Wrth fynd ati i brif ffrydio cydraddoldeb ac amrywiaeth, rydym wedi cadarnhau ein hymrwymiad i ddathlu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn, er mwyn gwella ansawdd bywyd i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Sir Ddinbych.
Dangoswyd yr ymrwymiad hwn yn y gweithgareddau a nodwyd yn ein Cynllun Corfforaethol a Chynlluniau Busnes ein Gwasanaethau.
Dyluniwyd ein Cynllun Corfforaethol i alluogi’r Cyngor i chwarae ei ran, fel awdurdod cyhoeddus, mewn sicrhau ein bod yn cyd-drefnu ein gwaith i ddatblygu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pawb ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig.