Cyllid
Roedd y Cynllun Corfforaethol yn nodi ein blaenoriaethau uchelgeisiol ond cyraeddadwy ar gyfer y cyfnod o 5 mlynedd o 2017 i 2022.
Mae rhai o'r blaenoriaethau hyn wedi derbyn buddsoddiad cyfalaf sylweddol ac eraill wedi cael cyllid refeniw, ac eraill wedi'u darparu trwy newid y ffordd yr ydym yn gwneud pethau a thargedu buddsoddiad presennol heb unrhyw gost ychwanegol. Hyd yma mae £5.260m o gyllid refeniw uniongyrchol y Cyngor ar gael tan ddiwedd 2022, ac mae £1.380m o hwnnw yn ymrwymiad cyllideb sylfaenol parhaus.
Nid oedd yn rhaid i'r Cyngor ddarparu'r holl gyllid angenrheidiol ei hun. Mae grantiau gan Lywodraeth Cymru wedi cael eu defnyddio i helpu i ariannu’r gwaith a gynlluniwyd i wella ein hysgolion a'n hamddiffynfeydd llifogydd. Rydym hefyd wedi defnyddio incwm o renti tai i helpu i ariannu tai cyngor newydd.
Mae'n falch gennym nodi fod y Cyngor wedi parhau i ddod yn ei flaen yn dda wrth gyflawni ei flaenoriaethau, a'i fod i raddau helaeth wedi dychwelyd at yr amserlenni’r oedd Covid-19 wedi amharu arnynt, neu wedi addasu gwasanaethau fel y gellir dal ati i gyflawni’r buddion a ddymunwn i'n cymunedau.
Rydym yn dal yn obeithiol y bydd y prosiectau a ddarparwn yn helpu i gefnogi ein trigolion i fyw bywydau annibynnol a gwerth chweil yma yn Sir Ddinbych, yn enwedig felly wrth inni fwrw’n golygon i’r dyfodol a’r adferiad wedi Covid-19.