan y Gymdeithas Alzheimer fel bod yn gweithio tuag at Sefydliad sy'n Deall Dementia.
- Cynyddu nifer y rhandiroedd yn y sir i dros 270
- Lansio ein Siarter Gofalwyr: Ein hymrwymiad i ofalwyr ledled y sir
Uchafbwyntiau
Ymwybyddiaeth o Ddiogelu (E-Ddysgu)
Bu i ni gyflwyno Ymwybyddiaeth o Ddiogelu (E-Ddysgu). Modiwl hyfforddiant diogelu newydd a gyflwynir ar draws y cyngor.
Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae gennym i gyd rôl i’w chwarae wrth adrodd unrhyw bryder am bobl ddiamddiffyn yn byw yn ein cymunedau.
Timau Adnoddau Cymunedol
Prosiect pwysig iawn oedd dylunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor ar ffurf Timau Adnoddau Cymunedol.
Bu i ni weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni'r prosiect hwn. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y partner cyflenwi arweiniol.
Nod y Timau Adnodd Cymunedol oedd darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol amlasiantaeth ac amlddisgyblaethol cynhwysfawr, hyblyg ac ymatebol.
Mae'r rhain yn ddidrafferth o ran cael mynediad atynt. Mae un y Rhyl wedi bod mewn lle ers 2017 a sefydlwyd Tîm Adnoddau Cymunedol Rhuthun yn Chwefror 2019.
Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig
Crëwyd polisi cam-drin domestig newydd gan y Cyngor ac mae ar gael ar ein gwefan. Mae’r cyngor wedi cymryd camau i hyrwyddo'r polisi ac i gefnogi addysg ac ymwybyddiaeth o gam-drin domestig.
Cyngor Cyfeillgar i Ddementia
Yn Chwefror 2020 cafodd Cyngor Sir Ddinbych gydnabyddiaeth genedlaethol am ei ymdrechion i weithio tuag at fod yn gyngor sy'n deall dementia. Mae'r Cyngor wedi cael cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Alzheimer's trwy'r fenter Cymunedau sy'n Deall Dementia am ei waith i godi ymwybyddiaeth a chefnogi'r rheiny sy'n byw gyda dementia.
Llythrennedd Digidol
Bu i'r Gwasanaeth Llyfrgell barhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr yn ystod y cyfnod clo, er bod yr adeiladau ar gau a bod y staff wedi eu hadleoli i'n gwaith galw rhagweithiol. Hyrwyddwyd ein cynnig Llyfrgell Ddigidol yn sylweddol trwy'r cyfryngau cymdeithasol a sianeli eraill ac mae 428 o aelodau newydd wedi ymuno ar-lein ers canol Mawrth.
'Pwyntiau Siarad': Rhannu gwybodaeth â'r gymuned
Rydym wedi parhau i ddatblygu ein prosiect Pwyntiau Siarad i wella gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth yn y gymuned.
Mae Pwynt Siarad yn gyfle i breswylwyr yn Sir Ddinbych gwrdd â staff iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector yn eu cymunedau eu hunain mewn lleoliad cyfleus, priodol a chroesawgar, megis llyfrgell leol, ac i siarad gyda nhw am y canlyniadau lles y maent am eu sicrhau iddynt eu hunain neu i eraill.
Cynllun Corfforaethol: Cymunedau Cryf
Ein huchelgais | Ein cyflawniad |
Bydd grwpiau cymunedol yn ffynnu, ynghyd â chyngor a chymorth ymarferol ar gael i'w helpu i fod yn effeithiol.
Bydd gwefan Cynllunio Cymunedol ar gael i gefnogi arferion da o ran cynllunio, ymgysylltu, aliniad gydag amcanion strategol y sector cyhoeddus.
|
- Prosiect: Cynllunio Cymunedol ac Adnodd Datblygu (Cwblhawyd Mawrth 2019)
- Prosiect: Ffermydd Gwynt Datblygu Cymunedol (Cwblhawyd Mawrth 2021)
- Prosiect: Prosiect Datblygu Cymunedol y Rhyl (Cwblhawyd 2021)
|
Bydd pawb yn teimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau, yn arbennig y rhai sy’n dioddef o ganlyniad i gam-drin domestig.
|
Prosiect: Gweithredu i ostwng Cam-drin Domestig - Parhaus (ar darged).
|