Mae ein cyflawniadau mewn perthynas â Phobl Ifanc yn cynnwys:
- Rydym wedi parhau i gyflawni ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan ddarparu 5 adeilad ysgol newydd sbon
- Rydym wedi datblygu gofod cydweithredu ar gyfer mentrau newydd yn hen adeilad Costigans yn Y Rhyl
- Mae disgyblion o 21 ysgol wedi manteisio o'n rhaglen sgiliau coginio a maetheg newydd
Uchafbwyntiau
Rhaglen Moderneiddio Addysg

Fe wnaethom barhau i ddarparu’r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gan foderneiddio cyfleusterau ein hysgolion i sicrhau bod ein plant yn cael amgylchedd dysgu sy’n cefnogi eu haddysg.
Hyd yma mae dros £90 miliwn wedi'i fuddsoddi yn ysgolion Sir Ddinbych a dros 3,500 o ddisgyblion wedi elwa ar well cyfleusterau.
Ysgol Gatholig Crist y Gair

Mae'r ysgol newydd, a agorodd ym mis Medi 2019, wedi disodli Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones ac yn rhan o Esgobaeth Wrecsam. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer 420 disgybl llawn amser 3 - 11 mlwydd oed a 500 o ddisgyblion 11 - 16 mlwydd oed ac yn cael ei hariannu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd

Agorodd ysgol eglwys ddwyieithog £5.3 miliwn newydd sbon dros y ffordd i Fron y Clwyd ym mis Chwefror 2020. Roedd y prosiect wedi’i ariannu ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain ganrif mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llanelwy.
Gwirfoddoli
Cwblhawyd gwaith ar ddatblygu polisi gwirfoddoli newydd ar gyfer y cyngor a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2021.
Ers hynny, rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth ar-lein am gyfleoedd gwirfoddoli yn ogystal ag arweiniad er budd gwirfoddolwyr a rheolwyr.
Gwirfoddoli.
Lle ar gyfer Entrepreneuriaid
Cwblhawyd y gwaith o drawsnewid hen dafarn Costigans yn y Rhyl yn ganolbwynt cydweithredol ar gyfer entrepreneuriaid tua diwedd 2020 a chafodd ei drosglwyddo i TownSq, yr arbenigwyr dechrau busnes a chydweithio, ym mis Ionawr.
Defnyddiodd Cyngor Sir Ddinbych £312,000 o gyllid a gafwyd trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i greu’r swyddfeydd yn hen adeilad Costigans ar Stryd Bodfor, y Rhyl. Bydd yr adeilad yn cefnogi busnesau newydd, yn creu swyddi ac yn tyfu'r economi lleol. Mae lle a gyfer tua 20 o fusnesau newydd mewn unedau hyblyg gyda lle i gynnal digwyddiadau a siop goffi ar y safle.
Cynllun Corfforaethol: Pobl ifanc
Ein huchelgais | Ein cyflawniad |
Pob unigolyn ifanc yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial.
Byddem yn disgwyl gweld gostyngiad yn nifer y disgyblion sydd ddim yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig ar ddiwedd yr ysgol uwchradd os oeddent wedi cyrraedd y safon ddisgwyliedig ar ddiwedd yr ysgol gynradd.
|
Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae Band ‘A’ y rhaglen wedi’i gwblhau. Mae cynigion Band B wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac mae gwaith ymarferoldeb a dylunio cynnar ar y gweill.
|
Mae pobl ifanc yn wydn ac mae ganddynt y sgiliau cywir i ffynnu, yn cynnwys sgiliau ymarferol, ariannol ac emosiynol.
|
- Prosiect Monitro a chefnogi agweddau cadarnhaol gan ddisgyblion tuag atynt eu hunain a'r ysgol / lles Cwblhawyd (Awst 2021)
- Prosiect Iechyd a Lles – Maeth a Sgiliau Coginio. Ar y gweill (ar y trywydd cywir)
|
Mae mentora a chyfleoedd gwaith o safon dda ar gael i bobl ifanc i'w helpu nhw i ddatblygu eu sgiliau.
|
Prosiect Cynllun Dechrau Gweithio Sir Ddinbych: Ar y gweill (ar y trywydd cywir)
|
Gall pobl ifanc ddod o hyd i waith sy’n apelio atynt ac sy’n cyd-fynd â’u sgiliau.
|
- Prosiect Cyflwyno gofod cydweithredu newydd ar gyfer mentrau newydd yn hen adeilad Costigans, y Rhyl. Prosiect wedi'i gwblhau (Mai 2021).
- Prosiect Canolbwynt Buddion Cymunedol. Ar y gweill (ar y trywydd cywir)
|