Cynllun Corfforaethol: Amgylchedd
Deniadol ac wedi ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd
Nod Sir Ddinbych yw sicrhau fod yr amgylchedd yn ddeniadol ac yn cael ei ddiogelu, ond hefyd yn cefnogi lles cymunedol a ffyniant economaidd. I gyflawni hyn, byddwn yn lleihau ein hôl troed carbon a chynyddu defnydd o adnoddau adnewyddadwy ledled y sir. Rydym hefyd yn bwriadu cynyddu gwerth bioamrywiaeth y sir drwy ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd agored i newid er lles bywyd gwyllt a’r bobl sy’n byw ac yn ymweld â Sir Ddinbych. Ynghyd â hyn, nod Sir Ddinbych yw codi proffil y sir fel lle i gynnal digwyddiadau awyr agored sy’n manteisio ar ein hamgylchedd unigryw.
Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn:
- Lleihau allyriadau carbon o asedau’r Cyngor gan o leiaf 15% erbyn 2022.
- Gwella effeithlonrwydd ynni tai’r Cyngor.
- Cynyddu darpariaeth ynni adnewyddadwy ar draws y sir.
- Lleihau nifer yr eiddo mewn perygl o lifogydd yn Sir Ddinbych.
- Cynyddu safon bioamrywiaeth cynefinoedd pwysig a rhywogaethau ar draws y sir.
- Codi proffil y sir fel lleoliad i ymweld ag o, er mwyn manteisio ar botensial economaidd Sir Ddinbych.
Os byddwn yn llwyddo, disgwyliwn weld:
- Gwelliannau mewn sgoriau ynni tai Cyngor, gan gyflawni sgôr ynni ‘Rhagorol’ ym mhob cartref newydd.
- Dyblu’r ynni rydym yn ei ddefnyddio yn adeiladau’r cyngor sy’n dod o ffynonellau adnewyddadwy.
- Lleihau nifer yr eiddo mewn perygl o lifogydd yn Sir Ddinbych.
- Cynyddu niferoedd y rugiar ddu, môr-wenoliaid bach, gwiberod, madfallod y tywod a gwenyn.
- 18,000 yn rhagor o goed ar draws y Rhyl a Dinbych.
- Cynnydd yng ngwerth gwariant twristiaeth yn y sir.