Cynllun Corfforaethol: Cymunedau Cryf
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i fagu annibyniaeth a chadernid
Ein nod yn Sir Ddinbych yw hyrwyddo iechyd a lles pobl a’u hannog i aros mor annibynnol â phosibl. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni weithio gyda phawb yn y gymuned, i sicrhau fod rhwydweithiau cefnogaeth cryf ar waith a sicrhau fod pobl yn cael eu cynnwys fwy mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu lles i'r dyfodol. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i sicrhau y diogelir pobl mewn perygl o gamdriniaeth neu gamfanteisio.
Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn:
- Cefnogi pobl i gynllunio a llunio eu cymunedau.
- Darparu gwybodaeth sydd ar gael yn rhwydd sy’n cefnogi annibyniaeth a gwydnwch pobl.
- Sicrhau bod pobl yn cymryd rhan wrth lunio a gwella gwasanaethau.
- Gweithredu i leihau Cam-Drin Domestig
- Sicrhau fod pob galwr yn Sir Ddinbych yn cael cefnogaeth dda.
- Sicrhau fod oedolion a phobl hŷn sydd angen iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn profi gwasanaeth di-dor.
Os byddwn yn llwyddo, disgwyliwn weld:
- Grwpiau cymunedol ffyniannus.
- Bydd pobl yn fwy gwydn ac annibynnol.
- Trigolion yn cael eu hysbysu a’u grymuso i ddylanwadu ar wasanaethau.
- Pawb yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau.
- Pobl yn gallu byw yn eu cartrefi eu hunain am hirach.
- Pobl ddiamddiffyn yn cael eu cefnogi gan eu cymuned.